Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful

Oddi ar Wicipedia
WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful


Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Radicaliaeth a Phrotest, 1810 -1848
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Ym 1831 daeth rhai flynyddoedd o aflonyddwch ymysg gweithwyr Merthyr Tudful a'r cyffiniau at uchafbwynt treisgar a adnabyddir fel Gwrthryfel Merthyr neu Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful (hefyd, Terfysg Merthyr). Roedd gweithwyr yn galw am ddiwygio, yn protestio yn erbyn gostwng eu cyflogau a diweithdra cyffredinol. Yn raddol, ymledodd y brotest i drefi a phentrefi diwydiannol cyfagos ac erbyn diwedd mis Mai roedd yr ardal gyfan mewn gwrthryfel, a chredir i'r faner goch chwyldro gael ei chwifio fel symbol o wrthryfel gweithwyr am y tro cyntaf. Cymerodd tua 7,000 i 10,000 o weithwyr ran yn y gwrthryfel. Am bedwar diwrnod, bu ynadon a meistri haearn dan warchae yn y Castle Hotel ac am wyth diwrnod, Tŷ Penydarren oedd yr unig loches i awdurdod. Roedd gan derfysgwyr gynnau a ffrwydryddion, gan sefydlu rhwystrau ffyrdd, a ffurfio cadwyn reoli. Gorchmynnodd llywodraeth Prydain yn Llundain y fyddin i adfer trefn yn yr ardal. I ddechrau daliodd y protestwyr oddi ar y fyddin ond erbyn Mehefin llwyddodd 450 o filwyr i wasgaru'r terfysgoedd. Lladdwyd tua 24 o brotestwyr ac arestiwyd yr arweinwyr. Dedfrydwyd dau i farwolaeth.

Cefndir[golygu cod]

Gwaith Haearn ym Merthyr Tydfil

Erbyn troad y 19eg ganrif roedd cymdeithasau gwleidyddol wedi cael eu sefydlu yn ardal Merthyr lle roedd cyfle i’r gweithwyr drafod cwynion  yn erbyn amodau byw, y sustem dryc, cyflogau isel,  a chefnogi’r galw am ddiwygio’r Senedd. Yn y clybiau yma roedd gwaith Thomas Paine am syniadau democrataidd y Chwyldro Ffrengig yn cael eu darllen. Roedd radicaliaeth ym Merthyr yn cael ei fwydo gan syniadau tebyg ac roedd digwyddiadau’r Chwyldro Ffrengig a Rhyfel Annibyniaeth America wedi bod yn ysbrydoliaeth i geisio gwell byd i’r gweithiwr.

Yn erbyn cefndir y newidiadau diwydiannol a oedd yn digwydd yng Nghymru roedd y dosbarth gweithiol yn gorfod ymdopi gyda amodau gwaith a byw anodd eithriadol. Roedd graddfa y newidiadau a ddigwyddodd yn ardal Merthyr o fod yn ardal wledig, amaethyddol ganol y 18fed ganrif i fod yn dref ddiwydiannol, erbyn dechrau’r 19eg ganrif wedi achosi nifer o broblemau ym mywyd y dosbarth gweithiol. Un ohonynt oedd nad oedd gan tref ddiwydiannol newydd Merthyr Aelod Seneddol i’w chynrychioli yn y Senedd a doedd dim pleidlais gan y dosbarth gweithiol. Er mai hi oedd tref fwyaf Cymru erbyn y 1830au roedd y ffaith nad oedd llais gwleidyddol ganddi yn dangos mor anheg ac anemocrataidd oedd y system wleidyddol. Erbyn 1831, roedd dros 30,000 o bobl yn byw yno gyda’r rhan fwyaf o bobl yn dod i mewn i’r ardal i weithio yn y gweithfeydd haearn.

Roedd caledi eu hamgylchiadau wedi creu ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr bod ganddynt eidentiti eu hunain a bod ganddynt gwynion penodol roeddent eisiau eu datrys, er enghraifft, amodau byw gwael gyda thai rhad wedi eu hadeiladu o dywodfaen ac wedi eu hadeiladu yn agos at ei gilydd heb fawr o feddwl i gynllun. Roedd y tai yn orlawn ac yn aml mewn ardaloedd gor-boblog, heb systemau dwr glan ac roedd gweld tomenni o garthffosiaeth ar y strydoedd yn olygfa gyffredin. Roedd bobl hefyd yn byw mewn ‘seleri’ yn rhai o’r tai salaf eu safon ac roedd afiechydon fel diciau a cholera yn gyffredin ymhlith y boblogaeth.

