Neidio i'r cynnwys

Will Roberts

Oddi ar Wicipedia
Will Roberts
Ganwyd21 Rhagfyr 1907 Edit this on Wikidata
Rhiwabon Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 2000 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Arlunydd o Gymru oedd Will Roberts RCA (21 Rhagfyr 190711 Mawrth 2000). Mae'n enwog am ei gyfres o luniau mawr siarcol o weithwyr diwydiannol y de.

Ganed Roberts yn Rhiwabon, Sir Ddinbych, mab i weithiwr rheilffordd y Rheilffordd y Great Western. Symudodd y teulu i Gastell-nedd, Morgannwg pan oedd yn blentyn ym 1918. Astudiodd yng Ngholeg Celf Abertawe. Cyfarfodd Roberts â'r arlunydd Pwyleg Josef Herman ym 1945, roedd Herman yn byw yn Ystradgynlais ar y pryd, a buont yn paentio â'u gilydd yn aml. Yn ddiweddarach, cydnabyddodd Roberts ddylanwad Herman ar ei waith.[1] Ym 1962, enillodd Roberts wobr Byng-Stamper am baentio tirlun, a ddyfarnwyd gan Syr Kenneth Clark. Ym 1992 gwobrwywyd ef â chymrodoriaeth anrhydedd gan Goleg Prifysgol Abertawe, ac ym 1994 bu ei waith yn ganolbwynt yn arddangosfa ôl-syllol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru rodd o 600 o ddarluniau Roberts ym 1998.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. P. Joyner (2001). Will Roberts RCA Drawings. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 1-86225-025-1
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.