Wicipedia:Meini prawf cynnwys cyfyngedig

Oddi ar Wicipedia
Y polisi canlynol yw'r Polisi Gwerseb Eithrio (Exemption Doctrine Policy) ar yr Wicipedia Cymraeg, ac sy'n cyfateb â phenderfyniad Sefydliad Wikimedia ar 23 Mawrth, 2007.

Sail resymegol[golygu cod]

  • Cefnogi nod Wicipedia o gynhyrchu deunydd sy'n barhaol rydd, y gall unrhyw ddefnyddiwr ei ddosbarthu, ei addasu a'i ddefnyddio mewn unrhyw gyfrwng, a hynny heb gyfyngiad.
  • Gwarchod rhag achosion o erlyn cyfreithiol trwy osod terfynau ar y defnydd a wneir o gynnwys cyfyngedig (neu 'di-rydd) a defnydd teg, gan ddefnyddio meini prawf sy'n unol â gofynion cyfraith UDA ar ddelio teg.
  • Hyrwyddo defnyddio cynnwys cyfyngedig nad yw'n rhydd yn synhwyrol er mwyn cynnal y gwaith o greu gwyddoniadur o safon uchel.

Polisi[golygu cod]

Ystyr "cynnwys cyfyngedig" neu "di-rydd" yng nghyswllt y polisi hwn yw'r holl ddelweddau, y clipiau sain a fideo a'r ffeiliau cyfrwng eraill sydd â hawlfraint arnynt nad yw'n drwydded cynnwys rhydd. Os am ddefnyddio cynnwys cyfyngedig ar Wicipedia rhaid sicrhau yn gyntaf bod y meini prawf canlynol wedi eu digoni.

Nid oes hawl awtomatig i ddefnyddio cynnwys rhydd, di-rydd mewn erthygl nac mewn mannau eraill ar Wikipedia. Gall erthyglau a thudalennau Wikipedia eraill, yn unol â'r canllaw, ddefnyddio dyfyniadau testun byr air-am-air o gyfryngau sydd dan hawlfraint, eu priodoli neu eu dyfynnu'n briodol i'w ffynhonnell neu awdur gwreiddiol (fel y disgrifir gan y canllaw dyfynnu), ac a nodir yn benodol fel dyfyniadau uniongyrchol drwy ddyfynbrisiau, <blockquote></blockquote>, {{Dyfyniad}} neu ddull tebyg. Gellir defnyddio cynnwys arall nad yw'n rhydd—gan gynnwys pob delwedd dan hawlfraint, clipiau sain a fideo, a ffeiliau cyfryngau eraill nad oes ganddynt drwydded cynnwys rhydd ar Wicipedia Cymraeg dim ond lle y bodlonir pob un o'r 10 maen prawf canlynol.

