Władysław Szpilman

Oddi ar Wicipedia
Władysław Szpilman
Ganwyd5 Rhagfyr 1911 Edit this on Wikidata
Sosnowiec Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 2000 Edit this on Wikidata
Warsaw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl, Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol cerddoriaeth Chopin
  • Academi Celfyddydau, Berlin Edit this on Wikidata
Galwedigaethpianydd, cyfansoddwr, ysgrifennwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
Adnabyddus amŚmierć Miasta, The Pianist Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
PriodHalina Szpilman Edit this on Wikidata
PlantAndrzej Szpilman, Christopher W. A. Szpilman Edit this on Wikidata
PerthnasauJózef Grzecznarowski Edit this on Wikidata
Gwobr/auCadlywydd gyda Seren Urdd Polonia Restituta, Croes Aur am Deilyngdod, Marchog Urdd Polonia Restituta Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.szpilman.net Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr a phianydd o Wlad Pwyl o darddiad Iddewig oedd Władysław Władek Szpilman (IPA: [vwaˈdɨswaf ˈʂpilman]) (Sosnowiec, 5 Rhagfyr 1911Warsaw, 6 Gorffennaf 2000). Wedi'i gloi yn y Ghetto Warsaw, llwyddodd i ddianc o wersylloedd marwolaeth y Natsïaid diolch i ffrindiau a'i cuddiodd. Rhwng 1945 a 1963 roedd yn gyfarwyddwr rhaglenni cerdd ar radio Gwlad Pwyl.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Tŷ yn Rhif 223 gan Aleja Niepodległości, yn Warsaw, y man lle'r oedd Władysław Szpilman yn byw yn cuddio a lle cyfarfu â Wilm Hosenfeld ym 1944

Fe'i ganed i deulu Iddewig o gerddorion gyda'i dad yn feiolinydd a'i fam bianydd. Astudiodd yn Academi Chopin yn Warsaw gyda dau o fyfyriwr Franz Liszt: Jozef Smidowicz ac Aleksander Michalowski. Cafodd ysgoloriaeth rhwng 1931 a 1933 yn Academi’r Celfyddydau ym Merlin, lle bu’n astudio piano gyda Leonid Kreutzer ac Artur Schnabel a chyfansoddiad gyda Franz Schreker.

Yn ôl yn Warsaw, bu'n canu'r piano ar gyfer Radio Gwlad Pwyl er 1 Ebrill 1935 ac mae'n dechrau chwarae gyda'r feiolinydd Bronisław Gimpel gan ffurfio Pumawd Warsaw gydag ef. Cyfansoddodd ei weithiau symffonig cyntaf, cyngerdd ffidil, cyngerdd ar gyfer piano a cherddorfa, cyfres piano Zycie Maszyn (Bywyd y peiriannau), yn ogystal â thraciau sain ar gyfer ffilmiau, lieders a chansons.

Daeth gweithgaredd y pianydd i ben (a pherfformiad byw olaf yr osaf) yn sydyn ar 23 Medi 1939 pan, yn ystod perfformiad gan Szpilman o Chopin ar Radio Warsaw, dinistriodd bom gan luoedd y Luftwaffe bwerdy a diffoddwyd y pŵer. Fel Iddew, mae'n dioddef y cywilyddiau a'r amddifadedd oherwydd polisi gwrth-Semitaidd y Natsiaid, gan ei orfodi i fyw yn ghetto Warsaw. Llwyddodd i oroesi yn wyrthiol hyd nes i'r ddinas gael ei rhyddhau ym 1945 (gweler y llyfr a'r ffilm).

