Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Y Rhyfel Byd Cyntaf Yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Y Rhyfel Byd Cyntaf Yng Nghymru
Dyddiad 28 Gorffennaf, 191411 Tachwedd, 1918
Lleoliad Ewrop, y Cefnfor Tawel, De Ddwyrain Asia, y Dwyrain Canol, y Môr Canoldir, Tseina ac Affrica
Canlyniad Buddugoliaeth i'r Cynghreiriaid.
Cydryfelwyr
Cynghreiriaid
Pwerau Canolog
Anafusion a cholledion
Meirw milwrol:
5,525,000
Meirw dinesig:
4,000,000
Cyfanswm y meirw:
18,356,500
Meirw milwrol:
4,386,000
Meirw dinesig:
8,388,000
Cyfanswm y meirw
12,774,000
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

CBAC

HWB

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg


Gweler Y Rhyfel byd Cyntaf am y Rhyfel Byd Cyntaf yn cyffredinol


Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf (28 Gorffennaf 1914-Tachwedd 11, 1918) effaith mawr ar hanes Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif.  

Gwnaed Gymru cyfraniad sylweddol i'r Rhyfel Byd Cyntaf mewn sawl ffordd. Er enghraifft, o safbwynt milwyr, arweinyddiaeth y rhyfel, ac o ran y gweithlu a'r economi . Gwirfoddolodd llawer iawn o Gymry i ymladd yn y rhyfel.  Yn nhermau canrannol, recriwtiwyd mwy o Gymry na Saeson, Albanwyr neu Wyddelod ac ymladdodd milwyr o Gymru yn rhai o frwydrau mwyaf ffyrnig y rhyfel megus y Somme, Coed Mametz, Ypres a Brwydr Passchendaele


Glo rhydd o Gymru oedd yn gyrru’r Llynges Frydeinig a gwnaeth gweithwyr o Gymru a diwydiant Cymru gyfraniad enfawr i ymdrech y rhyfel.  Arweiniwyd yr ymgyrch ryfel gan y Cymro, David Lloyd George, y Prif Weinidog rhwng 1916 a 1918.  Penderfynodd Lloyd George ddilyn polisi rhyfel diarbed wrth ymladd y rhyfel. Golygai hyn bod pawb yn y gymdeithas yn gorfod cyfrannu tuag yr ymdrech ryfel mewn ryw ffordd neu gilydd, naill ai ar y Ffrynt Cartref neu ar y ffrynt ymladd. Dangosodd ei sgil fel arweinydd ac areithiwr oedd yn medru codi moral ac ysbryd y bobl i fod yn elfen allweddol ym muddugoliaeth Prydain.

Effeithiwyd ar bob agwedd o gymdeithas, economi a diwylliant Cymru wrth i’r wlad golli cenhedlaeth gyfan o’i phobl, gyda’r niferoedd a gollodd eu bywydau, yn ddynion a merched yn cyrraedd tua 40,000 yn y Rhyfel Mawr.[1]

Trosolwg o'r Rhyfel Byd Cyntaf[golygu cod]

Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf fel rhyfel Ewropeaidd. Gwledydd y Pwerau Canolog a’r Cynghreiriaid oedd yn ymladd yn erbyn ei gilydd.  Y Pwerau Canolog oedd Yr Almaen, Awstria-Hwngari a’r Ymerodraeth Otomanaidd a’r prif Cynghreiriaid oedd Prydain, Ffrainc, Rwsia a Serbia.

Saethodd gŵr ifanc o Serbia o’r enw Gavrilo Princip Arch-ddug Awstria, Franz Ferdinand yn Sarajevo ar Fehefin 28ain, 1914.  Defnyddiodd Awstria-Hwngari’r digwyddiad hwn fel esgus dros gyhoeddi rhyfel ar Serbia fis yn ddiweddarach. Er i lofruddiaeth Franz Ferdinand sbarduno'r Rhyfel Mawr, dim ond yr achos uniongyrchol oedd hynny. Gwahaniaethau dros bolisi tramor rhwng prif bwerau'r byd oedd achos sylfaenol y rhyfel.

