William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
William Thomas Edwards
Ganwyd 1863 Edit this on Wikidata
Bu farw 1940 Edit this on Wikidata
Gwaith Bardd Edit this on Wikidata
'Dduallt House', cartref unig Gwilym Deudraeth, am gyfnod.

Bardd Cymraeg oedd William Thomas Edwards (21 Tachwedd 186320 Mawrth 1940), neu Gwilym Deudraeth, a gofir yn bennaf fel englynwr bachog a ffraeth.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed y bardd yn 'Hen Walia', yn nhref Caernarfon yn 1863 yn un o 11 o blant, ac fe'i magwyd ym mhentref Penrhyndeudraeth, Meirionnydd, Gwynedd. Cymerodd ei enw barddol o'r fro honno. Roedd yr awdures llyfrau plant, Fanny Edwards, yn chwaer iddo. Morwr oedd ei dad a dilynodd Gwilym ef ar un daith o Borthmadog i Ffrainc, ond bu'n sâl yr holl ffordd, diflasodd yn llwyr a rhoddodd y gorau i'r syniad o ddilyn ei dad i'r môr.

Treuliodd ei flynyddoedd gweithio cynnar ymmro Penrhyndeudraeth, gan weithio fel chwarelwr yn Chwarel yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog ac wedyn fel gorsaf-feistr gorsaf y Dduallt ar Reilffordd Ffestiniog, lle cafodd fyw yn 'Dduallt House'. Mae nifer o'i englynion yn coffáu ei gyfnod ar y rheilffordd, ac yn tystio i ddiflastod gweithio yn ngorsaf unig y Dduallt (neu 'Rhosllyn', fel y'i gelwid ganddo). Pan adawodd unigeddau Rhosllyn a'i reilffordd sgwennodd yr englyn hwn:

Ciciwch fi i werthu cocos - neu hyrddiwch
Fi i Iwerddon i aros,
'Waeth ple, i rhywle, i Rhos!
Put me in Ynys Patmos!

Mae'r englyn ysgafn hwn yn dangos ffraethineb ei gymeriad a'i ddefnydd o iaith y cyfnod, yn hytrach na ieithwedd crefyddol a nodweddai'r cyfnod.

Priododd Harriet, o Lanferes, a symudodd y ddau i Lerpwl lle treuliodd weddill ei oes yn goryfed, yn aelod amlwg a thlawd o'r gymdeithas Gymraeg oedd yno.

Bu farw yn 1940. Ysgrifennodd ei nai, Trefor, gofiant iddo, Bardd yr Awen Barod; roedd Trefor yn Brifathro mewn ysgol breifat yn Llundain.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith Gwilym Deudraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi:

  • Chydig ar Gof a Chadw (1926)
  • Yr Awen Barod (1943). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.

Llyfrau amdano[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.