Wicipedia:Y Caffi/archif/21

Oddi ar Wicipedia

Archif Ebrill 2016 - Chwefror 2017

Arddull fodern i enwau'r canrifoedd[golygu cod]

Cychwynwyd trafodaeth Sgwrs Wicipedia:Arddull#Canrifoedd gan Defnyddiwr:Emyr Ceredig Evans am ein dull ar Wici o enwi'r canrifoedd ee mae'n awgrymu newid 'yr ail Ganrif ar bymtheg' i 'canrif un deg saith', 'Canrif 17' a C17 ayb. Ymunwch a'r drafodaeth! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:43, 14 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]

Rhoi'r gorau ar en - dim digon ohonom[golygu cod]

Dw i am ganolbwyntio'n llwyr ar Wicipedia Cymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill o hyn ymalaen. Gweler fy sylwadau ar enwici - a dewch nôl i fama! Nid fod hyn o ddiddordeb i neb, chwaith! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:56, 24 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]

Da was, da a ffyddlon AlwynapHuw (sgwrs) 07:48, 25 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]

Cymorth[golygu cod]

Help ! Mae'n oesoedd ers imi wneud rhywbeth sylweddol yma. Mae dosbarth tiwtorial imi wedi paratoi defynydd ar gyfer "Ribosom". Sut mae gosod defnydd heb ei orffen ar Wicipedia - cyn ei fireinio a'i rhyddhau ? Mae gen i atgof am y pwll tywod - ond dim atgof am sut i'w ddefnyddio. Defnyddiwr:Deri Tomos

@Deri Tomos: - Smai Deri? Pastia fo yn dy barth di dy hun e.e. Defnyddiwr:Deri Tomos/pwll tywod neu urhyw dudalennau'n cychwyn gyda dy barthenw di ee Defnyddiwr:Deri Tomos/Ribosom. Gad neges ar fy nhudalen Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000, os wyt angen rhagor o gymorth. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:34, 25 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]
Oes modd defnyddio cyfeiriadau doi?

Sialens Hanes Celf Europeana[golygu cod]

Shane Williams - un o'r 10 llun sy'n cynrychioli Cymru.

@Ham II, Jason.nlw: Da ni drwyddo yn y Sialens Gelf gynaf erioed i'w chynnal gan Europeana - sialens sy'n hyrwyddo ein defnydd o Wicidata. A da ni yno - fel Cymru - nid fel rhan o ryw wlad arall! Dyma'r wefan. Gallwch sgwennu am un o'r gweithiau celf o Gymru (plis!) neu un o'r gwledydd eraill. Wedi i chi wneud cofrestrwch ar Wicidata a rhoi Draig Goch wrth eich henw! Braf ei gweld yn cyhwfan ar faes y gad, unwaith eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:20, 28 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]

Newydd weld fod na lawer o erthyglau Catalwneg wedi'u sgwennu am y lluniau o Gymru. Ychwanegais 2 Gymraeg y bore ma: Blodau mewn fâs a Shane Williams (paentiad) - 3 allan o ddeg! mae na lawer hefyd o wledydd eraill. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:38, 15 Mai 2016 (UTC)[ateb]

@John Jones, Ham II: - Dim ond 4 erthygl sydd heb ei creu, os oes gan rywun yr awydd! Mae pob un wedi eu creu ar en (!) Llywelyn2000 (sgwrs) 15:12, 26 Mai 2016 (UTC)[ateb]

Gogwydd o ran rhyw[golygu cod]

Angharad Tomos

Yn ddiweddar fe euthom ati i ychwanegu Categori:Merched yn ôl canrif ar erthyglau priodol. Dw i newydd gyfri fod gynnym ar Wicipedia 2,419 o erthyglau ar ferched. Mae na 7488 o erthyglau yn y Categori:Pobl yn ôl canrif, sy'n golygu fod 5,069 yn ddynion. Felly, 32.3% o'n bywgraffiadau ni am ferched a 67.7% yn ddynion. Rhad arnom! A gadewch i ni wella'r anhegwch hwn! Ond mae'r ganran o erthyglau am ferched ar Wikipedia Saesneg tipyn is: nid 32.3% ond 15.5%!!! Er mwyn dod a'r clorian yn hafal, mae angen 1325 ar ferched.

Mae hyn yn gyfystyr a 112 o erthyglau newydd y mis; 28 yr wythnos. 7 neu wyth y ddydd, sy'n gwbwl bosib! Unrhyw syniadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:26, 3 Mai 2016 (UTC)[ateb]

Rhestrau o ferched cymwys:
  1. Y Bywgraffiadur Cymreig - tabl ar waelod yr erthygl. Yr enwau sydd mewn italig.
  2. Rhestr Cymry - Yr enwau sydd mewn italig.
  3. Wicipedia:Merched a anwyd yng Nghymru
  4. Rhestr o erthyglau am ferched ar y Wicipedia Saesneg a chategori ar en.
  5. Wicipedia:Deffro'r Ddraig/Erthyglau hanfodol - sy'n cynnwys nifer o ferched sydd angen erthygl arnyn nhw.
Wicibrosiect? Llywelyn2000 (sgwrs) 17:28, 3 Mai 2016 (UTC)[ateb]
Yn ôl wmflabs fodd bynnag mae na 1432 o ferched a 7034. Dw i'n meddwl mai'r ffigurau o bobl ar Wicidata yw rhain, nid erthyglau ar WP. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:26, 23 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]
Newydd ychwanegu Ann Cotton. Gobeithio fod hyn o help! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:44, 23 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]

Wikidata Placeholders[golygu cod]

Helo pawb. Mae 4 Wici bychan wedi dechrau defnyddio Wikidata i dangos gwybodaeth am pwnc os nad oes erthygl yn bodoli. Mae hwn yn help mawr trwy cynnig rywfaint o gwybodaeth heb yr angen am erthygl ond hefyd bydd hwn yn anog pobol i creu'r erthygl. Hoffwn i cael eich barn am hwn, fel rywbeth gallwn ni ychwanegi i'r Wici Cymraeg. Am engreifftiau a rhagor o gwybodaeth cliciwch yma Diolch Jason.nlw (sgwrs) 08:21, 12 Mai 2016 (UTC)[ateb]