Ar ddechrau’r 20fed ganrif roedd gan nifer o wledydd Ewrop gytundebau gyda gwledydd eraill i’w hamddiffyn pe bai ymosodiad ar eu gwlad.  Dyma felly sut wnaeth un digwyddiad arwain at ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.  Wrth i Awstria-Hwngari gyhoeddi rhyfel yn erbyn Serbia, death Rwsia ymlaen i amddiffyn Serbia ac yn sgil hynny ymunodd Prydain a Ffrainc yn y rhyfel oherwydd bod ganddynt gytundeb gyda Rwsia.  Ymunodd yr Almaen yn y rhyfel gan fod ganddi gytundeb i amddiffyn Awstria-Hwngari mewn argyfwng.

Trodd y rhyfel Ewropeaidd yma’n ryfel byd eang oherwydd bod gan gymaint o wledydd Ewrop ymerodraethau eu hunain. Ymerodraeth yw casgliad o wledydd sy’n cael eu rheoli gan un brenin/brenhines neu reolwr.  Wrth i wledydd o bob cornel o’r byd oedd yn rhan o ymerodraethau gwahanol ymuno a’r ymladd datblygodd rhyfel byd-eang.  Dyma rhai o wledydd Ymerodraeth Prydain a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf:

Roedd llawer o bobl wedi meddwl y byddai’n rhyfel byr ac y byddai ‘drosodd erbyn y Nadolig’ ond fe barodd y rhyfel am bedair blynedd.  Roedd yn ryfel hir a chafodd miliynau o bobl eu lladd:

Arwystl bidog Ffrengig ym Mrwydr y Ffiniau; erbyn diwedd mis Awst, roedd y rhai a anafwyd yn Ffrainc yn fwy na 260,000, gan gynnwys 75,000 a laddwyd.


  • Yr Almaen - 1.8 Miliwn          
  • Rwsia - 1.75 miliwn              
  • Ffrainc - 1.4 miliwn
  • Awstria-Hwngari - 1.25 miliwn  
  • Ymerodraeth Prydain - 950,000
  • Yr Eidal - 650,000           
  • Twrci - 325,000        
  • UDA - 125,000          
  • Serbia - 50,000 [2]

Achosion y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu cod]

Franz Ferdinand yn 1914

Nid saethu Archddug Franz Ferdinand oedd unig reswm y gwledydd yma i gyhoeddi rhyfel ar ei gilydd.  Roedd tensiwn wedi bod rhwng rhai o wledydd Ewrop ers blynyddoedd. Rhai o brif achosion y tensiwn oedd:


  • Y cefndryd brenhinol – roedd rheolwyr brenhinol yr Almaen, Prydain a Rwsia yn perthyn i’w gilydd.  Roedd Kaiser Wilhelm II o’r Almaen, y Brenin Siôr o Brydain a Tsar Nicholas II o Rwsia yn gefndryd gan mai’r Frenhines Fictoria oedd eu mhamgu. Roedd y tri cefnder yn benaethiaid ar filiynau o bobl, nid yn unig o fewn eu gwledydd eu hunain, ond hefyd fel rhan o’u hymerodraethau.  Yn 1914, roedd Sior V yn bennaeth gwladwriaeth ar tua 400 miliwn o bobl oddi fewn i Ymerodraeth Prydain.  Achosodd hyn genfigen a drwgdybiaeth rhwng y tri gan greu perthynas anodd a chystadleuol rhyngddynt.
  • Cenedlaetholdeb – roedd cenedlaetholdeb yn tyfu i fod yn ddylanwad cryf ar llawer o wledydd Ewrop gan eu harwain i gredu bod eu gwlad hwy yn well na gwledydd eraill.  Arweiniodd hefyd at wneud arweinwyr y gwahanol wledydd yn benderfynol ac ymosodol a chredu y bydden nhw’n ennill petaen nhw’n mynd i ryfel.
  • Cynghreiriau gwahanol – roedd y cytundebau gwahanol rhwng nifer o wledydd Ewrop, er enghraifft, yr Entente Driphlyg (1907) rhwng Prydain, Ffrainc a Rwsia wedi cynyddu’r tensiwn gan ei bod wedi ei llunio er mwyn rhwystro’r Almaen rhag dod yn rhy bwerus yn Ewrop.
  • Y ras arfau – Prydain oedd a’r llynges fwyaf yn y byd ar ddechrau’r 20fed ganrif ond roedd Wilhelm II a’r Almaen yn benderfynol i gael y gorau ar ei gefnder.  Aeth yr Almaen ati i adeiladu llawer o longau rhyfel dros gyfnod o 20 mlynedd o geisio cystadlu gyda Phrydain.
  • Cystadleuaeth am dir dramor – ar ddiwedd y 19eg ganrif creodd y gystadleuaeth rhwng gwledydd yn Ewrop am dir yn Affrica fwy o densiwn yn Ewrop.[3]

