Wormwood Scrubs
Gwedd
| Math | Tir comin |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Hammersmith a Fulham |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.5214°N 0.2389°W |
![]() | |
- Mae Wormwood Scrubs hefyd yn enw ar garchar, Carchar Wormwood Scrubs.
Ardal agored a leolir yng nghornel gogledd-ddwyrain Bwrdeisdref Hammersmith a Fulham, Llundain, yw Wormwood Scrubs, a adnabyddir yn lleol fel The Scrubs. Mae'n un o ardaloedd agored mwyaf y Fwrdeistref, tua 80ha (200 acer), ac yn un o ardaloedd mwyaf o dir cyffredin yn Llundain. Adnabyddir ei ochr dwyreiniol fel Little Wormwood Scrubs, ond gwahenir hi gan weddill y Scrubs gan Scrubs Lane a Rheilffordd Gorllewin Llundain. Mae wedi bod yn ardal gyhoeddus agored ers Deddf Wormwood Scrubs ar 21 Gorffennaf 1879, ac adnabyddir gan English Nature fel ardal o bwysigrwydd naturiaethol. Ond, mae ganddi record aneddigeddol o nifer o droseddi a weithredwyd yno, mae rhaglen i'w adnewyddu wedi cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ers Ebrill 2005.[1]