Jason, diolch am rannu. Mae'r cysyniad yn addawol iawn o ran dangos gwybodaeth heb erthygl ac i annog pobl i greu erthygl. Ond mae'r enghraifft yn yr iaith Odia yn cynnwys darnau o Saesneg. Ai dyna fyddai'r drefn ar Wicipedia Cymraeg? Gallai hi achosi dryswch os fydd darnau o Saesneg oddi wrth Wikidata. Jyst gofyn. Dw i'n gwybod taw enghraifft yn unig oedd hi. Heblaw am y cwestiwn yma byddaf i o blaid 'hadau syniadau' dw i'n meddwl. --Oergell (sgwrs) 10:51, 13 Mai 2016 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw, Anatiomaros, Llywelyn2000: Newydd weld ar @WiciCymru mai o Wicidata mae'r wybodaeth yn dod, ond mae deall hwnnw fel ceisio dianc allan o labrinth! Cytuno a chi eich dau, da ni ddim eisau mwy o Saesneg ar Wici. Mae cadw ein hunaniaeth a'n hannibyniaeth yn hanfodol. Dwn i ddim os ydych chi'n sylweddoli hyn, ond gallem greu unrhyw reolau da ni isio yma ar y wici cy. Dydan ni ddim yn ddibynol ar y gweddill ieithoedd nac ar Wicimedia mewn unrhyw fodd nac yn ddarostyngedig i'w rheolau nhw - cyn belled a'n bod ni fel cymuned wedi trafod a chreu rheolau amgenach. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:17, 13 Mai 2016 (UTC)[ateb]
O'r olwg gyntaf, dwi ddim wedi fy argyhoeddi am y syniad yma, o edrych ar yr enghreifftiau. Mae Wikidata am ddod yn hynod ddefnyddiol a phwerus, er mwyn osgoi dyblygu data cyffredin ar draws wikis; manylion bywgraffiadol, rhestrau o weithiau creadigol ac ati a fe ddylai fod yn bosib cyflwyno hyn yn rhaglennol gyda gwyneb Cymraeg. Ond o greu 'ffug-erthygl' dwi ddim yn siwr sut mae hyn yn annog creu erthygl go iawn, yn fwy na gweld 'bwlch'. Does gen i ddim ystadegau ond dwi'n amau fod rhan fwyaf o bobl yn cyrraedd Wicipedia drwy chwiliad Google yn hytrach na dod yma a chwilio yn y blwch uwchben. A dwi'n cymryd na fydd y ffug-erthyglau yn ymddangos i beiriannau chwilio (fe fyddai hynny'n syniad gwael iawn). Yn hytrach na gwneud hyn, pam ddim defnyddio Wikidata a bot i greu miloedd o erthyglau egin? Dwi ddim yn meddwl bod hynny'n syniad da gyda llaw, ond y cwestiwn i fi yw - beth fyddai'n annog pobl i gyfrannu gwybodaeth ddefnyddiol? --Dafyddt (sgwrs) 19:44, 13 Mai 2016 (UTC)[ateb]
Dafydd: ar y fflei mae rhain yn cael eu creu - ar amrantiad - pan mae darllenwr yn chwilio am air heb erthygl Gymraeg. Mae fyny iddo fo/hi wedyn ydy o/hi am optio am ddenyddio'r stwff ar WiciData a gynigir, neu beidio. Dydy o ddim yn golygu miloedd o egin pitw, diolch byth! Wicidata - rhaid cael trafodaeth am hyn eto. Pwerus - ydy, ac mae'n HANFODOL ein bod yn cadw'r hawl i'w dderbyn neu ei wrthod, fel mae John yn ei awgrymu, dwi'n meddwl e.e. os da ni'n dod a baneri gwledydd ar enwau pobl - yna pa faner? Jac yr undeb / Brit ydy'r Cymro Tom Pryce ar Wikipedia English, a nifer o Gymru eraill. Ond dw i ddim yn meddwl fod derbyn hwn yn gam at hynny, cyn belled a'n bod yn medru ei ddiffodd hefyd! Mi fydd na Saesneg yn dod fewn, a hynny gan nad ydym wedi cyfieithu popeth ar Wicidata. Opsiwn arall fyddai gofyn iddyn nhw droi'r Almaeneg fel default i ni! Pam lai? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:43, 14 Mai 2016 (UTC)[ateb]
Pe baech yn teipio cactws (neu beth bynnag yw hynny yn nap-wiki; Neapolitan), a dim erthygl dyma fasech chi'n ei gael, gyda dim en! Mae na rywbeth yn dweud wrtha i y dylem ei drio, am gyfnod, a'i droi i ffwrdd os ydy o'n rwts. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:11, 25 Mai 2016 (UTC)[ateb]
Diolch i bawb am y sylwadau. Fi’n deall y pryderon am ormod o Saesneg yn ymddangos yn y testun, Mae’n bosib bydd modd i ni ddewis i beidio dangos unrhyw ddata heblaw am y Gymraeg, ond eto mae’n bosib bydd gweld y Saesneg yn annog pobol i gyfieithi’r testun ar Wikidata, sydd yn gwaith pwysig. Yn edrych i’r dyfodol, bydd e’n haws creu erthyglau gyda bots os mae’r wybodaeth ar gael trwy’r Gymraeg ar Wikidata yn barod. Mi wna’i gwneud ymholiadau ynglŷn â’r Saesneg ac adrodd nôl. Wedyn fi’n credu ei fod y ffordd gorau ymlaen fydd gofyn i chi, y gymuned, i bleidleisio dros gynnal yr offer. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 15:27, 4 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw, Anatiomaros, Llywelyn2000, Oergell, Dafyddt, John Jones, Ham II: Fi wedi siarad gyda’r datblygwyr ac maen nhw’n dweud, er bod e'n bosib i beidio dangos unrhyw Saesneg na fyddwn nhw’n awgrymu mynd lawr y llwybr yma gan mae rhifau P a Q Wikidata bydd yn ymddangos yn eu lle, sy’n golygu dim i’n darllenwyr. Yr opsiwn gorau meddau nhw, yw gwneud yn siŵr bod pod 'Properties' Wikidata wedi cyfieithu i Cymraeg (2500 sydd) cyn i'r placeholders mynd yn fyw, a wedyn defnyddio'r offer Wikidata yma i weithio trwy labeli a disgrifiadau poblogaeth.
Yn fy marn i dylem ddylyn y llwybr yma, achos mae’n annog pobl i gyfieithu’r Wikidata, a fi’n hapus i helpu gyda’r gwaith yma, a hefyd bydd llawer mwy gwybodaeth ar gael i bobl trwy’r Gymraeg, a dylai hyn annog pobl i greu mwy o erthyglau.
Byddaf yn ddiolchgar iawn os gallwch chi dangos eich cefnogaeth neu wrthwynebiad i gynnal y Placeholders ar y Wiki Cymraeg. Cofiwch bydd modd trwy hwn bant os nad yw e'n gweithio i ni fel cymuned. Diolch Jason.nlw (sgwrs) 09:36, 6 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Cwestiwn da! beth am "Dalfan" a "Rhinwedd"? Jason.nlw (sgwrs) 09:36, 8 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Ro'n i'n cynnig 'hadau syniadau' (uchod) hy meddwl am derm gwreiddiol yn hytrach na chyfieithu ystyron rhannau o'r geiriau. Gan mai unigol ydy placeholder, mae angen (o bosib) rhywbeth fel 'bwced hadau syniadau' neu 'Y Pwll Syniadau', er mae 'Dalfa' / 'Y Ddalfa' yn llithro'n rhwydd ar y tafod ac yn naturiol i'r glust! Mae 'property' yn un o ddwy nodwedd bwysicaf Wicidata - y llall yw 'eitem' (y Ps a'r Qs). Ham - ro'n i'n meddwl fod hwn wedi'i gyfieithu tua dwy flynedd yn ol i 'Priodwedd'? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:49, 9 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Onid un tudalen yw pob "placeholder"? Beth am "dalen dros dro" neu rhywbeth tebyg? Rwy'n cytuno gyda "priodwedd", ond rwy wedi dod ar draws y cyfieithiad "eiddo" mewn ambell i le felly roeddwn i eisiau bod yn sicr. Ham II (sgwrs) 05:32, 9 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
"Dalen data"? Jason.nlw (sgwrs) 09:33, 11 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Pa bynnag enw a ddewisir, dylai ddweud wrth y golygydd newydd beth yw ei bwrpas. Dylai fod yn hunan-esboniadwy! Mae placeholder yn wael; gallwn wella ar hyn! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 13:04, 12 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr i pawb sydd wedi cyfrannu i'r trafodaeth. Fi wedi gwneud cais swyddogol i cynnwys y Placeholders ar Phabricator Jason.nlw (sgwrs) 08:54, 19 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

Ffotograffau newydd ar Comin[golygu cod]

Bore da!

Ychwanegwyd dros 5,000 o ffotograffau'n ddiweddar o drefi ac adeiladau ayb yng Nghymru i Gomin Wicimedia. Ceir sampl syml isod, fel tamed i aros pryd! Mae nhw o safon eitha da, wedi'u cymryd gan Defnyddiwr:Nilfanion. Ceir dolenni glas isod ar y map - i gategoriau ar Comin. Gobeithio y byddant o ddefnydd i chi! Richard Nevell (WMUK) (sgwrs) 10:52, 16 Mai 2016 (UTC)[ateb]

Cliciwch ar y siroedd (mewn glas)
Ynys MônConwyGwyneddPenfroCaerfyrddinAbertaweNedd Port TalbotPen-y-bont ar OgwrMerthyr TydfilBro MorgannwgCaerdyddCasnewyddTorfaenMynwyPowys


Cymdeithas Edward Llwyd[golygu cod]


Datblygiadau enfawr ar Eiriadur Rhywogaethau Cymdeithas Edward Llwyd (Y Bywiadur)! Diolch i Duncan Brown a Wici mae na filoedd o luniau wedi ymddangos yn eu geiriadur - a dolenni i Wicipedia Cymraeg pan fod erthygl yn bodoli!!!! Er mwyn torfoli llun coll, dw i wedi dechrau Wicibrosiect Cymraeg ar Comin. Ond dw i'n gobeithio mai naturiaethwyr ledled y byd fydd yn mynd i'r afael a'r gwaith yma, ond efallai y gallem gadw llygad - a'u helpu! Mae'r bartneriaeth efo Cymdeithas Edward Llwyd yn dangos sut y gall corff allanol, trydydd parti elwa o ffeiliau ar drwydded rhydd. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:42, 18 Mai 2016 (UTC)[ateb]

Ciplun o wefan Cymdeithas Edward Llwyd; Mai 2016.
Ciplun o wefan Cymdeithas Edward Llwyd; Mai 2016.

Gweinyddwyr sydd heb olygu ers tros flwyddyn[golygu cod]

Os nad yw Gweinyddwr wedi golygu ers tros flwyddyn, gallem ddileu ei hawliau fel Gweinyddwr. Da ni wedi gwneud hyn unwaith yn y gorffennol, tua tair blynedd yn ôl. Mae'r canllawiau ynghylch dileu'r statws yn fama: Wicipedia:Gweinyddwyr. Ceir 3 gweinyddwr sydd heb olygu ers tair blynedd:

Dydy dileu eu statws ddim yn ddi-droi'n-ôl. Ar hyn o bryd mae gennym 16 Gweinyddwr, sydd gryn dipyn yn fwy na wicis eraill o'r un maint - a rhai llawer mwy! Gweler Meta a'r rhestr hon.

Rhoddwyd yr hawl, hefyd i Defnyddiwr:Jim Carter fod yn Weinyddwr dros dro. Gwnaeth gybolfa iawn o rai o'r Nodion a greodd; gweler ei dudalen Sgwrs.

Awgrymaf ein bod yn tynnu statws y 4 Gweinyddwr yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:20, 19 Mai 2016 (UTC)[ateb]

@Llywelyn2000: I have requested at @Deb: talk page to remove my admin userright long ago. Jim Carter (sgwrs) 07:13, 20 Mai 2016 (UTC)[ateb]
Diolch! Many thanks! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:28, 20 Mai 2016 (UTC)[ateb]
Gan nad oes ganddyn nhw wrthwynebiad, yna cytunaf i ddiddymu eu statws fel Gweinyddwr. Ac yna llenwi un o'r tri (nid mod i eisiau job - mae na eraill sy'n treulio llawer mwy o'u hamser, ac yn haeddu'r gwaith, llawer mwy na fi! Yn bwysicach - does gennym run Stiward ar cy-wici!!! Felly, ar hyn o bryd, mae'n rhaid i'r tri Biwrocrat fynd a chap yn eu llaw i ofyn i Stiward ar en-wici i ddiddymu eu statws! Mae hyn yn ein gwneud yn wicipedwyr eilradd. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 13:16, 12 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Ti'n llygad dy le. Ond mae'r geiriad yma yn anghywir: "Nid oes gan fiwrocratiaid yr hawl i dynnu hawliau gweinyddwyr na rhoi hawliau lefelau uwch." (gweler: Wicipedia:Biwrocratiaid. Mae gan Fiwrocrat yr hawl i ddiddymu hawliau Gweinyddwyr, ond nid hawl Biwrocrat arall; ac mae Defnyddiwr:Porius yn Fiwrocrat. Mi wna i gyfieithu'r manylion o en. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:56, 16 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Newydd gywiro'r dudalen Wicipedia:Biwrocratiaid. Mae dy sylw ar rym y Stiward yn gywir, ond os edrychi ar y dudalen hon, ar Meta mae nhw'n cael eu creu, nid en. Dydy o ddiawch o ots gen i fynd i Meta efo fy nghap yn fy llaw! Ond mae angen barn defnyddiwr/wyr eraill ynglyn a tynnu hawliau'r tri defnyddiwr, os gwelwch yn dda. Gellir tynnu'r hawliau os nad yw'r defnyddiwr wedi golygu ers blwyddyn. Dyw Glanhawr heb olygu ers dros 2 flynedd a hanner a'r ddau arall ers bron i 5 mlynedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:25, 16 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