Prif Frwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf[golygu cod]

Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn wrthdaro byd eang wnaeth gychwyn yn Ewrop a lledu ar draws y byd.  Yn Ewrop roedd dau brif ffrynt i’r ymladd, sef Ffrynt y Dwyrain a Ffrynt y Gorllewin.  Ymladdodd y rhan fwyaf o’r Cymry ar Ffrynt y Gorllewin.  Tu allan i Ewrop bu brwydrau mawr yn Affrica a’r Dwyrain Canol.

Llinell amser Prif Frwydrau [4]
1914 1915 1916 1917 1918
Brwydr Tannenberg

23 Awst – 30 Awst


Brwydr Mons          

23 Awst

Brwydr Ypres

19 Hyd – 22 Tach

2ail Frwydr Ypres             

22 Ebrill – 25 Mai


Brwydr Gallipoli           

25 Ebrill – 6 Ionawr 1916  


(Glaniodd y 53fed Adran Gymreig yn Gallipoli)

Brwydr Verdun

21 Chwefror – 20 Rhagfyr


Brwydr Jutland

31 Mai – 1 Mehefin


Brwydr y Somme

1 Gorffennaf – 16 Tachwedd 

(Brwydr Coed Mametz yn rhan o

Frwydr Gyntaf y Somme)

Brwydr Passchendaele  

31 Gorff – 6 Tach


(Gan cynnwys y

38fed Adran Gymreig)  

ble lladdwyd Hedd Wyn)

Brwydr Amiens

8 Awst – 12 Awst


Cadoediad 

11 Tachwedd

Diwedd y rhyfel


Recriwtio[golygu cod]

Lansiodd Llywodraeth Prydain apêl yn Awst 1914 i geisio annog 100,000 o ddynion rhwng 19-38 mlwydd oed i ymuno gyda’r fyddin.  Defnyddiwyd posteri, papurau newydd a chyfarfodydd lleol i berswadio pobl i ymuno.  Cafwyd ymateb da i’r ymgyrch recriwtio ar

Recriwtiaid o Brydain yn Awst 1914

ddechrau’r rhyfel ac ymunodd llawer o ddynion o Gymru gyda’r fyddin.

Pam ymuno?[golygu cod]

Roedd dynion oedd yn ymuno gyda’r fyddin yn cael eu gweld fel dynion dewr ac arwrol. Ystyriwyd dynion oedd yn gwrthod mynd i ymladd yn cael eu gweld fel bradwyr. Doedd y rhan fwyaf o’r milwyr ddim yn deall beth oedd yn eu hwynebu ar y llinell flaen. Doedden nhw ddim yn sylweddoli pa mor erchyll oedd yr ymladd a’r amodau byw yn y ffosydd. Y farn gyffredin oedd y byddai’r rhyfel wedi gorffen erbyn Nadolig 1914. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai rhyfel byr fyddai hwn, ac nid rhyfel fyddai’n para am 4 mlynedd. Roedd rhai dynion yn gweld y rhyfel fel cyfle i fynd ar antur fawr, heb ddeall beth oedd o’u blaenau.  Ymunodd rhai eraill gan ei fod yn gyfle i gael hwyl a gweld y byd, i ddianc rhag eu swyddi diflas a bywyd gartref ac yn gyfle i ymladd dros eu gwlad a’r ymerodraeth.

Trefnodd y Llywodraeth bod swyddfeydd recriwtio yn cael eu hagor ar draws Prydain a swyddogion recriwtio yn cael eu penodi i reoli’r swyddfeydd hynny.  Byddai’r rhingyll neu sarjant yn bresennol hefyd yn y swyddfeydd er mwyn hybu’r ymgyrch recriwtio a’i gwneud hi’n haws i rai oedd yn ymuno. Erbyn Rhagfyr 1914 roedd 62,000 o Gymry wedi ymuno gyda’r fyddin [5]

Bataliynau Pals[golygu cod]

Addawyd ffrindiau y gallent wasanaethu gyda'i gilydd fel 'Bataliynau Pals' yn ystod y rhyfel

Aeth llawer o ddynion i’r rhyfel gyda’u ffrindiau. Roedd criw o ddynion o’r un dref neu weithle yn medru sefydlu bataliwn eu hunain. Uned o filwyr mewn byddin yw bataliwn.