Ynychwanegol at yr amodau byw anodd roedd yr amodau gwaith yn beryglus gyda damweiniau yn ddigwyddiadau rheolaidd. Roedd nwyon gwenwynig y ffwrneisi yn achosi problemau iechyd difrifol ac roedd plant, menywod a dynion yn cael eu caethiwo gan y sifftiau hir a ddisgwylid iddynt weithio. Roedd gafael y meistri haearn ar y gweithwyr yn ymestyn hefyd i’r ffordd roeddent yn cael eu talu, sef drwy tocynnau yn hytrach na arian pharod. Roedd yn rhaid gwario’r tocynnau hyn yn y siop dryc ble roedd prisiau nwyddau yn uchel ac arweiniwyd y gweithwyr a’u teuluoedd i ddyled oherwydd hynny. Roedd y rheini a oedd yn methu talu eu dyledion yn y siop yn cael eu dwyn gerbron Llys y Deisyfion a fyddai’n gorchymyn bod bailiff yn mynd a chelfi o dŷ y dyledwr a oedd yn cyfateb i’r ddyled.

Yn wyneb yr amgylchiadau anodd yma roedd gweithwyr Merthyr wedi cael eu radicaleiddio a’u gorfodi felly i sylweddoli bod rhaid cymryd camau i ddatrys y problemau yma. Byddai rhaid felly protestio a chodi llais er mwyn tynnu sylw at eu cwynion gan nad oedd llais yn y Senedd ganddynt.

Achosion[golygu cod]

Achosion tymor-hir[golygu cod]

Roedd nifer o faterion tymor-hir wedi bod yn draenen yn ystlys poeni gweithwyr haearn Merthyr, er enghraifft, amodau gwaith ac amodau byw, y system dryc a rôl y diwydiannwyr. Roedd yr amodau gwaith a byw yn ffiaidd ac yn beryglus ac roedd y system dryc yn tynnu’r gweithwyr mewn i ddyled yn y ‘siop dryc’ yn rheolaidd. Oherwydd hynny roedd beiliffis yn ymweld yn gyson gyda thai’r gweithwyr ac roedd galwadau i fynd gerbron Llys y Deisyfion yn gyffredin o dan ormes system talu cyflogau fel hynny.

Oherwydd y twf sydyn ym mhoblogaeth y dref codwyd llawer o dai rhad, fel arfer ar ran y meistri haearn. Am fod y tai hyn mor agos i’w gilydd, ac wedi eu hadeiladu heb unrhyw feddwl i gynllun, roeddent yn aml yn orlawn. Roedd ansawdd y deunyddiau adeiladu yn wael – gyda’r tai wedi cael eu hadeiladu o dywodfaen a chyda bobl yn byw morg los at ei gilydd roedd afiechydion fel y diciau yn lledaenu’n gyflym. Golygai bod llawer o leithder yn treiddio drwy’r muriau, gan arwain at broblemau anadlu anochel. Roedd safon glanweithdra yn wael iawn heb ddim cyflenwad o ddŵr glân, ac oherwydd hynny roedd epidemigau o golera a theiffoid yn gyffredin. Bu farw tua 1,500 yn epidemig colera 1849 yn y dref. Roedd y gyfradd marwolaethau ymhlith babanod yn erchyll. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, roedd Castell Cyfarthfa, sef plasty teulu’r Crawshays yn sefyll mewn ysblander moethus yn edrych i lawr ar dref Merthyr a’r gweithwyr oedd yn helpu adeiladu eu hymerodraeth yn byw mewn tlodi enbyd.

Roedd yr amodau gweithio yn eithriadol o wael hefyd. Nid oedd rheolau iechyd a diogelwch er lles y gweithwyr yn poeni’r mesitri haearn gan mai elw oedd eu prif amcan. Roedd y gwaith yn tueddu i gynnwys sifftiau 12-13 awr, 7 diwrnod yr wythnos gydag ychydig iawn o wyliau. Er bod llawer o’r swyddi yn y gweithfeydd haearn yn rhai crefftus, roedd llawer yn llawn peryglon fel ‘tasgu haearn’. Roedd y cyflogau’n amrywio ond nid rhyw lawer o un gwaith haearn i’r llall.[1]

Achosion tymor byr[golygu cod]

