Y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth
| Math | coleg diwinyddol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Y Coleg Diwinyddol Unedig |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 8.9 metr |
| Cyfesurynnau | 52.415302°N 4.087497°W |
| Cod OS | SN581817 |
![]() | |
Coleg hyfforddi ar gyfer gweinidogion Eglwys Bresbyteraidd Cymru o 1906 hyd 2003 oedd y Coleg Diwinyddol Unedig. Fe'i lleolwyd yn Adeilad y Cambria sy'n adeilad rhestredig Gradd II ar y Prom yn Aberystwyth, Ceredigion.
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorodd Gwesty'r Cambria yn Aberystwyth ym 1896 ar safle glan y môr lle'r oedd yr hen Dŷ Tollau wedi sefyll o'r blaen.[1] George Croydon Marks oedd y pensaer. Beth bynnag, nid oedd y gwesty yn llwyddiant masnachol a phrynwyd yr adeilad gan yr AS David Davies ym 1906.[2] Fe'i rhoddwyd i Gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd fel coleg diwinyddol preswyl a throsglwyddwyd athrawon a myfyrwyr Coleg Trefeca yn Sir Frycheiniog i'r coleg newydd ym 1906.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf defnyddiodd y Groes Goch yr adeilad fel ysbyty.
Caeodd y coleg o'r diwedd yn 2003, pan symudodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru ei hyfforddiant gweinidogaethol i Fangor. Am gyfnod defnyddiwyd yr adeilad fel canolfan fusnes. Ar hyn o bryd (2025) mae'n rhan o ailddatblygiad mawr yr Hen Goleg ("Bywyd Newydd i’r Hen Goleg").
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cardiganshire County History, cyf. 3, t.502
- ↑ "Full Report for Listed Building: The United Theological College, Cadw; adalwyd 4 Awst 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Elgan Philip Davies, Y Cambria
