Wicipedia:Y Caffi/archif/23

Oddi ar Wicipedia

Dileu statws gweinyddwyr Chwefror 2018[golygu cod]

Dw i'n cynnig dileu statws ambell Weinyddwr nad yw wedi golygu ers dros flwyddyn yn y Wicipedia:Negesfwrdd gweinyddiaeth#Dileu statws gweinyddwyr Chwefror 2018. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:50, 19 Chwefror 2018 (UTC)[ateb]

Gwerthuso'r prosiec iechyd[golygu cod]

Wedi mwynhau cyfrannu i brosiect Iechyd.
A fydd cyfle i werthuso'r prosiect ar lein neu mewn cyfarfod cigfyd o gyfranwyr (neu'r ddau)?

Mae'r prosiect wedi codi nifer o gwestiynau!

Be di pwynt erthygl wicipedia?

  • Erthygl i'r boi ar y stryd cael hyd i wybodaeth pob dydd am iechyd yn y Gymraeg?
  • Erthygl gynhwysfawr sy'n gymorth i arbenigwr pwnc?
  • Wyn leiners, sy'n creu erthygl i gynyddu rhifau'r erthyglau wici yn unig?

Roedd yr erthyglau ar feddygon yn ddifyr. O ran hwyl mi droes tri ohonynt yn erthyglau go iawn yn weddol hawdd. Ond naw cant ohonynt o fewn wythnos i ddarfod y prosiect? Be am greu "prosiect" lle mae erthyglau data yn gychwyn prosiect can erthygl, efo'r prosiect yn un i lenwi erthyglau cyn pen mis?

Oes modd rhannu'r modd o greu erthygl data? Dwi ddim am greu erthyglau hurt fel rhai Cebuano a Swedeg, ond byddai gwybod sut i greu'r brawddegau cychwynnol o ddata yn help mawr i fy mhrosiect o greu erthygl am bob AS Cymreig. AlwynapHuw (sgwrs) 07:20, 27 Chwefror 2018 (UTC)[ateb]

Cwestynau pwysig, sy'n trafod llawer mwy na'r prosiect iechyd. Fy nheimlad personol yw fod gwahanol erthyglau ar gyfer gwahanol fathau i ddarllenydd. Mae'r math o berson sy'n darllen yr erthygl ar asprin yn mynd i fod yn dra gwahanol i'r person sy'n darllen erthygl llawer mwy arbenigol. Ac mae angen y ddau! Weithiau gall y paragraff cntaf apelio at bawb, gyda dyfnder yn dilyn, os oes angen rhagor o wybodaeth. Amrywiaeth bia hi!
Ac mae angen erthyglau gyda dyfnder ac egin hefyd - cyn belled a bod mwy na dim ond un frawddeg cwta! Beth sydd wedi'i brofi dro ar ol tro ydy fod pobl yn fwy tebygol o ychwanegu at erthygl nag y mae nhw i ddechrau un o'r newydd.
Defnyddio data - ti awydd cyfarfod yn Llandudno i edrych ar hwn? A deud y gwir, ro'n i'n credu dy fod wedi defnyddio 'mail merge' i greu'r erthyglau ar bentrefi Llydaw? Ond yn fwy na dim - mae dy erthyglau fu'n rhan o Wici Iechyd yn wych iawn, ac yn cyfoethogi Wici mil gwaith yn fwy na mil o egin man! A bu Wici Iechyd hefyd yn llwyddiant mawr: diolch Jason a'r criw!!! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:37, 27 Chwefror 2018 (UTC)[ateb]
Diolch Robin. Mi greais yr erthyglau am Lydaw trwy ddefnyddio Microsoft Exel wedi ei boblogi gyda gwybodaeth o erthyglau megis Communes of the Finistère department yn hytrach na thrwy ddefnyddio un o raglenni'r wici. Hoffi'r syniad o gael wers yn Llandudno ar sut i ddefnyddio data, gorau oll pe bai modd ei gynnal mewn llyfrgell neu ysgol er mwyn i griw dod yng nghyd i ddysgu sut mae gwneud. AlwynapHuw (sgwrs) 18:08, 27 Chwefror 2018 (UTC)[ateb]

Erthyglau Cyffuriau[golygu cod]

@AlwynapHuw, Lesbardd, Adam, John Jones, Dafyddt, Deb, Duncan Brown:@PelaDiTo, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000:

Helo pawb,

Dyma fi'n profi erthyglau am gyffuriau. Hyn bydd y batsh olaf o erthyglau bot fel rhan o brosiect Wici Iechyd. Felly byddaf yn ddiolchgar iawn am eich sylwadau cyn i mi lwytho'r erthyglau i gyd (tua 900)


Diolch yn fawr iawn am eich help unwaith eto, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i Brosiect Wici-Iechyd hyd yma. Mae nifer fawr o erthyglau holl bwysig wedi cael i gyhoeddi yn ystod y prosiect, a dwi'n siŵr bydd mwy cyn i'r prosiect dod i ben, diwedd y mis. Jason.nlw (sgwrs) 13:42, 7 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Dydy'r fformiwla gemegol ddim yn edrych yn glir iawn i mi.Lesbardd (sgwrs) 15:21, 7 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Gwych eto Jason.nlw, yr unig sylw yw bod y rhifau yn y fformiwla gemegol mor fach bod nhw'n anodd ei darllen AlwynapHuw (sgwrs) 19:51, 7 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Bendigedig! Tydw i ddim yn gweld problem Lesbardd ac Alwyn, gyda'r fformiwlau. Efallai gan fod gen i whopar o sgin! Run fain a mhen! Melys moes mwy! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 20:06, 7 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw: Ti'n dweud mai dyma fydd y gyfres olaf o erthyglau i gael ei greu gan fot ar ran wici iechyd. Gai awgrymu un tro arall arni? Roedd yr erthyglau am feddygon, ar y cyfan, yn creu erthyglau am ddynion. Tybiwn fod hyn wedi effeithio ar y cydbwysedd a fu yma rhwng erthyglau am ddynion a merched. A oes modd newid y nodyn data yn y rhaglen bot am feddyg i un am nyrs (Q186360)? Byddai hyn yn debygol o greu ychydig gannoedd o erthyglau efo mwy o ferched na ddynion i ail wastatáu’r cydbwysedd. AlwynapHuw (sgwrs) 05:19, 8 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Alwyn - paid a phoeni am hyn, mae @Monsyn: (a minnau) wrthi'n paratoi 3,000+ o erthyglau ar wyddonwyr benywaidd - egin i'w dyfrio a'u datblygu ymhellach. Gobeithiwn uwchlwytho'r 100,000 ar y 27fed, yn y Llyfrgell Genedlaethol, neu cyn hynny. Croeso cynnes i bob un o'n golygyddion i ddod yno i ddathlu'r garreg filltir bwysig hon! Rhagor am hyn yn nes ymlaen gan Dafydd Tudur. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:16, 8 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Gwych Jason! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:17, 8 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

@Llywelyn2000, AlwynapHuw, Lesbardd, John Jones: Diolch yn fawr am yr adborth.
  • Fformiwla - Mae'n edrych yn eithaf clir i fi, ond efallai bod e'n ymddangos yn wahanol yn dibynnu ar eich Cyfrifiadur. Dw'i ddim yn credu bod llawer alla'i wneud. Yr unig opsiwn bydd newid C₉H₁₃NO₃ i C9H13NO3, sydd yn edrych yn waeth yn fy marn i.
  • cydbwysedd - Mae hyn yn bwynt digon teg Alwyn, a fi'n ymwybodol bod llawer mwy o dynion yn y data. Yn anffodus bydd gen i ddim digon o amser i greu set o erthyglau arall - mae lot o waith llaw yn mynd mewn i baratoi'r data, ond fel mae Robin yn dweud mai na 3000 o erthyglau am fenywod ar y ffordd felly dyle ni fod yn iawn. Fi hefyd yn ganolbwyntiau ar erthyglau am fenywod yn Golygathonau. Gyda llaw byddaf yn rhedeg Golygathon bach mewnol heddiw yn y Gen, bydd Golygathon Celf a Ffeministiaeth ym Machynlleth heno, ac wedyn dwi'n rhedeg golygathonau efo prifysgol Caerdydd fori a dydd Sadwrn, i ddathlu diwrnod menywod rhyngwladol, felly fi'n gobeithio daw nifer o erthyglau newydd am fenywod dros y dyddiau nesaf.

Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 10:17, 8 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Diolch Jason! Fformiwla: Mae opsiwn arall; efallai na fydd yn gyfleus iawn wrth gwrs. C₃₈H₆₉NO₁₃ i C38H69NO13. (Dw i'n defnyddio Safari ar Mac ac ar iPad, ac mae'r subysgrifau'n anodd eu gweld ar hyn o bryd.) --Craigysgafn (sgwrs) 11:18, 8 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

@Jason.nlw: Mae 'na broblem efo nifer o'r erthyglau. Mae'n ymddangos bod cynnwys yr adrannau Defnydd meddygol wedi eu cam osod yn yr erthyglau anghywir. Er enghraifft roedd yr erthygl ar Isofflwran, sydd yn anesthetig, yn awgrymu ei fod yn cael ei ddefnyddio i drin acne. Mae'r erthygl ar Spectinomycin sydd yn wrthfiotig yn awgrymu ei ddefnydd at Status Asthmaticus ac ati. AlwynapHuw (sgwrs) 18:39, 8 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

@AlwynapHuw, Llywelyn2000: Diolch yn fawr am tynnu fy sylw at hyn Alwyn. Mae hwn yn camgymeriad gwael a mae angen i mi datrys hwn asap. Robin: Fi mas o'r swyddfa tan dydd llun, felly tybed os oes modd i ti helpu? Mae angen defnyddio AWB i tynnu pob * o'r adran Defnydd Meddygol a mewnosod {{wikidata|property|linked|P2175|format=<li>%p</li>}}. Bydd hyn yn tynnu mewn y gwybodaeth cywir o Wikidata. Dyma engraifft. Mae'n edrych fel bod hyn yn effeithio pob un o'r erthyglau. Mae drwg da' fi am hyn. Jason.nlw (sgwrs) 19:55, 8 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Gallaf, fory, dim problem. Llygad barcud Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:17, 8 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw, AlwynapHuw: Bydd angen dau gam. Dyma'r cam cyntaf - (gw. hefyd Methyprylon) sy'n golygu fod y wybodaeth ar y rhyngwyneb (y rhan gweladwy) yn gywir. Cam 2 fydd defnyddio AWB i dynnu'r hen destun a guddiwyd: Jason - gweidda os ti isio help i wneud hyn ee gelli ddefnyddio regex o fewn AWB. Gwirwch fod yr erthygl yma'n gywir a mi af ati i wneud y cyfan heddiw'r bore. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:40, 9 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw, Llywelyn2000: Diolch yn fawr iawn am eich help Robin. Dw'i ar y ffordd lawr i Caerdydd i rhedeg digwyddiadau efo'r Pryfysgol felly does gen i dim mynediad i AWB tan dydd Llun. Mae'r erthygl yn edrych yn iawm i mi. Cofion Jason.nlw (sgwrs) 09:33, 9 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw, Llywelyn2000, Dafyddt, Jason.nlw: Ar gais Mr Llywelyn, wele fy regex wedi'i gaboli'n lân ac yn barod i fynd ati! Gwirwch fy 6 neu 7 golygiad diweddaraf a rhowch yr oce plis! Sian EJ (sgwrs) 15:46, 9 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr Sian EJ! Mae'r erthyglau yn edrych yn iawn i mi. Diolch yn fawr am eich cymorth efo hyn! Jason.nlw (sgwrs) 15:52, 9 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Wedi beni! Sian EJ (sgwrs) 18:15, 9 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Gweinyddwyr: dilewyd statws 5[golygu cod]

Un o brif bwrpas y statws 'Gweinyddwr' ar y Wici ydy rheoli fandaliaeth o ddydd i ddydd. Oherwydd nad ydyn nhw wedi bod yma i wneud hynny, yn ddiweddar, tynnwyd y statws yma oddi wrth: Paul-L, Defnyddiwr:Tigershrike, Defnyddiwr:Anatiomaros (ac fel Biwrocrat), Defnyddiwr:Rhyshuw1 a Defnyddiwr:Jim Carter. Mae angen i Defnyddiwr:Lloffiwr a Defnyddiwr:Llygadebrill olygu yn ystod y mis nesaf, neu byddwn yn dileu eu statws hwythau. Gallen nhw i gyd ailafael ynddi, wrth gwrs, unrhyw dro.

Mae'r drafodaeth am hyn i'w weld ar: Wicipedia:Negesfwrdd gweinyddiaeth#Dileu statws gweinyddwyr Chwefror 2018. Gallwch weld y rhestr o'r Gweinyddwyr presennol yn fama. Mae'r ddalen Wicipedia:Gweinyddwyr yn ehangu ar y swydd ond mae gwirioneddol angen ei diweddaru. Tydy Biwrocrat ddim yn gwneud dim mwy na Gweinyddwr, ar wahan ei bod yn medru Creu Gweinyddwyr, felly mae un yn ddigon ar bob wici.

Os oes gan rywun ddiddordeb gymryd yr awenau (a'r cyfrifoldeb enbyd!) fel Gweinyddwr, a wnewch chi adael fynegi hynny - yn fama - os gwelwch yn dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:21, 9 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Ga i gynnig Dafyddt ac AlwynapHuw os gwelwch yn dda. Mae'r ddau wrthi'n ddyddiol, bron, ac mae dafydd wedi gweithredu fel Gweinyddwr yn dileu fandaliaeth a chodio hefyd ers tro. A does neb fel Alwyn am wneud y manion pwysig a di-ddilch hynny, dydd ar ol dydd! O... a diolch i Llywelyn2000 am yr holl waith gyda hyn. Sian EJ (sgwrs) 11:52, 9 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
@Dafyddt, AlwynapHuw: Cytuno gyda'r awgrymiadau! Golygyddion sydd wrthi o ddydd i ddydd sydd ei angen. Be da chi'n ddweud hogia? Cytuno? A byddai merch neu fenyw hefyd yn cadw'r glorian chydig llai unochrog! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:54, 13 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Oes na rywun arall sydd awydd swydd Gweinyddwr? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:21, 16 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Nawr dwi'n gweld hwn ond dwi'n hapus i wneud, a dylwn i gynnig Sian EJ hefyd o ran rywun sy'n cadw golwg ar bethau ddydd i ddydd --Dafyddt (sgwrs) 20:07, 20 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Eilio John a Sian EJ!!! Dwylo saff iawn! Pe bai gen i'r amser mi gynigiwn fy hun, ond mae pethe'n anodd braidd (salwch fy mam). '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:08, 22 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Gan fod Dafyddt wedi derbyn, mi wna i droi ei statws i Weinyddwr ( allongyfarchiadau!) @Dafyddt, AlwynapHuw: - Alwyn? Mi gest dy enwebu; wyt ti'n derbyn? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:54, 4 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

@Llywelyn2000: Ydw AlwynapHuw (sgwrs) 14:33, 4 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Gwych. Mi adwai o ar agor am dridiau i wneud yn siwr fod pawb yn cael cyfle i ddweud eu dweud. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:03, 4 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd

@Dafyddt, AlwynapHuw: Mae'r galluoedd 'Gweinyddwr' wedi'i alluogi hogia! Mae gwirioneddol eich hangen a gwerthfawrogaf yr amser rydych yn ei roi i Wici! Pob hwyl arni! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:24, 12 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Galicia 15 - 15 Challenge[golygu cod]

Wikipedia:Galicia 15 - 15 Challenge is a public writing competition which will improve improve and translate this list of 15 really important articles into as many languages as possible. Everybody can help in any language to collaborate on writing and/or translating articles related to Galicia. To participate you just need to sign up here. Thank you very much.--Breogan2008 (sgwrs) 13:51, 12 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Opera[golygu cod]

Rwy'n sgut am opera, ond prin yw'r gwybodaeth yma. Rwyf wedi ceisio gwella erthygl byr am opera yma trwy roi amlinelliad stori La traviata. Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn bodoli trwy nawdd Y Cynulliad a ffynonellau cyhoeddus eraill megis y Loteri. Mae ein cynnwys am operâu yn dueddol o fod yn wyn-leiners o eginon heb Egin Opera. Pob blwyddyn bydd yr Opera Cenedlaethol yn darparu rhaglenni dwyieithog ar gyfer perfformiadau yn Llandudno a Chaerdydd sy'n rhoi byr amlinelliad o stori'r opera yn y Gymraeg. Sut mae mynd ati i ofyn i'r WNO i ryddhau'r amlinelliadau i ni i wella ein erthyglau (ac i wella hysbys i'r WNO ar ein safwe)? AlwynapHuw (sgwrs) 05:35, 17 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Ewadd ia! Dyna i ti 3,000 o erthyglau ar blat! Efallai y gall Llywelyn2000, Dafyddt neu Adam ganfod database (cronfa ddata!) a wneith y tric? Neu - ffonia nhw yng Nghaerdydd a gofyn ar ran y gymuned. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:10, 22 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Dathlu sefydlu 'Grŵp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru'[golygu cod]

Cyfarfod cynta'r grwp.

