Y Bont (drama)
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol, drama |
|---|---|
| Awdur | Catrin Dafydd, Ceri Elen, Arwel Gruffydd, Angharad Tomos |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 2013 |
| Cysylltir gyda | Theatr Cymru |
| Rhanbarth | Cymru |
| Dynodwyr | |
Fel "Un diwrnod hanesyddol, Un perfformiad yn unig" y disgrifiwyd prosiect theatr unigryw gan Theatr Genedlaethol Cymru ar ddydd Sul 3 Chwefror 2013, sef Y Bont.[1] Cofio 50 mlwyddiant y brotest enwog gan fyfyrwyr Prifysgolion Cymru ar Bont Trefechan, Aberystwyth oedd y sbardun i'r cynhyrchiad, oedd yn gyd-gynhyrchiad â S4C, ac mewn partneriaeth â Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Green Bay Media, Prifysgolion Cymru ac Arad Goch[1] Roedd y cast cymunedol yn cynnwys Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Morgannwg a Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant[1] Lluniwyd y gwaith gan Arwel Gruffydd oedd hefyd yn cyfarwyddo, ynghyd â Catrin Dafydd a Ceri Elen fel awduron y sgript deledu, ac Angharad Tomos fel awdur y sgript i leisiau.[1] Adroddwyd bod bron i 500 o bobol wedi bod yn rhan o'r digwyddiad.[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Kye
- Dwynwen
- Rhods
- Terry
- Protestwyr
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mewn Rhagair i'r cynhyrchiad yn y Rhaglen, mae John Davies yn gosod cyd-destun i'r brotest, gan gyfeirio yn benodol at ddarlith radio Saunders Lewis, Tynged yr laith ar 13 Chwefror 1962. "Cnewyllyn ei neges oedd ei alwad am fabwysiadu dulliau chwyldro," nododd Davies, "a'i bwyslais mai polisi i fudiad oedd ganddo mewn golwg — mudiad [Plaid Cymru] a oedd eisoes wedi'i wreiddio yn yr ardaloedd lle roedd y Gymraeg yn iaith lafar feunyddiol".[1] Mae'r Rhagair hefyd yn nodi bod y brotest gynharaf yn Aberystwyth ar 2 Chwefror 1963, "un o ddiwrnodau oeraf yr ugeinfed ganrif", ac mai'r bwriad oedd "troseddu mewn dull gymharol ddiniwed, er mwyn denu'r protestwyr niferus na fyddent yn barod i gysylltu'u hunain gyda thorcyfraith ddifrifol". Mae Davies yn enwi Gareth Miles fel yr un gafodd y syniad o "[b]astio posteri ar adeiladau cyhoeddus y dref."[1]
"Daeth tua hanner cant o bobl i'r brotest, y mwyafrif llethol yn fyfyrwyr — bron eu hanner o Fangor, [...] Wedi'r pastio brwd, ymgasglasom yn llawr uchaf yr Home Cafe, lle roedd yr elfennau mwyaf brwd yn awchus i wneud rhywbeth a fyddai'n ddigon eithafol i ddenu ymateb gan yr heddlu. Aelodau o'r elfennau mwyaf brwd a aeth i flocio'r traffig ar Bont Trefechan, protest nad oedd yn rhan o gynlluniau'r trefnwyr. Cyhoeddwyd Iluniau o brotest Pont Trefechan ym mhron pob un o'r papurau dyddiol Saesneg, ffaith a barodd i bobl gredu mai dyma wir ddechreuad y Gymdeithas."[1]
Mewn nodyn papur arwahan, wedi'i gynnwys yn rhaglen ar y dydd, nodwyd: "Er bod yr elfennau dramataidd i'r cynhyrchiad hwn wedi eu hysbrydoli gan bobl a digwyddiadau hanesyddol, cwbl ddychmygol yw'r cyfan o gymeriadau'r digwyddiad hwn".[1]
Y Cynhyrchiad
[golygu | golygu cod]Defnyddiwyd sawl lleoliad ar draws Aberystwyth er mwyn llwyfannu'r gwaith oedd yn cynnwys gosgordd o hen fysiau er mwyn cludo'r gynulleidfa o Ganolfan y Celfyddydau i'r promenâd.[3] Roedd yr olygfa olaf ar Bont Trefechan ei hun, yn cyfleu "y bont yn llawn dop o bobl o'r dechrau i'r diwedd yn canu Anthem Genedlaethol Cymru, ‘Hen Wlad fy Nhadau’...canwyd y pennill olaf gyda mwy o ystyr a llawer mwy o ddealltwriaeth, ‘O! bydded i’r hen iaith barhau’", nododd un adolygydd di-Gymraeg.[2]
Roedd y tîm creadigol yn cynnwys Arwel Gruffydd, Sarah Bickerton, Gwyn Eiddior ac Elen Bowman;[1]cast:
- Kye - Chris Hoskins
- Dwynwen - Lois Jones
