William Griffith (Gwilym Lerpwl)
William Griffith | |
---|---|
Ffugenw | Gwilym Lerpwl |
Ganwyd | 1849 Penysarn, Ynys Môn |
Bu farw | 12 Mawrth 1890 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd Cymraeg oedd William Griffith (1849 - 12 Mawrth 1890), a adnabyddid wrth ei enw barddol Gwilym Lerpwl. Roedd yn frodor o Ynys Môn. Ei hoff gyfrwng oedd yr englyn.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Gwilym ym mhentref Penysarn ym mhlwyf Llaneilian, Sir Fôn yn 1849. Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd. Aeth i chwilio am waith yn Lerpwl pan yn ifanc. Cafodd waith fel gofalwr adeilad mawr y 'Westminster Chambers' yn y ddinas honno. Dioddefodd iechyd gwael am flynyddoedd. Bu farw ar y 12fed o Fawrth, 1890.[1]
Englynwr
[golygu | golygu cod]Dechreuodd farddoni dan yr enw "Gwilym" yn unig; golygydd Y Genedl Gymreig a ychwanegodd "Lerpwl" i'w enw barddol. Yr englyn oedd hoff fesur y bardd a chyhoeddwyd rhai cannoedd o'i englynion dros y blynyddoedd, mewn cylchgronau a phapurau newyddion Cymraeg ac mewn blodeugerddi. Un gyfrol yn unig a gyhoeddodd y bardd ei hun, sef Y Llusern (1886).[1]