Wel mae popeth wedi mynd drwyddo a Sefydliad Wicimedia wedi rhoi sel eu bendith ar y grwp newydd!

I lansio'r grwp, fe'n gwahoddwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol ar 27 Mawrth i ddechrau am 11 a gorffen erbyn 4 fan bellaf. Dewch a syniadau efo chi - sut gall y grwp ein cynorthwyo i ddatblygu Wicipedia a'i chwiorydd ymhellach? Symudom i fyny ger (neu ddau!) yn ystod y dair blynedd ddiwethaf, a'r gamp rwan fydd symud ger arall. Mae sel bendith Bwrdd Wikimedia UK wedi'i rhoi i'r Grwp newydd hwn hefyd, a bydd rhywfaint o gyllideb yn cael ei ddatganoli. Mae Dafydd Tudur am gadeirio - a thorri'r gacen yn unol a thraddodiad arferol Wici! Mae'r ddalen swyddogol ar Meta yn fama.

Efallai hefyd y byddwn yn cyrraedd y 100,000 o erthyglau tua'r diwrnod hwn; cawn weld! Os oes rhywun eisia cymorth gyda chostau teithio i Aber, yna plis hitiwch y botwm ebost ar y chiwth (ar fy nhudalen defnyddiwr) a gwnewch gais! YMLAEN! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:48, 20 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Dim amser, sorri, ond mae'n braf iawn gweld pethe'n datblygu! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:11, 22 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Rhagor cyn hir am hyn; yn fyr - cafwyd cyfarfod gwych iawn. Un o'r pethau newydd oedd annog pobl i sgwennu un erthygl (neu un golygiad hyd yn oed!) - y dydd! Dw i'n gweld fod Sian yn rhoi #Wici365 wrth eu creu, a bod Jason wedi trydar sut mae gwneud hyn yn fama. Rhagor cyn hir! Diolch Sion Jobbins am y syniad gwych yma! Syniadau eraill cyn hir, yng nghofnodion y cyfarfod. A diolch yn FAWR i'r Llyfrgell Genedlaethol am wledd tri chwrs i bawb am ddim ac i Dafydd Tudur am gadeirio mor gratrefol, hwyliog ac effeithiol! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:56, 28 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Gwyddonwyr[golygu cod]

Rwyf wedi cyhoeddi un erthygl (Raman Parimala, a wnes drwy ddefnyddio rhestri Wicidata ee Defnyddiwr:Llywelyn2000/Mathemategwyr ben a'i debyg, ac ychwanegu rhagor o wybodaeth o Wicidata. Mae Monsyn hefyd wedi bod yn cyfieithu'r termau a diolch i Aaron (WiciMôn) am yr anogaeth! Tybed a wnewch chi gyd wiro hon, os gwelwch yn dda a rhoi yr o-ce!? Mae gen i ychydig dros 2,900 tebyg. Diolch o galon! ON - mae nhw i gyd am fenywod! Sian EJ (sgwrs) 22:29, 25 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

@Jason.nlw, PelaDiTo, John Jones, Prosiect Wici Mon, Dafyddt, Adam:
Hefyd Anne Hutchinson, Helen Sawyer Hogg a María Teresa Ruiz. Rwy wedi rhoi 5 max yn y tabl o wyddonwyr tebyg, ond wna nhw ddim poblogi'r tabl nes y bo'r erthyglau wedi eu creu, wrth reswm. Sian EJ (sgwrs) 07:38, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Gan mod i wedi bod yn rhan o greu'r deunlen / gronfa, well i mi beidio a dweud fy marn! Ond mi allaf ddweud fod mwy o gig ar yr asgwrn na sydd ar lawer o fonion tila sy'n cael eu creu - llawer gan rywun o Frasil!! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:04, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Mae'r erthyglau yn edrych yn gwych. Wedi sylwi efo'r rai prawf, does dim gwybodaeth 'Gyrfa' yn ymddangos ar gyfer Anne Hutchinson, dim ond yr is-deitlau. A efo María Teresa Ruiz mae na maes gwag hefyd. Jason.nlw (sgwrs) 11:29, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Fi'n gweld bod hwn yn digwydd oherwydd nad yw'r gwybodaeth ar Wikidata, sydd yn gadael cwpl o opsiwnau. 1. Ychwanegu'r gwybodaeth i Wikidata neu 2.rhedeg sparql er mwyn adnabod y bylchau ac addasu eich data cyn llwytho'r erthyglau, neu 3. defnyddion AWB er mwyn tynnu'r isdeitlau gwag ar ol i chi llwytho'r erthyglau. Jason.nlw (sgwrs) 11:35, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Helo. Diolch Jason. Placeholders ydy nhw fel rydyn ni wedi bod yn gwneud mewn mannau eraill e.e. Chile, lle mae na 5 pennawd gwag: Hanes, Gwleidyddiaeth, Diwylliant, Economi a Chwaraeon. Neu edrych ar T. E. Lawrence y llenor gan Adam, sydd a 4 gwag. O leiaf fe fydd y rhai hyn yn cael eu poblogi'n awtomatig wrth i'r wybodaeth gael ei rhoi ar Wicidata. A byddai prosiect bach wedyn ar hyn yn cyfoethogi'r erthyglau. Sian EJ (sgwrs) 13:22, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Sorri Sian, newydd weld hwn. Mae'n nhw'n edrych yn anferthol! Dim problem gen i. Fedrith rhywun adrio cyfeiriadau ryw dro, dwi'n siwr. Go for it! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 14:06, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Roedd Llyw yn dweud fod modd ychwanegu refs drwy'r templad Wicidata yn nes ymlaen. Paid a gofyn sut, caf wybod fory! Neu tybed @Jason.nlw:? Sian EJ (sgwrs) 14:10, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Helo Sian EJ. Os mae na' bwriad i llenwi'r bylchau yn fuan wedi llwytho'r erthyglau - dim problem, ond yn personol dwi'n credu bod e'n edrych yn flêr i cadw yr adrannau yn gwag am cyfnodau hir yn y gobaeth bydd rhywun yn eu ddatrus, ac yn roi'r awgrwm i'n darllenwyr bod y Wici Cymraeg ar hanner. Ond heblaw am hynny dwi'n credu bod yr erthyglau'n edrych yn grêt. Gyda'r Cyfeiriadau, dw'i ddim yn siwr am hyn, ond mae Llywelyn2000 wedo llwyddo gwneud hyn trwy'r gwybodlen Wikidata yma - Nodyn:Gwybodlen genyn - Falle mae na cliw yn y côd? Jason.nlw (sgwrs) 14:33, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Mae @Sian EJ: yn gywir fod hyn wedi digwydd yn y gorffennol, ond dydy hynny ddim yn golygu ei fod yn ymarfer da! Dw i wedi dileu llawer o'r rhai a grewyd bymtheg mlynedd yn ol (ia - gwledydd gan fwyaf), oherwydd mae gormod o ddolennau coch, gwag yn hollol negyddol. @Jason.nlw: Jason - gad i ni drafod y ffordd ymlaen efo Sian yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae na wastad ateb i bob problem dan yr haul - mwy nag un ateb fel arfer! A diolch i Sian am y gwaith (a dy amynedd efo dy sthro ac ambell un negyddol!!) Llywelyn2000 (sgwrs) 06:43, 29 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Fe wnai ail-ddatgan fy nghwrthwynebiad i 'Restrau Wicidata'. Mae'r ffaith bod ListeriaBot yn diweddaru'r tudalennau bob dydd yn neud hi'n uffach o anodd ar ôl sbel i weld pwy wnaeth newidiadau. (Fe fasen gen i llai o wrthwynebiad os oedd y rhestr yn dod o Nodyn, oedd yn gwneud chwiliad ei hun). Hefyd mae'r wybodaeth yn amherthnasol gan fwyaf. Os ydyn ni eisiau gweld mathemategwyr Indiaidd arall fe allwn i glicio ar y categori. A mae hefyd yn gwneud hi'n llawer anoddach gwneud chwiliadau achos fod pob enw yn ymddangos ymhob tudalen sy'n cynnwys y rhestr.
Dau beth arall - sdim angen y 'Gweler hefyd' nagoes (dyw'n ychwanegu dim byd). Ac ydi'n bosib ychwanegu categori 'Gwyddonwyr/Mathemategwyr -cenedligrwydd-' hefyd? Dwi wedi bod yn gwneud hyn ar gyfer arlunwyr benywaidd felly byddai'n dda cael y categoriau cynhwysfawr yno o'r cychwyn. Diolch! --Dafyddt (sgwrs) 14:22, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Rhestrau Wicidata - pwynt da; diolch! Gweler hefyd - byddai angen trafod hyn yn y Caffi, gan eu bod ar bob erthygl arall bron ar Wicipedia! Rwy'n eu gweld yn hynod o handi fy hun. Categori cenedligrwydd! Gwych! Diolch Dafydd! Be ti'n feddwl Sian? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 14:34, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Wel fy hun, mi faswn i'n rhoi'r darllenwr yn gyntaf a gofyn beth mae o neu hi isio'i weld. Ond os da chi'n mynnu, gallaf ddileu'r Rhestri. O ran y categoriau: gallaf ond mae na dipyn o waith os am eu gwneud nhw cyn; neu ychwanegu nhw efo bot wedyn, efallai. Gweler hefyd - dim ots gen i, ond os yw'n arferol ar erthyglau eraill, yna why change it? Sian EJ (sgwrs) 14:44, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
@Sian EJ: - adnewydda dy AWB; dw i newydd ychwanegu Categori cenedligrwydd (gw. cais Dafyddt) - y golofn olaf yn y db. Gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:30, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
@Sian EJ: - Edrych yn dda. Mae cwestiwn gen i barthed y "Rhai gwyddonwyr eraill o'r un cyfnod", os oes bron i 3K o erthyglau tebyg am gael eu creu a fydd y rhestr yn tyfu i 3K o linellau? Hefyd, pan fo data yng nghorff yr erthygl, yn hytrach na jest yn y gwybodlen, pa mor ymarferol bydd gwella erthygl a llaw? AlwynapHuw (sgwrs) 15:47, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Diolch Alwyn! Mae na LIMIT wedi'i osod ar ddim mwy na 5, ond dwi'n derbyn be mae Dafydd yn ei ddweud y gall newid yn rhy aml gan ListeriaBot, felly dwi wedi ei ddileu. 'a llaw' - pwynt da; rheswm arall dros i ei ddileu! Sian EJ (sgwrs) 16:01, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Ah! 'yng nghroff yr erthygl' - son wyt ti, felly, am wicidata'n cael ei alw. Mater bach ydy newid unrhyw beth ar Wicidata yn hytrach nag yn yr erthygl. Sian EJ (sgwrs) 16:03, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Dwi wedi tynnu dau o'r 'Gweler hefyd', er mwyn eu lleihau (gweler nodyn gan Dafyddt uchod) - sef dau nad oedd eu hangen - mathemateg a gwyddoniaeth. Sian EJ (sgwrs) 16:30, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Os nad oes gwrthwynebiad neu awgrym arall, yna mi af ymlaen i'w gosod. Sian EJ (sgwrs) 18:42, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Os dewch ar draws gangymeriadau, tybed a wnewch chi nodi hynny ar fy nhudalen sgwrs? Diolch! Sian EJ (sgwrs) 18:56, 26 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Y 100,000fed erthygl[golygu cod]

Er gwybodaeth, 30au CC yw'r 100,000fed erthygl, wedi ei chreu gan ‎2400:6180:0:d0::cf3:8001 (o bosib allanwr a welodd ei gyfle?). —Adam (sgwrscyfraniadau) 00:47, 27 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Am siom. Rwyf ar fin (03:45 y bore) cerdded 5 milltir i orsaf y Gyffordd er mwyn dechrau ar artaith o newidiadau lu o drafnidiaeth gyhoeddus bydd yn fy nghael i Aberystwyth o fewn trwch blewyn i gychwyn cyfarfod oedd bod i gynnwys cyhoeddi'r 100,000 erthygl, ar bwnc byddai o ddiddordeb i'r wasg. Wedi cyfrannu dros 1000 o erthyglau newydd a 15,000 o olygiadau i Wicipedia, byddid dadl bod gennyf "hawl" i fod yn bresennol yn lansiad y 100K erthygl. Byddid dadl i gyflwyno i'r Cynulliad hefyd bod y drafferth o wneud taith mor fer i un sydd ddim yn cael gyrru, o herwydd afiechyd, yn amharu ar fy hawl a fy safon o fyw. Diolch i 30au CC am droi fy siwrnai ddadleuol yn un afraid bellach! AlwynapHuw (sgwrs) 02:51, 27 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Fe stopiwyd y cloc ar 99,999 er mwyn i berson arall greu'r canfed. O fewn eiliadau daeth bot y casglwr cwpanau (trophie hunter!), o Singapor: gweler yma! Ond ta waeth, mae na chydig yn rhagor o erthyglau wedi cyrraedd, a dyna sy'n bwysig. Alwyn - mi fedraf dy godi yn Nolgellau - os yw hynny o help? Dwed yr amser! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:16, 27 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Congatulation from Alemannic Wikipedia! --Holder (sgwrs) 06:14, 28 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]
Zorionak Euskal Wikipediatik!
Congratulations from Basque Wikipedia!
--Euskaldunaa, 21:56, 31 Mawrth 2018 (UTC)

WikiProject:Asturies-Cymru[golygu cod]

I just created this project to jointly work articles from our two countries in our languages. I would appreciate your help and support. Thank you very much. --Vsuarezp (sgwrs) 15:04, 1 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Briliant! Just done 2 articles! Cabrales and Caravia. More to follow!
Awydd rhestr o erthyglau yn Asturias? Dilynwch y ddolen! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:28, 1 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Er yr hoffwn yn fawr, dwi wedi addunedu i sgwennu rhagor am wyddonwyr benywaidd, efo'r prosiect #Wici365! Go drapia! Sian EJ (sgwrs) 21:35, 1 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Wel, dwi wedi creu un! Sian EJ (sgwrs) 22:20, 1 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Efallai y byddai rhai'n dymuno canolbwyntio ar y prif ddinasoedd: Nodyn:Trefi a dinasoedd mwyaf Asturias. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:37, 2 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Defnyddio Templedi o Wicipedia'r Iaith Fain[golygu cod]

Hoffwn ddiweddaru tudalen Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyda gwybodflwch (ai dyna ni'n eu galw nhw? sori, dw i allan o'r lŵp ers dipyn). Mae'r un ar gyfer Powys yn cynnwys cyfeiriadau at wybodaeth - ffigyrau yn bennaf - sydd mewn templed ar y Wicipedia Saesneg - [1]. Dyw'r ffigyrau ddim yn ymddangos ar dudalen Powys gyda'r dolenni fel y maen nhw. Oes modd newid y dolenni fel eu bod nhw yn gweithio? Byddai dipyn o ystadegau siroedd Cymru ar y Wici Cymraeg yn cael eu cadw'n llawer mwy gyfredol os oes modd defnyddio cynnwys y templed Saesneg. (Mae amser ein llofnodion ni yma dal ar GMT, er i'r clociau troi wythnos diwethaf.) --Cymrodor (sgwrs) 22:29, 1 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Haia. Mae na lawer o lefydd yn defnyddio'r un Nodyn (llawer iawn!), sef Nodyn:Infobox settlement, fel y gwyddost. Mae hwn yn galw nifer o is-Nodion ac is-is-nodion; i weld rhestr o rai (ia, jyst rhai!), clicia golygu ar frig y nodyn a dos lawr at y tri botwm 'Cyhoeddi newidiadau', 'Dangos Rhagolwg'... a mi ddyli weld triongl bychan a'r geiria 'Defnyddir y nodiadau hyn yn y dudalen hon:'. Mae na gannoedd i gyd! Gelli ddiweddaru'r Nodyn ei hun, ond er mwyn iddo weithio'n iawn byddai angen diweddaru pob un o'r is-nodion a'r is-is-nodion! - a'u cyfieithu o'r newydd wrth gwrs! Dw i wedi cuddio sawl un na allwn ffindio'r man i'w cyfieithu ee mae na ugeiniau o nodion gydag amrywiadau o 'filltir sgwar'. 'sg mi', 'mi sg' ayb.
Problem arall oedd fod y Nodyn Saesneg yn rhoi baneri Sbaen ar Gatalwnia, Gwlad y Basg ayb, felly gwell oedd eu cuddio.
Dw i'n ymwybodol fod yma goblyn o waith, ac fel tithau, dw i'n gwybod pa mor bwysig yw diweddariad BYW, cyfoes i integriti Wicipedia! Y ffordd ymlaen yn fy marn i, ydy derbyn llif byw o Wicidata. A dw i'n eitha ffyddiog y gallwn wneud hyn gyda pob lleoliad cyn hir, gan gynnwys pentrefi Cymru, Asturias a'r UDA, gwledydd, rhabarthau - a hynny efo un templad syml 'Nodyn:Lleoliad/Wicidata' neu enw tebyg. Mi wnes i hyn gyda phobl: gweler y Nodyn:Gwybodlen person/Wicidata, a rhai o'r erthyglau sy'n ei defnyddio. Mae'n bosib atal gwybodaeth imperialaidd Wicidata efo'r hyn dw i'n ei alw'n follt - clo sy'n gweithio o'r tu mewn yn unig! Nid clo dwy ochor, ond clo y gallem ni ar cy-wici ei ddefnyddio i reoli'r llif byw o Wicidata. Dyma'r 'over-ride' fel mai baner Catalwnia fydd i'w weld ar yr erthygl ar Catalwnia! Mae na ddiawch o waith i greu hwnnw, ond chwarter y gwaith o ail newid rwts yr iaith fain! Dyma un o fy mlaenoriaethau yn ystod y misoedd nesaf ac mae croeso i ti neu unrhyw un arall i fy helpu. Mi wnai dy bingio pan fyddaf wedi dechrau creu'r Nodyn newydd hwn. Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 09:10, 2 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Nodyn:Gwybodlen person/Wicidata[golygu cod]

