Wyn Roberts

Oddi ar Wicipedia
Wyn Roberts
Ganwyd10 Gorffennaf 1930 Edit this on Wikidata
Llansadwrn Edit this on Wikidata
Bu farw13 Rhagfyr 2013 Edit this on Wikidata
Rowen Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadE. P. Roberts Edit this on Wikidata
MamMargaret Ann Roberts Edit this on Wikidata
PriodEnid Williams Edit this on Wikidata
PlantRhys Roberts, Huw Roberts, Geraint Roberts Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Gwleidydd Ceidwadol o Gymro oedd Ieuan Wyn Pritchard Roberts, Arglwydd Roberts o Gonwy (10 Gorffennaf 193013 Rhagfyr 2013).[1][2]

Fe'i ganwyd yn Llansadwrn, yn fab i'r Parchedig E.P. Roberts, gweinidog Methodist Calfinaidd ac awdur. Roedd ganddo frawd hŷn, Eifion Roberts. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Harrow pan oedd yn 14 oed. Ef oedd yr unig Gymro yno yr ysgol ar y pryd a gwnaeth enw iddo'i hun yn actio mewn dramâu. Enillodd ysgoloriaeth pellach i Goleg y Brifysgol, Rhydychen a chymerodd radd anrhydedd mewn hanes. Yn ystod ei wasanaeth milwrol bu'n gwasanaethu gyda'r "Special Intelligence" yn Awstria.[3] Yn 1964 roedd rhaid i TWW gymryd dros masnachfraint Teledu Cymru a daeth Wyn yn reolwr Cymru i TWW.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Darlledu[golygu | golygu cod]

Yn ei yrfa cynnar hyfforddodd fel newyddiadurwr ar y Liverpool Daily Post. Ymunodd â'r BBC yn 1954 fel cynorthwyydd newyddion. Yn 1958 ymunodd â gorsaf newydd TWW fel cynhyrchydd a gweithiodd ar y rhaglen gyntaf y gyfres Amser Te a ddarlledwyd ar noson agoriadol y sianel.[4] Erbyn 1960 roedd yn rheolwr cynhyrchu y rhaglenni Cymraeg ar TWW, ac yn un o brif swyddogion ieuengaf y sianel.[3] Bu hefyd yn cyflwyno y rhaglen Pwy Fase’n Meddwl.[5]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Enillodd sedd ymylol Conwy yn 1970 gan ei chipio o'r Blaid Lafur. Parhaodd fel Aelod Seneddol yr etholaeth am 27 mlynedd cyn iddo sefyll lawr cyn etholiad 1997. Yn 1998 cafodd ei wneud yn arglwydd am oes fel Barwn Roberts o Gonwy a bu'n llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn yr ail siambr tan 2007.[4] Am gyfnod hir gwasanaethodd fel Is-Ysgrifennydd Cymru yn y Swyddfa Gymreig. Er waetha' ei deyrngarwch i Mrs Thatcher, chafodd e ddim ei ddyrchafu i'r cabinet. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am gyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Bu'n lefarydd y Ceidwadwyr ar faterion Cymreig yn yr Ail Siambr o 1997 tan y 27 Mehefin 2007.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod ag Enid a cawsant tri mab, Huw a Geraint a Rhys (bu farw yn 2004).[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. BBC Wales News. Adalwyd 14 Rhagfyr 2013
  2. Lord Roberts of Conwy , theguardian.com, 16 Rhagfyr 2013.
  3. 3.0 3.1  Bywgraffiad Wyn Roberts - TWW, 1961. 'Teledu', TWW (Awst 1961). Adalwyd ar 3 Hydref 2019.
  4. 4.0 4.1 4.2 Edrych yn ôl ar fywyd Syr Wyn , BBC Cymru Fyw, 14 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd ar 3 Hydref 2019.
  5.  Nodi 60 mlynedd ers sefydlu TWW – Television Wales and the West. Prifysgol Aberystwyth (12 Ionawr 2018). Adalwyd ar 3 Hydref 2019.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Ednyfed Hudson Davies
Aelod Seneddol dros Gonwy
19701997
Olynydd:
Betty Williams