Cader Idris wedi newid[golygu cod]

Diolch i'r drafodaeth yma yn y Caffi, a phenderfyniad y Parc Cenedlaethol heddiw, newidiwyd enw'r mynydd o Gadair Idris i Gader Idris. Diolch i @AlwynapHuw: am ei flaengaredd ac am ddadlau ei achos mor gryf a deallus. Yn y gorffennol, rydym wedi dilyn cyrff a sefydliadau allanol fel y Parc, Geiriadur y Brifysgol ayb; efallai y dylem, rwan newid a thorri ein cwys ein hunain. UDI. Mae angen polisiau chwyldroadol arnom os yw cywici yn parhau gan y daw dydd y bydd eraill yn ceisio dweud wrthym ni beth fydd y cynnwys. Annibyniaeth. A diolch i Alwyn am feddwl annibynol! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:42, 8 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]

TED speaker challenge[golygu cod]

symudwyd --->

70,000 o erthyglau[golygu cod]

Cyrhaeddwyd 70,000 o erthyglau'r bore ma am 04:37: erthygl gan Defnyddiwr:AlwynapHuw, sef Richard Vaughan (Corsygedol). Llongyfs cynnes iawn i Alwyn a phawb arall a fu wrthi mor ddyfal - mae pob erthygl yn cyfri, wrth gwrs, ac yn anrheg gwerthfawr iawn i'n dinasyddion, i ddyfodol y Gymraeg ac i barhad cyfoeth yr amrywiaeth. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:53, 21 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]

@John Jones: @Llywelyn2000: Mae Hafan heddiw yn dangos bod erthygl rhif 71,001 wedi ei greu! Sydd yn od ar y naw, gan fy mod yn sicr imi ysgrifennu erthygl tua 71,200 Dydd Mercher diwethaf. Pam bod gymaint o erthyglau wedi eu dileu? AlwynapHuw (sgwrs) 05:20, 28 Awst 2016 (UTC)[ateb]
Er waethaf popeth sydd wedi bod yn trafferthu a ffinio'r anystwyth ar yr dudalennau o'r canolfan Gwybodaeth ddwyieithog yr Gymro, efallai mea'n gweth chweil cydnabod yr prblem fel un o lleheudra o gynnwys ar nifer o'r erthyglau. Os cafoss unrhyw erthygl o'r rhai sydd wedi diflannu esioes ei benodi fel tudalen byr uwch ei ben: Roedd yr tudalen hynnu, siwr o fod, wedi diflannu o fan na efo'r bau ar rheswm fel hyn 86.168.18.66 18:52, 3 Rhagfyr 2016 (UTC).[ateb]

Peace Treaties in Art 30 x 30 Challenge[golygu cod]

symudwyd --->

Mae'r Sialens yma'n ymwneud a gweithiau celf. Dw i newydd ychwanegu'r cyntaf, gan fod y criw sy'n trefnu yn hen griw da o Wlad y Basg. Mae na 29 ar ol! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:45, 23 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]

symudwyd --->

Gwefan OGL 'Gwobrau Dewi Sant'[golygu cod]

Mae'r wefan 'Gwobrau Dewi Sant' ar drwydded agored OGL. Oherwydd hyn, gallem gopio a phastio'r testun i greu erthyglau (yn enwedig o'r benywod!) - nid mod i'n awgrymu gwneud hynny, gan fod angen niwtraleiddio'r dweud rhyw ychydig! Ond mae copio a phastio talpiau'n bosib, a chwynu wedyn. Dw i wedi gwneud cais i rywun fotio'r holl luniau i Comin, a dw i'n siwr y dont cyn hir. Dw i hefyd wedi cychwyn ar Gwobr Dewi Sant, a gellir greu dolennau o bob person i'r erthygl hon. Felly, mae croeso i chi weithio ar y rhain, os yw at eich dant. Unigryw! Unigryw! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:16, 26 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]

Y Flaengroen Bendigaid[golygu cod]

Oes modd i un sydd a well dealltwriaeth o'r treigliadau na mi gwirio'r erthygl hon ogydd Y Flaengroen Bendigaid, mae Cysill yn anwadal Y Blaengroen / Y Flaengroen & Bendigaid / Fendigaid dioch AlwynapHuw (sgwrs) 05:32, 13 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

Rhyng-gysylltiadau ar nodiadau[golygu cod]

Ar hyn o bryd mae nodyn en:Cite web yn cysylltu gyda cy:Dyf gwe a'r un fath gyda Cite news a Cite journal.

Mae hyn yn boendod mawr am nad yw'r fersiwn Cymraeg yn defnyddio yr un paramedrau, er fod ganddo ni hefyd Nodyn:Cite_web ar y Wici yma hefyd. Doedd hyn ddim yn broblem wrth greu cynnwys fel arfer OND mae'r teclyn cyfieithu yn trosi nodiadau yn awtomatig gan ddefnyddio cysylltiadau Wikidata. Felly ar ôl cyfieithu mae angen newid "Dyf gwe" nôl i "Cite web" (neu drosi'r holl baramedrau i fersiwn "Dyf gwe"). Beth bynnag mae hyn i gyd yn gwastraffu amser wrth gyfieithu erthyglau hir gyda llawer o gyfeiriadau. Dwi wedi gofyn draw yn mediawiki am y newid a roedden nhw'n addo datrysiad er dyw e ddim wedi ymddangos yma mor belled.

Felly… fy awgrym i fyddai datgysylltu "Dyf gwe" a'i ffrindiau a chysylltu "cy:Cite web" gyda'i bartner ar enwiki. Dwi'n credu fod hyn yn gwneud synnwyr i'r holl nodiadau sy'n cael eu copïo. A phwynt mwy cyffredinol - dwi ddim yn gweld pwynt cyfieithu nodiadau a pharamedrau. Wedi'r cyfan y peth pwysicaf yw fod y cynnwys gweledol yn Gymraeg nid yr holl bethau mewnol. Mae yna lawer iawn o hen nodiadau a ddatblygwyd yn arbennig fan hyn ond sydd yn hen ffasiwn neu ddim yn gweithio'n dda ar ddyfeisiau symudol. Does gan neb yr amser fan hyn i gadw fyny gyda diweddaru y cannoedd o nodiadau sydd ar gael a felly mae'n well i ni ganolbwyntio ar y cynnwys. Sylwadau? --Dafyddt (sgwrs) 15:41, 15 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

Cytuno'n gryf! Diolch Dafydd am fynd ati fel hyn! Fel rwyt yn ei ddwued - 'y peth pwysicaf yw fod y cynnwys gweledol yn Gymraeg nid yr holl bethau mewnol'. Gant y cant! Dw i di bod yn defnyddio'r dull hawddaf un o gyfeiriadaeth, gan fod ei gymhlethu'n atal pobl rhag golygu! Y symlaf ydyw gorau byd, ddwedwn i. Mae na wici newydd yn deor (proses yr incubator!) - wici-ddyfynu; gan fod academia'n mynnu cyfeiriadaeth safonol. Mae hyn yn iawn, cyn belled a bod ei ddefnyddio'n mynd i fod yn hawdd. Dyma, efallai beth sydd wedi dal Meta yn ol. Fe ddaw! Tan hynny, diolch am yrru'r cwch i'r dwr! Yn bersonol, mae gen i ffydd i ti weithredu ar ein rhan efo hyn. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:30, 15 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Cytuno'n wan Y cynnwys sy'n bwysicaf, yn amlwg, ond mae dangos bod y bol yn Gymraeg yn ogystal a'r bogail yn bwysig i barhad yr iaith. Hwyrach fy mod yn rhy sensitif ond rwy'n gwylltio o weld URL Saesneg ag lang=2 Cy yn ategiad iddo. Os yw'r iaith am barhau mae'n bwysig mynnu bod <>lliw<> yn gweithio cystal a <>color<> wrth greu gwefan. Rwy'n teimlo fel bradwr i'r iaith pob tro 'rwy'n sgwenu <.ref> yn hytrach na <.cyf> ar gyfer cyfeirnod AlwynapHuw (sgwrs) 03:48, 20 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Gallem newid y codio yma Alwyn, os wyt yn credu ei fod yn flaenoriaeth; dwina run peth efo <gallery> ayb; ond i mi, yr hyn sy'n weladwy i'r darllenydd ydy'r peth pwysicaf! Cychwyn rhestr o'r pwysicaf, a mi ffindiwn ble i'w cyfieithu. Gyda llaw - mater bach fyddai newid 'File:' i 'Delwedd:' (ayb) efo bot. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:20, 20 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

Vocab[golygu cod]

Amser maith yn ôl roedd fe ddefnyddiom ni Vocab y BBC ar Wici, ond roedd ganddo hysbyseb reit hyll a thynnwyd y diawch yn reit sydyn. Roedd yr egwyddor yn un da - caniatau i bobl gael esboniad ar air pe baen nhw'n dymuno hynny. Bellach, mae'r Uned Technolegau Iaith wedi datblygu'r feddalwedd, gan ei gysylltu i'w myrdd o eiriaduron, ac nid oes hysbys yn agos ato! Carwn ei dreialu am gyfnod; gallem ei dileu unrhyw dro, os nad yw'n plesio. Mae Cymru Fyw yn ei ddefnyddio, mae Popeth Cymraeg yn ei argymell. Dyma'r sgript. Unrhyw gefnogaeth i hyn? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:28, 16 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

