William Morgan (actiwari)

Oddi ar Wicipedia
William Morgan
Ganwyd26 Mai 1750 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mai 1833 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysbyty Guy Edit this on Wikidata
Galwedigaethactiwari, meddyg, ffisegydd Edit this on Wikidata
TadWilliam Morgan Edit this on Wikidata
MamSarah Price Edit this on Wikidata
PriodSusannah Woodhouse Edit this on Wikidata
PlantArthur Morgan, Sarah Morgan, William Morgan, John Morgan Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Copley Edit this on Wikidata

Meddyg a ffisegydd ac ystadegydd o Gymru oedd William Morgan, FRS (26 Mai 1750 - 4 Mai 1833), a ystyrir yn dad gwyddoniaeth actiwaraidd fodern. Mae'n bosib taw ef oedd y cyntaf i gynhyrchu pelydrau-X pan basiodd drydan trwy diwb gydag ychydig iawn o awyr ynddo.[1] Dywedir bod llwyddiant rhyfeddol y Gymdeithas Ecwiti (yng nghanol cymaint o fethiannau yr oes) yn bennaf oherwydd gweinyddiaeth ofalus Morgan a'i gyngor actiwaraidd cadarn.[2]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Sir Forgannwg, yn fab hynaf i'r meddyg William Morgan a Sarah (g. Price), chwaer DrRichard Price o Langeinwyr; ef oedd y trydydd o wyth o blant a'i unig frawd oedd George Cadogan Morgan a oedd yn iau nag ef. Yn ôl Nicola Bennetts, roedd ei fam yn Gymraes Gymraeg, a'r tebyg yw bod William yntau'n siarad yr iaith.' Gwyddom i'w frawd astudio'r clasuron yn Ysgol Ramadeg y Bont-faen, ac er na cheir enw William Morgan yng nghofnodion yr ysgol, awgryma awdl ganddo, 'In Imitation of Horace', i William hefyd dderbyn addysg glasurol.[3]

Yn ddeunaw oed aeth i Lundain i gael hyfforddiant meddygol yn Ysbyty Guy, gan weithio hefyd fel apothecari i dalu ei ffordd. Ni chwblhaodd ei hyfforddiant, ond ar ôl blwyddyn dychwelodd i Ben-y-bont ar Ogwr i ymuno ag ymarfer ei dad. Nid oedd yn boblogaidd gyda chleifion ei dad gan ei fod yn ddibrc oherwydd ei fod yn gloff.[4][5]

Ar ôl marwolaeth ei dad gadawodd ei waith fel meddyg ac ar 11 Gorffennaf 1774, ar argymhelliad brawd ei fam, Richard Price, dychwelodd i Lundain a phenodwyd ef yn Actiwari Cynorthwyol The Equitable Life Assurance Society.[6] Yn dilyn hynny, bu'n cynghori Scottish Widows.[1]

Actiwari[golygu | golygu cod]

Yn Chwefror 1775, yn dilyn marwolaeth John Pocock, etholwyd ef yn "Actiwari". Erbyn iddo ymddeol ar 2 Rhagfyr 1830, 56 mlynedd yn ddiweddarach yn 80 oed, roedd wedi gosod sylfeini proffesiwn yr actiwari - yn wir ef fathodd y termau "actiwari" ac "actiwraiaeth".

Enillodd Fedal Copley yn 1789, am ei ddau bapur ar Reversions and Survivorships,[7], a argraffwyd yn nwy gyfrol olaf Trafodion Athronyddol y Gymdeithas Frenhinol (Philosophical Transactions of the Royal Society), ym maes gwyddoniaeth actiwaraidd:

  • On the Probabilities of Survivorships Between Two Persons of Any Given Ages, and the Method of Determining the Values of Reversions Depending on those Survivorships, 1788–1794
  • On the Method of Determining, from the Real Probabilities of Life, the Value of a Contingent Reversion in Which Three Lives are Involved in the Survivorship. Philosophical Transactions of the Royal Society of London, Cyfrol 79 (1789) tt. 40–54
The principles and doctrine of assurance, 1821.

