Wicipedia Saesneg Syml
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | Wicipedia mewn iaith benodol ![]() |
---|---|
Iaith | Simple English ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 18 Medi 2001 ![]() |
Perchennog | Sefydliad Wicimedia ![]() |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint ![]() |
Gweithredwr | Sefydliad Wicimedia ![]() |
Cynnyrch | Gwyddoniadur rhyngrwyd ![]() |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin ![]() |
Gwefan | https://simple.wikipedia.org/ ![]() |
![]() |
Mae'r Wicipedia Saesneg Syml yn Wicipedia a ysgrifennwyd yn bennaf mewn fersiwn Saesneg wedi'i addasu – Basic English neu Learning English.[1] Nod y wefan yw darparu Wicipedia ar gyfer "pobl ag anghenion gwahanol, fel myfyrwyr, plant, oedolion ag anawsterau dysgu, a phobl sy'n dysgu Saesneg".
Mae arddull Wicipedia Saesneg Syml yn ei gwneud yn ddefnyddiol i ddechreuwyr sy'n dysgu Saesneg.[2] Mae ei strwythur geiriau a'i gystrawen syml yn gwneud gwybodaeth yn haws i'w deall o'i chymharu â'r Wikipedia Saesneg arferol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Lansiwyd Wicipedia Saesneg Syml ar 18 Medi 2001.[3][4] O Ebrill 2025, mae'r wefan yn cynnwys dros 267,000 o dudalennau cynnwys. Mae ganddo fwy na 1,577,000 o ddefnyddwyr cofrestredig.
Strwythur y wefan
[golygu | golygu cod]Mae'r prosiect yn annog, ond nid yw'n gorfodi, defnyddio geirfa o tua 1,500 o eiriau Saesneg mwyaf cyffredin[1] sy'n seiliedig ar Basic English, rhestr o 850 geiriau a grëwyd gan Charles Kay Ogden yn y 1920au.[5]
Mae'r erthyglau ar y Wicipedia Saesneg Syml fel arfer yn fyrrach na'r prif Wikipedia Saesneg, gan amlaf yn cyflwyno gwybodaeth sylfaenol yn unig. Eglurodd Tim Dowling o bapur newydd The Guardian fod "y fersiwn Saesneg Syml yn tueddu i gadw at ffeithiau cyffredinol".[5]
Mae'r rhyngwyneb hefyd wedi'i labelu'n symlach; er enghraifft, mae dolen Show any page" yn lle "Random article" fel sydd ar y Wicipedia Saesneg: ac i "Change" yn hytrach nag "Edit" tudalennau.[6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Parris, Sheri R. (2009). Adolescent Literacy, Field Tested: Effective Solutions for Every Classroom. International Reading Assoc. t. 76. ISBN 978-0-87207-695-2.
A version of Wikipedia, called Simple English Wikipedia, contains entries using the 2,000 or so most common words in English, and is well suited for younger readers.
- ↑ Fabien Snauwaert (2010). How to Learn English, the ebook. how-to-learn-english.com. t. 34. Cyrchwyd 18 Mehefin 2011.
- ↑ "Simple English Wikipedia". Meta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-06.
- ↑ "History of Home Page". Simple English Wikipedia (yn simple). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Hydref 2001. Cyrchwyd 13 Ionawr 2025.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 5.0 5.1 Tim Dowling (14 Ionawr 2008). "Wikipedia too long-winded for you? Try the simple version". The Guardian. Cyrchwyd 17 Mai 2009.
- ↑ Ayers, Phoebe; Matthews, Charles; Yates, Ben (2008). How Wikipedia works: and how you can be a part of it. No Starch Press. t. 417. ISBN 9781593271763.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]![]() |
Wicipedia yn yr iaith Simple English, y gwyddoniadur rhydd, agored ac am ddim! |