Cefnogi rhoi go arni, wedyn cawn ystyried ei werth ym mhen y rhawg AlwynapHuw (sgwrs) 03:06, 20 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw: Gwych. Mae na fotwm handi i'w roi mlaen ac i'w ddiffodd! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:06, 7 Awst 2016 (UTC)[ateb]
Ydy hwn ymlaen erbyn hyn? Lle mae'n ymddangos? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:37, 14 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]
Haia John. Nac ydy, ddim eto! Ar y gweill! Neb wedi gwrthwynebu. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:11, 20 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Dileu tudalen[golygu cod]

Helo. Newydd ffindo tudalen llawn ar bwnc wedi i mi geisio creu tudalen newydd! Sori! Sut mae dileu'r darn newydd? Rwy' wedi twtio rhywfaint ar y gwreiddiol bellach a'i gywiro mewn un man! Penyderyn (sgwrs) 08:02, 7 Awst 2016 (UTC)[ateb]

@Penyderyn: Diolch! Dw i wedi gwneud yr un peth droeon! Does dim gwaeth! Newydd newid y ddalen newydd yn ailgyfeiriad. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:52, 7 Awst 2016 (UTC)[ateb]

Wikidata Placeholders i mynd yn fyw[golygu cod]

Helo pawb, dim ond gair sydyn i nodi bod ni'n gobeithio bydd y Wikidata placeholders yn mynd yn fyw ar cy Wici ar y 10fed rhwng 16:00-17:00 UTC. Diolch Jason.nlw (sgwrs) 13:53, 9 Awst 2016 (UTC)[ateb]

Heno, rhen blant bach! Go dda! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:31, 10 Awst 2016 (UTC)[ateb]
Mae'r placeholders yn fyw! Dyma enghraifft. Cofiwch, mae modd cyfieithu Saesneg i'r Cymraeg ar Wikidata. Jason.nlw (sgwrs) 19:33, 10 Awst 2016 (UTC)[ateb]
Sut mae ei droi ymlaen? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:18, 12 Awst 2016 (UTC)[ateb]
@John Jones:. Nid oes angen trwy hwn ymlaen, mae'n ymddangos yn awtomatig. Am ryw reswm nid yw'r teclyn yn darganfod data am rai pethau - (mi wna'i edrych mewn i hwn) ond fel enghraifft chwilio am 'Ford Prefect'. Ar waelod y tudalen o ganlyniadau bydd adran 'Discover data on the topic' (mae'r Gymraeg ar y ffordd!) clicio ar un o'r canlyniadau i weld y data. Jason.nlw (sgwrs) 11:34, 17 Awst 2016 (UTC)[ateb]

Gwobr Eisteddfod[golygu cod]

@Llywelyn2000: Wedi bod yn pori trwy Restr Testunau Eisteddfod 2017 ac wedi sylwi bod nifer o gystadlaethau sgwennu ar gyfer cyfrwng arbennig yn y gwahanol adrannau ee

  • 130 Adolygiad o westy
  • 134 Erthygl ar wyddoniaeth
  • 169 Portread o gynefin neu unigolyn
  • 170 Erthygl addas i Bapur Bro
  • 171 Adolygiad o lyfr
  • 173 Post Blog
  • 174 Erthygl newyddiadurol

A meddwl tybed oes modd cynnig gwobr yn Eisteddfod Urdd / Genedlaethol 2018 ar gyfer erthygl addas i'w cyhoeddi /wedi ei gyhoeddi ar Wicipidia? AlwynapHuw (sgwrs) 03:49, 10 Awst 2016 (UTC)[ateb]

Syniad gwych! Beth am drydar Sioned Hughes gan ei chyfeirio hi at y sgwrs yma? Mi holaf inna am y wobr - be sy'n arferol? £100?
Steddfod Mon. Dw i wedi cyfarfod y swyddogion, a gobeithiwn y bydd gennym brosiect Wici Mon; manylion i ddod; mae hwn yn syniad da Alwyn, ac ella nad ydyw'n rhy hwyr. Rwan hefyd ydy'r amser i drafod a allem gael pabell i hyfforddi ayb. Bril! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:29, 10 Awst 2016 (UTC)[ateb]
Bydd angen cysylltu gyda Phwyllgor Llenyddol Eisteddfod 2018 cyn gynted a byddent yn ffurfio - dwi'n gwybod fod pwyllgorau testynau Môn wedi cwrdd ym mis Medi/Hydref 2015 i baratoi Testynau i'w cyflwyno ym mis Chwefror 2016 ar gyfer Eisteddfod 2017. Yr unig broblem all fod y rheol fod unrhyw gystadleuaeth newydd yn gorfod parhau am dair blynedd. Blogdroed (sgwrs) 17:18, 11 Awst 2016 (UTC)[ateb]
@Blogdroed, AlwynapHuw: Mae na brosiect ar fin cychwyn sy'n berthnasol iawn i Steddfod Mon. Cyhoeddiad cyn hir! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:10, 20 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Problem gyda gwybodlen[golygu cod]

Dwi'n cael mymryn o drafferth ceisio dadansoddi a phigo'r darnau allan o Nodyn:Infobox sportsperson. Gan edrych ar Jazmin Carlin fel enghraifft, dyw'r côd Medal|Gwlad ddim yn gweithio i ddynodi GBR yn y Gemau Olympaidd ac yna CYM yng Ngemau'r Gymanwlad - dwi di cael cur pen yn ceisio gweithio allan be sydd wedi digwydd yn wreiddiol efo'r côd! Hefyd, oes modd cyfieithu'r show|hide yn y blwch? Diolch am unrhyw gymorth Blogdroed (sgwrs) 17:24, 11 Awst 2016 (UTC)[ateb]

Ro'n i'n meddwl fod hwn wedi'i ddatrus yn Ebrill; fe elli weld y sgwrs yma, ond na. Dw i wedi bocha ychydig fel y gweli, ond yn ddim nes at y last! Ti isio gofyn i Redrose eto am ei gymorth? Fo ydy'r gore, dw i'n meddwl. Mae gen i 3 cais am gymorth efo 'Show' ar en, a dim lwc efo run. Mae'n rhaid mod i wedi eu pechu nhw - rol i mi roi'r ffidil Saesneg yn y to! @Xxglennxx, Dafyddt: - fedri di helpu? Cofion... Llywelyn2000 (sgwrs) 19:19, 11 Awst 2016 (UTC)[ateb]
Ie, mi wnes i gymryd golwg cyflym ar hwn o'r blaen ond wna'i edrych eto. Mae cyfieithu y meysydd falle yn broblem (neu o leia ei wneud yn anoddach datrys!). Ond mae rhywbeth gwell yna nawr gyda nodyn newydd ar gyfer {{CYM}}. Wnes i chwilio sbel yn ôl am sut i gyfieithu show/hide - mae'n rhywbeth yng nghraidd MediaWiki ond o'n methu dod o hyd i le yn union! --Dafyddt (sgwrs) 20:50, 11 Awst 2016 (UTC)[ateb]
Be fase'r cyfieithiad gorau am 'Event' (yn y wybodlen chwaraeon). Mae'n gyfuniad o Gamp/Ras/Arddull/Gornest yn dibynnu ar y fath o chwaraeon a chystadleuaeth e.e. Dull Rhydd/nofio 100m/naid uchel/gornest judo/ras redeg 10,000m. Efallai mai 'digwyddiad' yw'r unig ateb sy'n cwmpasu popeth, neu 'cystadleuaeth'? --Dafyddt (sgwrs) 09:49, 12 Awst 2016 (UTC)[ateb]
Dwi'n credu mai 'camp' ydi'r enw mwyaf addas. Diolch i bawb am eu help, gyda llaw Blogdroed (sgwrs) 10:12, 12 Awst 2016 (UTC)[ateb]

Glas y Dorlan Sanctaidd?[golygu cod]

Tynnais 'i'r llun yn Devonport, Seland Newydd a dw i ddim yn hollol sicr pa fath o las y dorlan oedd o.Lesbardd (sgwrs) 09:44, 18 Awst 2016 (UTC)[ateb]

Mae lleoliad y Kookaburra yn atgoffa fi o barodi o'r gan boblogaidd Kookaburra (cân) mae fy neion yn Awstralia yn canu:

Kookaburra sits on a lectric wire,
Tears in his eyes 'cos his bums on fire
Cry, Kookaburra, cry, Kookaburra,
Hot your bum must be!
AlwynapHuw (sgwrs) 05:40, 28 Awst 2016 (UTC)[ateb]

@Lesbardd, AlwynapHuw: Mae Davyth a Duncan, Llên Natur, yn awgrymu efallai mai'r Pysgotwr cysegredig (Todiramphus sanctus / Sacred kingfisher) ydy o. Mae'n nhw'n ymestyn eu cais am wybodaeth i arbenigwyr yn Seland Newydd, fel dw i'n teipio, a dof nol os bydd rhagor o wybodaeth! Mae na luniau da ohono yn barod ar Comin, ond dim un o'i bel-ol o Les! Da iawn am lenwi bwlch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:22, 2 Medi 2016 (UTC)[ateb]
Diolch; gwna' i aros am wybodaeth bellach.Lesbardd (sgwrs) 20:21, 2 Medi 2016 (UTC)[ateb]
Dyna'r ymateb felly gan Llen Natur: Pysgotwr cysegredig] (Todiramphus sanctus). Llywelyn2000 (sgwrs) 11:32, 15 Medi 2016 (UTC)[ateb]
Dw i wedi cysylltu a ffrind, Martin Curtis (naturieithwr, dringwr, canwr gwerin a glanhawr swyddogol toiledi cyhoeddus Cardrona). Pysgotwr cysygredig ydy hi. Gwna' greu'r dudalen.Lesbardd (sgwrs) 07:53, 23 Medi 2016 (UTC)[ateb]

