Neidio i'r cynnwys

Wymore, Nebraska

Oddi ar Wicipedia
Wymore
Mathdinas yn yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,377 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd4.929087 km², 4.929083 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr378 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.1228°N 96.6656°W Edit this on Wikidata
Cod post68466 Edit this on Wikidata
Map

Mae Wymore yn ddinas yn Gage County, Nebraska, Unol Daleithiau America. Roedd y boblogaeth yn 1,457 yng nghyfrifiad 2010.

Cafodd Wymore ei mapio a'i rhannu'n blotiau yn 1881 fel tref rheilffordd, ar dir a roddwyd gan Sam Wymore.[1] Daeth Wymore gartref i genedlaethau o fewnfudwyr o Gymru, a dyma'r Cymry hyn yn sefydlu addoldy lle roeddynt yn addoli'n Gymraeg a mynwent, yn ogystal â chynnal traddodiadau Cymreig megis barddoni, dawnsio, a chanu.

Yn 2000, sefydlwyd Prosiect Treftadaeth Cymru Wymore er mwyn cynnal etifeddiaeth yr ymsefydlwyr cynnar hyn. Ers hynny mae wedi ehangu i gynnwys amgueddfa, archif o gofnodion achau, ac un o'r llyfrgelloedd Cymraeg mwyaf yng Ngogledd America.

Mae Wymore yn gartref i'r Southern High School, ysgol dosbarth C sy'n gwasanaethu myfyrwyr o Barneston, Holmesville, Blue Springs, Wymore, a Liberty. Mae'r ysgol wedi ennill 2 bencampwriaeth taleithiol, y ddau mewn reslo (1974 a 1980).

Wymore, Nebraska hefyd yw man claddu'r awdur ac anthropolegydd R. Clark Mallam, y mae llyfr ganddo, Indian Creek Memories; A Sense of Place wedi'i selio yn y dref a'i chyffiniau.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Lleolir Wymore yn 40°7′22″N 96°39′56″W / 40.12278°N 96.66556°W / 40.12278; -96.66556 (40.122765, -96.665494).[2]

Yn ôl Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae gan y ddinas gyfanswm arwynebedd o 1.90 milltir sgwar (4.92 km2), ac o hynny mae 1.87 milltir sgwar (4.84 km2) yn dir a 0.03 milltir sgwar (0.08 km2) yn ddŵr.[3]

Demograffeg

[golygu | golygu cod]
Poblogaeth hanesyddol
CyfrifiadPob.
18902,420
19002,6268.5%
19102,613−0.5%
19202,592−0.8%
19302,6803.4%
19402,457−8.3%
19502,258−8.1%
19601,975−12.5%
19701,790−9.4%
19801,8412.8%
19901,611−12.5%
20001,6562.8%
−12.0%
Est. 20171,384[4]−5.0%
Cyfrifiad pob 10 mlynedd UDA[5]
Amcangyfrif 2012[6]

Pobl adnabyddus

[golygu | golygu cod]
  • Jake Diekman, chwaraewr pêl fas
  • Adam McMullen, 21ain Llywodraethwr Nebraska
  • Denny Zager, artist pop-roc

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Wymore, Gage County". Center for Advanced Land Management Information Technologies. University of Nebraska. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Medi 2015. Cyrchwyd 9 Awst 2014.
  2. "US Gazetteer files: 2010, 2000, and 1990". United States Census Bureau. 12 Chwefror 2011. Cyrchwyd 23 Ebrill 2011.
  3. "US Gazetteer files 2010". United States Census Bureau. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-14. Cyrchwyd 2012-06-24.
  4. "Population and Housing Unit Estimates". Cyrchwyd 24 Mawrth 2018.
  5. United States Census Bureau. "Census of Population and Housing". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-12. Cyrchwyd 16 Hydref 2013.
  6. "Annual Estimates of the Resident Population: April 1, 2010 to July 1, 2012". Cyrchwyd 16 Hydref 2013.