William George (cyfreithiwr)
| William George | |
|---|---|
| Ganwyd | 23 Chwefror 1865 Llanystumdwy |
| Bu farw | 25 Ionawr 1967 (101 oed) Cricieth |
| Priod | Anita Williams |
| Plant | William R. P. George, a mab fu farw'n ifanc |
Roedd William George (23 Chwefror 1865 − 25 Ionawr 1967) yn gyfreithiwr ac yn awdur. Bu'n aelod o Gyngor Sir Gaernarfon am 60 mlynedd ac yn ymgyrchwr dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn frawd iau i'r Prif Weinidog David Lloyd George ac yn dad i'r bardd William R. P. George.[1]
Bu farw ei dad, yr ysgolfeistr William George, cyn ei eni ac o ganlyniad roedd y teulu wedi symud i Lanystumdwy. Magwyd ef gan ei fam Elisabeth a'i brawd hithau, Richard Lloyd.
Ym 1882 ymunodd William â'i frawd David i ffurfio cwmni cyfreithwyr Lloyd George & George.[2] Pan etholwyd David Lloyd George i Dŷ'r Cyffredin, bu William yn cefnogi ei frawd yn ariannol gan roi hwb allweddol iddo felly ar ei yrfa wleidyddol gynnar.[1]
Mae ei bapurau ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "GEORGE, WILLIAM (1865 - 1967), cyfreithiwr a gwr cyhoeddus | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2026-07-06.
- ↑ "Two North Wales solicitors join forces". North Wales Pioneer (yn Saesneg). 2013-09-12. Cyrchwyd 2026-07-06.
- ↑ "William George (Solicitor) Papers - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2026-07-06.