Y Corfflu Cadwraeth Sifil

Oddi ar Wicipedia
Y Corfflu Cadwraeth Sifil
Poster i hyrwyddo'r Corfflu Cadwraeth Sifil, a gynhyrchwyd gan y Prosiect Celf Ffederal yn Chicago (1935).
Enghraifft o'r canlynolindependent agency of the United States government, endid a fu Edit this on Wikidata
Daeth i ben2 Gorffennaf 1942 Edit this on Wikidata
Rhan oY Fargen Newydd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu28 Mehefin 1937 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganEmergency Conservation Work Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifNational Archives and Records Administration, National Archives at College Park, University of Maryland Libraries Edit this on Wikidata
Isgwmni/auCivilian Conservation Corps South Dakota Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadFederal Security Agency Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhaglen gan lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau i liniaru diweithdra yn ystod y Dirwasgiad Mawr oedd y Corfflu Cadwraeth Sifil (Saesneg: Civilian Conservation Corps; CCC). Sefydlwyd ym Mawrth 1933, yn ystod "can niwrnod cyntaf" arlywyddiaeth Franklin D. Roosevelt, fel un o brif asiantaethau'r Fargen Newydd. Pwrpas y CCC oedd i ddarparu swyddi cadwraeth i ddynion dibriod diwaith, oed 18 i 25; yn ddiweddarach estynnwyd y rhaglen i ddynion oed 17 i 28. Ymhlith prosiectau'r CCC oedd plannu coed, codi rhwystrau i atal llifogydd, diffodd tanau gwyllt, a chynnal a chadw ffyrdd a llwybrau yn y coedwigoedd. Ar ei anterth, cyflogwyd 500,000 o ddynion gan y CCC, a chyflogwyd 3 miliwn i gyd hyd at ei ddadsefydlu ym 1942.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Civilian Conservation Corps. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Awst 2022.