Y Gorwel
Englyn unodl union yn yr iaith Gymraeg yw Y Gorwel gan y bardd Dewi Emrys (1881-1952). Mae'n un o'i gerddi mwyaf adnabyddus.[1]
Cyfansoddi
[golygu | golygu cod]Lluniwyd y gerdd yn 1947 ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn 1947; cystadleuodd Emrys dan y ffugenw "Herbert".[2] Dyfarnwyd yr Englyn yn orau gan D. Gwenallt Jones o 220 o englynion a dderbyniwyd; a daeth englyn arall o eiddo Dewi Emrys yn ail.[3] Cyhoeddwyd y gerdd y flwyddyn ganlynol yng nghyfrol y bardd, Cerddi'r Bwthyn.[4]
Y gerdd
[golygu | golygu cod]Wele rith fel ymyl rhod – o’n cwmpas,
Campwaith dewin hynod;
Hen linell bell nad yw’n bod,
Hen derfyn nad ywn darfod.
Dylanwad
[golygu | golygu cod]Disgrifiodd Alan Llwyd yr englyn, yn enwedig yr esgyll, mewn termau eithriadol ganmoladwy.[3] Mae'n un o englynion mwyaf adnabyddus y Gymraeg ac un o gerddi mwyaf adnabyddus Dewi Emrys; mae wedi'i chynnwys mewn blodeugerddi megis Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg,[5] Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif,[6] a Cerddi'r Cewri.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dewi Emrys (David Emrys James) 1881-1952 - Bardd / Poet", Hanes lleol Abergwaun ac Wdig; adalwyd 9 Medi 2025
- ↑ "File 1947/4. - Englyn: 'Y Gorwel' gan 'Herbert'. Dyfarnwyd y wobr i 'Al Fresco' ('Dewi Emrys')", Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- 1 2 Alan Llwyd, Y Gaer Fechan Olaf: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1937-1950 (Cyhoeddiadau Barddas, 2006), t.220
- ↑ Dewi Emrys, Cerddi'r Bwthyn (Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth, 1948), t.65
- ↑ The Oxford Book of Welsh Verse, gol. Thomas Parry (Rhydychen: Clarendon Press, 1962), t.364
- ↑ Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif, gol. Alan Llwyd a Gwynn ap Gwilym (Gwasg Gomer, 1987), t.32
- ↑ Cerddi'r Cewri, gol. Islwyn Edwards (Gwasg Gomer, 2/2009), t.22