Amser Ghetto Warsaw[golygu | golygu cod]

Cofeb i Szpilman ar al. Niepodległości 223 yn Warsaw, lle, yn 1944 bu i Szpilman gwrdd â'r milwr Almaeneg, Wilm Hosenfeld
Ffoto o Szpilman, yn Amgueddfa Gwrthryfel Warsaw

Szpilman oedd yr unig aelod o'i deulu i oroesi yn Ghetto Warsaw yn ystod meddiannaeth yr Almaenwyr. Llwyddodd Szpilman i ganfod gwaith fel cerddor er mwyn bwydo ei deulu, oedd y cynnwys ei gam, tad, brawd Henryk, a dwy chwaer, Regina a Halina.[1] Gweithiodd i gychwyn yn Café Nowoczesna lle byddai'r cwsmeriaid weithiau'n anwybyddu ei berfformiad er mwyn bwrw ymlaen gyda'i busnes, fel y soniai yn ei hunangofiant.[2]

Gwnaethpwyd ei oroesiad yn bosibl gyda chymorth y gwrthsafiad Iddewig a Gwlad Pwyl ac mewn ffordd arbennig gan gapten yr Almaen Wilm Hosenfeld (a darluniwyd fel Awstriad yn y llyfr gan i'r awdurdodau Comiwnyddol wrthod adael i filwr Almaeneg gael ei weld mewn golau da.[2] Darganfyddodd fod Szpilman wedi llwgu yn ystod gaeaf olaf y rhyfel. Ond yn lle ei saethu neu ei wadu, fe ddarparodd fwyd a dillad cynnes iddo. Goroesodd Szpilman tra llofruddiwyd ei rieni a'i frodyr a chwiorydd yng ngwersyll difodi Treblinka.

Gan ddechrau ym mis Awst 1944, roedd Szpilman yn cuddio allan mewn adeilad segur yn al. Niepodległości 223. Ym mis Tachwedd, cafodd ei ddarganfod yno gan swyddog o'r Almaen, y Capten Wilm Hosenfeld. Er mawr syndod i Szpilman, ni wnaeth y swyddog ei arestio na'i ladd; ar ôl darganfod bod y Szpilman llwglyd yn bianydd, gofynnodd Hosenfeld iddo chwarae rhywbeth (roedd piano ar y llawr gwaelod.) Chwaraeodd Szpilman Nocturne mewn C-sharp minor gan Chopin. Ar ôl hynny, dangosodd y swyddog le Szpilman le gwell i guddio a dod â bara a jam iddo ar sawl achlysur. Cynigiodd hefyd un o'i gotiau i Szpilman i gadw'n gynnes yn y tywydd rhewllyd. Nid oedd Szpilman yn gwybod enw swyddog yr Almaen tan 1951. Dim ond ym 1951 y dysgodd Szpilman enw ei gynorthwyydd a'i fod mewn caethiwed Sofietaidd. Ceisiodd ei achub, ond bu farw Hosenfeld ar 13 Awst 1952 yn 57 oed yng Ngwersyll Carchorion Rhyfel Stalingrad.[3]

Wedi'r Rhyfel[golygu | golygu cod]

Priododd Szpilman â'r meddyg Halina Szpilman, née Grzecznarowski yn 1950.[4]

Dechreuodd gyd-berfformio ar ôl 1945 gyda'r feiolinyddion Bronisław Gimpel, Henryk Szeryng, Ida Haendel, Tadeusz Wronski a Roman Totenberg. Yn y 1950au cyfansoddodd tua hanner cant o ganeuon plant ac ym 1955 derbyniodd Wobr Undeb Cyfansoddwyr Gwlad Pwyl ar eu cyfer.

Cyfansoddodd sawl symffoni, hanner mil o ganeuon (150 ohonynt yn llwyddiannus iawn), cerddoriaeth ffilm a darllediadau radio. Yn 1961 trefnodd Ŵyl Gerdd Sopot yn nhref sba glan-môr Sopot ar y Môr Baltig. Ef hefyd oedd sylfaenydd Undeb Awduron Cerddoriaeth Boblogaidd Gwlad Pwyl.

Ynghyd â Phumawd Warsaw - a ffurfiwyd gan Gimpel (ffidil gyntaf), Wronski (ail ffidil), Stefan Kamasa (uchel) ac Aleksander Ciechanski (soddgrwth) - cynhaliodd tua 2500 o gyngherddau ledled y byd, cyn ymddeol ym 1986 i ymroi i gyfansoddi.