Credai’r llywodraeth fod hyn yn syniad da er mwyn annog mwy o ddynion i ymuno â’r lluoedd arfog. Y broblem amlwg oedd y gallai criw mawr o ddynion o’r un dref gael eu lladd ar yr un pryd pan oedd eu bataliwn yn ymladd mewn brwydr.[6]

Capeli ac eglwysi[golygu cod]

Cyn y rhyfel roedd bron pawn yng Nghymru yn aelod o Gapel neu Eglwys. Bu rhai o gapeli ac eglwysi Cymru yn annog dynion i ymuno â’r lluoedd arfog ac roedd John Williams, Brynsiencyn, Ynys Mon, yn weinidog Methodistaidd yn amlwg iawn yn yr ymgyrch recriwtio, yn enwedig yn rhai o ardaloedd mwyaf Cymraeg a gwledig Cymru. Byddai'n pregethu yn ei ddillad milwrol a'i goler gron ac yn annog dynion i ymuno â'r fyddin, gan ddadlau bod Prydain yn ymladd brwydrau cyfiawn yn y rhyfel. Roedd 100,000 o Gymry wedi ymuno â'r fyddin erbyn mis Mai 1915.[7]

Propaganda[golygu cod]

Penderfynodd Llywodraeth Prydain ddefnyddio propaganda er mwyn sicrhau bod bobl Prydain yn rhoi pob cefnogaeth i ymdrech ryfel y wlad. Defnyddiodd nifer o ddulliau i gyfathrebu pa mor bwysig oedd hi i’r bobl gefnogi’r

"Y Ddraig Goch a Ddyry Gychwyn" Poster Propaganda yn annog dynion ifanc i ymuno gyda'r fyddin.

ymgyrch a sut oedden nhw’n medru helpu.

Y cyfryngau – gweithiodd y Llywodraeth gyda busnesau’r stryd fawr, fel W. H. Smith i ddosbarthu pamffledi. Roedd papurau newydd darluniadol yn adrodd am y rhyfel mewn ffordd arwrol ond yn gwneud yn fach o erchyllterau’r rhyfel a nifer y bywydau a gollwyd.

Posteri – roedd posteri recriwtio yn un o’r dulliau mwyaf effeithiol o bropaganda. Y thema fwyaf cyffredin oedd gwladgarwch a oedd yn apelio at bawb i ‘wneud eu rhan’.  Roedd y posteri yn cynnwys lluniau oedd yn annog dynion cyffredin i ymuno â’r lluoedd arfog ac yn portreadu dynion balch, hapus yn mynd i ymladd dros eu gwlad. Roedd themâu eraill yn cynnwys ofn goresgyniad, erchyllterau’r Almaenwyr a rhai posteri yn targedu menywod yn y gobaith y bydden nhw’n annog dynion i fynd i ymladd.

Propaganda erchyllterau – roedd adroddiadau papur newydd am yr ‘Hun’ yn cyflawni gweithredoedd erchyll yng Ngwlad Belg ac yn dangos barbariaeth yr Almaenwyr yn ddramatig ond yn gwbl ddychmygol. Cynhyrchwyd poster ym mis Rhagfyr 1914 o’r enw Remember Scarborough a oedd yn dangos y dref yn cael ei bomio gan ladd 18 o bobl, yn cynnwys plant a baban 14 mis oed.

Cefnogaeth pobl enwog – siaradodd gwleidyddion fel Winston Churchill mewn ralïau ac fe ddangosodd y Brenin Siôr V ei gefnogaeth i’r ymgyrch ryfel drwy apelio ar bobl Prydain i ddod ynghyd.

