William Glyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o William Glynn)
William Glyn
Ganwyd1504 Edit this on Wikidata
Heneglwys Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mai 1558 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddis-ganghellor, Esgob Catholig Bangor Edit this on Wikidata

William Glyn neu William Glynn (1504 - 21 Mai 1558) oedd Esgob Bangor o 1555 hyd ei farw. Ef oedd yr esgob Catholig olaf ym Mangor.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Glyn yn Heneglwys, Ynys Môn, yn fab i John Glyn. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Breninesau, Caergrawnt. Mae'n ymddangos iddo gydymffurfio a newidiadau crefyddol y brenin Harri VIII, er iddo ymddiswyddo o gadair ei goleg yn ystod teyrnasiad Edward VI. Pan ddaeth y frenhines Mari i'r orsedd, daeth yn llywydd Coleg y Breninesau yn 1553, ac yr oedd yn un o'r rhai a yrrwyd i ddadlau â Nicholas Ridley a Hugh Latimer yn 1554. Aeth i Rufain yn 1555, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno penodwyd ef yn Esgob Bangor. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1562

Gadawodd fab o'r enw Gruffydd Glyn, fu hefyd yn Siryf Sir Gaernarfon ym 1564. Penodwyd Morys Clynnog yn Esgob Bangor fel olynydd iddo, ond bu farw'r frenhines Mari a bu raid iddo ffoi i Rufain cyn cael ei gysegru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. William George Searle (1867). The History of the Queens' College of St. Margaret and St. Bernard in the University of Cambridge (yn Saesneg). Deighton, Bell & Company. t. 249.