William Speirs Bruce
Roedd William Speirs Bruce (1861–1921) yn wyddoniwr pegynol ac eigionegwr o’r Alban. Trefnodd ac arwainodd Ymgyrch Cenedlaethol yr Alban i’r Antarctig rhwng 1902 a 1904.
Ganwyd Bruce yn Llundain ar 1 Awst 1867. Daeth ei dad, Samuel Noble Bruce, o’r Alban, ei mam, Mary, o Gymru. Cafodd ei addysg yn Swydd Norfolk. Astudiodd wyddoniaeth natur yn Granton yn 1887, ac wedyn meddyginiaeth ym Mhrifysgol Caeredin. Aeth o i’r Antarctig ym 1892-93, yn hela morfilod gyda ymgyrch o Dundee. Ym 1895 a 1896, gweithiodd yn arsyllfa ar gopa Ben Nevis, wedyn aeth ar ymgyrchoedd i Novaya Zemlya a Svalbard.[1][2]
Methodd gael le ar ymgyrch cenedlaethol i’r Antarctig gyda Scott a Shackleton, felly cynlluniodd Ymgyrch Cenedlaethol yr Alban i’r Antarctig. Hwyliasant o Troon ar 2 Tachwedd 1902, a treuliasant 21 mis yn gwneud waith ymchwyl. Sefydlodd orsaf dywydd ar Ynysoedd De Erch sy'n bodoli hyd at heddiw.[3]
Aeth o i Svalbard ym 1912 i chwylio am lo ac olew, ond rhwystrwyd gan ddechrau rhyfel ym 1914.
Bu farw yng Nghaeredin ar 28 Hydref 1921.[4]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan undiscoveredscotland.co.uk
- ↑ Geographical Journal, Rhagfyr 1921
- ↑ Gwefan undiscoveredscotland.co.uk
- ↑ Geographical Journal, Rhagfyr 1921