Y Ffordd (drama)
Gwedd
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1969 |
| Awdur | T. Rowland Hughes |
| Cyhoeddwr | Llyfrau'r Castell |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1969 |
| Dyddiad cyhoeddi | 1945 |
| Pwnc | Helyntion Beca |
| Argaeledd | allan o brint |
| Genre | Dramâu Cymraeg |
| Cwmni cynhyrchu | Cwmni Theatr Cymru |
| Dynodwyr | |
Drama lwyfan tair act o waith y llenor T. Rowland Hughes yw Y Ffordd. Helyntion Beca yw thema'r ddrama.[1] Cyhoeddwyd y ddrama ym 1945 gan Llyfrau'r Castell.[1] Digwydd y ddrama ym mis Medi 1843 mewn "tafarn rai milltiroedd y tu allan i Abertawe, ar y ffordd tua Gŵyr".[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- John Ifans - tafarnwr a thyddynnwr
- Gwyneth - ei ferch
- Ianto - labrwr, rai blynyddoedd yn hŷn nag Ifan
- Ifan - ffermwr ifanc
- Isaac Lloyd - hen ŵr
- Sarah Jane - gwraig yn gwerthu cocos
- Lewis Morgan - ffermwr ifanc, mewn cariad â Gwyneth
- Marged - hen forwyn yn y dafarn
- Pritchard - plisman
- Summers - ceidwad tollborth
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint 1969. Cyfarwyddydd Beryl Williams; cynllunydd Elisabeth Friendship; rheolwyr llwyfan Philip Ormond, Grey Evans; goleuo Dorian Kelly a Mici Plwm; gwisgoedd Edith Stanley a Norah Roberts; cynorthwywyr Meic Povey, Hefin Evans, Robin Griffiths a Gareth Wyn Roberts. Adeiladwyr y set Thomas Sandberg a Buckley Wyn Jones; cast:
- John Ifans - David Welch
- Gwyneth - Ainslie Freeman
- Ianto - Dafydd Hywel
- Ifan - John Ogwen
- Isaac Lloyd - Islwyn Morris
- Sarah Jane - Beryl Williams
- Lewis Morgan - Gwyn Parry
- Marged - Gaynor Morgan Rees
- Pritchard - John Greatorex
- Summers - Owen Garmon
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "HUGHES, THOMAS ROWLAND (1903 - 1949), bardd a nofelydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-09-10.
- ↑ Hughes, T Rowland (1945). Y Ffordd. Llyfrau'r Castell.