Neidio i'r cynnwys

Wil Morgan

Oddi ar Wicipedia
Wil Morgan
Ganwyd18 Rhagfyr 1944 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr a darlledwr o Gymru yw Wil Morgan (ganwyd 18 Rhagfyr 1944).[1]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Cafodd William Morgan ei eni ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ac fe'i magwyd yn Llanfairfechan. Roedd ei dad wedi gweithio fel gof yn y chwarel cyn mynd yn filwr. Gwelodd ei dad am y tro cyntaf pan oedd yn 7 mis oed, pan ddaeth adre wedi'r rhyfel. Roedd ei fam hefyd yn gwasanaethu yn yr Auxiliary Territorial Service. Roedd ei daid hefyd yn filwr yn y Somme.

Roedd ei fam yn blentyn siawns ac wedi ei mabwysiadu (yn anffurfiol) gan gwpl lleol a ddaeth yn 'nain a taid' iddo. Wedi marwolaeth ei ewythr Dic, gadawodd dyddyn i'w 'nain a taid'. Aeth Wil i fyw gyda nhw ac arhosodd ei frawd Keith gyda'i fam a'i dad.

Bu farw ei nain yn 60 mlwydd pan oedd Wil tua 13 mlwydd oed a symudodd yn ôl i dy ei fam a'i dad.

Mynychodd Ysgol Gynradd Llanfairfechan ac yna Ysgol Friars, Bangor. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Abertawe gan ennill gradd yn y Gymraeg.[2]

Ei freuddwyd ers yn 9 oed oedd gweithio ym myd darlledu ond nid oedd llawer o gyfleon yn agored iddo. Wedi gadael y coleg, aeth i weithio gyda chwmni Marks & Spencer gan hyfforddi i fod yn rheolwr siop. Cafodd ddwy flynedd o hyfforddiant mewn siopau yn ne-orllewin Lloegr. Wedyn bu'n gweithio gyda adran addysg Cyngor Sir y Fflint ac roedd yn swyddog gweinyddol yn Ysgol Glan Clwyd. Yn ystod y cyfnod hwn, ysgrifennodd eiriau caneuon i Sidan, grŵp o ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd. Ysgrifennodd y gân "Lliwiau" a gyhoeddwyd yn 1972.[3]

Yn yr 1970au aeth i weithio yn adran newyddion a materion cyfoes HTV Cymru bu'n ohebydd gyda HTV ar Y Dydd. Yn yr 1980au bu'n ohebydd ar raglenni materion cyfoes fel Y Byd Ar Bedwar. Gofynnnodd Cenwyn Edwards iddo gyflwyno rhaglen newydd Cefn Gwlad o dan adain Y Byd Ar Bedwar. Aeth y rhaglen ymlaen fel cynhyrchiad ar wahân gyda'r cyflwynydd Dai Jones.[2]

Yna ymunodd â BBC Cymru gan weithio ar Helo Bobol. Aeth ymlaen i weithio fel newyddiadurwr gyda'r BBC a bu'n olygydd newyddion Radio Cymru am ddwy flynedd.[4]

Ar ddechrau'r 1990au cyflwynodd y rhaglen deledu Llygad yr Haul gyda Sian Bassett, yn teithio i gyrchfannau gwyliau o gwmpas y byd. Roedd hwn yn gynhyrchiad HTV ar gyfer S4C.[5]

Rhwng 2003 a 2016 roedd yn cyflwyno sioe nos Sadwrn ar Radio Cymru, yn cymryd ceisiadau am ganeuon gan wrandawyr.[6]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae ganddo ddwy ferch, Nia a Catrin a fagwyd yn ardal Treffynnon, Sir y Fflint.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "BBC Radio Cymru - Dewi Llwyd ar Fore Sul, Wil Morgan". BBC. 2016-12-18. Cyrchwyd 2026-01-23.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Beti a'i Phobol - Beti a'i Phobol: Wil Morgan (20/11/2011) - BBC Sounds". BBC. 2011-11-20. Cyrchwyd 2026-01-23.
  3. (yn en) Sidan - Lliwiau, 1972, https://www.discogs.com/release/2443732-Sidan-Lliwiau, adalwyd 2026-01-23
  4. "BBC Radio Cymru - Wil Morgan - Wil Morgan". BBC. Cyrchwyd 2026-01-23.
  5. "Catalog LlGC - Llygad yr Haul". darganfod.llyfrgell.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-23.
  6. "BBC Radio Cymru - Dewi Llwyd ar Fore Sul, Wil Morgan". BBC. Cyrchwyd 2026-01-23.