William Llewelyn Williams

Oddi ar Wicipedia
William Llewelyn Williams
W Llewelyn Williams (1906)
Ganwyd10 Mawrth 1867 Edit this on Wikidata
Llansadwrn Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ebrill 1922 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, bargyfreithiwr, ysgrifennwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd W Llewelyn Williams (10 Mawrth 1867 - 22 Ebrill 1922), yn newyddiadurwr, bargyfreithiwr a llenor Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1906 a 1918[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Williams yn Brownhill, Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin yn ail fab i Morgan Williams a Sarah (née Davies) ei wraig.

Roedd ei deulu yn un oedd wedi bod yn flaenllaw yn achos enwad Cristionogol yr Annibynwyr am flynyddoedd. Roedd tad-cu Williams, Morgan Williams, yn ddiacon yng Nghapel Isaac, Llandeilo. Roedd y Parchedigion John Williams (1819-1869) gweinidog Annibynnol Llangadog, Castellnewydd Emlyn a Chapel Iwan a Benjamin Williams (1830-1886) a fu'n gwasanaethu yn Nowlais, Dinbych ac Abertawe yn ewythrod iddo.

Addysgwyd Williams yng Ngholeg Llanymddyfri a Choleg y Trwyn Pres, Rhydychen. Yn Rhydychen, bu yn un o aelodau cynnar Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, cymdeithas Cymraeg i fyfyrwyr prifysgolion y ddinas. Ymysg ei gyd aelodau o'r gymdeithas bu O. M. Edwards, John Morris-Jones, Edward Anwyl, John Puleston Jones a Daniel Lleufer Thomas[2].

Ni fu'n briod.

gwybodaeth[golygu | golygu cod]

  • Golygydd cyntaf The South Wales Post, papur newydd Radicalaidd yn Abertawe, oedd ef, ond rhoes y gorau i newyddiaduraeth a throi at y gyfraith yn 1897.
  • Diddordebau: hanes, cenedlaetholdeb Cymreig, gwleidyddiaeth Rhyddfrydol.
  • Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caerfyrddin 1906-1918
  • Bargyfreithiwr (1912) ac arweinydd cylchdaith De Cymru. Gofiadur Abertawe (1914-15) a Chaerdydd (1915-22).
  • Fel gohebydd brwydrai yn erbyn barnwyr uniaith Saesneg a bu’n gynhaliwr brwd dros ddatgysylltu’r Eglwys a Hunanlywodraeth.

Heddychwr ond cefnogodd y Rhyfel yn 1914. Ond torrodd pob cysylltiad â David Lloyd George a’r Blaid Ryddfrydol. Safodd yn erbyn y Rhyddfrydwyr yn 1921.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

  • Gwilym a Benni Bach (1894)
  • Gŵr y Dolau (1899)
  • Slawer Dydd (1918) (poblogaidd iawn ar ffurf cyfres yn y cylchgrawn Y Beirniad).
  • Ysgrifau ar y Tuduriaid yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a chasglwyd yn y gyfrol The Making of Modern Wales (1919)

Gw. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), t.640

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur WILLIAMS, WILLIAM LLEWELYN (1867 - 1922), aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur adalwyd 16 Rhagfyr 2017
  2. History of Wales Cyf 6: Kenneth O. Morgan Rebirth of a Nation: Wales, 1880-1980 tud 100; Oxford University Press, 1981 ISBN 9780198217367
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Alfred Davies
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
19061918
Olynydd:
diddymwyd yr etholaeth


Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.