William Williams (VC)

Oddi ar Wicipedia
William Williams
Ganwyd5 Hydref 1890 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1965 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Fictoria, Distinguished Service Medal Edit this on Wikidata

Gŵr o Fôn sydd wedi ei anrhydeddu a’r fedal Croes Victoria yw William Williamsllongwr ac un o feibion Amlwch, Ynys Môn.

Medalau[golygu | golygu cod]

Un o Borth Amlwch a gafodd ei eni ar 5 Hydref, 1890 oedd Williams– un o chwech o blant i Richard Williams, pysgotwr lleol ac i Anne, ei wraig. Roedd y teulu yn byw yn Upper Sua Street yn wreiddiol a wedyn yn Well Street. Pan adawodd William yr ysgol aeth, fel llawer iawn o hogai’r Borth i’r môr. Bu’n hwylio ar ddwy chwaer long - y Cymri a’r Meyrick – sgwner haearn a’r llong fwyaf i’w hadeiladau yn iard longau William Thomas ac a lansiwyd ar 4 Ionawr, 1904. Bu Williams yn Ne America; gwelodd y Rio Grande dair gwaith cyn dychwelyd i Amlwch a liwtio efo’r Royal Naval Reserve ar 29 Medi 1914 fel llongwr/ saethwr.[1]

William Williams VC - Plac er anrhydedd

Cafodd ei alw i wasanaethu ar 2 Hydref, 1914 ac yn ystod ei gyfnod efo’r RNR dangosodd ‘wrhydri anhygoel a dewrder’ a dyna pam iddo gael ei urddo gan y brenin George efo’r fedal. William Williams oedd yr un enillodd y nifer fwyaf o fedalau o bawb ym Mhrydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyfarnwyd iddo:

  • V.C. (Victoria Cross);
  • D.S.M (Distinguished Service Medal) (medal i longwyr yn unig) ddwywaith;
  • Medaille Militaire o Ffrainc – medal a oedd yn eithriad i’w chyflwyno i rywun nad oedd Ffrancwr;
  • Seren 1914-15;
  • Medal y Rhyfel Mawr a Medal y Fuddugoliaeth.

Cafodd yn ddiweddarach, Fedal yr Amddiffyniad (The Defence Medal) 1939-45;

  • Medal y Coroni yn 1937
  • Medal y Coroni 1953.

Mae’r ffaith iddo ennill y tair cyntaf o fewn llai na chwe mis i’w gilydd yn dweud llawer am ei gymeriad a’i wrhydri.

Llongau tanfor[golygu | golygu cod]

Erbyn Ebrill 1917, yr oedd llongau tanfor,yr Almaen wedi suddo miloedd o dunelli o longau masnach Prydain – dros 880,000 tunnell mewn un mis. Golygai hynny fod anghenion sylfaenol bywyd yn dechrau mynd yn brin ac nid oedd llywodraeth y dydd wedi llawn sylweddoli peryglon y llongau tanfor ac felly ddim yn gallu ymateb iddynt. Wedi hir bendroni, penderfynwyd defnyddio llong – sgwner dri mast o Ynys Môn - y Mary B. Mitchell, (wedi ei henwi ar ôl ffrind i’r perchennog o Gastell Lleiniog, Penmon). Fel llong i gario llechi y’i bwriadwyd yn gyntaf ond cafodd ei gwerthu a’i haddasu fel iot i’r Arglwydd Penrhyn ac a gafodd £60 y mis am ei rhoi ar fenthyg i’r Nefi. Fe’i haddaswyd eto a’i hail enwi yn Q.8 i hwylio Bae Biscay a’r "Western Approaches" yng Nghefnfor yr Iwerydd. Roedd y capten a’r criw yn gwisgo eu dillad eu hunain rhag ofn i neb eu gweld a’u hamau o fod yn llong ryfel yn chwilio am long tanfor. Ar 20 Mehefin 1916, ymosododd ar, ac ella suddo un o U boats yr Almaen. Heddiw, mae ei hangor i’w gweld ar y cei yn Kirkcudbright, sir Dumfries a Galloway yn yr Alban.

Llongau wedi eu haddasu oeddent i ymddangos yn ddigon diniwed ond yn berygl dros ben. Os byddai’r U-boat yn ymosod arni, byddai’r Q ship, oedd efo gynnau wedi eu cuddio ar y dec yn tanio ond yn gadael i bump o’r criw (y panic party) adael mewn cwch achub. Byddai yr U-boat yn dod yn nes i hawlio’u prae ac yna byddai pawb adawyd ar ôl ar y llong yn tanio ac yn ymosod ar y llong tanfor.