- Rhods - Rhys ap William
- Terry - Mike Hayward
- Protestwyr - Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Myfyrwyr Prifysgol Morgannwg a Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant[1]
Dyma'r enwau'r myfyrwyr a restrwyd yn y Rhaglen: Lucy Andrews, Nathan Aviss, Carwyn Blayney, Jacob Ellis, Catrin Faulknall, Katie Grills, Bethan Gruffydd, Ffion Gwen, Gwenfair Hughes, Gutun Lake, Alaw Gwyn Rossington, Shon Rowcliffe, Katie Skuse, Eirian Thomas, Lora Llwyd Thomas, Bethan Waters, Mared Llewelyn Williams, Trystan ap Owen, Stephanie Bassett, Aaron Davies, Rhianna Davies, Eirian Evans, Elan Meredydd Evans, Ffion Evans, Joanne Griffiths, Sion Hughes, Osian Ifans, Ema-Jayne Jones, Mari Elen Jones, Sarah-Louise Jones, Catrin Leighton, Catrin Sion Lloyd, Bethan Lilley, Lloyd Meredith, Kara Morse, Fionnula Morris-Conlon, Ffion Owen, Llywela Parri, Alun Parrington, Catrin Reynolds, Elgan Rhys Jones, Lloyd Robling, Anna Sherratt, Aled Thomas, Sian Williams. Sioned Besent, Gareth Davies, Rhiannon Davies, Efa Harris-Davies, Cara Owen, Guto Rhun Jones, Lia Mair Jones, Rhodri Jones, Owain Lewis, Luke McCall, Caitlin McKee, Delyth McLean, Becky Phasey, Samuel Pritchard, Catrin Prosser, Elliot Wigfall, Llio Wyn a Lowri Wyn.[1]
Mewn adolygiad Saesneg di-enw o'r cynhyrchiad yn WalesOnline nodwyd bod hi'n bosib "...mai'r cynhyrchiad awyr agored unigryw hwn oedd y mwyaf o'i fath drwy gyfrwng y Gymraeg"[3] Aeth yr adolygiad pedair seren ymlaen i ganmol y cynhyrchiad gan nodi "Llwyddodd Theatr Genedlaethol [Cymru] i uno gofynion logistaidd, technoleg ddigidol a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol i roi cyfrif cynhwysfawr i'r gynulleidfa o ddigwyddiadau'r dydd."[3]
Fel cynhyrchiad "gwefreiddiol" y disgrifiodd Lowri Haf Cooke y diwrnod, gan brofi "Dagrau, croen gwydd a gwibdaith ′nol mewn amser".[4] Mae hi hefyd yn cyfeirio at ddau gynhyrchiad ar leoliad llwyddianus blaenorol gan National Theatre Wales sef The Passion (2011) a Coriolan/us (2012) gan nodi bod gwersi wedi'u dysgu, "ond aethpwyd sawl cam ymhellach i sicrhau profiad cynulleidfaol werth chweil."[4]
"Sylwedolais hefyd fod y digwyddiad hwn gam enfawr ymlaen yn hanes y Theatr Genedlaethol [Cymru]. Bum mlynedd yn ôl, mwynheais gynhyrchiad Porth y Byddar yn fawr, a lwyfannwyd yn Haf 2007. Ar yr achlysur hwnnw nodwyd hanner canmlwyddiant y mesur seneddol i foddi Cwm Tryweryn ar ffurf drama lwyfan go rymus. Mae na le i ddrama lwyfan, a bydd hi gyda ni byth, ond mae’r ffordd ry ni’n derbyn ac yn ymateb i adloniant wedi newid yn llwyr mewn cwta bum mlynedd. Cynhaliwyd chwyldro tawel ar Bont Trefechan yn Chwefror 1963, ac yn addas iawn, profodd cynhyrchiad Y Bont mai trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo i danio cynulleidfa gyfoes."[4]
Y Ddrama Deledu
[golygu | golygu cod]Darlledwyd y ddrama ar S4C ar 23 Ebrill 2013.[5]Gellir blasu rhan gyntaf y ddrama deledu yma.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 Rhaglen Y Bont. Theatr Genedlaethol Cymru. 2013.
- 1 2 "Review of Theatr Genedlaethol Cymru from the theatre dance and drama in Wales web site". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2026-06-24.
- 1 2 3 WalesOnline (2013-02-05). "Review: Y Bont, Theatr Genedlaethol Cymru". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-24.
- 1 2 3 lowrihafcooke (2013-02-10). "Adolygiad Theatr: Y Bont (Theatr Genedlaethol Cymru)". Lowri Haf Cooke. Cyrchwyd 2026-06-24.
- ↑ Administrator, northwales (2013-04-17). "Welsh love story y Bont comes to S4C". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-24.
- ↑ (yn en) Y Bont - Rhan Un, https://vimeo.com/85434229, adalwyd 2026-06-24