Winnie Madikizela-Mandela

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Winnie Mandela)
Winnie Madikizela-Mandela
FfugenwMam' Winnie Edit this on Wikidata
GanwydMamao Dineo Maledi Edit this on Wikidata
26 Medi 1936 Edit this on Wikidata
Bizana Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ebrill 2018 Edit this on Wikidata
Johannesburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDe Affrica Edit this on Wikidata
Alma mater
  • University of South Africa
  • Prifysgol Witwatersrand Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gynulliad Cenedlaethol De Affrica, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol De Affrica, Aelod Seneddol, Aelod Seneddol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAfrican National Congress Edit this on Wikidata
PriodNelson Mandela Edit this on Wikidata
PlantZindzi Mandela, Zenani Mandela-Dlamini Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol, Robert F. Kennedy Human Rights Award, Gwobr Candace, Order of Luthuli Edit this on Wikidata
Winnie Madikizela-Mandela

8fed Prif Foneddiges De Affrica
Cyfnod yn y swydd
10 Mai 1994 – 19 Mawrth 1996
Arlywydd Nelson Mandela
Rhagflaenydd Marike de Klerk
Olynydd Graça Machel

Aelod Seneddol De Affrica
Cyfnod yn y swydd
Mai 2009 – Ebrill 2018

Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Diwylliant, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Cyfnod yn y swydd
1994 – 1996
Rhagflaenydd Sefydlwyd y swydd
Olynydd Pallo Jordan
Derek Hanekom

Geni

Roedd Winnie Madikizela Mandela (ganed Nomzamo Winifred Zanyiwe Madikizela; 26 Medi 19362 Ebrill 2018) a adnabyddwyd yn gyffredinol fel Winnie Mandela yn actifydd a gwelidydd gwrth-apartheid De Affricanaidd. Daliodd nifer o rolau mewn llywodraeth, gan gynnwys swydd fel Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Diwylliant, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Fel aelod o blaid y Gyngres Genedlaethol Affricanaidd, gwasanaethodd ar ei Phwyllgor Gweithredol Cenedlaethol yn ogystal â bod yn bennaeth ar ei Chynghrair i Ferched.

Ganwyd i deulu Xhosa yn Bizana yn, fel a elwir ar y pryd, Undeb De Affrica ac aeth yn ei blaen i astudio gwaith cymdeithasol yn Ysgol Jan Hofmeyr. Yn 1958, priododd yr actifydd gwrth-apartheid Nelson Mandela yn Johannesburg; parodd eu priodas am 38 mlynedd a chawsant ddau o blant gyda'i gilydd. Yn 1963, carcharwyd Mandela yn dilyn y Treial Rivonia a daeth Madikizela-Mandela yn wyneb i'w gŵr tra'r oedd dan glo am 27 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth i amlygrwydd o fewn y mudiad gwrth-apartheid yn ei gwlad. Fe'i harestiwyd a fe'i chadwyd gan wasanaethau diogelwch y wladwriaeth nifer o weithiau a threuliodd rhai misoedd mewn carchariad unigol.

Yn y 1980au, pan oedd yn byw yn Soweto, cefnogodd Madikizela-Mandela ymddygiad treisgar; gan gynnwys gyddfgadwynu yn erbyn hysbyswyr i'r heddlu honedig a chydweithredwyr gyda llywodraeth y Blaid Genedlaethol. Cynhaliodd ei gwasanaeth diogelwch, Clwb Pêl-droed Mandela Unedig, nifer o weithredoedd, gan gynnwys herwgipio, arteithio a llofruddiaeth ac yn fwyaf enwog, lladd Stompie Moeketski, bachgen oedd yn ei arddegau.

Rhyddhawyd Nelson Mandela o'r carchar ar 11 Chwefror 1990 a gwahanodd y cwpl yn 1992; yn ysgaru'n ffurfiol ym mis Mawrth 1996. Cadwasant mewn cysylltiad, ac ymwelodd ag ef pan oedd yn sâl y nes ymlaen yn ei fywyd. Fel uwch-ffigwr yn y Gyngres Genedlaethol Affricanaidd, chwareodd rhan yn llywodraeth ôl-apartheid y blaid, ond fe'i diswyddwyd yn dilyn honiadau o lygredd.