The Pianist: y llyfr a'r ffilm[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd Szpilman lyfr hunangofiannol Śmierć miasta ("Marwolaeth Dinas") a adnabwyd wedy fel The Pianist, a gyhoeddwyd gyntaf yng Ngwlad Pwyl ym 1946.[5][6] Cafodd y llyfr ei sensro gan awdurdodau Stalinaidd y llywodraeth Gomiwnyddol newydd, am resymau gwleidyddol.

Yn 1998 darganfu ei fab gopi o'r llyfr ac a gafodd ei ailargraffu yn Almaeneg gyda'r teitl Das wunderbare Überleben ("Y Goroesiad Gwyrthiol") gan ychwanegu rhannau o ddyddiadur y swyddog Almaeneg Wilm Hosenfeld ac ôl-eiriau gan Wolf Biermann. Fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddarach mewn mwy na 35 o ieithoedd. Rhyddhawyd y ffilm eponymaidd a gyfarwyddwyd gan Roman Polański, a ryddhawyd yn 2002, enillydd y Palme d'Or yn 55fed Gŵyl Ffilm Cannes, lle chwaraewyd Szpilman gan yr actor Adrien Brody, a enillodd yr Oscar am yr actor gorau am y rôl hon.

Recordiadau[golygu | golygu cod]

  • CD "F.Chopin – Works" - National Edition – F.Chopin – Piano trio und Introduction und Polonaise – W. Szpilman, T. Wronski, A. Ciechanski, Muza Warsaw 1958 and 2002
  • CD "J. Brahms – Piano Quintett" The Warsaw Piano Quintett, Muza Warsaw 1976
  • CD "Wladyslaw Szpilman – Ein musikalisches Portrait" Works by Szpilman, Rachmaninov und Chopin, Alinamusic Hamburg 1998
  • CD Władysław Szpilman – Portret [5 CD Box-Set] Polskie Radio Warszawa 2000
  • CD Wladyslaw Szpilman. The Original Recordings of the Pianist. Sony Classical 2002
  • CD The Pianist [Soundtrack] Sony Classical 2002
  • CD Songs of Wladyslaw Szpilman – sings Wendy Lands, Universal Music USA 2003
  • CD Works For Piano & Orchestra Sony Classical 2004
  • CD Władysław Szpilman – Legendary Recordings [3 CD Box-Set] Sony Classical 2005

Detholiad o waith cyhoeddiedig[golygu | golygu cod]

  • Władysław Szpilman: Suite. The Life of the Machines for Piano (1933). Boosey & Hawkes Berlin/New York 2004 ISBN 3-7931-3077-0
  • Władysław Szpilman: Concertino, Piano and Orchestra, Piano parts, Schott Mainz 2004 ISBN 3-7931-3086-X
  • Władysław Szpilman: Concertino, Piano and Orchestra, Partitur Schott Mainz 2004 ISBN 3-7931-3079-7
  • My memories of you. 16 selected songs by The Pianist Władysław Szpilman Boosey & Hawkes Berlin/New York 2003 ISBN 3-7931-3085-1

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Wladyslaw Szpilman, The Pianist p. 16, Picador – St. Martins Press, New York 2000.
  2. 2.0 2.1 Wladyslaw Szpilman, The Pianist p.13-17, Orion Books, 2005.
  3. "The Pianist – Wladyslaw Szpilman – Homepage". szpilman.net. Cyrchwyd 11 September 2019.
  4. Eintrag bei LexM, Institut für Historische Musikwissenschaft, Universität Hamburg
  5. Jan Parker, Timothy Mathews (2011). Tradition, Translation, Trauma: The Classic and the Modern Classical Presences. Oxford University Press. tt. 278–. ISBN 0-19-955459-5. Cyrchwyd May 27, 2012. Google Books preview
  6. Wladyslaw Szpilman, Śmierć miasta (a.k.a. The Pianist), "Wiedza" Warsaw, 1946.