Neidio i'r cynnwys

William Wyler

Oddi ar Wicipedia
William Wyler
Llun cyhoeddusrwydd o William Wyler (tua 1945).
Ganwyd1 Gorffennaf 1902 Edit this on Wikidata
Mulhouse Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1981 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Y Swistir Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Collector, The Children's Hour, Ben-Hur, The Big Country, Friendly Persuasion, The Desperate Hours, Roman Holiday, Carrie, Detective Story, The Heiress, The Best Years of Our Lives, Mrs. Miniver, The Little Foxes, The Westerner, The Letter, Wuthering Heights, Jezebel, These Three Edit this on Wikidata
PriodMargaret Sullavan, Margaret Tallichet Edit this on Wikidata
PlantCatherine Wyler Edit this on Wikidata
PerthnasauCarl Laemmle, Cathy O'Donnell Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Golden Plate Award, Irving G. Thalberg Memorial Award, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Palme d'Or, Gwobr BAFTA am Gyfarwyddo Gorau, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, Golden Globes Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr ffilm o'r Unol Daleithiau o dras Almaenig oedd William Wyler (Willi Wyler; 1 Gorffennaf 190227 Gorffennaf 1981). Enillodd Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau, a'r Wobr am y Llun Orau, teirgwaith: Mrs Miniver (1942), The Best Years of Our Lives (1946), a Ben-Hur (1959). Roedd yn nodedig am ei gynigion trylwyr i dynnu lluniau golygfeydd hirion ar un tro.

Ganed Willi Wyler ym Mülhausen, yr Almaen Imperialaidd, i deulu Iddewig. Marsiandïwr o'r Swistir oedd ei dad, ac Almaenes oedd ei fam. Cafodd ei ddiarddel o sawl ysgol oherwydd ei gamymddygiad. Fodd bynnag, cafodd ei dderbyn i'r École Supérieure de Commerce yn Lausanne, a dysgodd canu'r fiolin am gyfnod byr yn Conservatoire de Paris. Fe'i gwahoddwyd gan Carl Laemmle, pennaeth Universal Pictures a pherthynas bell ar ochr ei fam, i symud i Unol Daleithiau America i weithio i'r stiwdio. Aeth Wyler yn gyntaf i adran gyhoeddusrwydd Universal yn Efrog Newydd ym 1920 cyn iddo drosglwyddo i safle Universal City yn Nyffryn San Fernando, Califfornia, ac yno gweithiodd yn was swyddfa, gwas celfi, clerc sgriptiau, ac isgyfarwyddwr castio. Erbyn 1924, bu'n isgyfarwyddwr ar ffilmiau byrion ("dau rolyn") yn genre' Gorllewin Gwyllt, a chyfrannodd hefyd at ffilmio'r llun epig Ben-Hur: A Tale of the Christ (1925) dan gyfarwyddiaeth Fred Niblo.[1]

Ym 1925 cyfarwyddodd Wyler ei ffilm gyntaf, yn genre'r Gorllewin Gwyllt. Byddai'n cyfarwyddo rhyw hanner cant o ffilmiau dau-rolyn eraill yn y genre honno yn ystod ei yrfa. Ymhlith ei luniau mawr bu Jezebel (1938) a Wuthering Heights (1939), addasiad o nofel Emily Brontë. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Wyler yn swyddog yng Nghorfflu Awyr Byddin yr Unol Daleithiau, a chyfarwyddodd y ffilm ddogfen The Memphis Belle.

Wedi'r rhyfel, cyfarwyddodd Wyler sawl ffilm boblogaidd, gan gynnwys The Heiress (1949), Detective Story (1951), Roman Holiday (1953), The Desperate Hours (1955), Friendly Persuasion (1956), a The Big Country (1958). Ei lun olaf oedd The Liberation of L.B. Jones (1970). Derbyniodd Wobr Goffa Irving G. Thalberg ym 1966 a Gwobr yr American Film Institute am Gyflawniad Oes ym 1976. Bu farw William Wyler yn Beverly Hills, Califfornia, yn 79 oed.

Year Film Category Result
Gwobrau'r Academi
Seremoni wobrwyo yr Academi 1936DodsworthCyfarwyddwr GorauEnwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1939Wuthering HeightsCyfarwyddwr GorauEnwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1940The LetterCyfarwyddwr GorauEnwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1941The Little FoxesCyfarwyddwr GorauEnwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1942Mrs. MiniverCyfarwyddwr GorauBuddugol
Seremoni wobrwyo yr Academi 1946The Best Years of Our LivesCyfarwyddwr GorauBuddugol
Seremoni wobrwyo yr Academi 1949The HeiressFfilm OrauEnwebwyd
Cyfarwyddwr GorauEnwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1952Detective StoryCyfarwyddwr GorauEnwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1953Roman HolidayFfilm OrauEnwebwyd
Cyfarwyddwr GorauEnwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1956Friendly PersuasionFfilm OrauEnwebwyd
Cyfarwyddwr GorauEnwebwyd
Seremoni wobrwyo yr Academi 1959Ben-HurCyfarwyddwr GorauBuddugol
Seremoni wobrwyo yr Academi 1965The CollectorCyfarwyddwr GorauEnwebwyd
Gwobr Irving G. ThalbergBuddugol
Urdd Cyfarwyddwyr America
1952Detective StoryCyflawniad Cyfarwyddwr EithriadolEnwebwyd
1954Roman HolidayCyflawniad Cyfarwyddwr EithriadolEnwebwyd
1957Friendly PersuasionCyflawniad Cyfarwyddwr EithriadolEnwebwyd
1959The Big CountryCyflawniad Cyfarwyddwr EithriadolEnwebwyd
1960Ben-HurCyflawniad Cyfarwyddwr EithriadolBuddugol[2]
1962The Children's HourCyflawniad Cyfarwyddwr EithriadolEnwebwyd
1966Gwobr Cyflawniad Oes
1969Funny GirlCyflawniad Cyfarwyddwr EithriadolEnwebwyd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) William Wyler. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2021.
  2. Sennett, Ted (1986). Great Movie Directors (yn Saesneg). New York: Abrams. t. 289. ISBN 978-0-8109-0718-8.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • A. Madsen, William Wyler: The Authorized Biography (1973).
  • M. Andregg, William Wyler (1979).
  • J. Herman, A Talent for Trouble: The Life of Hollywood's Most Acclaimed Director, William Wyler (1995).