Dw i wedi cyfnewid yr hen 'Nodyn:Gwybodlen person' am yr un ddiweddaraf ('Nodyn:Gwybodlen person/Wicidata') ar yr erthyglau ar fenywod, gyda help Llyw! Nol at Astwrias, wedyn. Sian EJ (sgwrs) 05:31, 7 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Gweld dy fod yn cyfnewid yr hen wybodlen am yr un newydd hefyd. Diolch Sian! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:13, 11 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Diolch i nifer o olygyddion (Sian EJ yn bennaf!) mae'r wybodlen hon, bellach, ar dros 17,500 o erthyglau. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:33, 24 Mai 2018 (UTC)[ateb]

Trafferth efo côd[golygu cod]

Sut mae newid y nodyn {{convert|709|sqmi}} a'i debyg i roi allbwn Cymraeg? Ar hyn o bryd maent yn rhoi gwybodaeth Saesneg yng nghanol brawddeg Cymraeg, sy'n boen braidd ee ar erthygl Sir Christian, Illinois mae " y mae {{convert|709|sqmi}} yn dir a {{convert|6.3|sqmi}} (0.9%) yn ddŵr" yn ymddangos fel "y mae 709 square miles (1,840 km2) yn dir a 6.3 square miles (16 km2) (0.9%) yn ddŵr." AlwynapHuw (sgwrs) 23:35, 10 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd Llywelyn2000 (sgwrs) 08:34, 11 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Os cei broblem tebyg, y Nodyn i'w chyfieithu ydy Modiwl:Convert/data. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:39, 11 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Cadw ty mewn cwmwl tystion...[golygu cod]

Mae na waith ty angen ei wneud rwan da ni wedi cofleidio Wicidata! Gyda help Zola o fr-wici dw i di creu categori newydd sy'n crynhoi'r holl wybodlenni sydd â Qcodau heb enw Cymraeg (na Saesneg). Gwaith diflas on pwysig! Clic ar y beiro wrth ochr y Qcod, ac ychwanegu'r enw Cymraeg ar WD. Ar hyn o bryd mae na 603 yn y categori. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:08, 11 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Gwybodlen Gwlad Wicidata[golygu cod]

Gan fod cymaint o hen wybodaeth yn y gwybodleni gwlad (poblogaeth, enw arlywydd ayb) dw i 'di cychwyn Defnyddiwr:Llywelyn2000/Gwybodlen gwlad/Wicidata, a fydd yn y diwedd (gobeithio!) yn sicrhau fod yr wybodaeth yn gyfoes ac yn fyw o WD. Mae croeso i chi olygu'r ddalen hon, os oes gennych grap ar godio WD. Be fyddai'n wych, wrth gwrs, fyddai ein bod wedyn yn ei ymestyn i drefi a llefydd eraill - un Nodyn del yn gwneud pob lleoliad! Jyst golygwch! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:27, 13 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Mi wna i help i'w rhoi nhw ar WP, ond sa i'n deall codio mewnol gwybodlenni! Sian EJ (sgwrs) 12:31, 16 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Ychydig yn symlach na gwledydd mae cymunedau, pentrefi a threfi! Felly, mi es ati dros y penwythnos i greu Nodyn newydd: Nodyn:Gwybodlen llefydd. Dw i wedi gadael yr enw'n benagored, er mwyn cwmpasu mwy na hyn - hyd yn oed pentrefi a lleoedd y tu allan i Gymru. Mae croeso i rai ohonoch adael awgrymiadau ar y ddalen Sgwrs, neu weithio ar y cod. Mae na ddau neu dri o bethau y carwn eu hychwanegu - map byw (da ni eisoes wedi cytuno ar hwnna), ychwanegu gwleidyddion o Gymru (ACs ac AS) a nodi pa grwp Celtaidd (Silwriaid ayb) oedd yn byw yn y lle hwnnw. Be da chi'n feddwl? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:15, 10 Hydref 2018 (UTC)[ateb]

Mae yna rai meysydd Wicidata lle nad oes angen dangos pob cofnod, dim ond yr un 'diweddaraf' (yn ôl cyfyngiad dyddiad er enghraifft). Sut mae gwneud hyn ar y gwybodlenni yma? Dwi wedi sylwi hyn ar gofnodion pobl lle mae rhywun wedi priodi/ysgaru ond mae'n dangos yr unigolion blaenorol heb ddyddiad (er roedd y gwybodlenni pobol yn fwy hyblyg o ran nodi hyn). Run peth gyda cyflogwr. Ond newydd sylwi hyn yn benodol ar Cymru - yn bennaf am mod i ychwanegu holl prif weinidogion Cymru gyda'i dyddiadau swydd. --Dafyddt (sgwrs) 12:29, 11 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Dyna pam mod i wedi gadael y wybodlen bresennol yn ei lle ar wleidyddion (a phel-droedwyr)! Edrych ar Carwyn Jones, er enghraifft - i'r swydd bresennol yn unig ymddangos, bydd angen newid 'safle normal' i 'preferred rank' (uwch-safle). Dos at y Nodwedd (property) 'Swydd' a mi weli fod tri dotyn bychan, y naill uwch ben y llall, ar y chwith. Clicia 'golygu', yna dos at y tri dotyn a mi elli ddewis preferred rank, a'i gadw / safio. OND - un wneith ymddangos wedyn. Er mwyn ei gael i edrych fel yr hen wybodlen (yr un presennol), gyda dyddiadau, mae dau ddewis: naill ai ychwanegu tameidiau yng nghod y nodyn er mwyn gweld y dyddiadau, neu eu hychwanegu ar frig y ddalen, gyda llaw, fel a wneid gyda'r faner a supress fields ayb. Croeso i ti wella'r nodyn er mwyn i'r naill neu'r llall weithio. Os wyt am i'r swydd ymddangos ee 'Cwnsler Cyffredinol Cymru', yna bydd angen creu Goleddfwr (Q-ualifier) newydd ar WD. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:56, 11 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Aha, dyna ydi pwrpas y saethau bach yna - diolch! Yn y cyfamser, mae yna fot wedi dod heibio a gosod y safle ar Mark Drakeford. Grêt. --Dafyddt (sgwrs) 13:10, 11 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Ieithoedd eraill[golygu cod]

Mae'r system o roi'r dalen mewn ieithoedd eraill wedi newid a dwi ddim yn siwr sut mae mynd o'i chwmpas hi i newid camgymeriadau. Mae Pêl-rwyd yng Ngemau'r Gymanwlad yn lincio i erthyglau am Bêl-fasged mewn ieithoedd eraill h.y. Basketabll nid Netball! Sut mae newid hyn plis? Blogdroed (sgwrs) 13:50, 15 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Haia gyfaill! ydy, mae'n tipyn o newid - ond er gwell dw i'n meddwl! Drwy Wicidata mae nhw'n cael eu rheoli, bellach. Dyma fideo bach sy'n dangos mai rhyw ddau glic sydd eu hangen! -

Tyrd nol, os nad oeddwn yn ddigon clir! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:09, 17 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Pyrth[golygu cod]

Mae trafodaeth ar y Wici Saesneg ynglŷn â dileu'r pyrth: gweler Wikipedia talk:Portal a'r Village pump. Dadleuir eu bod ar drengi, heb dynnu sylw darllenwyr na golygwyr, a dim yn gwneud unrhywbeth na ellir ei wneud gan gategorïau, rhestrau, nodiadau llywio, WiciBrosiectau, ac erthyglau. Dim ond pedwar porth gorffenedig sydd gennym yn Gymraeg: Porth:Cymru, Porth:Llwybr yr Arfordir, Porth:NATO, Porth:Wica. Efallai nad oes angen am drafodaeth debyg yma, neu efallai dyma'r cyfle i benderfynu ar ddyfodol pyrth: dileu'r ychydig sydd yma a chanolbwyntio ar sgwennu erthyglau, neu (ail-)lansio'r pyrth i annog cydweithrediad ar bynciau penodol?

O'm rhan fy hun, er fy mod yn hoffi'r syniad o dudalen ddeniadol sydd yn cyflwyno amrywiaeth o ddolenni ar bwnc penodol, mae'n rhaid imi cytuno nid ydynt yn gwneud fawr o werth nad sy'n cael ei wneud gan dudalennau eraill. Ar y Wici Saesneg, rydw i bob tro yn troi at gategorïau a rhestrau yn hytrach na phyrth os ydw i am ddysgu mwy am bwnc. —Adam (sgwrscyfraniadau) 17:52, 16 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Cytuno'n llwyr Adam! Ond mae hefyd yn bwysig cadw'r hen byrth mewn rhyw fodd ee Archif:Pyrth? Yn eu hamser, roedden nhw'n ddeniadol ac i bwrpas, ond bellach.... ond rhai symud ymlaen, myn gafr! Diolch am ddod a hyn i'n sylw! I'r archif a nhw! Sian EJ (sgwrs) 18:25, 16 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Cytuno! Ond faswn i ddim yn treulio gormod o amser yn eu harchifo, chwaith! Mae'r dyfodol yn bwysicach! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:29, 16 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Rydw i wedi dileu'r holl dudalennau yn y parthau "Porth:" a "Sgwrs Porth:". Os oes angen gweld yr hen gynnwys, gall gweinyddwr ei adfer. —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:08, 11 Medi 2018 (UTC)[ateb]

Newid enw i 'Astwries'[golygu cod]

Mae na sgwrs yn Sgwrs:Asturias am enw'r wlad, gyda chynnig i'w newid o Asturias i Astwries. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:29, 17 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Marwolaethau diweddar:[golygu cod]

Ddoe dysgais fod Emyr Oernant, Barbara Bush a Dale Winton wedi marw. Mae gan y tri erthygl amdanynt ar ein wici ac o'r herwydd yn "haeddu" lle ar yr oriel Nodyn:Marwolaethau diweddar. Rwy'n ansicr o drefn eu marwolaethau ond mi glywais i amdanynt yn y drefn Emyr, Mrs Bush, Dale. Mi ychwanegais marwolaeth Emyr Oernant i'r nodyn, ond roeddwn yn anghysurus ategu enwau'r ddau arall. Byddai wedi danfon Emyr i waelod y rhestr, o ddim ond 4 enw, ychydig oriau wedi ei farwolaeth gan fod Americanwraig a Sais wedi digwydd marw tua'r un pryd. A fyddai'n dderbyniol newid y rheol 4 enw i un "na ddylid cael gwared a'r enw olaf o fewn saith niwrnod o gyhoeddi ei farwolaeth"? AlwynapHuw (sgwrs) 06:14, 19 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Dwi ddim yn siwr pam mai 4 yn unig sydd yna, does dim rheswm pam na allai fod 6. (ar ddyfais symudol ac ar sgrin arferol >1000px, byddai hynny tua 2 linell). --Dafyddt (sgwrs) 08:33, 19 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Does dim angen cyfyngiad yn fy marn i! Cytuno efo chi, Dafydd ac Alwyn! Sian EJ (sgwrs) 09:17, 19 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Mapio[golygu cod]

Time to bring embedded maps (‘mapframe’) to most Wikipedias

@Oergell: Dw i newydd adael fy marn yn fama. Fe all fod yn ddatblygiad cyffrous iawn, ond fe all fod yn brosiect enfawr i gael yr enwau lleoedd a strydoedd i gyd yn Gymraeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 02:45, 25 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Yn y ddolen uchod ([2]) fe welwch mod i wedi gofyn un neu ddau o gwestiynau am y map - a iaith y lleoedd. Mae sens yn dweud ein bod am ddefnyddio'r Gymraeg, dyna ydy ein polisi - a'r iaith frodorol gan fwyaf y tu allan i Gymru. Dw i 'di gofyn i Carl Morris (@Oergell) am sylwadau gan ei fod yn ymwneud a phrosiect defnyddio enwau lleoedd Cymraeg drwy feddalwedd OpenStreet Map (prosiect a arianwyd gan Lywodraeth Cymru).
Mae nhw wedi gofyn am gonsensws barn yma, fydd yn cadarnhau hyn, felly cadwch eich llygad ar hyn os gwelwch yn dda. Gall hyn fod yn ychwanegiad gwych neu'n rwts-mi-rwts! Byddwn barod... Sylwadau neu gadarnhad o'n polisi presennol fyddai'n dda! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:38, 26 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Bois bach! Mae'r rhan fwyaf yn Gymraeg yn barod! Newyddion da! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:52, 26 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Mae trefgorddau Llansanffraid Glan Conwy, yno ond nid y Llan ei hun, sut mae golygu'r map? 03:54, 29 Ebrill 2018 (UTC)
Dw i ddim wedi gwneud er blwyddyn neu ddwy! Mi wnes i lawer o'r rhyngwyneb yn y cyfamser. Menwgofnoda. Dos i esiampl. Ychwanegu name:cy. Mae'r rhain hefyd ar gael i fathau gwahanol. Mae angen dalen lawn yn ein hadran 'Cymorth' i egluro sut i fynd ati! Dyma ddywed JMatazzoni ar Meta:
but the only real trick is in making sure you've found the right object—in this case the "city" "node"—as opposed to the city boundary line, administrative unit, city hall, etc. (Hint: once you're zoomed in enough and have entered the editor, you can use search to find the "city" or "node".)
Mae na brosiect arall yn dod i ben a arianwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda Carl a Wyn wrth y llyw - byddai'n wych pe allem ddefnyddio'r gwaith yma, yn enwedig enwau strydoedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:53, 29 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Wici Prosiect: Gemau Fideo?[golygu cod]

@Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000, Jason.nlw, Dafyddt, Deb, Sian EJ: Rwyf wedi sgwennu dwy erthygl wantan iawn am Gêm fideo a Crash Bandicoot. Er fy mod yn fy mhenwynni, fi oedd a'r sgôr uchaf ar beiriant arcêd Space Invaders y Menai Vaults ym 1981! Ond rhaid cyfaddef nad ydwyf yn gwybod llawer am y pwnc bellach. Mae'n amlwg yn bwnc sydd o ddiddordeb mawr i bobl o bob oed, ac yn arbennig o ddiddordeb i'r to iau. Ond mae 'na dwll o ddiffyg gwybodaeth yma. Os am gael prosiect "Wici-Prosiect" newydd, hoffwn awgrymu Prosiect Wici-gemau-fideo. Siawns i daid a nain sôn am pacman, mam a dad cofio am GTA Vice City a'r plantos i egluro'r gemau mwy diweddar sy' tu hwnt i'm ddirnad i! AlwynapHuw (sgwrs) 03:37, 29 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Rwy'n cytuno. Deb (sgwrs) 07:17, 29 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Andros o fwlch ar hyn o bryd! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:53, 29 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]
Gwych Alwyn. Syniad da! Jason.nlw (sgwrs) 18:22, 28 Mai 2018 (UTC)[ateb]

Wici Henebion 2018[golygu cod]

WLM Cymraeg
WLM Cymraeg

Mae dalen restru gwledydd Wici Henebion i'w gweld yn fama, a dw i wedi ychwanegu Cymru, fel gwlad. Bydd angen eich help i sicrhau ein bod yn cael ein derbyn, eleni. Plis gadewch eich enw defnyddiwr ar waeld y ddalen a chadwch eich llygad ar agor ar y trafodaethau. Mae nhw'n siwr o fod yn eitha poeth. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:28, 17 Mai 2018 (UTC)[ateb]

Diweddariad Gorffennaf 2018
  1. Mae Wikimedia UK wedi gwrthod yr hawl i ni gystadlu ar lefel Rhyngwladol ond yn caniatau i ni gystadlu fel Cymru, o fewn y DU, gan restru ein ffotograffau, fel y llynedd, dan 'Cymru'.
  2. Dw i'n dal heb gael ateb i'r cwestiynau rwyf wedi'u gadael i drefnwyr rhyngwladol y gystadleuaeth ynghylch lle yn eu polisi mae'n nodi mai gwledydd sofran yn unig gaiff gystadlu.
  3. Dw i hefyd wedi creu categori Category:Wiki Loves Monuments in Wales sy'n cynnwys llawer o'r gwaith rydym wedi'i wneud dros y blynyddoedd.
  4. NI FYDD Wiki Shoot Me yn gweithio eleni, ond bydd teclyn arall (gwell) yn cael ei ddarparu - mwy o wybodaeth yn nes ymlaen. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:12, 18 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Diweddariad Awst 2018

Wedi 10 mis i ystyried fy nghais, mae'r Grwp Rhyngwladol Wici Henebion wedi dod i benderfyniad: mai o dan yr 'UK' y bydd Cymru'n cystadlu. Ofnaf, felly, na fedraf fel gwirfoddolwr, barhau i hybu'r gystadleuaeth hon, nac i gyfrannu lluniau iddi. Mae croeso i eraill wrth gwrs wneud hynny - yn ddibynol ar eich egwyddorion. Fel a nodaf ar waelod y drafodaeth gyntaf ar y ddalen yma, mae eu penderfyniad yn mynd yn groes i ddau bolisi sylfaenol prosiectau Wicimedia:

  1. hybu cyfoeth yr amrywiaeth a hawliau lleiafrifol
  2. pwysigrwydd fod cynnwys y prosiectau'n ddibynol ar ffynonellau dibynadwy, ac mae rheiny, ers 1,500 o flynyddoedd yn nodi fod Cymru'n genedl.

