Y Folsan Fawr
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Robin Griffith, Dyfed Thomas |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1998 |
| Cyfarwyddwr/wyr | Robin Griffith |
| Cwmni cynhyrchu | Theatr Bara Caws |
| Dynodwyr | |
"Sioe glybiau yn rhith pantomeim" gan Theatr Bara Caws, a lwyfannwyd dros gyfnod y Nadolig 1998 oedd Y Folsan Fawr a grëwyd gan Robin Griffith a Dyfed Thomas.[1] Roedd y sioe wedi'i hanelu at "bobl dros ddeunaw oed".[1] Stori gyfarwydd Sinderela oedd ei sylfaen, ond rhoddwyd ongl hiwmor oedolion iddi. Roedd y cast yn cynnwys Caren Brown, Fraser Cains, Gwenno Elis Hodgkins, Marc Roberts a Llion Williams. Rhys Parry oedd y cerddor.[2] Emyr a Berwyn Morris-Jones o'r cwmni oedd yng ngofal dylunio'r posteri. Robin Griffith oedd y cyfarwyddwr.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod](rhai o'r cymeriadau)
- Sinderela
- Tywysog
- Viagra a Niagra (chwiorydd hyll)
- Botwm Balog ("Buttons")
Ymateb
[golygu | golygu cod]"Mae’r sioe glybiau, bellach, yn gyfarwydd fel sioe ddoniol, ddi-chwaeth ar gyfer cynulleidfa sydd yn ‘culturally challenged’ (i fathu term y Sais), rhywbeth y tu allan i brif ffrwd y ddrama yng Nghymru", oedd ymateb Gwenan Roberts wrth adolygu'r cynhyrchiad yn Barn [Mawrth 1999]. "Sinigaidd efallai yw ychwanegu bod y sioe gwrs hon yn llenwi’r clybiau tra mae’r theatrau yn tueddu i fod yn hanner gwag," ychwanegodd.[3]
"Y Folsan Fawr – y ddwy ‘F’, y ffalig a’r ffantastig, y ffraeth a’r –ycin anweddus! Maddeuwch fy Ffrangeg, ond does yna ddim un ymadrodd arall yn gwneud cyfiawnder."[3]
Canmolodd Gwenan y "[p]arodi amlwg ar ffurf y pantomein traddodiadol" a "ffraethineb [...]ddeifiol" yr awduron, oedd yn "gyfrwng i wyntyllu materion cyfoes mewn modd ysgafn a hwyliog gan arbed y sioe rhag ymdrybaeddu yn llwyr mewn anlladrwydd!"[3]