Will Wright

Oddi ar Wicipedia
Will Wright
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnWill Wright
LlysenwWillie Feet
Dyddiad geni (1973-07-04) 4 Gorffennaf 1973 (50 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd a trac
RôlReidiwr
Tîm(au) Amatur
Prif gampau
Cystadlu yn Ngemau'r Gymanwlad 1994 a 2002.
Golygwyd ddiwethaf ar
22 Medi 2007

Seiclwr Cymreig ydy Will Wright (ganwyd 4 Gorffennaf 1973), sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ddwywaith, mae hefyd yn berchen ar siop feics yn Stockport.

Dechreuodd seiclo yn ei arddegau cynnar, gan ymuno â 'Manchester Velo' ar eu reidiau clwb wythnosol, pob dydd Sul, ond dim ond ar ôl iddo orffen dosbarthu papurau'r Sul ar ei rownd bapur. Cafodd y llysenw Willie Feet (Cymraeg: Willie Traed), oherwydd main anarferol o fawr, ei draed.[1]

Ar ôl gorffen ei addysg uwchradd, aeth Will i weithio i siop 'Marple Cyclesport'. Cafodd dipyn o lwyddiant mewn rasus, ac felly dewiswyd ef i gynyrchioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Victoria, Canada yn 1994. Yno cystadleuodd yn ei ras trac cyntaf, er nad oedd erioed wedi reidio'r trac gynt[1]. Cystadleuodd yn y Gemau unwaith eto, yn agosach at ei gartref y tro yma, ym Manceinion yn 2002, ond yn anffodus disgynodd yn ystod y ras bwyntiau; gellir wylio ffilm byr o'r damwain ar wefan y BBC Motion Gallery[dolen marw][2].

Cymerodd drosodd 'Bardsley Cycles' 482 Manchester Road, Stockport, Manceinion yn y 1990au, a gafodd ei ail-enwi'n ddiweddarach yn 'Will's Wheels', mae hefyd yn cefogi clwb seiclo o'r un enw, 'Will's Wheels Cycling Club'. Yn ogystal, mae 'Will's Wheels' yn cefogi rasus lleol gan roddi gwobrau, mae Will ei hun wedi gwobrwyo rhain i'r enillwyr ar adegau[3] Ymddeolodd Will o seiclo cystadleuol etr mwyn gwario mwy o amser gyda'i ferched, Emily a Megan, a'i wraig Sarah.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

1996
3rd Cam 1, Thwaites Grand Prix/Tour of Lancashire
2005
2nd Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Cymru[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]