William Aubrey

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Aubrey
WilliamAubrey.jpg
Ganwyd 1529 Edit this on Wikidata
Sir Frycheiniog, Cantref Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Mehefin 1595 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth academydd, Cyfreithegwr, Gwleidydd, Cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the April 1554 Parliament, Member of the 1558 Parliament, Member of the 1559 Parliament, Member of the 1563-67 Parliament, Member of the 1593 Parliament Edit this on Wikidata

Roedd William Aubrey (tua 152925 Mehefin, 1595) yn Athro Brenhinol y Gyfraith Sifil ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng 1553 a 1559, ac roedd yn un o gymrodyr sylfaenol Coleg yr Iesu, Rhydychen. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Aberhonddu, Bwrdeistref Caerfyrddin a nifer o etholaethau eraill.

Bywyd cynnar a Phrifysgol Rhydychen[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Aubrey yn Sir Frycheiniog, yn ail fab i Thomas Aubrey, MD, Cefn Cantref.

Ar ôl cael ei addysg yn yr ysgol a enwyd yn ddiweddarach yn 'Goleg Crist', Aberhonddu, aeth Aubrey i Brifysgol Rhydychen, daeth yn gymrawd o Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen ym 1547. Cafodd radd Baglor y Gyfraith Cyffredin ym 1549 ac fe'i penodwyd yn brifathro New Hall Inn, Rhydychen ym 1550. Ym 1553, olynodd Robert Weston fel Athro Brenhinol y Gyfraith Sifil. Daliodd y swydd hyd 1559, pan gafodd ei olynu gan John Griffith. Gwasanaethodd fel barnwr-marshal y fyddin o dan arweiniad William Herbert, Iarll Penfro yn ymgyrch St Quentin, 1557.

Ym 1571, cafodd ei enwi yn Siarter y Sylfaenwyr fel un o'r wyth cymrodor gwreiddiol Coleg yr Iesu, Rhydychen Cafodd y radd o Ddoethur y Gyfraith Cyffredin (DCL) ym 1554 a'r flwyddyn ganlynol cafodd ei wneud Meistr mewn Siawnsri.

Gwasanaeth Gyfreithiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1562, fe fu Aubrey yn aelod o'r comisiwn a sefydlwyd gan Matthew Parker, Archesgob Caergaint a barnodd bod priodas y Ledi Catherine Grey i Henry Herbert (mab Iarll 1af Penfro) yn anghyfreithlon (bu hyn yn fodd i ddatgysylltu teulu Penfro oddi wrth ymgais aflwyddianus y Ledi Jane Gray i hawlio Coron Lloegr) . Roedd yn un o lofnodwyr y farn gyfreithiol bod John Lesley (Esgob Ross) a llysgennad Mari, brenhines yr Alban yn gallu sefyll ei brawf yn Lloegr am gynllwynio yn erbyn y Frenhines Elisabeth, a thrwy hynny creu'r flaenoriaeth gyfreithiol bod Mari yn gallu sefyll ei phrawf, hefyd, gan greu'r llwybr cyfreithiol i gyfiawnhau ei dienyddio.

Gwasanaeth Seneddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Aubry yn aelod seneddol ar gyfer nifer o etholaethau seneddol gan gynnwys dwy yng Nghymru sef Bwrdeistrefi Caerfyrddin (1554) ac Aberhonddu (1558) yn ogystal â Hindon (1559), Arundel (1563), a Taunton (1592). Roedd yn aelod o Gyngor Cymru a'r Gororau o 1586. Roedd hefyd yn archwilydd a ficer-cyffredinol Caergaint o dan yr Archesgob Grindal, gan gadw ei swydd fel ficer-cyffredinol o dan Archesgob Whitgift.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Aubrey yn Llundain ym 1595 ac fe'i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol wreiddiol San Pawl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ian W. Archer; Religion, Politics, and Society in Sixteenth-Century England; Cambridge University Press 2004; ISBN 9780521818674
  • Y Bywgraffiadur ar lein AWBREY (neu AUBREY ), WILLIAM ( c. 1529 - 1595 ) [1] adalwyd 23 Chwefror 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Gruffydd Hygons
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
15541554
Olynydd:
John Parry
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
anhysbys
Aelod Seneddol Aberhonddu
15581559
Olynydd:
Roland Vaughan