Gwyliau Mabsant[golygu cod]

Peth amser yn ôl bu rhywun yn holi am restr o wyliau mabsant Cymreig, methu cofio pwy. Mae nifer o'r Saint Cymreig/Brythonig yn cael eu rhannu rhwng y gwledydd Celtaidd, gan hynny gallasai'r ddalen hon ar Wicipedia Ffrangeg bod o ddefnydd Calendrier breton des saints Calendr o saint Llydaw AlwynapHuw (sgwrs) 14:05, 1 Medi 2016 (UTC)[ateb]

Dw i ddim yn sant o bell ffordd, ond mi fydd hwn yn ddefnyddiol iawn! Dw i'n siwr y gallem greu un am seintiau Cymru hefyd, neu'n well byth, y gall Wicidata greu rhestr otomatig. Mae hwn gennym ni: Rhestr o seintiau Cymru, a dw i'n gweithio drwyddo fo'n ara deg. Diolch Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 03:14, 2 Medi 2016 (UTC)[ateb]
Yn ôl rheolau Barddas (2004) does dim hawl i unigolyn bod yn Brifardd ac yn Sant, dyna paham dy fod di'n prifardd a finnau dim :-) AlwynapHuw (sgwrs) 02:12, 3 Medi 2016 (UTC)[ateb]

Archif S4C ar Borth y Coleg Cymraeg[golygu cod]

Mae na gynlluniau i ddarparu llawer o adnoddau, gan gynnwys ffilm, ar y Porth. Er fod y gwaith dan drwydded Anfasnachol, dydw i (yn bersonol) ddim yn gweld dim o'i le mewn rhoi clipiau dan drwydded 'Defnydd Teg' oherwydd eu gwerth hanesyddol, addysgol. I weld y stwff, bydd yn rhaid i chi ymaelodi am ddim a'r CCC yna 'Mewngofnodi' (top dde): fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:08, 8 Medi 2016 (UTC)[ateb]

Deunyddiau agored[golygu cod]

Fyddai'n syniad cael Rhestr o ddeunyddiau ar gynnwys agored? Er enghraifft, yma'n y Caffi, nodwyd fod Cymru Fyw wedi trosglwyddo nifer oerthyglau ar grwpiau pop Cymraeg - ar drwydded agored. Gallem felly, gopio a phastio a chreu erthyglau'n hawdd. Felly hefyd llawer o stwff y Coleg Cymraeg (diolch i Ham) a gallwch ganfod pa erthyglau ar yr Esboniadur. Mae Cwmni Recordiau Sain hefyd wedi rhoi caniatad i ni uwchlwytho pob un o'r clipiau Sain sydd ganddyn nhw ar y we - ar Comin, dan drwydded agored. Mae defnyddiau parod fel hyn yn hwyluso pethau i ni olygyddion, ond efallai fod angen eu nodi mewn cynllun / Wicibrosiect, yn daclus? Mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol i'r toreth o stwff mae'r LlGC eisioes wedi'i huwchlwytho. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:43, 15 Medi 2016 (UTC)[ateb]

@Rhyswynne: Galli Rhys! Dim probs! Ond cofia fod testun y BBC ychydig flynyddoedd oed bellach; er fod llawer o'r wybodaeth yn 'hanesyddol' gywir. ON - ti isio dod a'th gwestiwn i fama o'r archifdy, gan y dylai hwnnw fod wedi'i gloi mewn gwirionedd? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:47, 25 Medi 2016 (UTC)[ateb]
Mae holl gronfeydd data Cymdeithas Edward Llwyd yn agored i bawb eu defnyddio. Cell Danwydd (sgwrs) 09:34, 23 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]

Grants to improve your project[golygu cod]

Symudwyd...

Adar via Wicidata[golygu cod]

Mae gen i bedair erthygl a greais gydag AWB: Sïedn gên emrallt, Telor padi, Pengwin Patagonia ac Eryr brith. Mae popeth yn y rhain yn dod o Wicidata a db Cymdeithas Edward Llwyd drwy AWB. Robin (Llywelyn2000) fu'n addasu hwnnw a sicrhau ei fod ar Wicidata. Os ydy'r 4 erthygl yma'n dderbyniol, yna mi wnaf gweddill yr adar. Mae chydig o bethau anarferol yn y codio (ee mae'r categoriau yn llorweddol yn y côd yn hytrach nag ar i lawr) ond dyw hyny ddim yn gwneud unrhyw ots i sut mae'n edrych i'r darllenydd. Wedi gorfen y rhain mi af ati o orffen yr erthyglau ar y teuluoedd unigol a chreu categori i bob teulu. Sylwadau os gwelwch yn dda? Neu cewch ddweud: "Cytuno! Ffwr a ti!" Os na chlywai ddim mewn rhyw dridiau mi gymrai nad oes problem. Bydd yn ychwanegiad pur werhfawr a dweud y gwir! Cell Danwydd (sgwrs) 13:34, 3 Hydref 2016 (UTC)[ateb]

Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:13, 5 Hydref 2016 (UTC)[ateb]
Wedi cychwyn. Mae Aderyn haul tinfelyn yn enhraifft. Fe fydd Lysteria yn diweddaru'r tabl yn otomatig ac fe ddaw'r llun a'r cysylltiad gyda ieithoedd eraill drwy rywun ar Wicidata cyn bo hir. Cell Danwydd (sgwrs) 09:14, 5 Hydref 2016 (UTC)[ateb]
Na, paid a phoeni! Dwi'n meddwl mai un broblem oedd efo'r UT8: yr acen grom ar yw w (ŵ) yn gŵydd, mewn tua 7 ohonyn nhw. Maen nhw wedi'u cywiro bellach. Mae Corhedydd y Camerŵn a'r gweddill i'w gweld yn hollol iawn. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:01, 5 Hydref 2016 (UTC)[ateb]

Rhyngom, mae pob rhywogaeth byw o adar wedi'u cwbwlhau fel egin; gweler Categori:Teuluoedd o adar. Mae angen i rywrai ohonom ddiweddaru'r hen erthyglau a oedd ar Wici cyn i ni ddechrau'r prosiect bach yma: 1 ychwanegu'r Rhestr Wicidata (cofiwch roi'r Qcode i fewn 2. newid y teitl i lythyren fawr ar ei gychwyn yn unig - nid yn yr ail a'r trydydd gair. Dyma yw trefn arferol yr ieithoedd eraill ar wahan i'r susnag sy'n newid fel ceiliog y gwynt. Un job arall - i mi mae'n debyg - yw creu erthygl ar bob teulu o adar. Diolch am eich hamynedd a chymorth yr hen Llyw2000! Cell Danwydd (sgwrs) 09:33, 23 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]

Wiki Conference idea at University of Edinburgh in June[golygu cod]

Symudwyd...

Cadw ein hunaniaeth[golygu cod]

Dwi'n cynnig fod y gwalch yma yn cael bloc blwyddyn am ddileu tudalen gyfan heb drafodaeth. Mae'r dudalen 'Cyfoes' yn ddeniadol ac yn gyfoes! Mae'n hen bryd i ni glampio i lawr ar ddefnyddwyr o'r tu allan yn creu llanast fel hyn. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 18:16, 29 Hydref 2016 (UTC)[ateb]

Mae o wedi ymddiheuro i ti/ni. Yn fy marn i mae na le i luniau ar gategoriau, os yw'n gymorth i'r darllenydd. Dal ati rhen frawd! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:13, 2 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]

Pryce Pryce-Jones[golygu cod]

Mae tudalen Pryce Pryce-Jones o dan awdurdod y Bywgraffiadur yn wallus rhyswsut. Wedi crefu fy mhen ar sut i'w wirio ond yn methu. Mae clicio ar y ddolen Awdurdod yn dod a'r neges Message: Resource Not Found - Description: The requested resource "/yba/YBA/cy/c3-PRYC-PRY-1834.html" could not be found - Sender: org.apache.cocoon.servlet.CocoonServlet -Source: Cocoon Servlet (Mae hanes Syr Pryce dal ar gael ar y bywgraffiadur [1] (maen debyg mae'r "/c3/" yn hytrach na'r "/c5/" yw'r bai ond sut mae ei newid? AlwynapHuw (sgwrs) 03:59, 31 Hydref 2016 (UTC)[ateb]