Yn ychwanegol at yr amgylchiadau yma, roedd nifer o achosion eraill wrth wraidd Terfysg 1831, yn eu plith, dirwasgiad economaidd a thorri cyflogau gan y meistri haearn. Ers 1829 roedd llai o alw am haearn ac ers hynny roedd dirwasgiad wedi bod yn y diwydiant haearn. Eto, roedd costau byw i’r dosbarth gweithiol yn codi ac aeth llawer i ddyled yn y cyfnod yma o ddirwasgiad gan wed leu hunain yn cael eu tywys gerbron Llys y Deisyfion. Gyda Crawshay yn torri cyflogau ar ddiwedd Mai 1831 ac yn diswyddo 84 o bwdleriaid ychwanegodd hyn at y pwysedd a straen cynyddol ar y gweithwyr gan achosi ffrwdrad yn y sefyllfa. Yn fuan wedyn, ar Fai 31, cynhaliwyd y cyfarfod ar Fynydd y Waun a oedd yn gychwyn ar wythnos Terfysg Merthyr 1831.

Ers troad y ganrif, roedd mudiadau radicalaidd a’r galw am ddiwygio’r Senedd wedi tanio awydd y gweithwyr diwydiannol i wella eu hamgylchiadau ac fel ffordd i ddatrys eu cwynion. Nid oedd y dref yn cael ei chynrychioli yn y Senedd ac heb gael yr hawl i bleidleisio nid oedd y gweithwyr gyda’r pŵer i wella eu hamgylchiadau. Roedd y twf ym mhoblogrwydd yr undebau yn ystod yr un adeg felly wedi helpu uno’r gweithwyr gyda’i gilydd.[2]

Cychwyn[golygu cod]

William Crawshay, 1788–1867

Trwy gydol mis Mai 1831, gorymdeithiodd glöwyr ac eraill oedd yn gweithio i William Crawshay ar strydoedd Merthyr Tudful, i wrthdystio yn erbyn diweithdra a gostyngiad yn eu cyflogau ac i alw am ddiwygiadau. Yn raddol, lledaenodd y brotest i ardaloedd diwydiannol cyfagos, ac erbyn diwedd mis Mai roedd yr ardal gyfan yn gwrthryfela. Dyma oedd y tro cyntaf i faner goch chwyldro gael ei chyhwfan fel mynegiant o rym dosbarth gweithiol.[3]

Anrheithiodd y gwrthryfelwyr lys y dyledwyr a'r nwyddau oedd wedi eu casglu. Dinistrwyd llyfrau ag ynddynt manylion y dyledwyr. Gwaeddwyd 'Caws a bara' ac 'I lawr â'r Brenin'.

Digwyddiadau[golygu cod]

Yn wyneb y gwahanol achosion a oedd wedi achosi Terfysg Merthyr penderfynodd y gweithwyr felly erbyn Mai 1831 bod angen gweithredu yn fwy pendant. Rhoddwyd hwb i’r awydd gan yma gan dwf a phoblogrwydd undebau, fel Undeb y Glowyr ymhlith dosbarth gweithiol yr ardal. Roedd y cyffro hefyd ynghylch yr ymgyrch i ddiwygio’r Senedd yn rheswm pwysig arall pam eu bod yn credu bod rhaid cymryd camau pellach. Cynhaliwyd cyfarfod mawr gan y gweithwyr haearn ar Mynydd y Waun ar Mai 30, 1831, y cyfarfod gwleidyddol mwyaf o weithwyr a oedd wedi ei gynnal hyd hynny yng Nghymru. Dangosai’r cyfarfod bod mwy o gydlynu yn nhrefniadau’r gweithwyr. Rhai diwrnodau cyn y cyfarfod roedd Crawshay wedi torri cyflogau’r gweithwyr ac yn ychwanegol at hynny fe waethygwyd y sefyllfa ganddo pan ddiswyddodd 84 o bwdleriaid.

Ar ôl y cyfarfod bu gweithredu. Ymwelodd beilïod o Lys y Deisyfion ag eiddo Lewis Lewis, a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Lewsyn yr Heliwr, er mwyn adennill dyledion.

Gwrthododd ildio eiddo, ac felly heriodd awdurdod y Llys, ond llwyddwyd i gytuno ar gyfaddawd pan aeth y Llys â chist a oedd yn eiddo iddo. Drannoeth, a’r dicter yn cynyddu, gwnaeth torf yn Hirwaun lwyddo i gael cist Lewis yn ôl gan siopwr a oedd wedi cymryd meddiant ohoni. Achosodd hyn ymgais gyffredinol i ailfeddiannu nwyddau a atafaelwyd gan Lys y Deisyfion.