Fel Rheolwr Wikimedia UK, bydd yn rhaid i mi fod yn rhan o'u hymgyrch i annog fwy o ffotograffau o Gymru, ond ni chant fynd i'r rownd derfynol dan faner Cymru. Mae hyn yn fy rhoi mewn lle cas ac anodd. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:36, 12 Awst 2018 (UTC)[ateb]

Cynllun tudalen[golygu cod]

Ddiwrnod neu ddwy yn ôl roedd newid i gynllun holl dudalennau Wicipedia Cymraeg. (Mewn gwirionedd, dw i'n credu bod hyn wedi digwydd ym mhob un o'r Wicis bron.) Erbyn hyn does dim bwlch rhwng teitl y dudalen a'r testun. Yn gyffredinol, dyw hyn ddim yn edrych yn dda, ond ar dudalennau sy'n cynnwys cyfesurynnau daearyddol, mae hyn yn creu effaith wael iawn: e.e. Themelthorpe. Nid oes gan Enwiki yr un broblem: Gweler y dudalen gyfatebol. Beth sy'n digwydd? --Craigysgafn (sgwrs) 11:56, 3 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]

Ti'n iawn hefyd! Sgwn i pam? Tybed oes rhybeth ar Meta? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:18, 6 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]
@Craigysgafn: Newydd adael cais am gymorth ar y Nodyn sy'n achosi'r broblem ar en-wici yn w:en:Template talk:Infobox UK place. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:09, 11 Medi 2018 (UTC)[ateb]
Diolch! Byddai'n braf datrys y broblem hon. Craigysgafn (sgwrs) 09:40, 11 Medi 2018 (UTC)[ateb]
Ydy mae'n edrych yn fler ar hyn o bryd. Mae na hawl arbennig, bellach, sydd ei angen ar dop biwrocrat! Sef: Interface administrator access; newydd weneud cais ar Meta; fy ymddiheuriadau am gymryd cyhyd! Croeso i rywun arall e.e. @Dafyddt: fel bod dau ohonom! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:57, 11 Medi 2018 (UTC)[ateb]
Y dull arall oedd newid / ychwanegu'r hawl i fy ngallu i fel Biwrocrat. Dw i wedi gwneud hyn, ac wedi diweddaru'r Nodyn MediaWici:Vector.css. Hyn fel stori'r hen wraig a oedd am fynd a'r mochyn (a wrthodai neidio'r gamfa) i'r farchnad, stalwm! Mae'r Nodyn yn effeithio pob erthygl ar cywici, bron, felly - unrhyw broblemau, plis gwaeddwch! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:18, 14 Medi 2018 (UTC)[ateb]

Y Cwlwm Celtaidd[golygu cod]

Mae'n argoeli'n dda ar gyfer Cynhadledd y Cwl Celt, bobol! Mae'r manylion i gyd am deithio, llety, cofresru ayb i'w gweld yn fama. Byddai'n dda hefyd i ni gael cyfarfod sydyn o'r Grwp Wicimedia newydd.

A chofiwch y bydd sesiwn o ddawnsio gwerin Llydewig a bwyd a ballu - ar gopa'r bryncyn uwchben y dref - ar y 5ed. Croeso i olygyddion neu unrhyw unigolyn sydd a diddordeb mewn rhannu gwybodaeth am ddim! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:29, 6 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]

Ambell i Sesiwn cyfochrog hoffwn mynychu dau neu mwy ohonynt (ond ym methu gwneud gan eu bod yn, wel cyfochrog) ee Mark Trevethan: Y Gernyweg a Wicipedia - canfod dulliau i gymuned fechan ddefnyddio Wicipedia yn effeithiol; Aaron Morris - Gwaith WiciMôn o fewn addysg uwchradd a Gwenno Griffith - Wici Caerdydd. A fydd y sesiynau cyfochrog yn cael eu recordio er mwyn i ni cael eu bendith wedi dewis mynychu naill yn hytrach na llall? Fel Cymro sydd ag ychydig o Gernyweg, hoffwn gwneud fy ngorau dros wici bach iawn mewn iaith Geltaidd sy'n cael ei anwybyddu. Hoffwn efelychu Wici Môn a Wici Caerdydd efo Wici Sir Conwy, ond mae'r tri ar yr un pryd AlwynapHuw (sgwrs) 06:05, 15 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw: Oherwydd fy mhroblemau clyw mae fy ngwraig wedi ceisio cysylltu â'r brifysgol parthed lle i sefyll dros y gynhadledd. Mae'r brifysgol yn dweud nad oes ganddynt lle ac nac ydynt yn ymwybodol o fodolaeth cynhadledd Cwlwm Celtaidd a'u addewid i ddarparu lletu i gynhadleddwyr! Heb lety bydd yn anodd mynychu! AlwynapHuw (sgwrs) 05:02, 24 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw: Helo Alwyn. Diolch am gysylltu. Mae'r brifysgol wedi gadael ni lawr efo hyn. Ar ôl cadarnhau bod ystafelloedd ar gael dol yn yr Hydref maen nhw wedi penderfynu peidio agor llawer o'r ystafelloedd tan ar ôl y Gynhadledd! Mae drwg gen i am hyn. Mae 'na ystafelloedd ar gael yn y dre yn dechrau am tua £50 y nos felly bydd e'n syniad edrych ar yr opsiwnau. Os wyt ti dal yn cael trafferth rowch wybod i mi wna'i fy ngorau i helpu. Cofion Jason.nlw (sgwrs) 09:53, 25 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]

@Jason.nlw: Diolch Jason wedi dilyn y linc rwyf wedi bwcio stafell o nos Fercher i nos Wener yng Ngwesty Four Seasons, 18 Bath Street. Oes cynadleddwyr eraill am sefyll yna? AlwynapHuw (sgwrs) 06:22, 26 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]

O dderbyn bod raid i bobl tramor, a bobl sy'n dibynu ar drafnidiaeth cyhoddus Cymreig, bod yn Aberystwyth y noson cyn y gynhadledd oes trefniant ini cyd gyfarfod nos Fercher?
@AlwynapHuw: Falch o glywed dy fod ti wedi cael gwesty Alwyn. Yn anffodus does gen i ddim cofnod o ble mae pobol yn aros, ond dw'i wedi bod yn annog i bobl trafod pethau cymdeithasol ar y tudalen yma. Beth am ddechrau sgwrs am nos Fercher. Dwi'n cwrdd efo criw o Wikimediwr yn ystod y dydd ar y dydd Mercher felly mi wna'i dreial cadw pobol yn y lŵp ar ran mynd allan efo'r nos. Bydd e'n wych os bydd y tywydd yn aros fel hyn! Jason.nlw (sgwrs) 11:04, 27 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]
Diweddariad

Cafwyd cynhadledd fendigedig, gyda phawb i'w gweld wedi mwynhau. Diolch yn fawr i'r Llyfrgell - yn enwedig Jason a'r merched - a fu wrthi ddydd a nos yn sicrhau fod popeth yn llifo'n esmwyth. Ceir adroddiad yma gan y Basgwyr ac un arall (Saesneg) gan Delphine Dallison, Wicipedwraig Preswyr SLIC yn yr Alban. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:30, 18 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Llên Natur[golygu cod]

Gofynwyd i ni ychwanegu dolen (Nodyn:Llen Natur) i wefan Llên Natur, a greodd y rhestr enwau adar (a rhywogaethau eraill). Nawr mod i wedi gorffen y 'Nodyn:Gwybolen person/Wicidata', gallaf gychwyn ar y gwaith yma, gyda help AWB a Llyw! Gobeithio fod hyn yn iawn. Mae'n edrych yn daclusach heb y ddolen i Comin ar y gwaelod - fe ddwedwn i mai o dan 'Gweler hefyd' y dylai'r ddolen yma fod. Beth yw eich barn am hyn? Edrychwch ar Adeinefydd Prydain Newydd, mae'n llawer taclusach HEB y ddolen i Comin, yn fy marn i. A gallem ei roi eto o dan 'Gweler hefyd'. Ydy hyn yn dderbyniol? Sian EJ (sgwrs) 08:20, 7 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]

Mae hyn wedi'i wneud gyda dros 9,000 o rywogaethau erbyn hyn. Sian EJ (sgwrs) 12:18, 16 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Sylwch nad oes angen bellach ar Nodyn:Comin beth bynnag, gan fod dolen at Gomin (a'r prosiectau eraill) yn ymddangos yn y blwch "Mewn prosiectau eraill" ar ochr chwith y dudalen, trwy gyfrwng Wicidata. —Adda'r Yw (sgwrscyfraniadau) 22:15, 27 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Ti'n iawn hefyd! Wnes i ddim cysylltu'r ddau beth! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:41, 28 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Update on page issues on mobile web[golygu cod]

Symud i'r gornel Saesneg o'r Caffi

Archif Portreadau'r Llyfrgell Genedlaethol[golygu cod]

@Jason.nlw: Gwaith gwych iawn gan Jason, y Wicimediwr Cenedlaethol, sydd newydd uwchlwytho 4,878 ffotograff newydd ar Comin - Commons:Category:National Library of Wales Portrait Archive. Mae na goblyn o waith rwan, ond gwaith pleserus, serch hynny! Er enghraifft: ychwanegu categoriau, tocio copi o'r llun (hy dileu'r ymylon gwag drwy ddefnyddio 'CropTool') ac yn bwysicach na dim - eu hychwanegu ar erthyglau Wicipedia! Ar ben hyn mae'r Llyfrgell wedi ychwanegu tua 300,000 o ddata cyswllt, i gyd fynd gyda'r lluniau! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:54, 25 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]

Nifer o'r lluniau o wleidyddion - eisioes wedi eu defnyddio! Ee Rhestr aelodau seneddol Cymru 1837-1841 AlwynapHuw (sgwrs) 05:34, 26 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]
Gwych! Mae'n werth darllen blog Jason ar wefan y Llyfrgell.

Erthyglau gemau Fideo[golygu cod]

Er mwyn llenwi'r twll yng ngwybodath Wicipedia am gemau fidio rwyf wedi dechrau ysgrifennu erthyglau am yr unig gemau fideo cartref i mi ei chwarau sef Cyfres Grand Theft Auto ar y PS2. Mi brynais PS2 ar gyfer yr hogiau pan oeddynt yn blantos! Roedd peiriant efo gemau oedolion yn llawer rhatach na pheiriant efo gemau plant, gan hynny prynais un oedd yn cynwys GTA! Mae 'na tua 30 cymeriad yn GTA III. Wrth i'r gyfres datblygu mae mwy fwy o gymeriadau ym mhob gêm. Fy mwriad gwreiddiol oedd cyfieithu un erthygl hir yn cynnwys y cyfan o gymeriadau GTA III, GTA IV ac ati, fel sydd yn y Saesneg. Ond rwy'n credu bod yr erthyglau Saesneg yn rhy fawr at iws a bod rhai o'r paragraffau am gymeriadau unigol yn hirach nag ambell i erthygl gyfan am bobl go iawn megis Winston Churchill ar ein Wici ni. Rwy'n ansicr pa mor bell i fynd efo creu erthyglau "Unigryw Unigryw" am gymeriadau GTA. Creu 30 erthygl unigol ar gyfer un gêm, neu greu erthygl gyfansawdd am y man gymeriadau eraill a symud ymlaen at y gêm nesaf yn y gyfres. AlwynapHuw (sgwrs) 06:02, 26 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]

Fandaliaeth[golygu cod]

Ymddengys fod tudalenau Alun Cairns a'r Ail Groesfan Hafren yn cael cryn sylw ar y funud! Dwn i ddim os oes modd eu diogelu? Blogdroed (sgwrs) 11:36, 7 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Ddim yn siwr os oes angen diogelu'r tudalennau, caiff gweinyddwr mwy profiadol ateb hynny. Ond dwi wedi dadwneud popeth ynghyd a nifer o newidiadau ddoe hefyd ar draws sawl tudalen. Yr un person yw e, yn dod drwy IP yn Slofenia, o bosib VPN neu proxy. --Dafyddt (sgwrs) 15:30, 7 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Whaw! Anaml iawn da ni'n cael fandaliaeth o Gymru, ac er fod hyn yn ddoniol i rai, mae hefyd yn iselhau cy-wici ac yn codi cwestiwn am ei ddibynadwyedd pe bai'n digwydd yn aml, ac heb ei wrthdroi am amser hir. Yn yr achos yma, fe wrthdrowyd y ddalen o fewn chwap, diolch i @Dafyddt:. Oherwydd ein cred agored y dyllai pawb fedru golygu Wicipedia, anaml iawn rydym yn cloi erthyglau. Mae'r Fandal Disney wedi bod wrthi ers degawd ar bob iaith, ac mae fel talp o sebon yn dychwelyd dro ar ol tro ar ol tro. Oherwydd hyn, clowyd y dalenau perthnasol. Os y daw'r fandal yma'n ol, yna gad i ni ailystyried. Diolch am gadw dy lygad ar fandaliaeth, Blogdroed, ac mae can croeso i ti wneud cais i fod yn Weinyddwr naill ai yn y Caffi neu drwy ddefnyddio Nodyn:Atsylwgweinyddwr. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:35, 8 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Enwau gwledydd[golygu cod]

Oes yna restr safonol o sillafiadau enwau gwledydd ... ac ar ba sail mae dewis y sillafiad cywir? Mae nifer o enwau gwledydd wedi eu newid ac yn edrych yn od iawn i mi ... ac yn wahanol i'r hyn mae'r BBC ac S4C yn ddefnyddio ar eu cyfer hefyd. Blogdroed (sgwrs) 11:36, 7 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Haia! Dw i di dy ateb ar y ddalen Sgwrs berthnasol: Sgwrs:Tîm pêl-droed cenedlaethol Tsile. Os cyfyd rhagor o enwau gwledydd ar wahan i Chile, yna tyrd nol yn y fan yma neu ar ddalen sgwrs y wlad berthnasol. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:25, 8 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Diolch! Blogdroed (sgwrs) 11:34, 8 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Wikidata / Wicidata /Wiciddata[golygu cod]

