William Jones (haberdasher)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Jones
William Jones haberdasher.jpg
William Jones
Ganwydc.1545/1550
Newland, Swydd Gaerloyw
Bu farwIonawr 1615
Hamburg
Yn enwog amSefydlu ysgolion
GalwedigaethDyn busnes (cotwm a gwlân)

Roedd William Jones (c.1545/1550 – Ionawr 1615) yn ddilledwr a anwyd ger Newland, Swydd Gaerloyw. Sefydlodd Ysgol Trefynwy yn Sir Fynwy a'r "Darlithoedd Aur" yn Llundain, sy'n parhau'n ddi-dor hyd heddiw.

Bu'n brentis yn Nhrefynwy cyn symud i Lundain yn 20 oed. Gwnaeth ei arian yn Hamburg yn marchnata brethyn: gwlân a cotwm ayb. Yn ôl yr awdur Charles Heath, a oedd yn sgwennu yn 1804, pan ddychwelodd Joes i Lundain, gwisgodd ddillad tlotyn, yn hytrach na gŵr cyfoethog. Gadawodd yn ei ewyllus (dyddiedig 26 Rhagfyr 1614) arian mawr i nifer o achosion da gan gynnwys cyflogi gweinidog i'w gyfeillion yr Haberdashers, elusendai i 20 o bobl tlawd ac ysgol yn Nhrefynwy.

Roedd yn aelod o'r "Worshipful Company of Haberdashers", yn Llundain.