Ar 2 Mehefin gorymdeithiodd y dorf gynyddol i mewn i Ferthyr, gan fynd o dŷ i dŷ a mynd â nwyddau a atafaelwyd gan Lys y Deisyfion. Aethant ati i chwilio drwy dŷ beili o’r enw Thomas Williams ac erbyn y prynhawn roedd gweithwyr haearn eraill wedi ymuno â’r dorf. Aeth yr ynadon a’r meistri haearn i aros yn Nhafarn y Castell gan gofrestru tua 70 o Gwnstabliaid Gwirfoddol. Ceisiodd y Prif Ynad J.B. Bruce, ynghyd ag Anthony Hill, berswadio’r dorf i chwalu, ond heb fawr o lwyddiant. Darllenwyd y Ddeddf Terfysg yn Gymraeg ac yn Saesneg ond arhosodd y dorf.

Gyda’r hwyr ymgasglodd y dorf y tu allan i dŷ Joseph Coffin, sef Llywydd Llys y Deisyfion, gan ddinistrio’r cofnodion oedd yn ei feddiant o ddyledion pobl yn ogystal â’r tŷ yn y pen draw. O ganlyniad i’r trais cynyddol, anfonwyd milwyr i mewn o Gaerdydd, Aberhonddu, Llantrisant a Chastell-nedd.

Ar 3 Mehefin cyrhaeddodd y milwyr o Aberhonddu ac aethant i Dafarn y Castell. Ymgasglodd torf o 10,000 y tu allan ac aeth dirprwyaeth i mewn i gyflwyno eu gofynion sef:

  • Diddymu Llys y Deisyfion
  • Cyflogau uwch
  • Diwygio
  • Lleihau cost cyfarpar gwaith hanfodol

Gwrthododd y meistri haearn ystyried y gofynion hyn a dychwelydd y ddirprwyaeth i’r dorf. Yna dywedodd yr Uchel Siryf wrth y dorf am wasgaru, gyda Crawshay yn annerch y dorf o Dafarn y Castell. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y weithred hon wedi digio’r dorf a wnaeth wedyn geisio amgylchynu’r milwyr. Codwyd Lewis Lewis ar ysgwyddau rhai o’r dorf a galwodd am i’r milwyr dynnu eu harfau. Yn ôl Crawshay rhuthrodd rhengoedd blaen y dorf ymlaen gan i’r milwyr gael eu brathu gan y bidogau roedd y protestwyr wedi mynd oddi wrthynt.

Yna saethodd y milwyr yn ffenestri’r Dafarn i mewn i’r dorf, gan ladd tri o’r dorf ar unwaith ac ar ôl pymtheg munud o ymladd ffyrnig arall, gwasgarodd y dorf o’r diwedd. Anafwyd 16 o filwyr a lladdwyd hyd at 24 o’r dorf, ond am fod llawer o gyrff wedi cael eu cludo ymaith a’u claddu’n gyfrinachol, nid yw’n hysbys faint o bobl a gafodd eu lladd mewn gwirionedd.

Drannoeth ymosodwyd ar Iwmyn Abertawe a oedd yn dod o Gastell-nedd a chipiwyd eu harfau. Roedd yn ymddangos bellach bod gan y dorf reolaeth lwyr. Fodd bynnag, ger pyrth Castell Cyfarthfa, gwnaeth y dorf gyfarfod â dirprwyaeth arall o brotestwyr, ond beth bynnag oedd cynnwys y trafodaethau dechreuodd yr orymdaith chwalu. Mae’n bosibl mai’r presenoldeb milwrol cynyddol a diffyg amcanion cyffredin a gyfrannodd at y digwyddiad hwn – ni allai’r protestwyr gytuno ar eu nodau. Hwn oedd trobwynt y Gwrthryfel. Erbyn 6 Mehefin roedd torf a oedd yn amrywio rhwng 12,000 ac 20,000 o ran nifer ar ei ffordd i Ferthyr gan gyfarfod gyda phrotestwyr Merthyr yn y Waun. Penderfynodd yr awdurdodau nawr gymryd camau penderfynol. Anfonwyd milwyr, darllenwyd y Ddeddf Terfysg ac anelodd y milwyr eu mwsgedi. Codwyd arswyd ar y dorf, a ildiodd a ffodd arweinwyr y gwrthryfel.