Ffilmiau – ffilm a gynhyrchwyd ym mis Rhagfyr 1915 oedd Britain Prepared ac fe’i dosbarthwyd yn genedlaethol.  Roedd hwn yn ffilm milwrol oedd yn hybu’r syniad o gryfder a phenderfyniad Prydain.   Dangoswyd y ffilm am chwe wythnos yn Theatr yr Empire yn Llundain a cafodd fersiwn byrrach ei gynhyrchu i’w ddangos mewn sinemau ar draws y wlad.[8]

Consgripsiwn[golygu cod]

Erbyn 1916 roedd angen mwy o ddynion i fynd i ymladd yn y rhyfel. Roedd miloedd o ddynion wedi cael eu lladd mewn brwydrau anferth ar Ffrynt y Gorllewin, ac roedd angen milwyr yn eu lle. Ond erbyn 1916 doedd dynion ddim mor awyddus i fynd i ryfel gan eu bod nhw bellach wedi clywed beth oedd yn eu hwynebu.

Penderfynodd y Llywodraeth gyflwyno Deddf Gorfodaeth Filwrolyn yn Ionawr 1916 oedd yn golygu bod yn rhaid i bob dyn rhwng 18 a 41 mlwydd oed ymuno gyda’r lluoedd arfog. Gair arall sy’n cael ei ddefnyddio am orfodaeth filwrol yw Consgripsiwn.Dim ond dynion mewn swyddi allweddol, sef swyddi oedd yn bwysig i’r ymgyrch ryfel, oedd yn cael osgoi ymuno gyda’r lluoedd arfog. Roedd rhain yn cynnwys glowyr, gweithwyr mewn ffatrïoedd arfau, meddygon a ffermwyr.[9]

Llinnell Amser Recriwtio
1914 1915 1916 1918
Awst 4

Prydain yn datgan rhyfel yn erbyn

yr Almaen


Gweddill Awst 

Dechrau recriwtio; dynion yn

ymuno gyda’r fyddin yn wirfoddol


Rhagfyr

62,000 o ddynion o Gymru

wedi ymuno â’r lluoedd arfog

Ionawr

1,000,000 o ddynion

o Brydain wedi ymuno â’r

lluoedd arfog

Ionawr

Consgripsiwn yn dechrau; pob dyn sengl

rhwng 18 a 41 ml.oed yn cael eu galw i

gofrestru i fynd i ymladd


Mai

Dynion priod yn cael eu gorfodi i

gofrestru i fynd i ymladd

Tachwedd

273,000 o Gymry wedi ymladd yn y rhyfel


Tachwedd 11

Diwrnod Cadoediad yn dynodi diwedd y

rhyfel a’r ymladd


Gwrthwynebwyr Cydwybodol[golygu cod]

Roedd dynion a oedd yn gwrthwynebu ymuno gyda’r lluoedd arfog yn cael ei galw’n wrthwynebwyr cydwybodol. Credent na allai eu cydwybod ganiatau iddyn nhw gymryd rhan mewn rhyfel.  Credent hyn am resymau gwahanol oedd yn cynnwys daliadau crefyddol, gwleidyddol neu foesol.

Nid oedd y mwyafrif o bobl y cyfnod ym Mhrydain yn dangos unrhyw gydymdeimlad gyda safiad gwrthwynebwwyr cydwybodol gan eu gweld fel llwfrgwn a bradwyr nad oedd yn fodlon aberthu eu bywydau dros eu gwlad. Byddent yn aml yn cael eu cyhuddo o fod yn anwladgarol ac yn gachgwn.  Roedd yn gyffredin iddynt gael eu cywilyddio yn gyhoeddus gyda merched yn rhoi pluen wen iddynt.  Roedd y bluen wen yn symbol o lwfrdra.

Byddai cais y gwrthwynebydd cydwybodol i gael ei eithrio o wneud gwasanaeth milwrol yn cael ei gyflwyno gerbron tribiwnlys lleol. Os byddai’n cael ei eithrio rhag gwneud gwasanaeth milwrol byddai’n gwneud gwasanaeth heb frwydro, er enghraifft, gweithio gyda’r Corfflu Meddygol (R.A.M.C) neu fel negesydd neu gyrrwr ambiwlans ar faes y gad.  Medrai hefyd gael ei anfon i wneud gwaith sifiliaidd yn gweithio yn y ffatrïoedd arfau neu ‘gwaith o bwysigrwydd cenedlaethol’ mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth neu gyda’r Y.M.C.A.[10]