Bore da Alwyn! Mae Rheoli Awdurdod yn tynnu'r data sydd ar Wicidata. Agorais y prosiect hwnnw a phastio enw'r boi er mwyn canfod y wybodaeth amdano. Os ei di i lawr at y dynodwr / identifier YBAL fe weli mai c3 sydd yno yn hytrach nag c5. Roeddet yn sydyn iawn yn gweld ble roedd y cangymeriad! Os cei drafferth yn ei newid, gad i mi wybod! Y cwestiwn ydy faint o Nodion Rheoli Awdurdod eraill sy'n ddiffygiol?! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:23, 31 Hydref 2016 (UTC)[ateb]
Wedi sylwi o'r blaen fod nifer o'r dolenni i'r Bywgraffiadur yn anghywir ond dwi ddim yn siwr pam nad oes gan y Bywgraffiadur URLs parhaol a beth yw ystyr y rhifau c. Ydi e'n cyfateb a wahanol rifynnau? Mae'r cofnodion diweddara i gyd ar c11. --Dafyddt (sgwrs) 10:22, 31 Hydref 2016 (UTC)[ateb]
Mae'r rhifau ar ôl y c yn cyfeirio at y gwahanol gyhoeddiadau: c=cyfrol 1; c1=atodiad cyfrol 1; c2=cyfrol 2; c3=atodiad cyfrol 2; c4=cyfrol 3; c5=atodiad cyfrol 3; a wedyn mae'r rhifau sy'n dilyn (6-11 ar hyn o bryd) yn cael ei rhoi i erthyglau sydd ddim yn bodoli mewn print, ac yn cael ei newid yn flynyddol i gyfateb ar 'Blwyddyn Cyhoeddi' ar waelod yr erthygl. Y bwriad yn y pen-draw dwi'n meddwl yw creu dolenni parhaol wrth greu gwefan newydd. Morfuddnia (sgwrs) 14:27, 31 Hydref 2016 (UTC)[ateb]
Taflwyd system y Bywgraffiadur at ei gilydd wedi i'r platfform masnachol gynt fynd i'r wal. Druan bach, tydi o heb gael llawer o fuddsoddiad technegol ers hynny. Mae peth gwaith wedi ei wneud ar ddata cysylltiol agored a chofnodion y Bywgraffiadur, mi ofyna'i i'r un fu'n gyfrifol a'n Wicipediwr sut mae diweddaru'r wicidata i wneud yn siwr fod y data'n gyfredol. Dylid bod PID (adnabyddun parhaol?) hefyd ar gyfer y cofnod yn cael ei greu ar handle.net a fyddai'n diweddaru ar unrhyw newid linc. Falch fod pobl yn defnyddio'r adnodd, gobeithio gallwn ei wella'n sylweddol cyn hir! --Illtud (sgwrs) 15:30, 31 Hydref 2016 (UTC)[ateb]
Bendigedig! Byddai hynny'n help mawr! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:15, 2 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]

Cywirwr 2a00:23c0:c266:9400:a8e7:a51e:3267:4e9 ac ip cyffelyb[golygu cod]

Mae gan y golygydd hwn nifer o olygiadau cywir, ond ceir llawe o rai anghywir hefyd. Fe ddywedwn i mai peiriant cyfieithu / cywiro sydd wrthi ee yn ei olygiad ar yr erthygl Japan mae'n newid:

'canolbwynt gwleidyddol' i 'canolbwynt wleidyddol'; 'y canolbwynt' sy'n gywir (enw gwrywaidd yn ôl Geiriadur y Brifysgol; dim treiglad.
'ychydig o wastadeddau sydd i'w cael sydd yn addas i fyw' i 'ychydig o wastadeddau sydd i'w cael sydd yn addas i'w trigiannu' - chlywais i rioed am 'trigiannu'! Byddai hwn yn ddiethr iawn i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr gan nad yw'n cael ei ddefnyddio ers o leiaf dau gan mlynedd (Gw GPC)!

Yn ei olygiad ar Y Plygain mae'n newid 'Gwyddom' i 'Gwyddus', sydd unwaith eto, yn hen ffasiwn iawn, er yn gywir. Gweler yma. Ac mae'n newid:

'Yn aml roedd yr alwa yn cael ei benthyg...' i 'Yn aml roedd yr alwad yn cael ei benthyg...' sy'n ymgais i gywiro teipo 'alaw' heb feddwl dim am y synnwyr!

Yn ei olygiad o'r erthygl ar Baróc mae'n newid:

'Fe'i nodweddir mewn pensaernïaeth ac arlunio gan y defnydd o linellau ystwyth...' i 'Fe'i nodweddir mewn pensaernïaeth ac arlunio gan ddefnydd llinellau ystwyth ...' sy'n gywiriad hollol anghywir! Roedd y gwreiddiol yn gwbwl iawn.

Fel y dywedais, mae llawer o'r cywiro'n gywir, ond gwylier! Mae llawer yn waeth. Credaf ein bod wedi cyfarfod y defnyddiwr hwn dros y blynyddoedd, mewn gwahanol cyfeiriadau ip, sy'n cael eu newid. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 17:03, 7 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]

am/parthed[golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw.. O newid am i parthed bydd dim angen treigliad! Mae treigliadau yn boen yn y parth ôl wrth Wglo pwnc! AlwynapHuw (sgwrs) 05:39, 13 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]

Ydy, mae hyn yn ateb y broblem. Y gamp rwan yw darganfod ble mae'r geiriad i'w gyfieithu! [2] [3] neu [4]!!! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:50, 23 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]

Chwilio am fanau gwan ar wici - teclyn newydd![golygu cod]

Mae hwn - y Gap Finder yn canfod manau gwan yn cywici! Bril! Gall ganfod erthyglau yn y Gatalan, y Fageg, Llydaweg ayb ayb - nad ydynt ar cywici. Mae dolen hefyd i fynd a chi i'r peiriant cyfieithu! Ond cofiwch - mae angen llygad dynol i wiro a chywiro; ddylem ni ddim dibynnu ar Wicipedia:Y Cymhorthydd Cyfieithu! Ond mae hyn yn gam arall i'r cyfeiriad iawn yfmi! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:20, 18 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]

Un ddifyr i gymharu tyllau a hi, os am chwilio am erthyglau syml i'w cyfieithu, yw Simple English. Rwyf newid rhoi cynnig ar Y Tywysog Philip, Dug Caeredin; yr awgrym cyntaf i'w codi, ysywaeth, ond eto'n llenwi twll bach. @Anatiomaros, Llywelyn2000, Oergell, Dafyddt, John Jones, Ham II, John Jones: AlwynapHuw (sgwrs) 04:32, 23 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]
He! :-) I gadw'r ddesgil yn wastad ac er mwyn i hon fod yn erthygl gytbwys, dylem gynnwys y llithriadau a wnaeth Philip dros y blynyddoed (o ran iaith felly, nid priodas), gan ei fod yn nodedig am y faux pas yma - disgyn o dwll i dwll yw ei hanes, felly. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:40, 23 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]
Diolch am y ddolen. Dydwi ddim yn meddwl y gwna i wastraffu fy amser yn creu erthyglau am frenhineodd cenhedloedd eraill fodd bynnag! Rwy'n credu mewn democratiaeth! Beth am eu banio nhw i gyd - dileu pob un o cywici! Wedi'r cwbwl yr hyn rydych yn ei wneud yn ystod eich hoes ddylai fod llinyn mesur pa mor nodedig yw rhywun. Tydy Hari Windosor ddim yn Nodedig yn fy marn i, ei job sydd, felly caniatau erthygl ar ei swydd, ond nid am berson sydd heb wneud dim nodedig o gwbwl, ar wahan i hel merched. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:22, 24 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]
Does gan y ddolen dim oll i wneud efo teuluoedd brenhinol. Mae'r ddolen yn chwilio am erthyglau poblogaidd mewn iaith arall sydd ddim yn bodoli yn eich dewis iaith. Cyd digwyddiad oedd mai'r Tywysog Phillip ddaeth gyntaf wrth imi gymharu'r Gymraeg a Simple English. Gan fod Simple English yn syml mae cyfieithiadau Google Translate yn gweithio yn weddol ddechau arni heb angen llawer o olygu, gan hynny mae defnyddio Gap Finder efo wiki Simple English yn adnodd gwirioneddol gwerth chweil. AlwynapHuw (sgwrs) 13:40, 24 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]
Ah! Diolch gyfaill! Mi edrycha i arno heno rol cyrraedd adre! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:29, 24 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]
Mae'n edrych fel teclyn defnyddiol iawn ac mae'n sgandal nad oes erthygl am mango yn Gymraeg eto! --Oergell (sgwrs) 00:10, 13 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]

Sut i newid maint llun?[golygu cod]

Rwy wedi bod yn ceisio creu tudalen ar gyfer etholiad yr UDA yn 2008. (https://cy.wikipedia.org/wiki/Etholiad_arlywyddol_yr_Unol_Daleithiau_2008) Sut yr wyf yn newyd maint yr map sydd wedi ei adio yn yr 'infobox' i'r chwyth?

 Llywelyn2000 (sgwrs) 07:58, 5 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]


Creaduriaid o Awstralia[golygu cod]

Dw i newydd greu tudalen am Warchodfa Healesville, ac wedi cynnwys oriel o greaduriaid amrywiol, er dw i ddim yn gwybod beth ydy'r mwyafrif ohonynt. Croeso i unrhyw un eu defnyddio ar gyfer tudalennau eraill.Lesbardd (sgwrs) 10:55, 5 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Mae nhw'n wych Les! Beth am ofyn ar Comin? Defnyddia un o'r categoriau yma. Neu Wicirywogaeth efallai. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:21, 5 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Golygathon BBC, Caerdydd[golygu cod]

Cofiwch fod yr hacathon ymlaen ddydd Iau, a chroeso i chi gysylltu efo fi am y manylion. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:23, 5 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Duplicates[golygu cod]

Sorry for English. Florence Helen Woolward and Florence Woolward seem to be the same person. --Magnus Manske (sgwrs) 23:07, 7 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Thanks Magnus! Really good to have you back again, diligent as ever! Llywelyn2000 (sgwrs) 23:15, 7 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Gogwydd benyw / gwryw ar Wici[golygu cod]

Ers i mi godi'r diffyg cydbwysedd yma dro'n ôl (gweler Wicipedia:Y Caffi#Gogwydd o ran rhyw, uchod) bu sawl un ohonom yn gweithio ar erthyglau newydd ar fenywod: botanegwyr ac arlunwyr y byd gan fwyaf. Cyfrifwyd drwy ein chwaer brosiect - Wicidata (mae'r manylion yma).

Dyma niferoedd y bywgraffiadau ar y Wicipedia Cymraeg o ran gwryw, benyw a thrawshywedd - ar 7 Rhagfyr 2016:

Benywod - 6,080
Dynion - 8,119
Trawshywedd benyw (Transgender female) - 4
Trawshywedd Gwryw (Transgender male) - 1
  • Cyfanswm bywgraffiadau: 14,204
  • Canran erthyglau ar ferched: 43%
Gofal! Mae rhai cymeriadau ffug hefyd yn cael eu cyfri ee Sion Corn ac Asterix!

