Y Brython Sisilaidd

Oddi ar Wicipedia
Y Brython Sisilaidd
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Roedd y Brython Sisilaidd (fl. O.C. 410) yn fardd yn yr iaith Ladin, a adnabyddir dan ei lysenw yn unig, yn enedigol o Brydain.

Ei gefndir[golygu | golygu cod]

Ychydig iawn a wyddys amdano. Cafodd ei eni ym Mhrydain tua diwedd y 4g pan oedd rheolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig ar yr ynys yn dirwyn i ben. Ymddengys ei fod yn Frython ond nid oes modd gwybod hynny i sicrwydd. Medrai'r iaith Ladin yn ddigon da i ysgrifennu ynddi a dichon ei fod yn medru siarad Brythoneg hefyd. Yn ddyn ieuanc roedd yn byw ar ynys Sisili ar ddechrau'r 5fed ganrif, efallai ar ôl ffoi o Brydain wrth i'r ymerodraeth ddechrau gwegian.

Ei waith[golygu | golygu cod]

Yn sgîl cwymp dinas Rhufain i'r Gothiaid yn y flwyddyn 410 ysgrifenNodd gyfres o lithiau radicalaidd yn dwyn y teitl De Divitis ("Ynghylch y Goludog"), llithiau a leisiodd gefnogaeth i'r blaid radical ymhlith dilynwyr Pelagius (fl. c. 350-418). Ceir ynddynt syniadau herfeiddiol iawn, sosialaidd eu naws, am greu cymdeithas gwbl gyfartal gydag eiddo yn cael ei rhannu gan bawb. Ei ebychair oedd Tolle divitem ("I lawr â'r goludog!").