Y Gweledigaetheu
Gwedd
| Enghraifft o: | sioe theatr Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1991 |
| Awdur | addaswyd gan y Cwmni |
| Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Theatr Bara Caws |
| Dechreuwyd | 1991 |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Dynodwyr | |
Sioe theatr o waith Theatr Bara Caws ym 1991, ac yn seiliedig ar Gweledigaethau y Bardd Cwsc oedd Y Gweledigaetheu. Dilyn breuddwydion Y Bardd Cwsc oedd diben y sioe, gan geisio "ail-greu awyrgylch sy'n frith o ddelweddau, cymeriadau a digwyddiadau".[1]
Llwyfannwyd y sioe am y tro cyntaf yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Delyn 1991 yn Stiwdio Ddrama Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug. Cyfarwyddyddion y sioe oedd John Glyn a Mair Gruffydd, gyda Catherine Aran, Llinos Clwyd, Maldwyn John, Merfyn Pierce Jones, Gwenllian Rhys a Trefor Selway yn portreadu'r cymeriadau amrywiol. Roedd y criw technegol yn cynnwys Emyr Morris Jones, Berwyn Morris Jones, Rhys Bevan, Mandy Parry a Bet Huws.[1]