Prin ddwy fil sydd eu hangen! Felly tân arni! Ac ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 00:04, 8 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Mae'r teclyn mesur gogwydd yr erthyglau sydd a chysylltiad ar Wicidata yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:42, 14 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
Wel, fe gyrhaeddwyd y nifer - a cham gwell na hynny hefyd! Trydarwyd y ddelwedd fel dathliad!

Merched / benywod: 9,312 Dynion: 8,125

Diolch i bawb a gyfrannodd erthyglau ar fenywod. Efallai y dylem drafod sut i gynnal hyn! Am bob erthygl ar ferch, yna bydd yn wych pe taem yn sgwennu un am ddyn hefyd! A vice versa! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 11:25, 16 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Diolch John am dy help yn y deuddydd diwetha - a chyn hynny hefyd. ON Mae Jason ar ei wylia! Mwynha'r seibiant a diolch i ti hefyd am drefnu'r sesiynau ffeministiaeth / golygu yn Aber! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:27, 16 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
Edrych yn dda. Dwi newydd gywiro dwu erthygl cyn sylweddoli fod hi'n well i fot wneud hyn - mae'r dyddiad marw yn ymddangos ddwywaith yn y wybodlen - gweler Irmgard von Kienlin-Moy. Dwi ddim yn hoff o'r "rhestrau Wicidata" ar y tudalennau yma o gwbl gyda llaw - mae nhw'n arafu llwytho tudalen yn ofnadwy ac yn enwedig wrth olygu. Ac ar ddyfeisiau symudol mae'n cynyddu y maint o ddata sy'n cael ei lwytho lawr o leia deg gwaith (y delweddau) a mae'n hynod o araf mewn tabl mawr. Os oeddwn i eisiau gweld arlunwyr tebyg mi fyddai'n ddigon hawdd clicio ar rhestr categori, ond wedyn mae angen tacsonomiaeth well e.e. 'Arlunwyr benywaidd Almaenig' ayyb. --Dafyddt (sgwrs) 16:22, 16 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
W! Diolch! Mae'n digon hawdd cywiro'r dyddiad dwbwl. O ran y tablau: roedd yn amhosibl gwybod faint fyddai'n ymddangos tan y diwedd. Mae'r dyddiadau ('o'r un cyfnod') yn cwmpasu 20-30 o flynyddoedd ar hyn o bryd ond byddai'n hawdd lleihau hynny i 5 mlynedd (Arlunwyr a anwyd tua'r un cyfnod), a dileu'r delweddau os ydyn nhw'n niwasans; dim probs. Diolch yn fawr am dy ymateb; mae'r erthyglau (a'r defnydd o Wicidata) yn eitha arbrofol, gan y bydd y wybodaeth yn newid fel y daw gwybodaeth newydd i'r fei (ar WD). Mi allaf wneud hyn dros y penwythnos. Cofion. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:45, 16 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
Dw i newydd gychwyn yr uchod; gweler Daina Skadmane er enghraifft. Mae'n edrych yn lanach - ond dw i'n methu'r lluniau! Cofia, dim ond sgrin mawr dw i'n edrych ar wici - byth bron ar ffon. Efallai ei bod yn bryd i ni ail-drafod yr hyn sy'n ymddangos ar y ffonau erbyn hyn ee methu gweld rhai botymau hanfodol (i mi!) fel 'Newidiadau Diweddaraf'. Ond mater arall ydy'r ffon. BOT-Twm Crys (sgwrs) 07:52, 17 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
Dyma'r newidiadau, sydd c. 2 flynedd cyn blwyddyn yr enedigaeth a dwy - 3 blynedd ar ol y dyddiad geni. Felly, rhychwant o tua 5 mlynedd. Fydd y newidiadau ddim yn ymddangos tan iddyn nhw gael eu diweddaru gan Listeria fory; ond mae'r gwaith wedi'i wneud! BOT-Twm Crys (sgwrs) 07:54, 17 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
Mae'n ymddangos yn dipyn gwell i fi nawr. Wnes i agor rhai o'r erthyglau yma ar hap y diwrnod o'r blaen a wnaethon nhw rhewi fy mhorwr (Firefox ar Windows 7) am tua 10-15 eiliad. Heb y delweddau o fewn y tabl mae nhw'n llwytho yn llawer fwy cyflym (y broblem ydi llwytho dwsinau o ddelweddau a felly mae'r tabl yn cael ei ail-lunio bob tro mae un yn llwytho). Fe allai'r tablau fod yn fwy cryno eto - Enw/dyddiad a man geni+marw/dinasyddiaeth? Flin i fod yn boen! --Dafyddt (sgwrs) 12:47, 20 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
Ar ol mynd ati i'w dileu mi ges i'r syniad o'u cuddio, gyda'r cod 'Dangos', ond mae nam yn dal i fod ar hwnnw - mae'n arddangos y gair 'show'. Fel hyn, bydde gan y defnyddiwr / darllenydd yr opsiwn o'u hagor. Ond wyddost ti be? Gyda ffon llaw, mae'r opsiwn yno'n barod gan mai pennawd efo'r opsiwn i'w agor ydyw; ydw i'n iawn? Pur anaml fydda i yn defnyddio'r ffon, ond dw i'n cofio Defnyddiwr:John Jones yn son am y peth dro'n ol, a bod angen ailwampio'r hyn sy'n weledol ar y ffon. Ta beth, mae'n daclusach rwan dw i'n meddwl. Mae na restrau tebyg ar yr adar sydd gennym. Ond ydy'r hyn dw i'n ddeud uchod ddim yn dileu'r broblem? Os fedran ni adael y lluniau, gwell byth wrth gwrs, yn enwedig os oes opsiwn ar y ffon.... a chael 'Dangos' i weithio hefyd? Llywelyn2000 (sgwrs) 14:38, 20 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
Dwi newydd brofi tudalen Meudwy bronllwyd ar fy ffôn symudol (sy'n ddyfais reit gyflym ac ar di-wi 100Mb fan hyn). Hyd yn oed wedyn roedd e'n aros am rhai eiliadau tra'n llwytho'r tabl/delweddau er nad oedd yr adran 'Teulu' wedi ei agor. Mae'n siwr ei fod tipyn arafach ar ffônau a rhwydweithiau arafach. Ar fy nghyfrifiadur yn y swyddfa mae'n rhewi'r dudalen am rhai eiliadau cyn agor (ond ddim cymaint a'r arlunwyr). Fase'r dewis cuddio/dangos ddim yn gwneud gwahaniaeth am fod popeth yn cael ei lwytho yn y cefndir prun bynnag. Sdim problem fawr gyda maint y dudalen o ran beitiau dim ond y nifer o gysylltiadau. Er enghraifft mae tudalen flaen y BBC yn 2027KB a 70 ffeil. Mae'r enghraifft y feudwy uchod yn 1530KB ond 300 ffeil.
Dwi ddim yn siwr os oes ystadegau ar ddefnyddwyr symudol/bwrdd gwaith ar gyfer cywiki yn benodol ond mae'n werth ystyried yr hygyrchedd, yn enwedig gan fod llawer o Gymru'n diodde o ran darpariaeth 3G/4G. --Dafyddt (sgwrs) 15:07, 20 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
Diolch Dafydd; mae'n gwneud synnwyr eu lleihau, felly. Gyda llaw, mae'r erthyglau ar fotanegwyr (ac un bychan ar arlunwyr) heb eu lleihau ychwaith. Mi ddoi a'r rheiny i lawr, nid i 5 mlynedd ond y flwyddyn honno'n unig. Dw i wrthi'n rhoi DEFAULTSORT ar tua 7,000 o fywgraffiadau, ac mae'r bot wedi arafu i lawr i un y fynud!!! Fel hyn, fydd o yn dal wrthi mhen can mlynedd! Diolch am dy gymorth! (ON. Dwi ar BOT-Twm Crys oherwydd ei fod yn gweithio yn y cefn a fedra i ddim mewngofnodi fel defnyddiwr arall (Llywelyn2000)). BOT-Twm Crys (sgwrs) 14:27, 21 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Zátková[golygu cod]

Hello. I think that these two articles should be merged : Rougena Zátková and Růžena Zátková. It creates conflicts when I want to merge on Wikidata. Regards. --Cbyd (sgwrs) 17:31, 10 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Many thanks! All done. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:17, 10 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Gwaith dileu delweddau sydd bellach ar Comin[golygu cod]

Ro'n i am gychwyn dileu rhain, ydy fedra i ddim, gan nad ydw i'n Weinyddwr. A wneith rhywun arall os gwelwch yn dda? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 12:56, 12 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Job arall! Diolch! Ond ti'n iawn, mae angen tipyn o waith-ty wedi'i wneud neu mi eith yn fler! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:31, 16 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
 Llywelyn2000 (sgwrs) 07:15, 21 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]


Cyfieithu cod o en i cy[golygu cod]

Mater bach, efo bot, fyddai newid y cod mewnol i'r Gymraeg i rai geiriau. Awgrymaf (ac ychwanegwch eich syniadau newid y canlynol en bloc. Bydd rhaid fod yn ofalus iawn, nad oes dim oddi fewn i enwau delwedd a Nodion yn cael eu newid; son ydw i felly am y cod oddi fewn i erthyglau'n unig:

  1. [[File: newid i [[Delwedd:
  2. |thumb| newid i |bawd|
  3. |left| newid i |chwith|
  4. |right| newid i |dde|
  5. {{reflist}} newid i {{cyfeiriadau}}
  6. Eich awgrymiadau?
  7. ...

