William Bulkeley (bu farw 1549)

Oddi ar Wicipedia
William Bulkeley
Ganwyd1515 Edit this on Wikidata
Bu farw10 Gorffennaf 1549 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1545-47, Aelod o Senedd1547-1552 Edit this on Wikidata

Roedd William Bulkeley (tua 15151549) yn un o Aelodau Seneddol cynharaf Sir Fôn gan wasanaethu yn Senedd rhwng 1545 a 1549 [1]

Roedd Bulkley yn ail fab Rowland Bulkely, Biwmares ac Alice merch Syr William Becconshall o Swydd Gaerhirfryn, yn frawd i Syr Richard Bulkley Canghellor a Siambrlen Gogledd Cymru, i'r hwn y bu'n weithredu fel dirprwy, a gan hynny yn ewyrth i Richard Bulkley ei olynydd fel Aelod Seneddol.

Priododd Elin merch Richard ap Meredydd Porthmal gan etifeddu ystâd Porthmal.

Gwasanaethodd fel dirpwy Siryf Sir Gaernarfon ym 1537 a 1538; ac Uchel Siryf Sir Fôn 1543-4 [2]

Mi fyddai wedi bod yn aelod o'r Senedd pan pasiwyd y ddeddf i wneud Biwmares yn brif dref Môn yn hytrach na Niwbwrch.

Bu farw cyn ddiwedd sesiwn 1549 o'r Senedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 21 Rhagfyr 2015
  2. The History of Parliament online BULKELEY, William I (by 1515-49), of Llangefni and Porthamel, Anglesey [1] adalwyd 21 Rhagfyr 2015
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Anhysbys
Aelod Seneddol Ynys Môn
15451549
Olynydd:
Richard Bulekley