Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Y Blitz yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Y Blitz yng Nghymru


Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Datblygu Rhyfela
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Cyfnod o fomio parhaus gan Natsïaid yr Almaen rhwng y 7fed o Fedi 1940 a'r 10fed o Fai 1941 yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y Blitz. Mae'r enw yn dalfyriad o Blitz, y gair Almaenig am "mellt".[1]

Y ddwy dref a gafodd eu bomio waethaf a fwyaf cyson yng Nghymru oedd Abertawe a Chaerdydd. Am dair noson ym mis Chwefror 1941, ymosododd 250 o awyrennau’r Almaen ar Abertawe gan ollwng 1,320 o fomiau ffrwydrol a thua 56,000 o fomiau tân.


Bwriad gwreiddiol y cyrch oedd dinistrio dociau’r dref a’i ffatrïoedd diwydiannol trwm, ond collodd yr Almaenwyr eu targedau gan fomio canol Abertawe yn lle. Roedd y bomiau tân wedi achosi gymaint o danau fel ei bod yn bosibl eu gweld dros hanner can milltir i ffwrdd. Bu farw llawer o sifiliaid, tua 387, a dinistriwyd llawer iawn o adeiladau’r dref. Dioddefodd Caerdydd hefyd. Mewn un cyrch, ar 2 Ionawr 1941, lladdwyd 151 o ddynion, 147 o fenywod a 47 o blant a dinistriwyd tua 600 o dai.[2]



Caerdydd[golygu cod]

Trigolion Abertawe, ychydig cyn neu ar ôl y bomio.

Gorffennaf 1940 - mis Mawrth 1944 Gollyngwyd tua 2,100 o fomiau ar ddinas Caerdydd gan ladd 355 o sifiliaid. Difrodwyd tua 33,000 o dai a dinistriwyd dros 500. Y prif darged oedd y dociau ond roedd sawl ymosodiad yn ochr orllewinol y ddinas, yn enwedig ardal Treganna a Glanyrafon lle lladdwyd 50 o bobl mewn un stryd – Stryd De Burgh – ar 3 Ionawr 1941. Honnodd yr Almaenwyr eu bod yn dial ar ôl i Brydain fomio Bremen.

1943 Bu llai o gyrchoedd awyr yn 1943, ond un o’r mwyaf nodedig oedd ymosodiad ar 17 Mai. Credwyd bod yr Almaenwyr yn talu’r pwyth yn ôl am gyrchoedd enwog y Dambusters ar ganolfannau diwydiannol ac argaeau trydan dŵr yr Almaen. Yng Nghymru y cafodd aelodau’r RAF eu hyfforddi ar gyfer y cyrchoedd hyn. Datblygodd y cynllunydd awyrennau Barnes Wallis y ‘bom sboncio’ (bouncing bomb), ar ôl cynnal profion ar argae Nant y Gro yng Nghwm Elan, ger Rhaeadr Gwy, Powys. Hwn oedd y bom a ddinistriodd a difrodi rai o brif argaeau’r Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd.

Abertawe[golygu cod]

Gweler hefyd: Blitz Abertawe

Cafodd Abertawe ei thargedu rhwng mis Mehefin 1940 a mis Chwefror 1943 a dioddefodd 44 cyrch awyr. Parodd yr ymosodiad gwaethaf dros dair noson ym mis Chwefror 1941 gan ddinistrio hanner canol y dref. Cafodd 30,000 o fomiau eu gollwng; llosgwyd 575 busnes; dinistriwyd 282 o dai a difrodwyd 11,084. Lladdwyd 227 o bobl, ac roedd 37 o’r rhain o dan 16 oed. Dinistriwyd rhannau mawr o Frynhyfryd, Townhill a Manselton. Roedd Caerdydd ac Abertawe yn dargedau amlwg oherwydd eu dociau a gweithfeydd diwydiannol ond ymosodwyd ar fannau eraill hefyd. Bomiwyd ffatrïoedd ordnans, purfeydd olew, gweithfeydd mwyngloddio a hyd yn oed cymunedau gwledig, fel arfer gan awyrennau a oedd ar goll neu’r rheini a oedd yn awyddus i ollwng eu bomiau cyn hedfan adref.

Ardaloedd eraill yng Nghymru[golygu cod]

Yn Sir Gaernarfon, a oedd yn agos at lwybr hedfan yr awyrennau bomio ar eu ffordd i Lerpwl, lladdwyd pump o bobl mewn cyrchoedd bomio yn ystod y rhyfel. Ym mis Ebrill 1941, collodd 27 o bobl eu bywydau mewn cyrch yng Nghwm-parc yn y Rhondda; roedd chwech ohonyn nhw yn blant, gan gynnwys pedwar faciwî.


Amcangyfrifon Cymru, Mehefin 1940-Mai 1944[golygu cod]

Lleoliad Marwolaethau Anafiadau
Abertawe 387 412
Caerdydd 355 502
Casnewydd 51 63
Morgannwg 82 120
Penfro 45 42
Mynwy 25 36
Dinbych 18 10
Caerfyrddin 14 13
Caernarfon 5 14
Y Flint 3 6
Mon 0 3
Cyfanswm 985 1,221


Cyfeiriadau[golygu cod]

  1. BBC History-The Blitz
  2. "Datblygu Rhyfela" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 15 Chwefror 2020.