Allan o dros ddau gant Q ship, a suddodd bymytheg o longau tanfor, suddwyd pedwar deg pedwar ohonynt ond bu sôn am saith deg ymosodiad yn y Dispatches. Dim ond un sydd ar ôl erbyn heddiw a honno i’w gweld ar lan y Tafwys yn Llundain yn ymyl y Tŵr a Doc Santes Catherine.

Capten mwyaf llwyddiannus y Q ships oedd Lieutenant Commander Gordon Campbell – oedd yn rhoi gorchymyn i’w griw gyflymu neu arafu ei long os oeddynt yn gweld torpido er mwyn gwneud yn siŵr y byddai’n cael ei tharo gan y gelyn. Ar 17 Chwefror 1917 cafodd Q5 capten Gordon Campbell ei tharo gan dorpido o’r llong danfor U-83. Un aelod parhaol o’i griw oedd William Williams o Amlwch a dyfarnwyd i William y D.S.M. am ei ran yn yr achos.[2]

HMS Pargust[golygu | golygu cod]

Llong nesaf Campbell oedd y llong 2,817 tunnell Vittoria efo fwy neu lai yr un criw. Newidiwyd ei henw i’r Snail ym Mawrth 1917 a gosod chwech gwn, 14 torpido a depth charges ar ei dec. Cafodd ei hailfedyddio eto i hwylio’r gogledd Atlantic fel yr H.M.S. Pargust. Ddiwedd mis Mai 1917, hwyliodd o Devonport i Queenstown, yn y Werddon. Ar 7 Mehefin 1917, am 8 o’r gloch y bore, ymosodwyd arni gan yr UC-29 a’i gadwodd efo twll deugain troedfedd yn ei hochr a’r engine room a’r boeleri yn llenwi efo dŵr môr. Difethwyd un cwch achub a lladdwyd un o’r criw.

Er gwaethaf y twll yn ei hochr, mentrodd Campbell orchymyn i’r panic party adael ei long a dweud wrth un o’r swyddogion am wisgo côt o eiddo Campbell i dwyllo’r gelyn. Er mwyn i’r gelyn feddwl eu bod wedi torri eu calonnau, aeth un o’r criw â pholi parot efo fo mewn cawell i’r cwch achub. Fel oedd honno yn gadael, sylwodd Campbell ar beriscôp y llong tanfor tua 400 llath i ffwrdd. Ymhen hanner awr cododd y llong i’r wyneb efo’r bwriad o danio a suddo’r Pargust. Yn ystod yr hanner awr hir yna, bu William Williams, er gwaethaf anafiadau yn sefyll ar ddec y Pargust a’i gefn yn erbyn ochr cwt pren oedd yn cuddio un o’r gynnau mawr. Pe bai hwnnw wedi ei weld, byddai UC 29 wedi eu chwythu o’r dwr yn llawer cynt. Am saith munud ar hugain i naw, bu brwydr eithriadol o danllyd am bedwar munud rhwng y ddwy long. Roedd rhai o’r Almaenwyr am roi i fyny ond golchwyd hwy oddi ar ddec y llong. Suddodd honno ger goleudy Inishtearaght am 8.40a.m. Collodd 23 aelod o’i chriw, achubwyd dau. Aethpwyd a’r Pargust i Queenstown wedi ei difrodi.

Pan glywodd yr Awdurdodau am beth oedd wedi digwydd, penderfynwyd rhoi medal Croes Fictoria i’r llong am "...an act of collective gallantry..." – y tro cyntaf erioed i hynny ddigwydd. Roedd gan Campbell Groes Fictoria yn barod a gwrthododd unrhyw fedal gan awgrymu y dylai aelodau o’i griw gael eu hurddo. Yn y London Gazette Gorffennaf 20, 1917, gwelwyd y pennawd:

’Lt. Stuart and Seaman Williams were selected by the officers and ship's company respectively of one of His Majesty's ships to receive the VC under Rule 13 of the Royal Warrant dated January 1856...’ [3]

Yn ôl i Amlwch[golygu | golygu cod]

Dyfarnwyd tair medal ar hugain arall i wahanol aelodau o’r criw. Daeth Williams i Amlwch am ychydig ddyddiau o seibiant a chafwyd diwrnod o ddathlu yn y dref am ei fod wedi ennill y DSM ychydig ynghynt. Gan mor gyfrinachol oedd ei waith ar y Q ship, nid chaniatawyd dweud hanes y Victoria Cross.

