Wicipedia:Tudalen amddiffyn

Oddi ar Wicipedia

Gall y sysops gloi tudalen er mwyn rhwystro golygu.

Nifer fechan o dudalennau sy'n cael eu cloi, ond dyma ambell reswm dros gloi tudalen:

  1. Mae'r dudalen yn bwysig, ac o ganlyniad yn denu fandalwyr(e.e. Hafan).
  2. Mae angen cadw testun swyddogol ar dudalen am resymau cyfreithiol (e.e. y trwydded GNU FDL).
  3. Mae'r dudalen o fewn y gofod-enwau MediaWiki, ac yn rheoli ymddangosiad y Wicipedia Cymraeg (e.e. y negeseuon ar ochr, top a gwaelod y sgrin).
  4. Mae anghytuno mawr dros gynnwys y dudalen. Yn y fath achos, caiff y dudalen ei gloi er mwyn caniatáu i dymherau dawelu.