Fe'i hetholwyd yn gymrodor Y Gymdeithas Frenhinol ym Mai 1790.[8] Yn ystod rhan gynharach yr amser hwn bu’n byw yn swyddfeydd y gymdeithas yn Chatham Place, Blackfriars, a gwelodd, ym mis Mehefin 1780, derfysgoedd Gordon, bod ei dŷ am gyfnod dan fygythiad gan y dorf. Wedi hynny bu'n byw yn Stamford Hill, lle daeth ei dŷ yn fan cyfarfod i lawer o ddiwygwyr datblygedig y dydd,

Ar y cychwyn, bu’n byw yn swyddfeydd y gymdeithas yn Chatham Place, Blackfriars, ac ym Mehefin 1780 bu'n dyst i derfysgoedd Gordon, amser anodd, pan roedd ei gratref am gyfnod dan fygythiad y dorf. Wedi hynny bu'n byw yn Stamford Hill, lle daeth ei dŷ yn fan cyfarfod i lawer o ddiwygwyr datblygedig y dydd.

Ar 20 Ebrill 1792 cyfarfu â'r bardd Samuel Rogers.

Radicaliaeth[golygu | golygu cod]

Yn ddiweddarach, trwy ei ewythr, Richard Price, daeth yn ffrindiau gyda radicaliaid nodedig, gan gynnwys Tom Paine a Francis Burdett. Dihangodd gyda rhybudd yn unig pan yn 1794, arestiodd yr awdurdodau aelodau o'r mudiad a'u cyhuddo o deyrnfradwriaeth.[9]

Marwolaeth a choffadwriaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Stamford Hill, Llundain ar 4 Mai 1833 a chladdwyd ef yn Hornsey.

Yn 2020 cyhoeddwyd cyfrol am William Morgan yng nghyfres Gwyddonwyr Cymru Gwasg Prifysgol Cymru gan Nicola Bruton Bennetts, gor-gor-gor-wyres William Morgan.[10] Cyhoeddodd Nicola Bruton Bennetts erthygl am William Morgan (perthynas pell iddi) yn y Bywgraffiadur Cymreig.[3]

Plant[golygu | golygu cod]

Yn 1781 priododd Morgan â Susan Woodhouse, a chawsant sawl plentyn:

  • yr hynaf oedd Sarah, a oedd yn briod â'r llawfeddyg Benjamin Travers,
  • y mab hynaf oedd William Morgan, a briododd Maria Towgood, nith Samuel Rogers, bu Williams yn actiwari cynorthwyol am beth amser yn swyddfa]i dad, ond ar ôl ei farwolaeth gynnar olynwyd ef gan fab arall, Arthur Morgan. Daliodd Arthur y swydd prif actiwari yn dilyn ymddiswyddiad ei dad - rhwng 2 Rhagfyr 1830 a 3 Mawrth 1870, pan ymddiswyddodd. Bu farw saith diwrnod ar ôl. Felly roedd y tad a'r mab yn actiwarïaid am gyfnod o naw deg chwech o flynyddoedd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • The Doctrine of Annuities and Assurances on Lives and Survivorships, 1779
  • Computation of Premiums for Life Assurance on the Basis of the Northampton Table of Mortality, manuscript
  • Valuation (Individually) of the Assurance Contracts in Force in 1786, manuscript
  • Yearly Computation of Expected Deaths and Accounts Showing the State of the Equitable Life Assurance Society According to the Plan Suggested by Richard Price, manuscript
  • Nine Addresses to the General Court of the Equitable Society Covering the Years 1793 to 1830, 1833

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Morgan, William (1750–1833). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 13 Medi 2013.
  2. Mae Pawb yn Cyfrif gan Gareth Ffowc Roberts (Gwasg Prifysgol Cymru (2020)); ISBN-13 : 978-1786835949
  3. 3.0 3.1 1750#?c=0&m=0&s=0&cv=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4671 681%2Fmanifest.json&xywh=1477%2C1179%2C2518%2C2524 bywgraffiadur.cymru; adalwyd 31 Hydref 2020.
  4. Thomas 1894.
  5. (Saesneg) Thomas, D. L.; Pearson, Robin (2004). "Morgan, William (1750–1833)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/19244.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  6. Dictionary of National Biography, 1885-1900, Cyfrol 39; Morgan, William (1750-1833) gan Daniel Lleufer Thomas.
  7. "Copley Medal – 1799 – 1731". London: The Royal Society. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2010.
  8. "Lists of Royal Society Fellows 1660–2007". Llundain: The Royal Society. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2010.
  9. Thomas, D.L; Pearson, Robin (2004). "William Morgan (1750–1833)". Oxford Dictionary of National Biography. Rhydychen, Lloegr: Oxford University Press.
  10. www.gwasgprifysgolcymru.org