Roedd y bardd a’r archdderwydd Cynan (Albert Evans-Jones) yn wrthwynebydd cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ond cyfrannodd i’r ymgyrch ryfel drwy ymuno gyda’r Corfflu Meddygol fel cludwr elor yn Ffrainc.  Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaernarfon yn 1921 am ei gerdd ‘Mab y Bwthyn’ a oedd yn sôn am ei brofiadau rhyfel.[11] Ymhlith y Cymry blaenllaw eraill oedd yn wrthwynebwyr cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y bardd o Gwm Tawe, sef 'Gwenallt' (David James Jones) a dau o heddychwyr mwyaf dylanwadol Cymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, sef George Maitland Lloyd Davies a'r bargyfreithiwr o Aberystwyth, Ithel Davies.[12] [13]

Rôl David Lloyd George[golygu cod]

Yn fuan wedi cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd David Lloyd George ei benodi yn 1915 fel y Gweinidog Arfau.  Llwyddodd i gynyddu cyflenwad yr arfau oedd yn cyrraedd milwyr Prydain ar y ffrynt ymladd drwy wella cynhyrchiant diwydiant.

Lloyd George a Douglas Haig yn siarad adeg ei ymweliad gyda'r milwyr yn ffosydd Ffrainc, 1916

Roedd Lloyd George yn areithiwr gwych a defnyddiodd y sgil yma yn ystod ei ymgyrchoedd recriwtio wrth deithio ar draws Cymru.  Yn aml pwysleisiai gwladgarwch a byddai’n cyfeirio at bwysigrwydd unigolion yn hanes Cymru, fel Llywelyn ein Llyw Olaf ac Owain Glyndwr wrth geisio cyffroi y Cymry i ymuno yn y rhyfel er mwyn amddiffyn ‘y gwledydd bach’. Roedd, meddai yn bwysig bod gwlad fach Cymru yn rhoi help i wlad fach arall fel Belg a oedd wedi cael ei hymosod arni gan Ymerodraeth Awstria-Hwngari.

Roedd awydd Lloyd George i hybu cyfraniad Cymru tuag at y rhyfel yn cael ei adlewyrchu yn y gefnogaeth a roddodd i sefydlu Corfflu’r Fyddin Gymreig neu’r 38ain Adran Gymreig fel y cafodd ei hadnabod yn ddiweddarach. Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai’r corfflu yn tynnu hyd at 50,000 mewn nifer ond cafodd llawer o’r recriwtiaid Cymreig eu galw i gatrawdau eraill.

Yng Ngorffennaf 1916 bu’r 38ain Adran Gymreig yn ymladd gyda chatrawdau eraill o Gymru, fel Cyffinwyr De Cymru, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, ym Mrwydr Coed Mametz a oedd yn rhan o Frwydr y Somme yng ngogledd ddwyrain Ffrainc. Dioddefodd yr adran golledion enfawr a beirniadwyd hi’n hallt oherwydd diffyg hyfforddiant ac arweinyddiaeth gwael.

Penodwyd ef hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Rhyfel yng Ngorffennaf 1916 wedi marwolaeth yr Arglwydd Kitchener ac erbyn Rhagfyr 1916 roedd yn Brif Weinidog Prydain.   Ef yw'r Cymro cyntaf a'r unig Gymro i fod yn Brif Weinidog Prydain. Adnabyddwyd ef fel ‘y dyn a enillodd y rhyfel’ ac roedd yn un o arweinyddion y Cynghreiriaid, gyda Ffrainc a’r UDA a fu’n llunio Cytundeb Versailles yn 1919. [14] [15]


Doc Penfro[golygu cod]

Defnyddiwyd gynnau mawr, sef magnelau a gynnau peiriant fel rhan o’r dulliau rhyfela ar y tir ac ar y môr defnyddiodd Prydain a’r Almaen llongau mawr rhyfel o’r enw Dreadnoughts yn ogystal â llongau tanfor. Bu rôl bwysig gan Ddociau Penfro, sir Benfro, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fel un o iardiau y Llynges Frenhinol ble adeiladwyd llongau rhyfel a gynfadau. [16] [17]


Bywyd ar y Ffrynt Cartref[golygu cod]

Roedd disgwyl i bawb yn y gymdeithas i gyfrannu tuag at yr ymgyrch ryfel, er enghraifft, dynion, merched ac roedd hyd yn oed disgwyl i blant chwarae eu rhan ar y Ffrynt Cartref drwy wneud gwaith gwirfoddol ac elusennol fel casglu arian i brynu nwyddau ar gyfer y milwyr ar y ffrynt ymladd, casglu wyau a gwlân a gweithio ar y ffermydd. [18]