Ar ymyl y ddalen ar gyfer y tudalen hwn mae cyfeiriad at "Eitem Wikidata"; ar y gronfa data mae'r termau Wiciddata a Wicidata yn cael eu defnyddio hefyd. Oes modd inni gytuno ar un term, er mwyn cysondeb? AlwynapHuw (sgwrs) 14:18, 9 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Problem arall efo wikidata, sy'n ymddangos yma, ond yn ansicr os mae problem ni neu nhw ydyw! Mae gwybodlen Wikidata Hedd Wyn yn dweud mae ei enw go iawn yw Hedd Wyn a'i ffugenw yw Hedd Wyn, does dim sy'n dweud mae ei enw go iawn yw Ellis Humphrey Evans. Nid problem Cymreig yn unig tybiwn. Mae gwybodlen Lev Davidovich Bronstein / Leon Trotsky yn codi'r un broblem. Ansicr os mae angen i ni addasu gwybodlen sy'n roi "Ffug enw'n gyntaf" i greu'r "wir enw", neu os mae problem i wikidata sortio ydyw. AlwynapHuw (sgwrs) 04:46, 10 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Mae yna nodwedd 'enw genedigol' yn Wicidata ar gyfer hyn. Mae'n ddefnyddiol ar gyfer actorion sydd yn mabwysiadu enw llwyfan neu bobl sydd yn newid enw drwy briodas. --Dafyddt (sgwrs) 08:43, 10 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Mi gofia i ddarllen yn rhywle ein bod wedi cytuno gyda 'Wicidata', ond ni fedraf ganfod y sgwrs. @Llywelyn2000: Sian EJ (sgwrs) 12:20, 16 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]
Do, yn Ionawr 2016; gweler Sgwrs:Wicidata. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:33, 16 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Cenedligrwydd[golygu cod]

Cafwyd trafodaeth ar enwici ychydig wythnosau'n ol ar genedligrwydd (nationality) Carles Puigdemont; daeth yr RfC (Requests for Comment) i'r canlyniad ei fod yn 'wleidydd Catalan' yn hytrach nag yn 'wleidydd Sbaenaidd'. Fodd bynnag, er mwyn cysondeb ar yr holl erthyglau sydd am Gatalaniaid a Basgiaid, agorwyd trafodaeth newydd yma. Jyst rhag ofn fod gennych ddiddordeb yn ein cymrodyr o leiafrifoedd Ewropeaidd ac yn awyddus i ddweud eich dweud. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:36, 11 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Cynhadledd Addysg, Donostia, Gwlad y Basg[golygu cod]

Trefnir Cynhadledd Addysgol Donostia, Gwlad y Basg, 5-7 Ebrill 2019 gan Grwp Wicimedia'r Basgwyr. Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar rannu'r gwaith arloesol maent yn ei wneud mewn partneriaeth â Llywodraeth y wlad yn ogystal a rhannu ymarfer da gwledydd eraill. Os oes gennych ddiddordeb mewn picio draw, ychwanegwch eich enw isod. Mae nhw'n bwriadu cynnig bwrsari i siaradwyr a fydd yn cyfrannu i'r gynhadledd a bwriadaf ganfod ffynonellau ariannol i gynorthwyo'r rhai na fydd yn siarad, ond a fydd yn dymuno mynychu.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Gwlad y Basg newydd arwyddo Memorandwm o Gyd-ddealldwriaeth. O ran tref, mae'n eitha tebyg i Aberystwyth, ar raddfa ychydig mwy, ac mae'r tymeredd yn Ebrill, ar gyfartaledd, yn 17 gradd canradd. Byddai'n wych rhedeg WiciBrosiect ar Wlad y Basg i glensio ein partneriaeth gyda'r Grwp Defnyddwyr.

Mae gen i ddiddordeb

Dyddiad cau![golygu cod]

@DafyddTudur, AlwynapHuw, Prosiect Wici Mon, Jason.nlw, Eiri wicicaerdydd, Gwenno wicicaerdydd, Melynmelyn: Mae dyddiad cau ceisiadau am nawdd gan Sefydliad Wicimedia (drwy Wicimedia Gwlad y Basg) ddiwrnod ola'r mis. Gwnewch gais i siarad (sesiynau byr neu hir) ac fe ddylech gael nawdd. Os ydych yn aflwyddiannus yna efallai y bydd Wikimedia UK yn medru helpu. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:50, 21 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]

Mae'r dyddiad cau FORY! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:18, 18 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Cyfarfod Grwp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru, Caerdydd, 7 Awst 2018[golygu cod]

Bydd y Grwp Defnyddwyr yn cyfarfod yng Nghaerdydd (union leoliad i'w gadarnhau) ar brynhawn 7 Awst 2018, sef wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Rhagor o wybodaeth am y Grwp, cofnodion ein cyfarfod diwethaf, a manylion ac agenda ddrafft y cyfarfod nesaf ar Meta. Ychwanegwch eich enw i'r agenda, os gwelwch yn dda, i roi gwybod a ydych chi'n bwriadu dod neu'n anfon eich ymddiheuriadau. Diolch yn fawr! DafyddTudur (sgwrs) 00:48, 19 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

@DafyddTudur: W, gret! Ydan ni'n gwybod ymhle? Sian EJ (sgwrs) 13:06, 30 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Dolen i air yng Ngeiriadur y Brifysgol[golygu cod]

Mae methu creu dolen i ddiffiniad Cymraeg ar eiriadur ar lein Geiriadur y Brifysgol wedi bod yn boen yn y part ôl erstalwm. Trwy hap rwyf wedi canfod modd o wneud (ansicr os yw'n newydd neu dim). O chwilio'r geiriadur trwy ei hafan am air megis corach, mae'r URL uwchben y canlyniad yn aros ar yr hafan http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html ond o roi'r ymchwiliad i mewn i Google fel chwiliad geiriadur corach mae modd dilyn dolen chwilio i http://welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html?corach i corach (heb brofi peirianau chwilio eraill, 'mond Google) AlwynapHuw (sgwrs) 06:47, 20 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Dw i wedi cael gair efo'r golygydd a dywedodd ei fod yn ymwybodol fod hyn yn broblem ac y byddan nhw wedi canfod ateb (a dolen) barhaol yn yr wythnosau nesaf. Diolch Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:22, 12 Awst 2018 (UTC)[ateb]
Gellir defnyddio Nodyn:Dyf GPC i greu dolen at air yng Ngeiriadur y Brifysgol mewn cyfeiriad, er enghraifft am "corach": <ref>{{dyf GPC |gair=corach |dyddiadcyrchiad=27 Chwefror 2019 }}</ref> Nid wyf yn siŵr sut i wahaniaethu rhwng geiriau sydd â'r un sillafiad ond o wahanol darddiad ac felly cofnodion ar wahân, e. e. ysgol. —Adda'r Yw (sgwrscyfraniadau) 22:28, 27 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Mapio 2[golygu cod]

Yn dilyn tipyn o ymholiadau gen i (gweler 'Mapio' uchod), dw i bellach yn eitha ffyddiog fod hi'n bosib mewnforio mapiau byw, bellach, i bob gwybodlen ar leoloedd, a'r enwau hynny gan fwyaf yn Gymraeg. I gael enwau'r strydoedd a rhai pentrefi, bydd angen golygu'r enwau Saesneg ar OpenStreet Map. Dyma esiampl, lle gwelwch fod 'Trallwng' a'r 'Amwythig' yn Gymraeg yn fod enwau'r strydoedd yn Saesneg. Fe allwn geisio torfoli'r enwau Cymraeg wrth gwrs.

Cynnig

Dw i'n cynnig ein bod yn troi'r map byw Cymraeg hwn yn weithredol. Bydd angen o leia 4 ohonom i gytuno (neu fel arall, wrth gwrs) cyn y gwneir hynny.

Cytuno Llywelyn2000
Cytuno Dafyddt
Cytuno Sian EJ

Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:03, 23 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Trafodaeth perthnasol

Be sy'n digwydd efo enwau lleoedd mewn gwledydd eraill, yn arbenig y gwledydd Celtaidd eraill, lle mae'r enwau brodorol Celtaidd yn cael eu defnyddio yma ee trefi a phentrefi yn Llydaw? AlwynapHuw (sgwrs) 01:55, 24 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

@AlwynapHuw: Llydaw: o be wela i, dim ond rhai sydd yn Llydaweg: Kemper er enghraifft. Byddai'n rhaid iddyn nhw eu hychwanegu naill ai'n Llydaweg yn unig (fel da ni wedi'i wneud) neu'n ddwyieithog fel y Fasgeg.
Gwlad y Basg: y rhan fwyaf yn ddwyieithog ee Donostia/San Sebastian neu Arrasate/Mondragon, gyda'r Fasheg yn gyntaf.
Yr Alban: Saesneg yn unig hyd y gwelaf i (Dundee nid Dùn Dè)
Catalwnia: Girona (Catalan) nid Gerona (Sbaeneg), Lleida nid Lérida. Uniaith.
Dw i'n meddwl, felly, fod hyn yn adlewyrchu maint y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma yn yr ieithoedd hynny. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:30, 24 Gorffennaf 2018 (UTC)[ateb]

Mapio Tyrau Genoa[golygu cod]

Mae'r rhan fwyaf o'r erthyglau rwyf wedi ysgrifennu am Dyrau Genoa yng Nghorsica, megis Torra di Centuri yn cynwys gwybodlen sydd i fod i greu map yn dangos lleoliad y tŵr. Rwy'n methu cael y map i arddangos, er bod gwybodaeth am leoliad yn ymddangos fel ei fod yn ran o Nodyn:Infobox Historic Site, be dwi'n wneud yn rong? AlwynapHuw (sgwrs) 07:31, 2 Awst 2018 (UTC)[ateb]

Mi gymerai gip ar hwn yn ystod y dyddiau nesaf, Alwyn. Yn ddelfrydol, creu Gwybodlen Wicidata, newydd sbon i leoedd, fyddai'n ddelfrydol, ond mae hynny'n joban fawr! Er mwyn lleihau'r gwaith, dw i'n ystyried creu dwy wybodlen: y naill i wledydd a'r llall i drefi a phentrefi. Byddai trydydd i adeiladau a henebion yn bosib hefyd. Yn ddelfrydol, un sydd ei angen, ond mae coblyn o wahaniaeth rhwng gwlad, pentref ac adeilad cofrestredig. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:43, 12 Awst 2018 (UTC)[ateb]

Cywiriadau peiriant[golygu cod]

@Sian EJ: Annwyl Siân, y tro nesaf wyt ti'n rhedeg dy beiriant cywiro camgymeriadau sillafu, oes modd chwilio am y gair doleni. Newydd sylwi mae dolenni efo 2 n sy'n gywir ond rwyf wedi ei hysgrifennu efo un n nifer dirifedi o weithiau. Diolch AlwynapHuw (sgwrs) 01:47, 3 Awst 2018 (UTC)[ateb]

@Sian EJ, AlwynapHuw: Helo Alwyn Dw i nwydd eu hychwanegu, ond byddai'n wych pe bai gennym restr ee "Wicipedia:Rhestr o gywiriadau otomatig", fel y gallaf eu hychwanegu. Pe bai pawb yn ychwanegu at y rhestr, byddai Wicipedia tipyn mwy cywir! Rwyf i a Sian (!) yn cadw fy llygad ar bob un newid, gyda llaw, nid rhai otomatig mohonyn nhw, ond mod i'n defnyddio'r AWB i'w canfod. Diolch am hyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:07, 14 Awst 2018 (UTC)[ateb]
Syniad da! Wrthi'n ei redeg rwan! Sian EJ (sgwrs) 07:11, 14 Awst 2018 (UTC)[ateb]
Efallai bod angen dau: un yn otomatig ee File -> Delwedd, a'r cywiriadau / sillafu yn rhai llaw-a-llygad. Ond byddai rhestr yn handi! Tybed a oes gan Ganolfan Bedwyr restr o'r cangymeriadau sy'n digwydd amlaf? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:32, 14 Awst 2018 (UTC)[ateb]
Ces ddolen i BydTermCymru, Llywodraeth Cymru gan Llywelyn, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw bellach yn y cod. Diolch! Mi geisiaf ei redeg pob pythefnos, yn rheolaidd. Sian EJ (sgwrs) 08:59, 18 Awst 2018 (UTC)[ateb]

Enabling a helpful feature for Template editors[golygu cod]

Symudwyd i'r Gornel Saesneg.

Enwau lleoedd Cymraeg neu Saesneg yn Wicipedias ieithoedd eraill[golygu cod]

Dach chi'n meddwl os dylai Wicipedias ieithoedd eraill defnyddio enwau lleoedd Cymraeg neu Saesneg? Dw i wedi trafod hyn yn Wikipedia Ffinneg ac mae yna lawer o bobol sy'n meddwl dylai er enghraifft erthygl am Ynys Enlli fod â'r enw Saesneg er fod y lle'n lleoli mewn ardal lle'r Gymraeg ydy'r iaith fwyafrifol hyd yn oed heddiw. Os dach chi isio amddiffyn defnydd o enwau Cymraeg dewch i adael sylw (yn Saesneg) fan hyn: https://fi.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Kahvihuone_(kielenhuolto)#Paikannimien_kieliversion_valinta (Jani Koskiin (sgwrs) 08:41, 11 Awst 2018 (UTC))[ateb]

Mater i bob Wicipedia unigol ydy hyn. Ein polisi ni yma yw mai'r iaith frodorol sy'n cael ei defnyddio ee Categori:Trefi a dinasoedd Asturias. Weithiau, mewn cromfachau, fe rown yr enw mewn iaith arall hefyd. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:59, 11 Awst 2018 (UTC)[ateb]
Dw i'n meddwl y dylai hybu defnydd o enwau brodorol ym mhob Wicipedia a gallai barnau siaradwyr Cymraeg cefnogi'r arfer 'ma yn yr achos hwn. Ffin sydd wedi dysgu Cymraeg ydw i ac oherwydd hynny dw i wedi dechrau sgwrs am hyn yn Wicipedia Ffinneg. (Jani Koskiin (sgwrs) 11:36, 11 Awst 2018 (UTC))[ateb]
Ie mater "iddyn nhw" ydyw yn y pendraw, ond mi fyddai'n well gennyf i pe bai ieithoedd eraill yn defnyddio ein henw ni am drefydd a broydd. Does dim reswm am "Cardiff" Saesneg anghywir anghwrtais, orthrymol mewn ieithoedd eraill. Dim hyd yn oed y parch o gael tudalen ailgyfeirio o Gaerdydd i Cardiff gan y rhan fwyaf o ieithoedd!AlwynapHuw (sgwrs) 03:24, 13 Awst 2018 (UTC)[ateb]
Dw i'n gweld bod y drafodaeth yno yn mynd mewn i faterion sydd, yn fy marn i, yn amherthnasol - statws, niferoedd/canrannau siaradwyr, y Gymraeg mewn addysg, ayyb. Mae'n ymddangos i mi bod yn rhaid defnyddio enwau lleoedd Cymraeg - ar lefel pentrefi a threfi yn arbennig - am nad oes ffurfiau Saesneg ar gyfer y mwyafrif. Os ydy rhywun yn gallu mynegi yn Ffineg, fy nadl i byddai os yw Aberystwyth, Bangor a Chaernarfon yn Gymraeg, oni ddylai Abertawe, Bae Colwyn a Chasnewydd hefyd fod yn Gymraeg er cysondeb? Ar ddiwedd y dydd, dylai nhw trin enwau mewn gwledydd aml-ieithog eraill yn yr un modd a maen nhw'n trin enwau eu gwlad eu hunain a dw i'n disgwyl bod hynny'n golygu blaenoriaeth i'r iaith brodorol.--Cymrodor (sgwrs) 09:40, 26 Awst 2018 (UTC)[ateb]
Cytuno! Ond fedra i ddim siarad Ffineg! Twm Twm yr Hwntw (sgwrs) 14:17, 26 Awst 2018 (UTC)[ateb]

WiciBrosiect newydd - Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru[golygu cod]

Dw i newydd ychwanegu WiciBrosiect newydd os oes gennych ddiddordeb: Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru a gaiff ei gyhoeddi a'i lansio ar 27 Medi 2018 yn Neuadd Prichard Jones, Bangor. Mae croeso i chi feddiannu'r Prosiect, os carech, a gyrru'r maen i'r wal! Ac er mwyn copio'r gwaith i Wicipedia, beth am chwilio am nawdd? Mae'n bosib y gallaf eich helpu (punt am bunt) felly... ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:25, 16 Awst 2018 (UTC)[ateb]

Mae hyn yn swnio'n ddiddorol iawn! Ai yn y Categori yma ar y Porth y bydd yr erthyglau newydd yn ymddangos? Bring em on!!! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:06, 20 Medi 2018 (UTC)[ateb]
Ia dw i'n meddwl, John. Chwaneg ar ol y 27ain pan gaiff ei lansio! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:29, 20 Medi 2018 (UTC)[ateb]

