Tylluan Wen (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y Dylluan Wen (ffilm))
Tylluan Wen
Cyfarwyddwr Alun Ffred Jones
Cynhyrchydd Ffilmiau'r Nant
Ysgrifennwr Angharad Jones
Serennu Siân James
John Ogwen
Betsan Llwyd
Maldwyn John
Cerddoriaeth Sian James (Telyn)
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Ffilmiau'r Nant / S4C
Dyddiad rhyddhau 1996
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Ffilm a gynhyrchwyd ym 1996 gan Ffilmiau'r Nant ar gyfer S4C yw Tylluan Wen. Mae'n addasiad o'r nofel Y Dylluan Wen gan Angharad Jones. Mae'r ffilm hon yn cael ei gwylio gan fyfyrwyr ysgol uwchradd fel rhan o faes llafur cwrs Cymraeg Llên TGAU (CBAC).

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Mae Martha/Eirlys (Siân James) yn dychwelyd at yr ardal lle y'i ganed hi i ddial ar Ifor Preis (John Ogwen) ei chyn-brifathro, am farwolaeth ei thad (David Tennant). Mae hi'n gorfodi Ifor Preis i odinebu ar ei wraig ffyddlon (Meri (Betsan Llwyd)) ac yn codi cywilydd ar y ddau, wrth iddi gyhoeddi'i pherthynas ag Ifor o flaen eu holl ffrindiau. Ceisia Ifor Preis, yn gandryll, ei thagu cyn ei gollwng. Wedyn mae Martha yn dial am farwolaeth ei thad trwy daro Ifor Preis ar ei ben â'i thelyn. Gwêl merch Ifor Preis, sef Gwen, y llofruddiad, a rhed i ganol yr heol. I achub bywyd Gwen mae Martha'n aberthu ei hunan wrth wthio Gwen allan o'r ffordd.

Newidia Martha ei henw o Eirlys i Martha i geisio sicrhau na chaiff ei hadnabod, ond erbyn y diwedd mae hen gogyddes yr ysgol, Mrs Roberts, yn darganfod pwy ydy hi wrth iddi ymweld â bedd ei thad. Yn ogystal â Mrs Roberts, mae Roger, sef cyn-ddisgybl yn yr ysgol, yn ei hadnabod o hen lun ysgol. Yn y stori hon mae Dafydd Tennant yn cael ei bwrw gan car. Mae Martha yn beio hon ar Ifor Preis.

Symbolaeth[golygu | golygu cod]

Mae llawer o symbolaeth yn y ffilm; gwelwn ôl-fflachiadau o Eirlys yn cael y gansen, y prifathro yn gwisgo mantell, a chan fod Martha yn cyrraedd yn gwisgo mantell, dengys hyn ei bod bellach yn rheoli. Yn nes ymlaen mae saethiad o Ifor Preis yn gwisgo ei fantell yn breifat yn dangos sut y mae ef eisiau adennill rheolaeth. Mewn rhannau lle mae Martha eisiau bod yn arbennig o fygythiol mae hi’n gwisgo coch. Clywir llawer o gerddoriaeth ailadroddus yn y ffilm - symbol o’r gorffennol yn ailadrodd ei hun - ac mae’n adeiladu tensiwn i uchafbwynt ar y diwedd. Symbol arall yn y ffilm yw'r delyn, offeryn a ddefnyddir ar y cyfan i greu, ond tua diwedd y ffilm i ddinistrio, yn debyg i'r gansen yn y nofel 'Y Dylluan Wen'.

Cymeriadau ac actorion[golygu | golygu cod]

Cymeriad Actorion
Martha/Eirlys Siân James
Ifor Preis John Ogwen
Meri Preis Betsan Llwyd
Dafydd Tennant/Elis David Tennant
Tylluan Sifyn y Dylluan

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: