Wordle

Oddi ar Wicipedia
Wordle
Enghraifft o'r canlynolgêm porwr Edit this on Wikidata
CyhoeddwrThe New York Times Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Rhan oThe New York Times Games Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiHydref 2021 Edit this on Wikidata
Genregêm eiriau, letter game Edit this on Wikidata
PerchennogThe New York Times Company Edit this on Wikidata
Prif bwncword guessing Edit this on Wikidata
DosbarthyddThe New York Times Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nytimes.com/games/wordle/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gêm eiriau ar-lein yw Wordle a ddyfeisiwyd yn 2021 gan Josh Wardle, brodor o Landdewi Rhydderch, Sir Fynwy, ar gyfer ei bartner, Palak Shah. Diolch i'w boblogrwydd ar Twitter, roedd y gêm yn llwyddiant ar unwaith yn ei fersiwn Saesneg. Cafodd ei gynnig yn gyflym mewn ieithoedd eraill a'i efelychu mewn fersiynau eraill gan gynnwys y Gymraeg sydd â tri fersiwn - Wordle Cymraeg, Cyrdle a Gairglo. Bu'r gêm am ddim ond prynwyd y gêm gan The New York Times Company ym mis Ionawr 2022 am swm saith ffigur nas datgelwyd (sef o leiaf $1,000,000)[1], gyda'r bwriad i'w gadw'n rhad ac am ddim i bob chwaraewr, o leiaf i ddechrau.[2]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Grid emoji yn dangos Wordle Saesneg

Mae'r mecaneg bron yn union yr un fath â gêm ysgrifbinnau a phapur 1955 Jotto a'r sioe gemau deledu Lingo yn UDA. Mae gan Wordle un ateb dyddiol, gyda'r holl chwaraewyr yn ceisio dyfalu'r un gair.

Amcan y gêm yw dyfalu gair pum llythyren benodol mewn uchafswm o chwe ymgais, ysgrifennu llythrennau ar sgrin chwe llinell o bum sgwâr yr un. Mae'r chwaraewr yn ysgrifennu gair pum llythyren o'i ddewis ar y llinell gyntaf ac yn nodi ei gynnig. Ar ôl pob brawddeg, mae'r llythrennau'n ymddangos mewn lliw: mae'r cefndir llwyd yn cynrychioli'r llythrennau sydd ddim yn y gair a chwiliwyd, mae'r cefndir melyn yn cynrychioli'r llythrennau sydd i'w cael mewn man arall yn y gair, ac mae'r cefndir gwyrdd neu las yn Gairglo, yn cynrychioli'r llythrennau sydd yn y gair a chwiliwyd. ac yn lle cywir yn y gair i'w ddarganfod.[3]

Mae Wordle Saesneg yn defnyddio rhestr o eiriau gyda sillafu Americanaidd, er bod y datblygwr yn dod o Gymru ac yn defnyddio enw parth DU ar gyfer y gêm; mae'n byw ers amser maith yn Brooklyn, Efrog Newydd. Mae chwaraewyr y tu allan i'r Unol Daleithiau wedi cwyno bod y confensiwn sillafu hwn yn rhoi mantais annheg i chwaraewyr Americanaidd.[4][5]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae Josh Wardle yn ddatblygwr meddalwedd sydd wedi cydweithio ar ddatblygu dau brofiad cymdeithasol ar gyfer Reddit. Yn ystod cyfnod clo oherwydd pandemig Covid-19, dyfeisiodd y gêm ar gyfer ei bartner, sy'n frwd dros gemau pos. Wrth weld brwdfrydedd ei bartner a'i deulu, penderfynodd roi ei gêm ar-lein. Ym mis Rhagfyr 2021, ychwanegodd y gallu i rannu ei ganlyniadau ar gyfryngau cymdeithasol trwy emojis. Roedd y llwyddiant yn syth: ar 1 Tachwedd 2021, chwaraeodd 90 o bobl, ac mewn ychydig wythnosau, mwy na dwy filiwn.

Fersiynau Cymraeg[golygu | golygu cod]

Mae Gairglo yn defnyddio'r wyddor Gymraeg ac acennodau yn ei fersiwn o Wordle

Ceir tri fersiwn o'r gêm Wordle yn y Gymraeg.