Er mwyn ceisio cael rheolaeth lawnach dros fywydau pobl Prydain pasiodd y Llywodraeth Deddf Amddiffyn y Deyrnas yn 1914. Yn Saesneg cai’r ddeddf hon ei hadnabod fel DORA (Defence of the Realm Act). Golygai’r ddeddf hon bod y Llywodraeth yn medru rheoli oriau gwaith ac oriau hamdden pobl, cwmniau a busnesau ar draws a thrwy Cymru (a Prydain) er mwyn sicrhau bod holl ymdrechion y deyrnas yn canolbwyntio ar helpu’r ymgyrch ryfel.

Roedd Deddf Amddiffyn y Deyrnas yn rhoi pwerau newydd i’r Llywodraeth i reoli bron pob agwedd o fywyd y deyrnas, er enghraifft, amaethyddiaeth, peirianneg a’r pyllau glo, llongau, porthladdoedd a dociau. Medrai hefyd reoli trafnidiaeth fel heolydd a’r rheilffyrdd a meddiannu cyflenwadau nwy, dŵr a thrydan er mwyn helpu’r ymgyrch ryfel.

Roedd ganddi’r pwer hefyd i sensori’r wasg er mwyn rheoli’r wybodaeth oedd yn cael ei gyhoeddi i’r cyhoedd.   Roedd felly yn gyfrifol am gyflwyno propaganda. Galluogodd y pwerau newydd yma i’r Llywodraeth fedru cyflwyno dogni, rheoli oriau ac amodau gwaith y gweithlu a hyd yn oed sut oedd pobl yn treulio eu hamser hamdden.  Cafodd gwyliau banc eu hatal am gyfnod, anogwyd pobl i fwyta sglodion gan eu bod yn fwyd rhad a chyflwynwyd Greenwich Mean Time oedd yn golygu troi’r clociau ymlaen awr yn yr haf er mwyn rhoi fwy o olau dydd i ffermwyr a gweithwyr yn gyffredinol. Penderfynwyd glastwreiddio’r cwrw yn 1914 er mwyn atal pobl rhag meddwi a sicrhau nad oeddent yn anwybyddu eu dyletswyddau rhyfel.  Perswadiwyd hyd yn oed y teulu brenhinol i newid ei cyfenw o Saxe-Coburg-Gotha i Windsor oherwydd bod yr hen enw o dras Almeinig ac roedd yr un newydd yn swnio’n fwy gwladgarol.[19][20]


Cyfraniad tir Cymru[golygu cod]

Defnyddiwyd tir Cymru ar gyfer hyfforddiant milwrol hefyd. Sefydlwyd gwersyll milwrol bach ym Mryn Golau ger Trawsfynydd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.   Yn 1906 sefydlwyd safle mwy o faint a mwy parhaol yn Rhiw Goch. Daeth yn bwysig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fel llety i filwyr ond hefyd fel maes magnelaeth a gwersyll carcharorion rhyfel.[21] Yn ogystal, defnyddiwyd hen safle distyllfa chwisgi Frongoch, ger Y Bala fel gwersyll carcharorion Almeinig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’r rhai cyntaf yn cyrraedd yn 1915 a’r rhai diwethaf yn gadael yn 1919. Dyma hefyd ble carcharwyd gwrthryfelwyr Gwyddelig Gwrthryfel y Pasg 1916.[22]

Effeithiau'r Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru[golygu cod]

Pan ddaeth y rhyfel i ben roedd Prydain yn gwynebu llawer o broblemau cymdeithasol.  Roedd llawer o filwr oedd wedi cael eu dadfyddino eisiau ail-ymuno gyda’r gymdeithas ac ail-gydio yn eu hen swyddi neu cael swyddi newydd.  Ond bu’r Llywodraeth mor araf yn ceisio datrys y broblem yma fel y cafwyd terfysgoedd mewn rhannau o Brydain, er enghraifft, bu terfysg ymysg milwyr o Canada yn Rhyl.  Erbyn Medi 1919 roedd 4 miliwn o filwyr wedi cael eu dadfyddino ac roedd y mwyafrif wedi llwyddo i chwilio swyddi. Un o addewidion y Prif Weinidog, David Lloyd George, i’r milwyr oedd wedi dychwelyd o’r rhyfel oedd adeiladu tai addas ar eu cyfer.  Dyma oedd cynllun ‘homes fit for heroes’ y Llywodraeth sef Cynllun Tai 1919.  Er hynny roedd y cynllun yn un costus ac er mai’r bwriad oedd adeiladu 500,000 o gartrefi dim ond 213,000 o dai a adeiladwyd. Dyma un ffactor a effeithiodd ar boblogrwydd Lloyd George ac arweiniodd at ei ymddiswyddiad yn 1922.