Medr neu Metr?[golygu cod]

Wedi sgwennu dwy erthygl am athletau yn niweddar a newydd sylwi fy mod wedi defnyddio dau sillafiad gwahanol am y mesur 200 metr a Ras ffos a pherth 3000 medr. Mae Cysill yn marcio'r ddau'n gywir. Pa un sydd orau i ddefnyddio yma? Neu ydy o'n fater o ddewis + tudalennau ail gyfeirio? AlwynapHuw (sgwrs) 03:35, 25 Awst 2018 (UTC)[ateb]

Metr sydd yn termau mathemateg CBAC, a mae'n osgoi dryswch gyda termau fel cymedr, perimedr. Mae'n edrych fel fod Wicipedia wedi safoni ar metr, er falle ddim ymhob teitl/categori felly mae'n job i rywun gysoni hyn --Dafyddt (sgwrs) 16:25, 25 Awst 2018 (UTC)[ateb]
Diolch Dafydd AlwynapHuw (sgwrs) 16:49, 25 Awst 2018 (UTC)[ateb]
Ia! Metr! Mae angen hefyd km am Cilometr, neu mae'n troi'n gentimetr (cm)! Twm Twm yr Hwntw (sgwrs) 13:59, 26 Awst 2018 (UTC)[ateb]

Urddau'r Orsedd - bywgraffiadau potensial![golygu cod]

Derbyniais y testun a gyhoeddwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar bobl nodedig a anrhydeddwyd gan yr Eisteddfod. Mae hyn yn rhan o brosiect Prosiect WiciMôn @Prosiect Wici Mon, Monsyn: gweler Bywgraffiadau'r Orsedd, gyda chyfarwyddyd sut i greu cannoedd o erthyglau newydd! Awgrymiadau? ON Mae 7 mlynedd arall ar y ffordd atom! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:23, 15 Medi 2018 (UTC)[ateb]

Wici365[golygu cod]

Mae na brosiect bellach wedi'i ffurfioli ychydig ar Wicipedia:Wicibrosiect Wici365. Mae croeso i unrhyw un ymuno a ni o hyn hyd Sul pys! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:31, 20 Medi 2018 (UTC)[ateb]

Wedi creu erthygl rhif #365 yn y sialens presenol Aeron Thomas. AlwynapHuw (sgwrs) 09:20, 28 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Ia, ond nid dyna'r gamp! ;-) Ti di llwyddo i greu'r 365 mewn 11 mis (ac o dan amgylchiadau personol erchyll)! Gwych iawn Alwyn - a llongyfarchiadau mawr! Ysgytlaeth yn wobr yn y cyfarfod nesa o'r Grwp!!! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:41, 28 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Ychwanegu categoriau[golygu cod]

Newydd roi fideo syml - sut i ychwanegu categoriau o enwici yn yr adran gymorth. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:49, 26 Medi 2018 (UTC)[ateb]

Erthyglau sy'n cynnwys ddim yn Gymraeg[golygu cod]

Newydd sgwennu erthygl 2000 o eiriau o hyd am yr Opera Barbwr Sevilla, ac wedi sylwi ei fod mewn categori "Erthyglau sy'n cynnwys ddim yn Gymraeg". Rwy'n gwybod nad yw fy Nghymraeg o'r safon uchaf, ond mae dweud nad ydy o'n Gymraeg o gwbl braidd yn eithafol . Wedi rhoi clec ar hap ar ambell i un arall o’r 500+ erthygl sydd yn y categori ac wedi methu cael hyd i un nad oedd yn cynnwys y Gymraeg. Mae'r rheol sy'n danfon erthygl i'r categori i weld yn un sy'n dethol erthyglau efo geiriau mewn ieithoedd eraill. ee Llyfrgell Genedlaethol yr Alban (Gaeleg yr Alban: Leabharlann Nàiseanta na h-Alba, Saesneg: National Library of Scotland, Sgoteg: Naitional Leebrar o Scotland); Cwpan y Byd Pêl-droed 2018 Чемпионат мира по футболу 2018. Mae angen naill ai i newid enw'r categori neu newid y rheol sy'n rhoi erthyglau yn y categori. AlwynapHuw (sgwrs) 23:19, 10 Hydref 2018 (UTC)[ateb]

Cytuno. Mae'r categori cyffelyb ar enwiki wedi'i newid i: en:w:Category:Articles containing non-English-language text. Mae "" yn ei guddio rhag y gwyliwr cyffredin. Gan dy fod yn Weinyddwr, mae gen ti'r pwer (!) i'w newid neu ei ddileu. Waeth gen i pa un. Os ei newid, betham eiriad fel: "Categori:Erthyglau gyda chynnwys sydd ddim yn Gymraeg"? Efallai y bydd o ddefnydd ryw dro! Dwi'n pingio Adda a Craigysgafn, @Adda'r Yw, Craigysgafn: - gan fod y ddau'n chwip ar y categoriau. Gwd sbot Als! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:57, 11 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
 Cwblhawyd
Wedi newid y nodyn Nodyn:LangWithName a symud yr holl gategorïau fel eu bod yn dilyn y drefn "Erthyglau sy'n cynnwys testun..." —Adda'r Yw (sgwrscyfraniadau) 00:20, 28 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Wicipedia:WiciBrosiect Cyfoes[golygu cod]

Newydd gychwyn Wicipedia:WiciBrosiect Cyfoes, er mwyn sicrhau fod ein herthyglau'n cael eu diweddaru'n otomatig. Dewch draw, helpwch sicrhau ein bod yn gyfoes! Fel rhan o'r prosiect, cychwynwyd creu Gwybodlen newydd ar gyfer pentrefi, cymunedau a threfi... ac otomeiddio enwau Aelodau Seneddol cyfoes Cymru. Croeso i bawb ymuno! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:09, 12 Hydref 2018 (UTC)[ateb]

Deiliaid rhyngwladol recordiau'r byd mewn campau (a chreu cant a mil o dudalenau rhestrau cyffelyb o Wicidata). Byddai eglurhad (ar fidio gorau oll) i ddefnyddio'r gallu "swits" yn ddefnyddiol. Oes modd ei ddefnyddio ar y tudalen Categori: Materion cyfoes, sydd ym mhell o fod yn gyfoes? O ran diddordeb mae'r arbrawf ar ASau Cymru wedi gweithio 100% cywir! AlwynapHuw (sgwrs) 08:37, 15 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Gwych, diolch Alwyn!!! Dw i di chwysu, cryn dipyn, ond dw i'n meddwl y gall y giam fod yn werth y gannwyll, yn y diwedd! A diolch am yr ysgogiad i greu hwn chydig yn ol. Deiliaid - wrth gwrs! Syniad gret! A deiliaid gwobrau fel Osgar, Nobel, cyfredol, hefyd! Rho fo ar ddalen y prosiect, plis, gan mai dy syniad di ydy o. Syniad da hefyd am fideo'n egluro be sydd angen ei wneud!
Mae na un wybodlen newydd, rwan ar y prif barth: Llanuwchllyn. Be da chi'n feddwl? Ymlaen, bob yn sir? Er enghraifft, gallwn wiro / ddiweddaru enwau pob cymuned ar Ynys Mon, yna ffeirio'r newydd yn lle'r hen. Mae hi'n hawdd efo Ynys Mon, gan fod gan y ddwy etholaeth yr un ffinau, yn ddaearyddol. Ond a ydy pob man felly? Dw i'n meddwl fod gwahaniaeth mewn rhai etholaethau, a bydd rhaid nodi'r rhain fesul cymuned. Be chi'n feddwl? Llywelyn2000 (sgwrs) 12:43, 15 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Mae'r Wybodlen ar Llanuwchllyn yn edrych yn dda! Os ti am gymorth, rho wybod! Clamp o job eu rhoi ar bob erthygl! Ond fel ti'n dweud: "Ymlaen!" Sian EJ (sgwrs) 15:30, 15 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Wedi gwneud y cyfan o Sir Conwy ag eithrio Bryn-y-maen, Y Dawn, Dolwen, Glanwydden a'r Pydew gan fy mod yn ansicr o ba ochr y ffin etholiadol ydynt. AlwynapHuw (sgwrs) 23:43, 15 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Dyn sy'n gwneud pethe wyt ti, nid jyst siarad! Gwych iawn Alwyn! Paid a rhoi rhagor am ychydig, gan mai drafft ydy o. Er enghraifft mae'n rhaid rhoi'r teitl / pennawd 'Gwleidyddiaeth' ar yr erthygl ei hun am ryw reswm. Galla i ddefnyddio AWB i ychwanegu'r pennawd, paid a phoeni dim! A hefyd, er mwyn cadw trac be sydd wedi'i wneud a be sydd heb ei wneud, fe allwn greu dalen efo holl Siroedd Cymru arno, a ticio pob un wrth fynd ymlaen - croeso i ti gychwyn un. Sgin ti awgrymiadau pellach? Gyda llaw, dw i am ychwanegu adeiladau hefyd ar hwn fory. Bydd yn rhaid creu un arall ar gyfer mynyddoedd, afonydd, llynnoedd a ballu. Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:16, 16 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Robz - mae'r gwybodlenni i'w gweld yn gweithio ar erthyglau ar afonydd, pentrefi, trefi ac adeiladau hanesyddol. Mae na fwy o wybodaeth ar wybodlenni presnnol 'mynydd', felly wna i ddim cyffwrdd y rhai hynny. Hefyd: dyw'r ynganiad ddim yn gweithio, ond mae'n rhoi enw'r ffeil ee Nebo, Ynys Môn. Un peth arall i'w ystyried - newid 'Gwleidyddiaeth' i 'Gwleidyddol'? A 'Daearyddiaeth' i 'Daearyddol'??? Bril, ond lot o waith o'n blaenau! Sian EJ (sgwrs) 13:05, 17 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Ia wir, diolch Sian! Gret! Canolbwyntio ar gymunedau'n gyntaf ydy'r peth calla! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:23, 19 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Mae na 1,200 o lefydd yng Nghymru, bellach, wedi eu newid i'r wybodlen WD yma. Mae'n rhaid eu gwneud gyda llaw oherwydd fod angen sbotio ym mha etholaeth mae'r pentre / tref, ac oherwydd y lluniau. Mater arall ydy'r 7,000+ o lefydd yn Lloegr. Dw i wedi newid tua chwech, a charwn eich caniatad i wneud y gweddill yn otomatig. Downside - nid yw'r holl wybodaeth ar Wicidata, o be wela i ee awdurdod seremoniol, poblogaeth OND mae'r rhain ar y ffordd, felly hefyd poblogaeth y plwyfi sydd mond ar tua eu hanner nhw! ond, tyfu wnan nhw! Be chi'n feddwl? @Craigysgafn: be ti'n feddwl - ti di bod yn brysur iawn ar yr hen Wybodlen, felly carwn dy farn! Llywelyn2000 hefyd wedi rhoi amser mawr i'w creu, ac mae o'n cytuno. Ond beth am bawb arall? Sian EJ (sgwrs) 16:00, 31 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Ydy, mae'n wir. Dw i wedi gwneud llawer o waith i wella'r gwybodaeth ynghylch llefydd Lloegr. Mawredd mawr! Mae'n ddiflas a di-ben-draw!
Mae angen amser arna i feddwl am yr holl broblemau, ond byddwn i'n hapus iawn pe gallem greu'r wybodlen amdanyn yn awtomatig o gronfa ddata. Hefyd, mae strwythur yr wybodlen "UK place" (wedi'u hetifeddu o Enwiki) yn dipyn o lanast, gyda nifer o bethau sy'n ddim yn gweithio'n iawn; mae "Gwybodlen lle" yn edrych yn llawer gwell, er dw i ddim yn sicr ai dyma'r ateb cyflawn ar gyfer anghenion y llefydd yn Lloegr. Pa mor hawdd yw hi i addasu? I fod yn onest, dw i ddim yn gwybod digon am bosibiliadau Wicidata, er fy mod i'n dechrau gweld y golau.
Beth bynnag, dyma un pwnc sy'n peri pryder i mi: o ble byddai'r gwybodaeth Wicidata'n dod? Mae llawer o'r gwybodaeth ynghylch llefydd Lloegr ar Enwiki yn anghyflawn neu'n anghywir, felly ar gyfer pob erthygl o'r fath mae angen i mi fynd i nifer o ffynhonnell ar-lein i ddarganfod y ffeithiau cywir. Byddwn yn braidd yn isel i weld fy ngwaith wedi'i disodli gan ddata anghywir o Enwiki. --Craigysgafn (sgwrs) 22:30, 31 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Cytuno efo Craigysgafn, nad yw Wicidata, ar hyn o bryd, yn cynnwys peth o'r wybodaeth sydd ar y Wybodlen Gymraeg: poblogaeth - ceir peth, ond nid y cyfan; sir seremoniol - ddim o gwbwl. Etholaethau - ddim o gwbwl. Dw i ddim yn meddwl fod enwau rhanbarthau brigad dan ayb yn bwysig o gwbwl, neu mi fyddent wedi cael erthygl gyfatebol erbyn hyn ac mae etholaeth Ewrop ar fin diflannu. Rhowch fis i mi weld os yw'r cronfeydd data ar gael, ac os yw mi wna ei roi ar Wicidata. Dw i ddim yn poeni am ddiweddaru poblogaethau gan y daw rhain cyn hir, a dim ond unwaith sydd angen ychwanegu enw'r etholaeth + sir seremoniol. Ond yn sicr Wicidata ydy'r dull o gadw'r wybodaeth yn fyw ac yn gyfoes. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:01, 5 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]
Problem sydd yn codi yw bod y gwybodlen yn creu categori awtomatig "Pages with maps" ar waelod y ddalen. Categori dianghenraid ond sydd yn creu miloedd o ddolenni coch. Er chwilio rwy'n methu cael hyd i'r nodyn sy'n creu'r ddolen. Oes modd ei waredu? AlwynapHuw (sgwrs) 05:13, 12 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]
Sori Alwyn, ro'n i'n meddwl mod i wedi ateb hwn! Cuddiwyd y categori tua thefnos yn ol, felly dylai fod popeth yn iawn bellach! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:47, 26 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]

Cyfarfod Grwp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru, Llangefni, 23 Hydref 2018[golygu cod]

Bydd y Grwp Defnyddwyr yn cyfarfod yn Llangefni ddydd Mawrth 23 Hydref 2018. Rhagor o wybodaeth am y Grwp, cofnodion ein cyfarfod diwethaf, a manylion ac agenda ddrafft y cyfarfod nesaf ar Meta. Ychwanegwch eich enw i'r agenda, os gwelwch yn dda, i roi gwybod a ydych chi'n bwriadu dod neu'n anfon eich ymddiheuriadau. Diolch yn fawr! (a gydag ymddiheuriadau - dwi newydd sylweddoli nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyhoeddi yn Y Caffi cyn hyn. Gobeithio na fydd y byr-rybudd wedi atal unrhyw un rhag dod i'r cyfarfod.) DafyddTudur 14:10, 16 Hydref 2018 (UTC)[ateb]

Mae'r ddolen uchod yn mynd at agenda hen gyfarfod yn lle'r tudalen newydd a greoch chi. Dw i ddim eisiau newid sylwadau pobl eraill, ond dw i'n awgrymu cywiro fo. --Money money tickle parsnip (sgwrs) 07:12, 17 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Dyma fo. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:41, 17 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Sorri, fedra i ddim dod. Dyddiau cynhyrfus iawn ar y Wici Cymraeg! Mae'n anodd cael amser i ffwr o ngwaith, neu mi faswn yno fel siotsen! Ble mae'r Agenda? Celtica (sgwrs) 14:15, 16 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Tua deuddeg o logos drafft newydd eu rhoi i fyny rwan: bydd y rhai terfynol (hy ffont cywir!) yn cael eu gwnued gan berson o Wicimedia ei hun. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:19, 16 Hydref 2018 (UTC)[ateb]

Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru[golygu cod]

Heddiw, cyhoeddwyd y Cynllun gweithredu, a cheir sawl cyfeiriad at Wicipedia Cymraeg a rol Wicidata.

  1. gefnogi ymdrechion i gynyddu nifer y tudalennau Cymraeg ar Wicipedia.
  2. annog cymunedau o wirfoddolwyr Wicipedia Cymraeg i weithredu, drwy gynnig cymorth ariannol i gefnogi gweithdai a’r broses o greu erthyglau Cymraeg drwy ddulliau awtomatig.
  3. ychwanegu at bresenoldeb y Gymraeg ar y rhyngrwyd... cefnogi datblygiad Wicidata...

