Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb

Oddi ar Wicipedia
Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
GolygyddGeraint H. Jenkins
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Cymru
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1997
PwncHanes y Gymraeg
Argaeleddallan o brint
ISBN9780708314111
CyfresHanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg

Cyfrol sy'n ymdrin â sefyllfa'r iaith yn y cyfnod rhwng y Deddfau Uno a dechrau'r Chwyldro Diwydiannol yw Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb: Yr Iaith Gymraeg Cyn y Chwyldro Diwydiannol, a olygwyd gan Geraint H. Jenkins. Gwasg Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1997. Yn 2021 roedd y gyfrol allan o brint.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod]

Mae'r llyfr, a oedd yn gyfrol gyntaf yng nghyfres Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg (1997–2000), yn cynnwys deuddeg pennod yn ymdrin â sefyllfa'r iaith yn y cyfnod rhwng y Deddfau Uno (1536 a 1542) a dechrau'r Chwyldro Diwydiannol.

  1. Llinos Beverley Smith, "Yr Iaith Gymraeg cyn 1536"
  2. Geraint H. Jenkins, Richard Suggett ac Eryn M. White, "Yr Iaith Gymraeg yn y Gymru Fodern Gynnar"
  3. Peter R. Roberts, "Deddfwriaeth y Tyduriaid a Statws Gwleidyddol 'yr Iaith Frytanaidd'"
  4. Richard Suggett, "Yr Iaith Gymraeg a Llys y Sesiwn Fawr"
  5. J. Gwynfor Jones, "Yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol: Ustusiaid Heddwch a'r Llysoedd Chwarter c.1536–1800"
  6. Glanmor Williams, "Unoliaeth Crefydd neu Unoliaeth Iaith? Protestaniaid a Phabyddion a'r Iaith Gymraeg 1536–1660"
  7. Eryn M. White, "Yr Eglwys Sefydledig, Anghydffurfiaeth a'r Iaith Gymraeg"
  8. William P. Griffith, "Dysg Ddyneiddiol, Addysg a'r Iaith Gymraeg 1536–1660"
  9. Eryn M. White, "Addysg Boblogaidd a'r Iaith Gymraeg 1650–1800"
  10. R. Geraint Gruffydd, "Yr Iaith Gymraeg mewn Ysgolheictod a Diwylliant 1536–1660"
  11. Geraint H. Jenkins, "Adfywiad yr Iaith a'r Diwylliant Cymraeg 1660–1800"
  12. Brynley F. Roberts, "Ieithoedd Celtaidd Prydain"

Cyfieithiad[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd fersiwn Saesneg o'r gyfrol gan Gwasg Prifysgol Cymru fel Language and Community in the Nineteenth Century yn 1998.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 10 Awst 2021