Wrth i’r milwyr ddychwelyd adref a llawer ohoynt wedi goroesi erchyllterau’r ffosydd, bu farw miloedd ohonynt ac aelodau o’u teulu oherwydd Pandemig y Ffliw Sbaenaidd a ysgubodd drwy Brydain yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd 1918.  Bu farw tua 11,500 o'r Ffliw Sbaenaidd yng Nghymru.

Hedd[dolen marw] Wyn

Roedd gweithwyr o Gymru a diwydiant Cymru wedi gwneud cyfraniad enfawr i ymdrech y rhyfel.  Glo rhydd o Gymru oedd yn gyrru’r Llynges Brydeinig.  Er hynny, ar ddechrau’r 1920au bu dirwasgiad ymysg y diwydiannau trwm fel glo a dur, a oeddent wedi bod mor allweddol i’r ymgyrch ryfel.  Gyda llai o alw am eu cynnyrch daeth tro ar fyd gyda chyflogau yn lleihau a diweithdra yn cynyddu.[23]


Llenyddiaeth y Rhyfel[golygu cod]

Y bardd Cymraeg a gysylltir yn arbennig a'r rhyfel yw Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans, 18871917), brodor o Drawsfynydd, a aeth yn filwr ym 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn 1917 ac a laddwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem (rhan o Frwydr Passchendaele) ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917 am ei awdl "Yr Arwr", er iddo gael ei ladd chwe mis ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddwyd ei fod wedi'i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr eisteddfod honno fel Eisteddfod y Gadair Ddu. Ysgrifennodd y bardd Robert Williams Parry gyfres nodedig o englynion er cof amdano, sy'n dechrau gyda'r linell cofiadwy "Y bardd trwm dan bridd tramor."

Mae'r nofel Plasau'r Brenin (1934) gan Gwenallt yn seiliedig ar brofiad yr awdur fel carcharor cydwybodol oherwydd iddo wrthwynebu gwasanaethu yn y lluoedd arfog am ei ddaliadau fel heddychwr. Nofel Gymraeg arall sy'n deillio o'r rhyfel yw Amser i Ryfel gan T. Hughes Jones.

Cyfeiriadau[golygu cod]

  1. "Cymru a'i rol yn y Rhyfel Mawr". CBAC.
  2. "Trosolwg o'r Rhyfel Byd Cyntaf" (PDF). HWB.
  3. "Achosion y Rhyfel Byd Cyntaf". HWB.
  4. "Prif Frwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf". HWB.
  5. "Recriwtio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf". HWB.
  6. "Recriwtio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf". HWB.
  7. "Recriwtio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf". HWB.
  8. "Datblygiad Rhyfela" (PDF). CBAC.
  9. "Recriwtio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf". HWB.
  10. "Cydwybod a dewis". Cymru Dros Heddwch.
  11. "Hedd Wyn". HWB.
  12. "Datblygiad Rhyfela" (PDF). CBAC.
  13. "Cydwybod a dewis". Cymru dros Heddwch.
  14. "David Lloyd George a'r Rhyfel Byd Cyntaf". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  15. "David Lloyd George". HWB.
  16. "Datblygiad Rhyfela" (PDF). CBAC.
  17. "Arfau a thechnoleg". HWB.
  18. "Y Ffrynt Cartref". HWB.
  19. "Hanes Cymru a Lloegr wedi 1880". CBAC.
  20. "Y Ffrynt Cartref". HWB.
  21. "Datblygiad Rhyfela" (PDF). CBAC.
  22. "Gwersyll Carcharorion Fron-goch". HWB.
  23. "Hanes Cymru a Lloegr wedi 1880". CBAC.