William Stukeley

Oddi ar Wicipedia
William Stukeley
Ganwyd7 Tachwedd 1687 Edit this on Wikidata
Holbeach Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mawrth 1765 Edit this on Wikidata
Kentish Town Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethanthropolegydd, archeolegydd, archaeolegydd cynhanes, meddyg Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr, Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain, Goulstonian Lectures Edit this on Wikidata
Portread William Stukeley a briodolir i Richard Collins (tua 1728)

Roedd y Parch. Ddr. William Stukeley FRS, FRCP, FSA (7 Tachwedd 16873 Mawrth 1765) yn hynafiaethydd o Sais a oedd y cyntaf i wneud astudiaeth ysgolheigaidd o hynafiaethau megis Côr y Cewri ac Avebury, ac a ystyrir fel un o sylfaenwyr archaeoleg yn y maes. Roedd hefyd yn un o brif hyrwyddwyr y diddordeb newydd yn y Celtiaid yn ystod hanner cyntaf y 18g.

Mae lluniau Stukeley o hynafiaethau sydd bellach wedi ei difrodi, megis Kit's Coty House yma, yn rhoi gwybodaeth werthfawr am eu ffurf wreiddiol.

Ganed Stukeley yn Holbeach, Swydd Lincoln, yn fab i gyfreithiwr. Graddiodd yng Ngholeg Corpus Christi, Caergrawnt cyn mynd ymlaen i astudio meddygaeth. Bu'n gweithio fel meddyg mewn nifer o leoedd. Ymddangosodd ei weithiau enwocaf ar Gôr y Cewri ac Avebury yn 1740 a 1743. Syniad Stukeley oedd fod gan ddynoliaeth un grefydd "batriarchaidd" ar y cychwyn, oedd wedi dirywio yn ddiweddarach gyda datblygiad eilun-addoliaeth. Credai fod y Derwyddon a'r Cristionogion cynnar yn esiampl o'r grefydd yma. Ysgrifennodd lawer ar y derwyddon, gan ennill y llysenw the Arch-Druid. Yn 1729 daeth yn offeiriad, a bu'n dal dwy fywiolaeth yn Swydd Lincoln ac yn ddiweddarach yn Llundain lle bu farw ar y 3ydd o Fawrth, 1765.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Stuart Piggott William Stukeley: An Eighteenth-Century Antiquary (1985) ISBN 0-500-01360-8
  • David Boyd Haycock William Stukeley : science, religion and archaeology in eighteenth-century England (2002) ISBN 0-85115-864-1
  • Aubrey Burl and Neil Mortimer (eds) "Stukeley's Stonehenge: An Unpublished Manuscript 1721-1724" (2005) ISBN 0-300-09895-2
  • Neil Mortimer "Stukeley Illustrated: William Stukeley's Rediscovery of Britain's Ancient Sites" (2003) ISBN 0-9542963-3-8