Newydd weld, hefyd, fod Jimmy Wales wedi trydar y wybodaeth! Gwych!

Dewch a'ch syniadau! Sian EJ (sgwrs) 18:25, 23 Hydref 2018 (UTC)[ateb]

Un o wendidau Wikipedia a Wikidata trwy bob parth a phob iaith yw egluro sut mae creu cynnwys a defnyddio holl offer y parth. Mae tudalennau "egluro" bron pob parth wedi eu hysgrifennu gan bobl sy'n deall cyfrifiaduron ar gyfer pobl sy'n deall cyfrifiaduron. Prin yw'r tiwtorialau at iws gwlad. Bydda fideo yn dangos, cam wrth gam, sut i greu erthyglau, uwch lwytho delwedd, hel gwybodaeth data, llenwi twll mewn templed i greu eginyn trwy ddefnyddio Wikidata; yn llawer gwell na'r ysgrifau sydd ar gael. Pe bai fideos o'r fath, gan ddefnyddio arian y llywodraeth, yn cael gwneud yn broffesiynol "cefn wrth gefn" yn y ddwy iaith gydag erthyglau "Cymreig" fel enghreifftiau, a sgriptiau isdeitl gellid ei gyfieithu i unrhyw iaith, byddai'n arwain at fwy o erthyglau Cymreig ym mhob iaith. AlwynapHuw (sgwrs) 05:53, 30 Hydref 2018 (UTC)[ateb]
Cytuno efo ti fod angen cyfarwyddiadau syml ar olygyddion newydd (a hen!). Wyt ti'n ymwybodol o Wicipedia:Cymorth -> Tiwtorial a fideos? Mae na tua 40 o 'fideos pum munud' yma, ond efallai fod angen eu diweddaru, ychwanegu atyn nhw, a ffindio dull hawdd i'r golygyddion newydd eu canfod! Cymer gip arnyn nhw, ac os nad ydyn nhw'n ddigonol, yna bydd angen Wicibrosiect arall! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:11, 30 Hydref 2018 (UTC)[ateb]

"Gwall wrth gadw'r ddalen"[golygu cod]

Annwyl pawb, rwyf wedi dod ar draws rhwystr i gyhoeddi cyfieithiad. Wrth bwyso ar 'cyhoeddi'r cyfieithiad' daw neges i fynny mewn blwch pinc/coch sy'n dechrau hefo'r neges "gwall wrth gadw'r ddaeln" ac mea hyn yn rhwystro fy nghyfieithiad rhag cael ei gyhoeddi. Oes rhywun yn deall pam fod hyn yn digwydd a beth fedra'i wneud i ddatrys y broblem? Diolch, Mart.

Un o'r posibiliadau yw bod yna erthygl gyda'r un teitl eisoes yn bod. Trïa pwyso ar yr olwyn cocos ar dop y ddalen ac yna dewis yr opsiwn "Drafft Personol" cyn arbed, bydd hyn yn creu erthygl efo enw Defnyddiwr:EnwDefnyddiwr/Teitl y cyfieithiad. Bydd modd copïo a gludo cynnwys yr erthygl i dudalen arall, neu ail enwi'r erthygl er mwyn ei gyhoeddi i'r byd a'r betws. AlwynapHuw (sgwrs) 17:50, 3 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]

Pabyddol[golygu cod]

Gai awgrymu ein bod yn ceisio osgoi defnyddio'r ymadrodd Pabyddol yn ein herthyglau? Mae'n Gymreigied o'r Saesneg Papist, sy'n cael ei ddefnyddio gan siaradwyr Saesneg sectyddol cas. Rwy'n gwybod ei fod yn derm sydd wedi hen ennill ei blwy yn y Gymraeg (trwy ddefnydd anghydffurfwyr yn bennaf). Os edrych trwy fy nghyfraniadau mae'n debyg bydd enghreifftiau ar gael ohonof fi yn ei ddefnyddio. Ond rwy'n credu nad yw'n air sy'n groesawgar i bobl Gatholig Rufeinig nac i bobl o gefndir y ffydd ac yn anaddas i wefan sy'n ceisio bod yn niwtral mewn erthyglau sy'n cyfeirio at grefydd. AlwynapHuw (sgwrs) 04:19, 12 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]

@AlwynapHuw: Ymddiheuriadau, dwi ddim ond newydd sylwi ar hyn. Mae Geiriadur y Brifysgol yn cytuno bod tinc difrïol i'r gair yn Gymraeg hefyd: "yn enw. am un sy'n credu mewn goruchafiaeth babyddol, fel arfer yn ddifr." Byddai'n mynd ati rhywbryd i ail-enwi Categori:Pabyddion a'i isgategorïau. Pa ffurf sydd gwell felly, Catholig(ion) neu Catholig(ion) Rhufeinig? Unrhyw syniad p'un a ddefnyddir gan yr Eglwys Gatholig yng Nghymru? —Adda'r Yw (sgwrscyfraniadau) 00:29, 28 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Sylwaf bod y Wicipedia Saesneg yn gwahaniaethu rhwng Catholics a Roman Catholics, er bod trafodaeth ar hyn o bryd i'w cyfuno. —Adda'r Yw (sgwrscyfraniadau) 00:33, 28 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
 Cwblhawyd
Wedi symud yr holl gategorïau Pabyddion/Pabyddol i Catholigion/Catholig. Rwyf wedi cadw'r brif erthygl a chategori am yr Eglwys dan yr enw llawn (Yr Eglwys Gatholig Rufeinig), a chategorïau eraill gyda'r ffurf fer (Yr Eglwys Gatholig), gan ddilyn y patrwm a geir mewn ambell man arall ar wici, e. e. Unol Daleithiau America / yr Unol Daleithiau; Gaeleg yr Alban / Gaeleg; Y cyfryngau torfol / Y cyfryngau. —Adda'r Yw (sgwrscyfraniadau) 04:39, 11 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Gwybodlen gwledydd[golygu cod]

Dw i di datblygu: Nodyn:Gwybodlen lle ar gyfer gwledydd, ac mae na un wedi'i rhoi yn y prif barth (parth erthyglau) - Gwatemala. Dydy o ddim yn berffaith: y pwynt degol ydy'r niwsans pennaf, a'r penawdau'n gwrthod ymddangos - unrhyw syniad? Unrhyw syniadau i'w wella? Ond o leiaf mae'r data a'r wybodaeth yn gywir - yn gywirach na'r hen un, ta beth! Mae'r map wedi diflannu o'r wybodlen ei hun am ryw reswm, ond mae'n gweithio o fewn erthygl. @AlwynapHuw: y Categori 'Pages with Maps' - wedi'i guddio drwy roi __HIDDENCAT__ yn y categori! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:27, 13 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]

Mae'r broblem gyda rhifau hir (GDP ayb) wedi'i ddatrus. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:15, 15 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: Jyst i roi gwybod fod diweddariad 14:37, 15 Tachwedd 2018‎ ar Modiwl:WikidataIB wedi cawlio y Gwybodlenni wicidata/person. Dwi ddim yn hollol siwr os oes angen newid y nodweddion neu guddio'r meysydd felly wnai adael y peth fod am nawr. --Dafyddt (sgwrs) 22:48, 15 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]
Diolch Dafydd! Ro'n i'n gwiro'r diweddariadau ar dair Nodyn (adar hefyd), ond nid pobl! Ar y job! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:33, 16 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]
Mae'r wybodlen newydd ar Gwatemala, Yr Alban ac Albania. Os nad oes gwrthwynebiad, mi wna i gychwyn eu rhoi ar wledydd Ewrop. Can croeso i chi helpu gyda'r gweddill. Mae na restr ar Wicipedia:WiciBrosiect Cyfoes. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:28, 16 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: Mae'r newid yn y gwybodleni wedi troi ambell i Gymro yn Brydeiniwr. Gweler gwybodlen Twyber Travers - AlwynapHuw (sgwrs) 05:52, 17 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]
Diolch Alwyn. Mae'n holl bwysig cadw llygad ar y follt yma. Dim ond oddi fewn i'r ystafell fechan Gymreig cywici y gellir rheoli gwybodaeth o Wicidata. Gennym NI mae'r hawl (a'r dyletswydd) i wneud hyn. Gwnaed hyn gan gyfaill o ganolbarth Lloegr, nad oedd yn meddwl unrhyw ddrwg, ac a fu o gryn gymorth ddoe. Dw i di newid y cod yn ei ol, ac felly mae'r dreigiau'n cyhwfan! Diolch eto Alwyn (nid Seithenyn mohonot!) Llywelyn2000 (sgwrs) 06:59, 17 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]

Angen cymorth Bot[golygu cod]

Mae'r Welsh Football Data Archive wedi newid eu cyfeiriad we o www.wfda.co.uk i www.welshsoccerarchive.co.uk sy'n goltygu fod ffynhonellau y rhan fwyaf o dudalenau pêl-droed yn anghywir bellach! Oes modd cael bot i newid y cyfeiriadau? Mae'r is-dudalenau yr un fath ar y wefan newydd ond mae angen newid pob wfda i welshsoccerarchive! Help plis! Blogdroed (sgwrs) 09:40, 24 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]

Bore da! Dw i wedi newid un, i ti roi sel dy fendith (neu ei wfftio!) - gweler y newidiadau yma. Mae nhw'n mynd yn uniongyrchol i'r lle iawn dw i'n meddwl, ond byddai cadarnhad yn beth da! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:37, 26 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]
Gwych! Mae'n edrych fel ei fod yn gweithio i mi. Diolch o galon Blogdroed (sgwrs) 15:08, 26 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]
Diolch! Mi wna i'r gweddill heno! Job 2 funud! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:35, 26 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]
 Cwblhawyd
Newidiwyd 137 o erthyglau, ond hyn yn cynnwys rhai manion fel File -> Delwedd. Gweidda os wyt ti angen unrhyw beth arall! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:18, 26 Tachwedd 2018 (UTC)[ateb]

Cais am gymorth[golygu cod]

Mae na ddau neu dri ohonom wrthi fel lladd nadroedd yn rhoi'r gwybodlenni newydd ar yr erthyglau. Dyma'r ddwy wybodlen bwysicaf - ac mae'r ddwy'n tynnu eu gwybodaeth o Wicidata:

  1. Nodyn:Gwybodlen person/Wicidata - Mae na gryn dipyn heb eu gwneud ar y rhestr yma.
  2. Nodyn:Gwybodlen lle ee ewch ati ar unrhyw erthygl sydd a lleoliad ee cestyll, afonydd, tynnu'r hen wybodlen a gosod hon. Os nad yw'r map yn ymddangos yna bydd angen rhoi cyfesurynnau'r lleoliad ar Wicidata.

Mae'r manylion llawn sut i ddefnyddio'r ddwy nodyn yma (newid baner gwlad ayb) ar y nodion yma. Mae'r gwybodlenni lle presennol (yr hen rai) yn llawn o wybodaeth sydd wedi dyddio hy gwybodaeth anghywir. Plis gwnewch hyn yn flaenoriaeth! Diolch o galon! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:31, 1 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]

Hei, mae na swp da wedi'u rhoi erbyn rwan! Mae'r etholaethau ar wahan i Gaerdydd a Phowys wedi'u cwbwlhau. Rhois y wybodlen newydd ar Wynedd heddiw'r bore. Y gwaith mwyaf yw canfod y cyfesurynnau, fel bod y map yn ymddangos, ond o bopeth dw i wedi'i wneud ar Wicipedia, dyma'r rhan sydd wedi rhoi'r mwyaf o flas i mi! Pam, dydw i ddim yn gwybod, ond mae'n rhoi bohhad mawr i mi! Rhyfedd o fyd! Dewisiwch sir, ewch i'r categori ar y sir honno ee Categori:Gwynedd ac awe! Yna, cofnodwch ar y Wicibrosiect. Sian EJ (sgwrs) 14:54, 11 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]
Mae AWB yn medru rhoi categori gwell i chi. Ond gyda llaw a llygad rwy'n eu rhoi ar yr erthyglau, nid y bot - a'u gwiro i gyd! Sian EJ (sgwrs) 15:29, 11 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi rhoi gwybodlen lle ar y cyfan o'r tyrau Genoa sydd ag erthygl yn weddol di drafferth. Mae Cymunedau Llydaw yn profi'n drafferthus. Wrth gychwyn yr erthyglau mi ddefnyddiais yr enw Llydewig ar gyfer pob erthygl cymuned. Ond, am ryw reswm, yr enw Ffrengig sydd yn y blwch Cymraeg ar Wicidata ar gyfer y cymunedau, y cantonau a'r arrondissements, gyda'r Gymuned o gymunedau yn ymddangos fel rhif Q o hyd. Sy'n golygu lot o waith newid Wicidata cyn gosod y gwybodlen ar yr erthyglau. Oes modd rhedeg bot ar Wicidata i newid y label Cymraeg ar erthygl i deitl yr erthygl Cymraeg? Os nad oes, a'i defnydd da o amser prin yw golygu Wicidata pan fo'r wybodaeth eisoes yna yn yr Infobox French commune? AlwynapHuw (sgwrs) 06:07, 12 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]
Dw i wedi rhoi baneri Corsica a Ffrainc ar Torra d'Ancone, gan obeithio fod hynny'n iawn gen tio Alwyn. Hefyd, o ran Llydaw - fe all rhywun uwchlwytho'r enwau Llydaweg i'r lle ar gyfer yr enw Cymraeg, mewn munudau gyda Quick Statements, wedyn bydd y Gymraeg yn ymddangos. Ond fedra i ddim defnyddio Quick Statements. Mi edrychaf! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:01, 13 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]
Mae na un neu ddau wedi gofyn am hyfforddiant mewn uwchlwytho data (Quick Statements ayb) i Wicidata, felly dyma fydd y dasg gyntaf iddyn nhw! Rho chydig o ddyddiau i ni gyfarfod. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:01, 13 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]

Problem fach arall. O roi clec ar y geiriau Ffeiliau perthnasol ar Comin ar waelod y gwybodlen mae'n arwain at dudalen sy'n dweud (ee) Categori:Aberhosan - Mae'r dudalen hon yn wag ar hyn o bryd. Hynny oherwydd mae Category Saesneg yw enw pob tudalen ar Gomin, felly mae angen i'r ddolen arwain i Category:Aberhosan i gael gweld y delweddau. AlwynapHuw (sgwrs) 02:24, 13 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]

Newydd drwsio'r ddolen; diolch Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:01, 13 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]

Dileu'r fannod cyn enwau afonydd[golygu cod]

Yn ôl Cwrs Gloywi, Ni ddylid rhoi’r fannod o flaen enw afon yn y Gymraeg. Hefyd, mae golygydd arall wedi dweud bod y gramadegau yn sicr nad yw'r fannod yn perthyn i enwau afonydd. Ond os rhowch chi "yr afon" (gyda'r dyfynodau) yn y blwch chwilio, fe welwch chi lawer o enghreifftiau o yr afon <enw>. Os mae yn eich mysg unrhyw rhaglennw(y)r cyfriafiaduron sy'n gallu ysgrifennu botiau, hoffwn i awgrymu i chi gynhyrchu bot i gael gwared ar y fannod (naill ai mewn modd hollol awtomatig, neu ar ôl cadarnhad dynol os cysidrwch fo'n gallach) lle defnyddir yn y cyd-destun canlynol:

  • Un o'r ffrasau canlynol (heb neu gyda llythyrennau bras):
  • yr afon
  • 'r afon
sy'n cael ei ddilyn yn unionsyth gan lythyren fras (ar ôl y blwch wrth gwrs, ond heb atalnodau ac ati yn y ganol).

Enghreifftiau i'w newid:

  • ar yr afon Gwyar afon Gwy
  • i'r Afon Tawei Afon Tawe

Enghreifftiau i beidio â'u newid:

  • ... yr afon sy'n ... (dim llythyren fras)
  • ... yn yr afon. Mae ... (atalnod rhwng afon a'r gair nesaf)

Dw i ddim yn honni y byddai hyn yn trwsio popeth, yn enwedig fyddai o ddim yn effeithio ar frawddegau lle mae'r fannod wedi cael ei defnyddio gydag enw'r afon heb y gair afon rhyngddyn nhw (fel ar lan y Tafwys). Does dim modd chwilio am y rheiny heb restr fawr o enwau afonydd. Fodd bynnag, byddai'n gam sylweddol tuag at gywiro'r rhan fwyaf o'r camgymeriadau hyn (dw i'n tybio).

Ond dw i ddim yn cynnig fy hun, yn anffodus. Does gen i ddim profiad o ysgrifennu botiau, ac, mewn unrhyw achos, canolbwyntio ar y Wikipedia Saesneg ydw i (pan dw i'n cymryd rhan o gwbl, ar adegau, rhwng cyfnodau hir o "wikibreak"). Gwaith arall i'r regiwlars ydy hwn felly, os mae rhywun yn fodlon.

