Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Arwisgiad Tywysog Cymru
Arwisgiad Tywysog Cymru yw'r seremoni o arwisgo mab hynaf teyrn Lloegr a rhoi’r teitl Tywysog Cymru iddo. Roedd y teitl ‘Tywysog Cymru’ wedi’i roi i etifedd gorsedd Lloegr ers 1301 gan y Brenin Edward I fel symbol o reolaeth ar Gymru, ond nid oedd y teitl erioed wedi cael ei ddefnyddio’n ffurfiol mewn gwirionedd. Roedd wedi bod yn arferiad i drefnu’r arwisgiad yn y Senedd yn Llundain[1] ond yn 1911 cynhaliwyd y seremoni am y tro cyntaf mewn lleoliad cyhoeddus, sef Castell Caernarfon. Yn y flwyddyn honno, cynhaliwyd Arwisgiad Tywysog Cymru, yn ddiweddarach Edward VIII, yn y castell a chredir bod David Lloyd George, wedi bod yn allweddol yn nhrefnu’r digwyddiad. Yn wahanol i Arwisgiad 1911, bu llawer mwy o wrthwynebiad i achlysur Arwisgiad 1969 gan genedlaetholwyr Cymreig.
Arwisgwyd Y Tywysog Siarl[golygu cod]
Un o’r achlysuron fwyaf dadleuol yn hanes Cymru’r 1960au oedd Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969. Gan weithio gyda’r Prif Weinidog Harold Wilson, fe wnaeth y Frenhines benderfynu y byddai yn rhoi’r teitl hwn i’w mab hynaf, y Tywysog Siarl. Gobeithiai y byddai hyn yn cryfhau’r gefnogaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig ac yn lleihau apêl yr ymdeimlad o genedlaetholdeb oedd yn cynyddu yng Nghymru yn ystod y ddegawd yma. Roedd twf ym mhoblogrwydd Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith ar y pryd yn achosi tipyn o ofid i’r Blaid Lafur. Gwelai George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac yn frenhinwr brwdfrydig y byddai’r arwisgiad yng Nghaernarfon yn gyfle i wrthweithio’r twf mewn cenedlaetholdeb.[2]
Bu nifer o wrthwynebiadau gan wahanol grwpiau o bobl pan gyhoeddwyd bod y Tywysog Siarl yn mynd i gael ei goroni’n Dywysog Cymru. Roedd gwrthdystiadau meddiannu, streiciau newyn a gorymdeithiau protest. Cafwyd cwynion bod imperialaeth Saesnig yn cael ei wthio ar Gymru, a bod arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu. Cyfansoddwyd cerddi gan rhai o feirdd Cymru oedd yn dangos eu gwrthwynebiad i’r arwisgo, er enghraifft, Gerallt Lloyd Owen, yn ei gerdd ‘Fy Ngwlad’.
- Wylit, wylit, Lywelyn,
- Wylit waed pe gwelit hyn.
- Ein calon gan estron ŵr,
- Ein coron gan goncwerwr,
- A gwerin o ffafrgarwyr
- Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr.[3]
Aeth Siarl i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth am dymor cyn yr arwisgo. Roedd ei diwtor yn gefnogwr Plaid Cymru, sef y darlithydd Dr. Teddy Millward. Roedd y Prif Weinidog Harold Wilson yn poeni y byddai Siarl yn agored i gael niwed ond dywedodd MI5 nad oedd mewn unrhyw berygl.
Er mwyn osgoi achosi trafferth yn y seremoni roedd yr awdurdodau wedi arestio arweinwyr y grŵp paramilwrol Byddin Rhyddid Cymru cyn yr arwisgo. Ar ddiwrnod yr arwisgo aeth yr arweinwyr o flaen llys. Ond oherwydd iddynt honni a gorliwio maint eu cefnogaeth a’r hyn roeddent wedi’i gyflawni danfonwyd tri ohonynt i’r carchar a chafodd tri ddedfrydau gohiriedig.
Yn ystod y paratoadau ar gyfer yr arwisgo cafwyd nifer o alwadau ffug am fomiau. Roedd Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC) wedi trefnu pedwar ffrwydrad, nid er mwyn lladd Siarl ond er mwyn tarfu. Lladdwyd dau aelod o MAC, sef Alwyn Jones a George Taylor, yn Abergele ddiwrnod cyn yr arwisgo pan ffrwydrodd eu gelignite.[4][2]
Ffrwydrodd bom tu allan i ardd Prif Gwnstabl Gwynedd heb achosi unrhyw niwed. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach collodd bachgen 10 mlwydd oed droed ar ôl baglu dros ffrwydron tu allan i siop haearnwerthwr roedd Siarl wedi’i phasio ar y ffordd i’r castell. Ar bier Llandudno methodd bom arall a ffrwydro. Yn Nhachwedd 1969 arestiwyd John Jenkins a Frederick Alders a danfonwyd hwy i’r carchar am achosi ffrwydradau a daeth ymgyrch fomio MAC i ben.
Diwrnod yr Arwisgiad[golygu cod]
Aeth yr arwisgo yn ei flaen ar Orffennaf 1af 1969. Yn ei araith, a draddodwyd yn Gymraeg, roedd Siarl yn cydnabod fod pobl Cymru’n benderfynol o amddiffyn eu treftadaeth a pharhau’n genedl falch ac ar wahân. Gwyliodd 90,000 yr orymdaith yng Nghaernarfon, tipyn llai na’r 250,000 oedd wedi ei ddisgwyl. Dangoswyd seremoni’r arwisgo ar y teledu, a chafodd ei darlledu o amgylch y byd i 500 miliwn o bobl, 19 miliwn ohonynt yn y Deyrnas Unedig. Costiodd y seremoni £200,000 o arian cyhoeddus ond roedd wedi creu hwb mawr o safbwynt yr economi leol mewn twristiaeth.[2]
Wedi’r holl fygythiadau am darfu bu rhaid i’r llys ynadon lleol ddelio ag ychydig o ddigwyddiadau’n unig - dau achos o ddinoethiad anweddus, dau am gario arfau bygythiol, tri am darfu ar yr heddwch; dau ohonynt am wneud arwydd “V” ar y Frenhines a’r dyrfa wedyn yn troi arnynt ac un am daflu croen banana o dan Farchoglu’r Frenhines. Roedd polau piniwn yn awgrymu fod tri chwarter o bobl Cymru’n cefnogi’r achlysur, er bod cyfran uwch o bobl ifanc yn elyniaethus tuag ato.[5][2]
Cyfeiriadau[golygu cod]
- ↑ "Style and titles of The Prince of Wales". The Royal Family. Cyrchwyd 2008-09-01.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Pleidiol wuf im gwlad" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 11 Mawrth 2020.
- ↑ Gerallt Lloyd Owen, 'Fy Ngwlad', yn Cerddi'r Cywilydd (Gwasg Gwynedd, 1972; sawl argraffiad ers hynny).
- ↑ "'Militants' key role in coming of devolution left ignored deliberately'". Wales Online. 20 November 2008.
- ↑ "Wales backs Charles for king". BBC News Online. 25 June 1999. Cyrchwyd 5 May 2010.