Roedd Merthyr yn llawn braw wrth i’r awdurdodau ymosod ar dai ac arestio 18 o arweinwyr, gan gynnwys Lewis Lewis a ddaliwyd yn y pen draw mewn coed ger Hirwaun. Fe’u hanfonwyd i garchar Caerdydd i aros eu prawf.[4]

Canlyniadau[golygu cod]

220pxBaner yn coffáu'r gwrthryfel, yn cael ei chwifio ym Merthyr yn 2012.

Erbyn 7 Mehefin 1831, ad-enillasai'r awdurdodau reolaeth ar y dref trwy drais. Arestiwyd 26 o bobl a'u rhoi ar brawf am gymryd rhan yn y gwrthryfela. Dedfrydwyd rhai i garchar ac eraill i'w halltudio i Awstralia; a dedfrydwyd dau - Dic Penderyn a Lewsyn yr Heliwr - i farwolaeth, y naill am drywanu milwr o'r enw Donald Black yn ei goes a'r llall am ysbeilio.

Roedd ymateb llym a di-drugaredd yr awdurdodau tuag arweinyddion y Derfysg yn profi na fyddai protestio yn cael ei oddef ac y byddent yn gwneud esiampl o’r protestwyr er mwyn atal eraill.

Daethpwyd a nifer o brotestwyr gerbron y llysoedd, oedd yn cynnwys glowyr, gweithwyr haearn a llafurwyr am ymosod ar dai, y trais a’r dinistrio ac am godi arfau yn erbyn yr awdurdodau. Cafodd dau o’r arweinyddion, sef Lewis Lewis ( a adnabyddwyd fel Lewsyn yr Heliwr) a Richard Lewis, sef Dic Penderyn, eu dedfrydu i farwolaeth. Cafodd Dic Penderyn ei grogi tu allan i Garchar Caerdydd er bod llawer o dystiolaeth yn dangos nad oedd yn euog o drywanu milwr o’r enw Donald Black. Protestiodd ei fod yn ddi-euog hyd nes iddo gamu ymlaen i’r crocbren gan ddweud ‘O Arglwydd, dyma gamwedd’. Yn sgil hynny daeth yn ferthyr i achos y dosbarth gweithiol yng Nghymru.

Lleihawyd dedfrydiad Lewis Lewis i drawsgludo ac anfonwyd ef draw i Awstralia.

Roedd y derfysg wedi dangos hefyd bod Terfysg 1831 wedi radicaleiddio y protestwyr a bod eu cred yn eu egwyddorion o degwch a chyfiawnder wedi cael ei gryfhau. Yn ystod y derfysg roeddent wedi trochi un o’u baneri yng ngwaed llo gyda’r faner goch wedi dod yn symbol pwysig yn ystod y derfysg o’u heidentiti fel grŵp o weithwyr diwydiannol gyda chwynion penodol.

Blwyddyn yn ddiweddarach wedi’r Derfysg, pasiwyd Deddf Diwygio 1832 a oedd yn rhoi’r bleidlais i ddynion dosbarth canol yn unig, yn eu plith, dynion busnes a’r diwydiannwyr. Bu hyn yn siom fawr i’r dosbarth gweithiol, ac mewn ymateb trodd llawer o brotestwyr Terfysg 1831 i gefnogi Siartaeth. Yn ystod gweddill y 1830au cynyddodd y gefnogaeth i Siartaeth yng nghymoedd de Cymru ac ymhlith y mathau gwahanol o weithwyr diwydiannol. Yn Ebrill 1839 bu protest Siartaidd yn Llanidloes gyda llawer o weithwyr y diwydiant gwlân ymhlith y protestwyr ac yn Nhachwedd 1839 bu’r Gwrthryfel Siartaidd yng Nghasnewydd.[5]

Cyfeiriadau[golygu cod]

  1. "Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-04-07.
  2. CBAC - Radicaliaeth a Phrotest, 1810 -1848
  3. http://www.100welshheroes.com/cy/biography/dicpenderyn. Adalwyd 20 Gorffennaf, 2014
  4. CBAC - Radicaliaeth a Phrotest, 1810 -1848
  5. Sekar, Satish (2012). The Cardiff Five: Innocent Beyond Any Doubt. Waterside Press, tud. 182