Wordle Cymraeg[golygu | golygu cod]

Ceir Wordle Cymraeg sy'n dilyn yr un fformat â'r fersiwn Saesneg wreiddiol a'r un llythrennau. Nid yw'n dilyn yr wyddor Gymraeg felly nid yw deunodau (digraphs) Cymraeg - ch, dd, ll, rh, ph, ng - yn cael eu hystyried yn un lythyren ond yn hytrach rhaid defnyddio l + l, neu c + h. Nid cheir acenion Cymraeg chwaith megis hirnod neu'r ddidolnod ar gael gan nad ydynt yn yr wyddor Saesneg.[6]

Cyrdle[golygu | golygu cod]

Ceir addasiad arall ar yr un llinellau â'r Saesneg wreiddiol, Cyrdl [7] a ddatblygwyd gan Laine Skinner, datblygwr gwe o Bowys, lansio’r ap a’r wefan mewn ymgais i gael ei phlant i siarad Cymraeg gartref. [8]

Gairglo[golygu | golygu cod]

Datblygwyd fersiwn benodol Gymraeg gan Dr Rodolfo Piskorski, Brasiliad sydd wedi dysgu Cymraeg ac oedd y person cyntaf i sefyll arholiad i ennill dinasyddiaeth Brydeinig yn yr iaith Gymraeg.[9]

Yn wahanol i'r ddau fersiwn Gymraeg arall, mae Gairglo yn defnyddio llefariaid ag acennodau Cymraeg a'r wyddog Gymraeg yn gywir.[10] Ymffrost Gairglo yw bod yna "3,400 o eiriau Cymraeg gyda 5 llythyren ar y gêm, mewn cymhariaeth â 2,315 ar Wordle Saesneg!"[4][11] Mae'r gêm yn rhan o becyn o adnoddau ar gyfer dysgu a gwella sgiliau siarad ac ysgrifennu Cymraeg ar ei wefan Hir-iaith.cymru.

Wordle mewn Ieithoedd Eraill[golygu | golygu cod]

Yn fuan ar ôl ennill poblogrwydd firaol ymhlith defnyddwyr Saesneg eu hiaith ym mis Ionawr 2022, addaswyd Wordle i ieithoedd eraill, gan gynnwys:

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://nation.cymru/news/welsh-creator-of-wordle-sells-the-game-for-at-least-1m-after-its-success-becomes-overwhelming/
  2. Astle, David (December 31, 2021). "Tips from an expert: How to solve everyone's favourite game Wordle". Sydney Morning Herald. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 30, 2021. Cyrchwyd December 31, 2021.
  3. Nodyn:Ref-web
  4. 4.0 4.1 Golwg360. 2022-02-17 Gêm eiriau fyd-eang, Wordle, gan Gymro’n arwain at ffrae ieithyddol https://golwg.360.cymru/newyddion/2084629-eiriau-eang-gymro-arwain-ffrae Gêm eiriau fyd-eang, Wordle, gan Gymro’n arwain at ffrae ieithyddol Check |url= value (help). Missing or empty |title= (help)
  5. Hampson, Laura (2022-01-12). "Twitter reacts to realising Wordle uses American spelling". The Independent.
  6. Jones, Branwen (2022-01-22). "Dad creates a Welsh language version of the popular word puzzle Wordle". Wales Online.
  7. https://cyrdle.web.app/
  8. [Dad creates a Welsh language version of the popular word puzzle Wordle https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/wordle-welsh-wales-wardle-cyrdle-22831390]
  9. {{Cite web|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/58721249%7Ctitle= Dyn o Frasil yn dweud 'diolch' drwy greu ap i ddysgwyr Cymraeg|date=2021-10-15]]
  10. Morris, Steve (January 23, 2022). "Gairglo: cymhwyso iaith i ddatrys cliwiau" [Gairglo: adapting language for solving puzzles]. Golwg360. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 23, 2022. Cyrchwyd January 23, 2022.
  11. Hampson, Laura (2022-01-12). "Twitter reacts to realising Wordle uses American spelling". The Independent.
  12. Breithut, Jörg (2022-01-18). "Wordle gibts jetzt auch auf deutsch" [Wordle is now also available in German]. Stuttgarter Zeitung (yn Almaeneg).
  13. Kayali, Ömer (2022-01-31). "Wordle: Hier spielen Sie das Trend-Spiel auf Deutsch" [Wordle: Here you play the trend game in German] (yn Almaeneg).
  14. Torontohye Staff. "«Բառիկ». Հայերէնի Բառապաշարդ Հարստացնելու Նոր Նախաձեռնութիւն Մը". Torontohye. Cyrchwyd 2 February 2022.
  15. Bedirian, Razmig (2022-02-01). "AlWird: there's now an Arabic version of the viral game Wordle". The National.
  16. "Уже играли в мировой хит – игру Wordle? Минчанин сделал ее еще лучше" [Have you played the world's biggest hit game, Wordle? A man from Minsk has made it even better]. Citydog.by (yn Rwseg). 2022-01-23.
  17. Leung, Hillary (2022-01-29). "Wordle: As word puzzle takes over the internet, Hong Kong professor creates Cantonese version". Hong Kong Free Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-29. Cyrchwyd 2022-02-03.
  18. "【廣東話的🟩⬜🟩🟨⬜】 語言學博士推粵拼版Wordle「知道」 劉擇明:想為香港做啲嘢!" (yn Tsieinëeg). ACOO. 24 January 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-30. Cyrchwyd 2022-02-03.
  19. 19.0 19.1 19.2 Biosca, Anna (January 11, 2022). "Wordle español, el juego online de palabras que ya suma 52.000 usuarios" [Spanish Wordle, the online word game that already has 52,000 users]. El Periódico de Catalunya (yn Sbaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 21, 2022. Cyrchwyd 2022-01-21.
  20. "Wordle-Like Games Slowly Gain Traction on Chinese Social Media". Sixth Tone. 2022-01-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-30. Cyrchwyd 2022-02-03.
  21. Vrbanus, Sandro (2022-01-20). "Megapopularni Wordle dobio i hrvatsku inačicu – Riječek" [Megapopular Wordle gets a Croatian version - Riječek]. bug.hr (yn Croateg).
  22. Fišer, Jakub (2022-01-21). "Slovní hříčka Wordle je nový hit, který musíte vyzkoušet! Jak se hraje a je i v češtině?" [Wordle is the new hit you need to try! How to play and is it in Czech?]. Mobilizujeme.cz (yn Tsieceg).
  23. "Er du også vild med Wordle?" [Do you love Wordle too?]. Kommunikationsforum. 2022-01-19.
  24. "Student maakt Nederlandse versie hitspel Wordle: 'In één dag gemaakt'" [Student makes Dutch version of hit game Wordle: 'Made in one day']. RTL Nieuws (yn Iseldireg). January 7, 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 21, 2022. Cyrchwyd January 21, 2022.
  25. "Vortludo furoras ankaŭ en Esperanto" [Word game famous in Esperanto too] (yn Esperanto). 2022-02-01.
  26. 26.0 26.1 "The race is on to translate viral app Wordle". Agence France-Presse. 2022-02-01.
  27. Woitier, Chloé (January 14, 2022). "Wordle, le jeu de lettres qui a conquis les internautes" [Wordle, the word game that won over internet users]. Le Figaro (yn Ffrangeg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 21, 2022. Cyrchwyd January 21, 2022.
