William A. Wellman
| William A. Wellman | |
|---|---|
William A. Wellman yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1917). | |
| Ganwyd | William Augustus Wellman 29 Chwefror 1896 Brookline |
| Bu farw | 9 Rhagfyr 1975 o liwcemia Los Angeles |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, actor, sgriptiwr, hedfanwr, cyfarwyddwr, actor ffilm, ysgrifennwr, sgriptiwr ffilm, cynhyrchydd, cynhyrchydd ffilm |
| Tad | Arthur Gouverneur Wellman |
| Mam | Cecila McCarthy |
| Priod | Helene Chadwick, Dorothy Rae Coonan, Marjorie Crawford |
| Plant | William Wellman, Jr. |
| Gwobr/au | Academy Award for Best Story, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
| llofnod | |
Cyfarwyddwr ffilm o'r Unol Daleithiau oedd William Augustus Wellman (29 Chwefror 1896 – 9 Rhagfyr 1975).[1]
Ganed ef yn Brookline, Massachusetts, Unol Daleithiau America. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwirfoddolodd i yrru ambiwlansys yn Ffrainc, a gwasanaethodd yn Lleng Dramor Ffrainc cyn hedfan awyrennau ymladd yn Escradille de La Fayette, criw o beilotiaid Americanaidd yn lluoedd Ffrainc. Ymunodd â Chorfflu Awyr Byddin yr Unol Daleithiau a bu'n hyfforddwr hedfan yn San Diego. Wedi'r rhyfel, aeth i Hollywood a chafodd swydd yn Goldwyn Pictures gyda chymorth Douglas Fairbanks, Sr.
Cyfarwyddodd Wellman y ffilm ryfel Wings (1927), y ffilm gyntaf i ennill Gwobr yr Academi am y Llun Orau. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r ffilm gangster The Public Enemy (1931), yn serennu James Cagney; The Call of the Wild (1935), addasiad o'r nofel gan Jack London, gyda Clark Gable; y ddrama ramantaidd A Star Is Born (1937); Nothing Sacred (1937), esiampl o genre'r gomedi screwball gyda Carole Lombard; The Ox-Bow Incident (1943), addasiad o'r nofel gan Walter Van Tilburg Clark gyda Henry Fonda; y ffilm fywgraffyddol Buffalo Bill (1944); The Story of G.I. Joe (1945) gyda Robert Mitchum yn portreadu capten troedfilwyr yn yr Ail Ryfel Byd; Yellow Sky (1948), ffilm yn genre'r Gorllewin Gwyllt gyda Gregory Peck a Richard Widmark; a'r ffilm drychineb The High and the Mighty (1954) gyda John Wayne.
Bu farw William A. Wellman yn Los Angeles, Califfornia, yn 79 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) William Wellman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2021.