Wyn Bowen Harries
| Wyn Bowen Harries | |
|---|---|
| Ffugenw | Wyn Bow |
| Ganwyd | 1952 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | Prifysgol Aberystwyth a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru |
| Galwedigaeth | actor a dramodydd |
Actor a dramodydd o Gymru yw Wyn Bowen Harries (ganwyd 1952). Mynychodd Ysgol Glan Clwyd a gyd-sefydlwyd gan ei dad, Leslie Harries.[1] Graddiodd o Goleg Prifysgol Aberystwyth mewn bio-cemeg cyn dilyn cwrs actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae'n wyneb a llais cyfarwydd ar lwyfan a theledu yng Nghymru ers y 1970au. Yn gyn aelod o Gwmni Theatr Cymru, Theatr Bara Caws, Cwmni Theatr Gwynedd, Cwmni Theatr Hwyl A Fflag a Clwyd Theatr Cymru, sefydlodd Gwmni [theatr] Pendraw yn 2016. Mae'n fwy adnabyddus am bortreadu'r cymeriad Charlie Gurkha yng nghyfres ddrama S4C, Tipyn o Stad a'i ddilyniant Stad.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod â'r actores Gwen Ellis ac mae ganddynt un mab Rhys. Ei rieni oedd Leslie Harries ac Enid Bowen. Brawd ei daid o ochor ei fam oedd y bardd Ben Bowen.[2] Mae'n frawd-yng-nghyfraith i'r ysgolhaig D. Densil Morgan.[2]
Bu'n gynghorydd ar Gyngor Cymuned Llanllechid[3] a bu'n westai ar raglen Beti A'i Phobol i BBC Radio Cymru yn 2017.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod](detholiad)
Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]- Pobol Y Cwm (1982-1986)
- Y Wers Rydd (1982)
- Minafon (1983)
- Meistres y Chwarae (1983) - ffilm gan Meic Povey
- Camau Troellog (1984)
- Dinas (1988-1990)
- C'mon Midffïld (1988)
- Sigaret? (1991)
- Un Nos Ola Leuad (1991)
- Pris y Farchnad (1992-1995)
- Gadael Lenin (1993)
- Y Mapiwr (1995)
- Ymadawiad Arthur (1996)
- Hen Elynion (1997)
- Tafarn Y Gŵr Drwg (1997-1998)
- Pengelli (2000-2001)
- Y Stafell Ddirgel (2001)
- Tipyn o Stad (2001-2008)
- Pen Tennyn (2002-2003)
- Treflan
- Cowbois Ac Injans (2007)
- Ironclad (2010)
- Coronation Street (2011)
- Rownd a Rownd (2011)
- Da Vinci's Demons (2012)
- Y Gwyll / Hinterland (2013)
- 35 Diwrnod (2014)
- Gwaith/Cartref (2017)
- Craith / Hidden (2018)
- Morfydd (2018)
- Rybish (2020)
- Stad (2022-
- Dal Y Mellt (2022)
Theatr
[golygu | golygu cod](fel actor)
[golygu | golygu cod]- Fflora a Portread (1976) wedi'i greu a'i brynu gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer Cwmni Theatr Cymru.
- Madog (1977) Cwmni Theatr Cymru
- Hywel A (1979) Cwmni Theatr Cymru
- Sàl (1980) Cwmni Theatr Cymru
- Oidipos Frenin (1980) Cwmni Theatr Cymru
- Ffatri Serch (1983) Cwmni Theatr Hwyl A Fflag
- Wastad Ar Y Tu Fas (1986) Cwmni Theatr Hwyl A Fflag
- Porth Y Byddar (2007) Theatr Genedlaethol Cymru
- Fel Anifail (2018) Sherman Cymru
- All But Gone (2018) The Other Room
(fel cyfarwyddwr a/neu awdur)
[golygu | golygu cod]- Mr Bulkeley o’r Brynddu (2015) - awdur a chyfarwyddwr
- 2071 (2018) Cwmni Pendraw - awdur a chyfarwyddwr
- Creigiau Geirwon (2022) Cwmni Pendraw - awdur a chyfarwyddwr
- DNA (2026) Cwmni Pendraw - awdur a chyfarwyddwr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Wyn Bowen Harries". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-05.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "BBC Radio Cymru - Beti a'i Phobol, Wyn Bowen Harries". BBC. Cyrchwyd 2024-09-05.
- ↑ "Gwefan Cyngor Cymuned Llanllechid" (PDF).