Neidio i'r cynnwys

Y Gosb (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Y Gosb
Enghraifft o:ffilm Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1982 Edit this on Wikidata
Hyd70 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrSiôn Humphreys Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrSiôn Humphreys Edit this on Wikidata
DosbarthyddS4C Edit this on Wikidata

Ffilm ddrama yw Y Gosb a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys ac a gynhyrchwyd gan ei fab Siôn Humphreys. Mae'n adrodd hanes bachgen ifanc a gweinidog - y ddau'n cael profiad sy'n newid eu bywyd.[1] Mae'n trafod yr ymgyrch i sefydlu S4C, gyda'r prif gymeriad yn cael ei gosbi am beidio â thalu ffi'r drwydded, ac ymddangosodd y ffilm ar y sianel honno oedd yn newydd iawn ar y pryd.[2] Rhyddhawyd hi yng nghyfnod Nadolig 1983.

Cast a chymeriadau

[golygu | golygu cod]
Cymeriad Actor
Gwilym Guto Roberts
Dora Gwyneth Petty
Paul Bryn Fôn
Carys Sioned Mair
Mrs Walters Iris Jones
Powell Huw Ceredig
PC Huws Ifan Huw Dafydd
Claish John Ogwen
Stalwyn Robert Blythe
Elen Mathias Lisabeth Miles

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "BBC - Gogledd Orllewin - Emyr Humphreys". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-05-21.
  2. Pod, Y. "Y Pod - Ar Y Soffa". Y Pod. Cyrchwyd 2025-05-21.