  28. Bautiara, Rafael (2022-01-28). "LOVE WORDLE? THEN YOU SHOULD CHECK OUT IT'S FILIPINO COUNTERPART, SALTONG". Nylon Manila.
  29. "Oletko sinäkin törmännyt "mystisiin ruudukoihin"? Tästä on kyse uudessa nettivillityksessä" [Have you also come across "mystic squares"? Here's what a new online quiz is all about]. IS.fi (yn Ffinneg). 2022-01-12.
  30. 30.0 30.1 Egan-Elliott, Roxanne (January 29, 2022). "'Another way to reawaken the language': Word game Wordle adapted for Indigenous languages". Vancouver Sun. Cyrchwyd January 30, 2022.
  31. "Το δημοφιλές παιχνίδι λέξεων Wordle στα Ελληνικά από τον Διομήδη Σπινέλλη" [The popular word game Wordle in Greek by Diomidis Spinellis]. MoveD (yn Groeg). 2022-01-12.
  32. "Wordle got you 'farblundget'? Try Hebrew and Yiddish versions". The Times of Israel. 2022-01-26.
  33. "Wordle now in ʻōlelo Hawaiʻi". University of Hawaiʻi News. 2022-01-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-02. Cyrchwyd 2022-02-03.
  34. 34.0 34.1 34.2 34.3 34.4 34.5 Deck, Andrew (January 21, 2022). "World Wide Wordle: What it takes to bring the viral game into other languages". Rest of World. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 21, 2022. Cyrchwyd January 21, 2022.
  35. Palmer, Jordan (2022-01-20). "Yep, we now have Hebrew and Yiddish Wordle". St. Louis Jewish Light. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 22, 2022. Cyrchwyd 2022-01-22.
  36. "Heimurinn sigraður í sex tilraunum". Fréttabladid (yn Islandeg). 2022-01-13.
  37. "Katla: Game Susun Kata Mirip Wordle Tapi Bahasa Indonesia, Begini Cara Mainnya" [Katla: A Wordle Game Similar to Wordle but in Indonesian, Here's How to Play it]. Kontan.co.id (yn Indoneseg). 2022-01-28.
  38. ""Foclach", Wordle as Gaeilge: Seo chugainn Foclach" ["Wordle", in Irish]. RTE (yn Gwyddeleg). 2022-02-01.
  39. ""Wordle", il gioco on line del momento ora anche in italiano" ["Wordle", the online game of the moment now also in Italian]. Il Notiziario (yn Eidaleg). 2022-01-19.
  40. "Is Wordle too easy for you? Try it in Japanese". Japan Times. 2022-02-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-02. Cyrchwyd 2022-02-04.
  41. Narita, Seiji (2022-01-27). "There's now a Japanese version of Wordle called Kotonoha Tango, and it's way harder". AUTOMATON. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-30. Cyrchwyd 2022-02-03.
  42. Gerdle
  43. "Have you Wordle-d today? The popular word puzzle has a Malaysian version too". The Star. 2022-01-26.
  44. "Panga: Te reo Māori Wordle". RNZ News. 10 January 2022. Cyrchwyd 2 February 2022.
  45. "Alt du trenger å vite om Wordle" [Everything you need to know about Wordle]. Komputer For Alle (yn Norwyeg). 2022-01-24.
  46. "Dobra wiadomość dla fanów Wordle. Można już chwalić się swoim intelektem także po polsku" [Good news for Wordle fans. You can now show off your intellect also in Polish]. ASZ:dziennik (yn Pwyleg). 2022-01-20.
  47. Altino, Lucas (January 20, 2022). "O Termo: autor de versão brasileira do jogo que virou febre recebe até 'pedido de casamento' de fã" [O Termo: author of the Brazilian version of the game that became a craze even receives a 'marriage proposal' from a fan]. O Globo (yn Portiwgaleg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 20, 2022. Cyrchwyd January 21, 2022.
  48. "Как я адаптировал популярную игру Wordle и за неделю привлёк 100 тысяч пользователей" [How I adapted a popular Wordle game and attracted 100,000 users in a week]. Habr (yn Rwseg). 2022-01-20.
  49. "В пандемию программист Джош Уордл от скуки придумал головоломку со словами" [In a pandemic, programmer Josh Wardle came up with a word puzzle out of boredom]. Meduza (yn Rwseg). January 16, 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 16, 2022. Cyrchwyd January 16, 2022.
  50. "Vad är Wordle? Spelet som tagit nätet med storm" [What is Wordle? The game that took the web by storm]. Ny Teknik. 2022-01-13.
  51. "Igra, namenjena bogatenju besednega zaklada, obnorela svet" [A game designed to enrich vocabulary takes the world by storm]. TV Slovenija (yn Slofeneg). 2022-01-27.
  52. "Кобза – версія популярної гри Wordle від українського розробника" [Kobza - the version of the popular Wordle game from a Ukrainian developer]. Mezha.Media (yn Wcreineg). 2022-01-20. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-02. Cyrchwyd 2022-02-03.