Trefnodd Cyngor y Dref barti yn Amlwch Ddydd Gwener, 29 Mehefin, 1917 i dalu gwrogaeth i William wedi iddo fod ym Mhalas Buckingham yn cael ei urddo gan y brenin. Cyflwynwyd 'Anerchiad Goreuredig' iddo ynghyd ag oriawr aur 'ysblennydd' i gydnabod ei ddewrder. Roedd strydoedd y dref wedi eu haddurno â baneri a'r trigolion yn llenwi'r palmantau i gyfarch eu harwr mewn gorymdaith o'r orsaf reilffordd i Sgwâr Dinorben. Cyflwynwyd y sgrôl iddo gan y cadeirydd a chyflwynwyd yr oriawr aur gan Mrs. W.T.Jones gyda'i dymuniadau gorau am hir oes i wasanaethu ei wlad. Dan arweiniad Hevin Jones, canodd plant yr ysgol nifer o ganeuon gwladgarol.

Diolchodd William am y croeso a'r anrhegion. Oherwydd cyfrinachedd ei waith eglurodd na allai grybwyll y rheswm pam iddo gael ei anrhydeddu gan y brenin ond mynegodd ddiolch o waelod calon am y modd yr oedd ei gyfeillion wedi ei groesawu yn ôl gartref. Dadorchuddiwyd tabled ar fur Ysgol Borth Amlwch i gofio dewrder un o’r cyn ddisgyblion. Yn ddiweddarach, cafwyd seremoni arall yn Neuadd y Dref, Llangefni ac ymysg anrhydeddau a rhoddion eraill cyflwynwyd gwerth £150 o ’War Bonds’ iddo gan Syr Richard Williams Bulkeley.

Bu yr ychydig ddyddiau nesaf yn rhai anhygoel o brysur i William gan iddo gael ei alw i Balas Buckingham eilwaith. Eto, oherwydd cyfrinachedd ei waith, ychydig o wybodaeth a ddatgelwyd yn gyhoeddus pan ddyfarnwyd V.C. iddo ond cafodd ei rieni fynd i'r Palas i'w weld yn cael ei urddo â'r fedal. Pan fyddai plant yn gofyn pam iddo gael y VC, ei ateb fyddai,

‘Am fod yn hogyn da i mam.’

Gwnaed cais arbennig gan bennaeth Ysgol y Cyngor, Amlwch - W.T.Jones i'r Awdurdod Addysg ystyried comisiynu portread o William i'w arddangos yn yr ysgol. Pasiwyd y mater i is-bwyllgor a chafwyd ar ddeall iddynt hwy a'r Pwyllgor Addysg fod yn cymeradwyo’r syniad.

Ar ddiwedd y rhyfel, bum niwrnod cyn y Cadoediad (6 Tachwedd 1918), rhyddhawyd Leading Seaman William Williams o'r Cefnlu Llyngesol Brenhinol oherwydd poen cefn parhaol a phroblemau clyw oherwydd iddo dreulio cymaint o amser yn sŵn y gynnau mawr. Yn dilyn hyn, ymunodd ag Adran Diriogaethol y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol a dyna pam fod gŵr a heli yn ei waed i'w weld mewn ambell ddarlun yn gwisgo lifrai milwr. Wedi dychwelyd i Fôn bu'n gweithio fel aelod o griw yr Eilian - sgwner dri mast o Amlwch, ymysg llongau eraill ac fel un o weithwyr y lan i’r L.N.E.R. yng Nghaergybi hyd nes i salwch orfodi ei ymddeoliad.

Caergybi[golygu | golygu cod]

Treuliodd William weddill ei oes yng Nghaergybi. Bu'n byw yn Stryd Groes (Cross Street). Priododd â Elizabeth Jane a chawsant un ferch - Betty. Wedi marwolaeth Elizabeth Jane o'r diciáu yn 1930; ail-briododd â Annie Hanlon (gwraig weddw) a oedd yn fam i un ferch - Eileen Usher Hanlon. Cofir amdano, hefyd, fel un o sefydlwyr y gangen leol o'r Lleng Brydeinig a chariwr y faner. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i fyw yn 31 Stryd yr Orsaf (Station Street). Sefydlodd fusnes gwerthu glo ond yr oedd yr heli yn ei waed ac er nad i’r môr yr aeth, treuliodd weddill ei oes nepell ohono. Ymysg ei ddiddordebau oedd gwneud llongau mewn potel - er, nid oes gan y teulu sy'n weddill yr un esiampl o'i waith.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Mynedfa i Maes William Williams VC

Bu farw ar 23 Hydref 1965 yng Nghaergybi, yn 75 mlwydd oed. Fe'i claddwyd ym Mynwent Gyhoeddus Amlwch. Gellir gweld ei fedalau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Enwyd stad o dai yn y dref yn Stad William Williams VC i’w goffau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. A Curious Place. B.Hope. Bridge Books 1994
  2. The London Gazette. 25 Ionawr 1917
  3. The London Gazette. 20 Gorffennaf 1917