Dw i wedi gadael cymaint ag y medraf o symbolau perthnasol lle bod y gair yn cael ei gyfieithu oddi fewn i destun yr erthygl e.e. [[ cyn y gair 'File' a | oddeutu'r gair 'bawd'. Awgrymaf ein bod yn cywiro 20 o ddalennau prawf, cyn gwerthuso effeithiolrwydd y bot. Beth yw eich barn? Llywelyn2000 (sgwrs) 12:04, 20 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]

Gyda llaw @AlwynapHuw:, mae unrhyw beth y tu fewn cromfachau sgwar yn amhosib efo bot (gweler dy sylwadau blaenorol) - a byddai'n rhaid eu newid ar Meta. Gad y rhain am rwan, a mi wnewn gais arall, ar ol newid yr uchod ein hunain. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:15, 20 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
Efallai mai dyma'r amser i newid enwau canrifoedd o [[19eg ganrif]] i [[19g]] . Llywelyn2000 (sgwrs) 07:17, 21 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
Gan nad oes gwrthwynebiad, felly, mi wnaf ychydig o'r uchod. Unrhyw eiriau eraill y dowch er eu traws gadewch i mi wybod. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:32, 2 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]
Cychwyn newid yr uchod.

Mae BOT-Twm Crys newydd gwneud tuag 20 golygiad, fel peilot. Ydy'r rhain yn dderbyniol? Os ydynt yna mi af ati i newid erthyglau yn y Categori Hanes Cymru yn gyntaf, ac yna gweddill y wici. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:12, 2 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]

Edrych iawn i fi. Wnes i rhywbeth tebyg o'r blaen - newid "ewin bawd" i "bawd" ymysg pethau arall. Os ydw i'n cofio'n iawn dylai fod y rheiny wedi diflannu nawr, heblaw fod rhywrai arall wedi ymddangos yn y cyfamser (fel arfer drwy gyfieithiadau otomatig) --Dafyddt (sgwrs) 20:53, 2 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]
Duwcs, reit dda! Mi gymrith dipyn o amser i wneud y Wici i gyd; cadwa dy lygad bob yn hyn a hyn! Diolch Dafydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:19, 2 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]
Tua 12,000 o newidiadau wedi'u gwneud. Mae mil neu ddwy ar ol, cyn gynted ag y medraf! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:07, 14 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]

Cymorth cyfieithu / Aide à traduction / Translation assistance.[golygu cod]

Cob Cymreig

Helo,
Dydw i ddim yn siarad Cymraeg. Ar gyfer y radd , beth yw'r cyfieithiad i'r Ffrangeg o Achau'r Ebol ?
diolch i chi. --Cordialement. 6PO (discuter) 7 janvier 2017 à 03:04 (CET)
PS Ymateb posibl yma.

Welsh cob

Bonjour,
je ne parle pas gallois.Pour avoir le label AdQ , quelle est la traduction vers le francais de Achau'r Ebol ?
Merci. --Cordialement. 6PO (discuter) 7 janvier 2017 à 03:04 (CET)
PS Réponse possible ici.

Welsh Pony and Cob

Hi,
I don’t speak Welsh. To get This star symbolizes the featured content on Wikipedia., what is the translation into French Achau'r Ebol ?
Thanks. --Cordialement. 6PO (discuter) 7 janvier 2017 à 03:04 (CET)
PS Possible answer here.



That's really cool! There is a translation into English of this cywydd here. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 07:35, 7 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]
Hi '''Defnyddiwr:John Jones''' and thank you very much for this URL that I know. The problem is that on a "quality article" I might include a translation of a translation ... I wish a translation from the original version. Sincerely. --6PO (sgwrs) 10:47, 7 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]
Request made on Twitter here. BOT-Twm Crys (sgwrs) 13:46, 12 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]
Hello BOT-Twm Crys, it is really very kind of you to take into consideration this request, I am however unable to follow the URL you give. Could you, when the answer will get it put here or here. Thank you. --6PO (sgwrs) 19:02, 14 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]
Here it is, thanks to Catrin:
Le pedigree du poulain
Fils du Noir de Brydyn,
Il gagnerait, s’il courait, dans n’importe quel pré;
Sa mère, la fille de l’étalon d’Anglesey
Qui a porté huit hommes sur son dos;
Il existe des descendants du Noir des Mers,
Et je sais qu’il était un d’entre eux.
C’est un neveu de la Crinière Blanche d’Ial
Dans le Powys, aucune laisse ne pouvait l’arrêter.
Il est parent à l’étalon de Foulques FitzWarin,
Et son parent moud du foin avec ses mâchoires.
C’est l’étalon du pedigree le plus haut à Anglesey,
De la lignée Talebolion.
C’est un yearling exceptionnel, un pur-sang,
Dans ses quatre sabots se trouve son pedigree.
It is the same wording, therefore I would accept it as a translation from the original. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:26, 15 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]

Er gwybodaeth: bydd Jason Evans (LlGC), Carl Morris, Rhys Wynne (dw i'n meddwl) a finna'n gwneud cyflwyniadau ar Wicipedia, Wicidata a ballu. Mae'r gynhadledd, a gynhelir ym Mangor am ddim ac yn agored i bawb, ond dylech, er parch i'r trefnwyr, gofrestru os ydych am ddod. Welai chi yno! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:38, 19 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]

Y 90,000fed erthygl![golygu cod]

Llongyfs mawr i bawb! Rydym wedi cyrraedd 90,000 o erthyglau ar cywici! Y 90,000fed oedd erthygl ar yr AS Ceidwadol, Frederick Richard West, gan Defnyddiwr:AlwynapHuw a hynny am 04:07, 23 Ionawr 2017. Bril, gret a bendigedig! Och na bai colegau, sefydliaidau a chymdeithasau Cymraeg yn sylweddoli mai dyma un o'r prif meini prawf sy'n rheoli faint o arian mae nhw'n ei dderbyn! Dyma pam, yng Nghatalwnia mae pob llyfrgellydd yn treulio awr y dydd yn golygu Wicipedia Catalaneg. Mae angen ysgwyd cyrff Cymru!

Doedd na ddim un o siaradwyr Cynhaledd Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, ddydd Gwener, yn trafod hyn - dim un siaradwr o'r cyrff (fel y Llyfrgell Genedlaethol a'r Coleg Cymraeg) sy'n ymladd dros gynnwys rhydd agored a phrosiectau Wici yn trafod cynnwys rhydd na sut i gynyddu nifer erthyglau Wicipedia! Daw dydd! A dont at eu coed.

Ond braf, yn Hacio'r Iaith ddydd Sadwrn oedd gweld nifer o sesiynau'n trafod cynnwys agored a phosiectau Wici. Mae'r gwaith mae Jason (LlGC) yn ei wneud, a Llen Natur yn torri tir newydd, a rhoddwyd llwyfan i'w gwaith. Diolch i Carl Morris, Rhodri a Rhys Wynne, a llongyfs i Alwyn a phawb! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:38, 23 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]

100,000 amdani! —Adam (sgwrscyfraniadau) 16:55, 24 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]

Esboniadur y CCC[golygu cod]

Wedi creu erthygl allan o Esboniadur y CCC, ond dim yn fodlon. Hwyrach bod Hagiograffeg yn air ysgolhaig ond "Buchedd" byddwn yn defnyddio wrth greu erthygl wreiddiol am fywgraffiaiadau Saint, ac Hagiograffi am gofiant tueddol o blaid y gwrthrych. Lle mae'r ffin rhwng defnyddio (cromfachau cyrliog) Esboniadur (/cromfachau cyrliog) a (chromfachau miniog) cyfeirio at yr esboniadur fel ffynhonnell (/cromfachau miniog)? AlwynapHuw (sgwrs) 06:23, 24 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]

M. Cwestiwn da. Efallai y gall @Penyderyn: ganfod ateb gan awdur testun y CCC. 'Dyw Bruce na GPC ddim yn gwahaniaethu rhwng 'hagiograffeg' a 'buchedd' hyd y gwelaf i ond mae testun CCC yn awgrymu fod 'buchedd' yn rhan o faes ehangach hagiograffeg. Mae gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru brosiect 'Cwlt y Seintiau', sydd ar fin cael ei lansio; mi holaf yno hefyd.
Parthed yr ail, wrth i wybodaeth newydd a thermau newydd ddod i'r fei, mae'n hynod bwysig ein bod yn diweddaru'r testun fel ei fod yn dal yn gywir; bydd 'hanes y ddalen' yn gwahaniaethu rhwng y testun fel ag yr oedd, a'r hyn sydd wedi'i ddiweddaru. Bydd yn rhaid cadw'r Nodyn CCC, gan ei fod yn sail, ar un cyfnod i'r wybodaeth newydd, yn cofnod o'r hyn a oedd unwaith yn gywir/wybodus. Does dim yn dy atal rhag ychwanegu a newid testun yr erthygl, cyn belled a'n bod yn ychwanegu ffynhonnell y wybodaeth newydd, a bod honno'n ffynhonnell dibynadwy, da, soled. Diddorol! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:37, 24 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]
Ond mae 'na broblem efo jest bachu erthyglau oddi ar yr Esboniadur, dydy'r Esboniadur dim yn cynnig <.ref> ffynonellau, mae'n cynnig "llyfryddiaeth". Darlith yw'r esboniadur sy'n dweud darllenwch lyfr Boi Ma am bwnc arbennig. Traethawd am y pwnc yw Wicipedia. Dylai dweud: darllenais y llyfr a awgrymwyd gan Ddarlithydd a dyma ganfydded ar dudalen 33 <.ref>. Mae uwch lwytho erthyglau'r Esboniadur heb wirio'r llyfryddiaeth mor hurt ag efrydydd yn sgwennu traethawd cyn darllen dim o'r llyfryddiaeth. Mae'r Esboniadur megis gwythïen o Aur, ond gyda gofal dylid ei weithio! AlwynapHuw (sgwrs) 04:42, 25 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]
Digon gwir! Mae angen canfod y seiliau ac ychwanegu cyfeiriadau atynt. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:22, 25 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]