Pwynt terfynol (a phwysig): byddai rhaid rhannu côd y bot, gyda chyfarwyddiadau llawn am sut ei ddefnyddio, er mwyn galluogi ei ail-redeg yn y dyfodol, hyd yn oed os bydd y rhaglennwr wedi rhoi'r gorau i gyfrannu erbyn hynny.

Diolch,

--Money money tickle parsnip (sgwrs) 09:35, 5 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Cwbl ddiangen. Does dim erthygl o'r enw "yr afon xxx" ar gael, hyd y gwyddwn, a phrin fod angen cael rheol i ddrysu a rhwystro cyfranwyr rhag llif eu stori trwy fynnu bod Caerdydd ar lan Afon Taf yn hytrach nag ar lan yr Afon Taf gan fod y cwbl yn arwain at gyswllt Afon Taf. Fel un a fagwyd ar aelwyd Saesneg ei hiaith, rwy'n ansicr fy Nghymraeg. Dwi ddim am gael fy nghau allan o gyfrannu trwy ormodedd man reolau ieithyddol dibwys. AlwynapHuw (sgwrs) 06:00, 7 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Cytuno gyda Money money tickle parsnip nad oes angen y fanod, a mi ofynnaf i Sian EJ ei gynnwys yn y bot-llaw sydd ganddi, pan ddaw nol o'i gwyliau hiiiir! Cytuno efo Alwyn hefyd, nad yw ar restr fy mlaenoriaethau i! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:04, 11 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Cyfarwyddiadau posibl ar gyfer AWB: Options -> Advanced Settings -> New Rule. Yna yn y blwch 'Find' teipio cod RegEx (a rhoi tick yn y blwch 'Regular Expressions'! Felly be i chwilio amdano? 2 cod:
Canfod pob testun sy'n cynnwys " yr [[Afon" a'i newid i (replace with " [[Afon" ac amrywiaethau tebyg "'r afon [llythyren fawr]" .
Ond fel y nodais, mae gen i bethau eraill yn gwasgu! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:16, 22 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Colli clipiau o recordiau Cwmni Sain?[golygu cod]

Newydd gael llwyth o e-byst am newidiadau i erthyglau a oedd yn cynwys cipolwg o ganeuon gan Gwmni Recordiau Sain, yr eglurhad am y newid yw (ee): CommonsDelinker Yn dileu "Bob_Roberts_-_Moliannwn_-_Bob_Roberts_(Tai'r_Felin).ogg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Majora achos: per c:Commons:Deletion requests/SAIN audio files. Oes eglurhad pam fod Sain wedi tynnu'r caniatad / os yw Sain wedi tynnu'r caniatad? Mae'r newid am effeithio ar gannoedd o erthyglau ac, i bob pwrpas dileu y 190 erthygl yn Categori:Rhestrau caneuon AlwynapHuw (sgwrs) AlwynapHuw (sgwrs) 05:48, 13 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Helo Defnyddiwr:AlwynapHuw, Diolch am codi hyn. Mi oedd sgwrs ar gomin tua 6 mis yn ôl, gyda sawl un yn codi cwestiynau am hawlfraint i glipiau. Es i nôl at Sain er mwyn cael ateb clir, ac mae o wedi dod yn amlwg bod hawlfraint trydydd parti yn rhai o’r clipiau (efo'r cyfansoddwyr er enghraifft), felly yn anffodus roedd dim dewis efo Sain ond ofyn i ni dynnu lawr rhai o'r clipiau. Does neb wrth fai am hyn, ac yn anffodus roedd dim ffordd i ragweld hyn yn digwydd o flaen llaw. Un opsiwn sydd efo ni, er mwyn cadw'r erthyglau sydd wedi eu creu, yw ail lwytho'r clipiau i'r Wicipedia Cymraeg o dan bolisi defnydd teg, ond bydd rhaid i mi edrych mewn i'r ochr technegol - Does gen i ddim copi o'r clipiau gwreiddiol. Os bydd sefyllfa debyg yn codi yn y dyfodol mi wna'i sicrhau bod unrhyw drafodaeth berthnasol ar Gomin yn cael i fflagio ar y Caffi hefyd fel bod pawb yn ymwybodol. Jason.nlw (sgwrs) 13:36, 21 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Ia, roedd gweld cymaint o ffeiliau sain caneuon Cymraeg yn cael eu dileu yn reit frawychus! Ar 17 Ionawr mi adewais nodyn i'r Defnyddiwr a gododd yr awgrym i'w dileu. Awgrymais iddo y gellid defnyddio trwydded Defnydd Teg (yn hytrach na Comin); rhois wybod i Jason am y syniad hwn ar 21 Ionawr. Ar 22 Ionawr, gan na ddaeth Verbcatcher yn ol ataf, mi adewais ail neges ar ddalen Sgwrs y Defnyddiwr a ddileodd y ffeiliau, sef Majora. Alwyn, dyma ddolen i'r sgwrs ar Comin. Mewn theori, does dim byd yn erbyn uwchlwytho'r ffeiliau i cywici a enwiki, ond nid ar chwarae bach mae gwneud hynny! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:21, 23 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Erthyglau safonol[golygu cod]

Carwn i chi gadarnhau fod erthyglau un frawddeg yn annerbyniol. Rhywun o America sydd wrthi fwyaf, dw i'n meddwl, gan anwybyddu ein harferiad, ers sawl blwyddyn bellach, fod rhai cael o leiaf dwy baragraff yn ogystal a chategoriau ayb. Gall unrhyw un ohonom greu miliwn o erthyglau fory nesaf, efo cronfa ddata. Ond byddai hyn yn glastwreiddio'r gwyddoniadur.

Yn ail, dw i wedi symud erthygl newydd gan @AwelMor: i'w Phwll Tywod. Mae llwyddiant {{Ping|Aaron Morris]] a Phrosiect Wici Môn yn amlwg i bawb, yn ogystal a'r holl wicithonau a golygathonau eraill a fu yn ystod yr 8 mlynedd diwethaf (ee y Llyfrgell y Genedlaethol, Llwybrau Byw). Ond gyda llwyddiant, daw sialensau newydd! Mae na lawer o erthyglau sydd ddim yn barod i'w rhoi ar wici, erthyglau heb eu cywiro gan wirydd sillafu, neu'r hyfforddwr. Dw i am argymell system debycach i'r un ar enwici, lle mae defnyddwyr ansicr eu hiaith, neu defnyddwyr newydd yn defnyddio eu Pwll Tywod i baratoi drafftiau. Yna, bydd angen rhyw fath o swits, neu 'Ping' penodol i roi gwybod i'r ychydig ohonom sy'n gwiro a chywiro iaith a gwybodaeth, i dynnu ein sylw at yr erthygl, ac yna cadarnhau ei bod yn barod.

Be 'da chi'n feddwl? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:52, 15 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Ie, cytuno am yr erthyglau un frawddeg (robot-aidd yr olwg). A fel arfer mae nhw'n copïo patrwm o erthygl am actor sy'n anaddas ar gyfer digrifwr neu ganwr neu beth bynnag, felly mae angen eu cywiro yn llwyr beth bynnag. Gyda'r nifer o erthyglau newydd o wahanol ffynonellau mae'n hawdd eu colli nhw yn y rhestr newidiadau. Ond o leia gyda phrosiectau ein hunain fel Wici Môn mae yna obaith o allu rhoi trefn newydd yn ei le, fel defnyddio'r Pwll Tywod er mwyn paratoi erthygl cyn ei gyhoeddi. Mae hefyd yn rhoi'r cyfle i gywiro iaith/fformat unwaith yn hytrach na gorfod mynd yn ôl sawl gwaith wrth i fwy gael ei ychwanegu. --Dafyddt (sgwrs) 11:24, 15 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Cytuno! Mae'r Pwll Tywod yn addas iawn i olygyddion newydd. Ymddiheuriadau nad oes rhagor o amser gen i! A fy myd i mewn gwirionedd yw ffawna, ond dw i'n gwerthfawrogi y rhai hynny sy'n cywiro gwaith eraill. Cell Danwydd (sgwrs) 19:53, 16 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

MenywodMewnCoch[golygu cod]

Helo bobl, dw i wrthi'n dechrau WiciBrosiect newydd o'r enw:

fel ymdrech i wella cynrychiolaeth o fenywod ar Wicipedia Cymraeg.

Mae croeso cynnes i bawb ddod i dudalennau'r prosiect i drafod dulliau a syniadau, a chymryd rhan.

Diolch. --Oergell (sgwrs) 12:23, 17 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Grêt! Diolch yn fawr am cychwyn y prosiect yma. Mi fydd hyn yn defnyddiol iawn wrth i mi chwilio am erthyglau i mewn golygathonau ac efo gwyrfoddolwyr lleol. Jason.nlw (sgwrs) 09:55, 18 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Wicipedia ar Twitter - cydnabyddiaeth am erthyglau[golygu cod]

Mae cyfrif Wicipedia ar Twitter yn rhannu dolenni at erthyglau newydd ers sbel.

Un nodwedd ydy cydnabyddiaeth i berson am greu erthgyl newydd.

Er enghraifft, dyma ddelwedd o drydariad sydd yn crybwyll defnyddiwr AlwynApHuw am greu erthygl newydd.

O'n i'n meddwl bod hi'n hen bryd dathlu yr amrywiaeth o erthyglau sy'n cael eu creu bob dydd, a'r bobl sy'n creu nhw! Mae Twitter yn ffordd o ddosbarthu dolenni at erthyglau newydd yn ehangach.

Mae'r cyfrif yn crybwyll unigolyn sydd wedi gwneud y cysylltiad yn amlwg trwy restru enw go iawn ar broffil Wicipedia, neu ddefnyddio'r un enw ar Wicipedia a Twitter, ac ati.

Gadewch wybod i mi fel sylw isod os ydych chi eisiau cael eich crybwyll am erthyglau newydd sy'n cael eu rhannu o @Wicipedia (os nad ydych chi'n cael eich crybwyll yn barod). Dw i angen dau fanylyn:

  1. eich enw ar Wicipedia
  2. eich enw ar Twitter.

--Oergell (sgwrs) 16:01, 22 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Enw ar Wicipedia: Sian EJ; enw iawn: Sian Elin Jones. Diolch am y gwaith da, Mr Morris! Sian EJ (sgwrs) 16:24, 22 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Diolch Sian EJ. Beth yw'ch enw ar Twitter pls? --Oergell (sgwrs) 15:58, 23 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
@Oergell: Mae llawer ohonom dros y blynyddoedd wedi cyhoeddi ein henwau go iawn ee mewn cyfarfodydd o Grwp Defnyddwyr Cymru, rhoddodd sawl un yr hawl i gyhoeddi eu llun a'u henwau ee hwn ar Meta. Efallai y gall @Prosiect Wici Mon: (Aaron Moris) a @Jason.nlw: ychwanegu rhai o enwau gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o'u prosiectau nhw. Yn aml, mae enw go iawn y person ar ddalen flaen y Defnyddiwr. Ond rhaid parchu hefyd nad yw pawb am ddatgelu hynny! Gobeithio fod hyn o help! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:31, 23 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Defnyddiol iawn, diolch yn fawr. Ie rhaid parchu'r rhai sydd eisiau cyfrannu heb drydariad. --Oergell (sgwrs) 15:58, 23 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
@Oergell: Rwy'n hoff iawn o'r dolenni ar Twitter. I ddechrau, mae gwastad yn neis cael cydnabyddiaeth. Yn ail mae'n ffordd dda o gael gweld pa erthyglau newydd sy'n cael eu creu gan eraill ond yn bwysicach oll mae'n hysbyseb da i'r safle. Dal ati, ac os oes modd cael dolenni tebyg ar safleoedd cymdeithasol eraill mynd amdani. AlwynapHuw (sgwrs) 14:43, 29 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Fandaliaeth ar Wicidata[golygu cod]

Felly.. mae wicidata yn grêt ar gyfer cofnodi pethau yn ganolog, ond sut ydyn ni'n mynd i ofalu nad yw'r wybodaeth yn cael ei newid yn faleisus? Dwi newydd ail-osod cofnod Owain Glyn Dŵr i fersiwn cynt oherwydd fandaliaeth. Fasen ni'n gwybod dim heblaw fod rhywun wedi hefyd gwneud rhywbeth tebyg ar y dudalen wici, a roedd logo Google Translate yn ymddangos ar y wybodlen! Gyda cofnodion arall, fasen i ddim callach. Ydi'n bosib cloi cofnodion pwysig yn Wicidata, naill ai i ddefnyddwyr cofrestredig, neu olygyddion penodol? Oes angen trafod sut i ddelio a hyn yn y dyfodol? --Dafyddt (sgwrs) 20:41, 29 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Helo Dafyddt Diolch yn sylwi ar y Fandaliaeth yma. Er bod llawer mwy o Fandaliaeth ar Wiikipedia na' Wikidata, mae gwastad yn mynd i fod yn broblem oherwydd natur y llwyfan. Yn anffodus , does dim ffordd i gloi neu gyfyngu mynediad i gofnodion Wikidata r hyn o bryd. Ond, os mae Fandaliaeth yn digwydd ar Wikipedia ni'n dibynnu ar berson i ddarganfod y broblem. Efo Wikidata mae modd rhedeg bots sydd yn adnabod problemau yn awtomatig. Er enghraifft, efo Owain Glyndŵr, bydd peiriant yn sylwi bod 'English People' sef gwaith celf, methu bod yn blentyn i berson. Felly mae'n haws i bigo mas problemau. Mae Wikidata wedi bod yn trafod creu rheolau am statements er mwyn stopi bobl creu statements sydd ddim yn gwneud synnwyr - fel sydd wedi digwydd yn yr achos yma, ond does dim byd wedi penderfynu eto. Y perig yw, fel mae Wikidata un tyfu bydd mwy o Fandaliaeth yn digwydd, felly dw'i rhagweld mwy o systemau i daclo hyn yn cael i greu. Jason.nlw (sgwrs) 10:31, 6 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Newydd ddychwelyd o Lunden, Dafydd, a gweld ebost fod yr erthygl wedi'i newid. Mae gen i dros 300 o eitemau WD yn fy rhestr Ffefrynnau, sy'n golygu mod i'n cael rhybudd ebost bob tro mae un o'r rhain yn cael eu newid. Pe baem ni i gyd yn ychwanegu'r rhai allweddol at ein Ffefrynau ni, yna fe allem ddelio gyda llawer o'r fandaliaeth. Pan wnes i greu'r Wybodlen Pobl (ac am hon da ni'n son), rhoddais follt (neu glo unffordd) - i'w weithio, ei agor gennym ni yn unig - sef 'supressfields' ac un arall ar genedligrwydd h.y.
| suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = Baner Cymru Cymru
Felly dyna'r ddau brif ddrws y fandal wedi'u cloi'n glep! Y ffordd arall i'w cloi, wrth gwrs, ydy dychwelyd at yr hen wybodlen ar gyfer y rhai pwysicaf / mwyaf gwleidyddol! ON Edrych ymlaen am sgwrs yn Hacio'r Iaith yng Nghaerfyrddin, dros y penwythnos, os fyddi yno! Llywelyn2000 (sgwrs) 00:42, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Dw i hefyd wedi gofyn am floc ar yr IP. Beth am fynd yn Weinyddwr ar WD, Dafydd, mi wnawn ni gyd dy gefnogi, er mwyn i hyn ddigwydd heb gofyn pob tro! "Meddiannwn hi!" chwedl Dafydd Iwan. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:26, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Hacathon Hanes yn Caerdydd[golygu cod]

Helo pawb. Hofwn i cynnig gwahoddiad agored i'n Hacathon Hanes yn Caerydd ar yr 2ail o Fawrth. Cofrestri nawr

Bydd yr Hacathon Hanes yn ddiwrnod hacio sy'n canolbwyntio ar ailddefnyddio data hanesyddol am bobl Cymru o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae hyn yn cynnwys miloedd o gofnodion bywgraffyddol, delweddau portread, cofnodion llongau, data daearyddol a thestun OCR o'r casgliadau. Rydym yn arbennig o awyddus i weld defnydd o ddata iaith Gymraeg.

Gall hacio gynnwys rhaglenni, visualisations, gamification, defnyddio creadigol ac artistig a llawer mwy! Cliciwch i cael syniad o'r data sydd ar gael.

Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn a bydd lluniaeth, cinio a bag o bethau da i'r holl gyfranogwyr! Jason.nlw (sgwrs) 10:35, 6 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]