  1. Dim cynnwys cyfwerth rhydd ar gael. Defnyddir cynnwys cyfyngedig yn unig pan nad oes deunydd rhydd ar gael neu y gellid ei greu, y byddai'n cyfleu yr un gwybodaeth gwyddoniadurol â'r cynnwys cyfyngedig. Os oes modd trawsnewid y cynnwys cyfyngedig i fod yn rhydd, gwneir hyn, yn hytrach na chyfiawnhau defnyddio'r cynnywys cyfyngedig. Os oes modd defnyddio cynnwys arall o safon dderbyniol, gwneir hynny: ystyr "safon dderbyniol" yw bod safon y deunydd yn ddigon da i gyflwyno'r gwybodaeth gwyddoniadurol. (Cyn uwchlwytho cynnwys cyfyngedig sydd yn rhaid ei gyfiawnhau, gallwch bwyso a mesur drwy holi'r cwestiynau canlynol i chi'ch hun -
    • A oes modd cyfnewid y cynnwys cyfyngedig am gynnwys rhydd sy'n ateb yr un pwrpas?
    • A ellid egluro'r pwnc trwy eiriau'n unig, heb ddefnyddio'r cynnwys cyfyngedig?
      Os oes modd gwneud hyn, yna nid yw'n debyg bod cyfiawnhad dros ddefnyddio'r cynnwys cyfyngedig.)
  2. Parchu cyfle masnachol. Ni ddefnyddir cynnwys cyfyngedig mewn modd a fyddai'n debygol o amharu ar gyfle marchnata'r deunydd gwreiddiol sydd o dan hawlfraint.
    • Defnyddio cyn lleied o eitemau o gynnwys cyfyngedig â phosib. Ni ddefnyddir rhagor nag un eitem o gynnwys cyfyngedig pan fo un eitem yn cyfleu'r cwbwl o'r wybodaeth sydd o ddefnydd i'r erthygl.
    • Defnyddio cyn lleied o'r eitem cynnwys cyfyngedig â phosib. Ni ddefnyddir y cwbwl o'r gwaith gwreiddiol pan fo darn ohono'n ddigon at y pwrpas. Defnyddir datrysiad/cywirdeb/cyfradd ddigidol isel yn hytrach nag uchel. Mae'r rheol hon hefyd yn cyfeirio at y copi o'r deunydd ar y parth Delwedd: .
  3. Eisoes wedi ei gyhoeddi. Dylai'r cynnwys cyfyngedig fod wedi ei gyhoeddi eisoes rhywle heblaw Wicipedia, heblaw bod deilydd y drwydded yn caniatau gosod y deunydd ar Wicipedia.
  4. Cynnwys. Dylai cynnwys cyfyngedig gwrdd â gofynion cyffredinol cynnwys ar Wicipedia, a dylai fod o natur gwyddoniadurol.
  5. Polisi penodol y cyfrwng. Dylai'r deunydd gyfateb â pholisi Wicipedia ar gyfer y cyfrwng hwnnw (y polisïau hyn i'w datblygu maes o law).
  6. Cynhwysir mewn un erthygl o leiaf. Rhaid bod y cynnwys cyfyngedig yn cael ei ddefnyddio mewn o leiaf un erthygl.
  7. Gwerth. Dylid defnyddio cynnwys cyfyngedig yn unig pan fod y deunydd yn werthfawr o ran cyfleu gwybodaeth am bwnc yr erthygl i'r darllenydd a dealltwriaeth ohono, a phe byddai peidio â'i gynnwys yn amharu ar y dealltwriaeth hwnnw.
  8. Cyfyngiad ar barthau. Caniateir defnyddio cynnwys cyfyngedig dim ond mewn erthyglau (ac nid tudalennau gwahaniaethu), a dim ond yn y parth erthyglau. (Er mwyn atal delweddau bawd rhag ymddangos ar dudalennau categori, ysgrifennwch __DIMGALERI__ i'r dudalen gategori. Defnyddiwch gysylltiad wici at ddelwedd wrth ei drafod ar dudalen sgwrs, yn hytrach na'r llun ei hun.)
  9. Tudalen ddisgrifiad y ffeil. Dylai dudalen ddisgrifiad y ffeil gynnwys y canlynol:
    • Enwau ffynhonell y deunydd a deilydd yr hawlfraint arno, os yn wahanol. Gweler: cymorth Wikipedia Saesneg.
    • Tag hawlfraint sy'n egluro ar ba ran o'r polisi yr ydych yn pwyso i gyfiawnhau defnydd y ffeil.
    • Enwau'r erthyglau lle y defnyddir y ffeil, gyda chyfiawnhad dros ddefnyddio'r ffeil ar gyfer pob un o'r erthyglau - gweler canllaw Wikipedia Saesneg. Dylai pob un cyfiawnhad fod yn rhwydd ei ddeall ac yn berthynasol i'r erthyglau.

Gorfodaeth[golygu cod]

  • Ni ddilëir ffeil pan nad oes cyfiawnhad dilys dros ei ddefnyddio mewn rhai erthyglau, pan fod cyfiawnhad dilys dros ei ddefnyddio mewn o leiaf un erthygl arall. Yn lle hynny, dylid naill ai dileu'r ffeil o'r erthyglau lle nad oes cyfiawnhad iddo fod, neu ychwanegu cyfiawnhad dilys.
  • Gellir dileu ffeil o gynnwys cyfyngedig na ddefnyddir mewn unrhyw erthygl ar ôl saith diwrnod wedi i'r un a uwchlwythodd y ffeil gael gwybod.
  • Bydd ffeiliau a chaiff eu huwchlwytho ar ôl (dyddiad derbyn y polisi hwn) sy'n cael eu defnyddio mewn erthygl ac sydd ddim yn dilyn gofynion y polisi hwn yn cael eu dileu ar ôl 48 awr wedi i'r un a'i uwchlwythodd gael gwybod. Er mwyn osgoi cael ei ddileu, rhaid i'r un a uwchlwythodd y ffeil neu wicïwr arall roi cyfiawnhad dilys sy'n cwrdd â phob un o'r deg maen prawf uchod. Pan fo'r ffeil wedi ei uwchlwytho cyn (dyddiad derbyn y polisi hwn), rhoddir pythefnos o rybudd yn hytrach na 48 awr.