Y Cledrau
| Enghraifft o: | grwpiau cerddorol |
|---|---|
| Gwlad | Cymru |
| Dechrau/Sefydlu | 2012 |
| Genre | cerddoriaeth roc, Pop Cymraeg |
| Dynodwyr | |
Band pop o'r Bala sy'n canu indi-roc yw Y Cledrau. Ffurfiwyd y grŵp yn 2012 tra'r oedd Joseff Owen, Ifan Prys a Marged Gwenllian yn ddisgyblion yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, cyn ychwanegu Alun Roberts o Ynys Môn fel drymiwr. Maent wedi rhyddhau nifer o ganeuon ar Label I Ka Ching gan rhyddhau un EP, dau albwm a thair sengl, gan weithio'n agos ag Ifan Emlyn ac Osian Williams fel cynhyrchwyr o'r cychwyn cyntaf.[1]
Cafodd albwm gyntaf y band, Peiriant Ateb, ei ganmol gan BBC Radio 6 Music.[2]
Gorwelion
[golygu | golygu cod]Yn 2019 roedd Y Cledrau yn un o 12 o fandiau Cymreig (sy'n canu yn y Gymraeg neu'r Saesneg) a ddewiswyd i'w cefnogi gan gynllun 'Gorwelion'. Mae Gorwelion yn gynllun ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi datblygiad cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru. Ymysg y grwpiau Cymraeg eraill y flwyddyn honno oedd Gwilym ac Eve Goodman.[3]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Rhyddhawyd sawl cân gan y band.[4][5]
Senglau ac E.P.
[golygu | golygu cod]- Un ar ôl y Llal - label I Ka Ching, IKACHING017, E.P. ac ar Cryno Ddisg, (2015)
- Hei Be' Sy - label I Ka Ching, IKACHING064 (2021)
- Cerdda fi i'r Traeth - label I Ka Ching, (2021)
- Fel hyn fel Arfer - label I Ka Ching, IKACHING079, (2023)
Albwm
[golygu | golygu cod]- Peiriant Ateb - label I Ka Ching, IKACHING036 (2017)
- Cashews Blasus - label I Ka Ching, IKACHING061 (2021)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y Cledrau". Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 2025. Cyrchwyd 15 Medi 2026.
- ↑ "Y Cledrau". Gwefan BBC Radio Cymru. Cyrchwyd 15 Medi 2026.
- ↑ "Gorwelon". Y Selar. 9 Mehefin 2019.
- ↑ "Y Cledrau". Tudalen Spotify y band. Cyrchwyd 15 Medi 2026.
- ↑ "Y Cledrau". Gwefan Discogs. Cyrchwyd 15 Medi 2026.