Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Tuduriaid

Oddi ar Wicipedia
WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Tuduriaid



Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
HWB
Y Tuduriaid
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Teulu brenhinol Prydeinig oedd y Tuduriaid efo'i gwreiddiau ymysg teuluoedd pwysicach Gogledd Cymru. Roedd y teulu yn disgyn yn y llinell wrywaidd o'r Cymro enwog Ednyfed Fychan, a fu farw yn 1246. Mae oes y Tuduriaid yn dechrau yn 1485 gyda chipio coron Lloegr gan Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth ac yn dod i ben yn gyda marwolaeth Elisabeth I, brenhines Lloegr yn 1603. Rhagflaenwyd y Tuduriaid gan deulu’r Plantagenet fel brenhinoedd Lloegr ac olynwyd hwy gan deulu’r Stiwartiaid ar ôl 1603.

Rheolodd teulu’r Tuduriaid dros un o’r cyfnodau mwyaf pwysig a chyfnewidiol yn hanes y Deyrnas Unedig. Roedd yn gyfnod pan fu llawer o newidiadau gwleidyddol, economaidd, crefyddol, cymdeithasol a diwylliannol ym Mhrydain.

Y Tuduriaid a Chymru[golygu cod]

Harri Tudur efo baner Cymru ar ol Brwydr Maes Bosworth

Roedd gan y Tuduriaid wreiddiau teuluol yng Nghymru gan fod Harri VII (Harri Tudur) yn ŵyr i Owain Tudur a theulu'r Tuduriaid o Penmynydd, Ynys Môn. Mae'r enw Tudor yn dod o'r enw Cymraeg gwreiddiol Tudur.

Roedd rhain yn deulu o uchelwyr Cymreig a oedd ganddynt rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn nes ymlaen yng ngwleidyddiaeth Lloegr. Drwy Ednyfed Fychan, sef un o gyn-deidiau Harri Tudur, roedd gan y teulu gysylltiadau gyda theuluoedd pwysig eraill yng Nghymru’r Oesoedd Canol, er enghraifft, gyda’r Arglwydd Rhys, brenin olaf Deheubarth ac roeddent hefyd yn gefndryd i Owain Glyndwr. Roedd Ednyfed Fychan wedi bod yn ddistain, sef swyddog uchel yng ngwasanaeth tywysogion ac uchelwyr pwysig yn ystod yr Oesoedd Canol, yn llysoedd Llywelyn Fawr a’i fab, Dafydd ap Llywelyn.[1][2]

Teyrnasodd y Tuduriaid dros gyfnod o newidiadau pell-gyrhaeddol ym mywyd Cymru. Daeth newidiadau mawr i gyfraith Cymru gyda’r Deddfau Uno a chwalwyd yr abatai a’r mynachlogydd oedd yn rhan mor bwysig o fywyd crefyddol, diwylliannol a chymdeithasol bobl Cymru. Er gwaethaf y ffaith bod y Deddfau Uno wedi israddio’r Gymraeg drwy basio mai Saesneg bellach fyddai iaith y gyfraith a’r llysoedd yng Nghymru bu tro ar fyd yn hanes y Gymraeg yn ystod oes y Tuduriaid a sicrhaodd ei dyfodol fel iaith fyw. Y trobwyntiau pwysig hyn yn hanes yr iaith Gymraeg yn ystod oes y Tuduriaid a fu’n allweddol yn sicrhau ei goroesiad.

Y trobwynt cyntaf oedd cyhoeddiad y llyfr Cymraeg cyntaf sef Yn y lhyvyr hwnn a argraffwyd yn defnyddio peiriant argraffu Johannes Gutenberg o’r Almaen. Roedd llyfrau yn bwysig oherwydd bod modd gwneud copïau o’r hyn roedd awduron wedi ysgrifennu yn gyflymach, ac felly roedd mwy o bobl yn gallu darllen eu gwaith. Gwelwyd mwy o bobl gyffredin yn dechrau darllen oherwydd llyfrau printiedig. Sylweddolodd llawer o Gymry bod llyfrau print yn hollbwysig er mwyn i’r iaith Gymraeg oroesi. Cyhoeddwyd ‘Yny lhyvyr hwnn’ (Yn y Llyfr Hwn) yn 1546 gan John Price o Aberhonddu. Dyma’r llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yn Gymraeg. Yn gyntaf byddai'n rhaid dysgu pobl i ddarllen yn Gymraeg, felly roedd yr wyddor, a chyfarwyddyd ar sut i ddarllen a rhifo’n Gymraeg, yn ogystal â chalendr yn y llyfr.[3][4]

Yn 1563 yn ystod teryrnasiad Elisabeth I pasiwyd Deddf Cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg ac yn 1567 cyhoeddwyd cyfieithiad o’r Testament Newydd i’r Gymraeg. Yna yn 1586/7 argraffwyd y llyfr Cymraeg Catholig cyntaf, ''Y Drych Cristianogawl'' ar dir Cymru mewn ogof ar Benrhyn Rhiwledyn ger Llandudno. [5]

Onibai am gamp yr Esgob William Morgan yn cyfieithu’r Beibl yn Gymraeg a’i gyhoeddiad yn 1588 cred llawer o bobl y byddai’r iaith Gymraeg wedi marw yn y pen draw. Mae’n cael ei adnabod fel y llyfr mwyaf dylanwadol yn hanes yr iaith Gymraeg. Wedi cael ei awdurdodi gan Elisabeth I, credai’r Frenhines Brotestannaidd fod gan bawb hawl i ddarllen y Beibl yn eu hiaith eu hunain. Bellach roedd bobl Cymru yn medru darllen y Beibl yn eu mamiaith mewn iaith ddealladwy a daeth y gyfrol yn sail i lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern.[6][7]

Ymhlith y digwyddiadau a newidiadau pwysig yn y cyfnod yma oedd:

  • 1215 - Cymerodd Ednyfed Fychan drosodd yn lle Gwyn ab Ednywain fel distain Gwynedd.
  • 1232 - Ednyfed Fychan yn gynrychiolydd i Lywelyn Fawr mewn cyfarfod â Harri III o Loegr.
  • 1412 - Dienyddiwyd Rhys ap Tudur yng Nghaer fel cosb am gefnogi gwrthryfel Owain Glyndwr.
  • 1430 - Owain Tudur yn cael plentyn, Edmwnd Tudur, efo Catrin o Valois, farch i'r Siarl VI, brenin Ffrainc a mam i Harri VI, brenin Lloegr. Roedd Catrin hefyd yn fam i Siasbar, Owain a Margaret Tudur.
  • 1449 - Crewyd Edmwnd yn Iarll Ritsmwnd[8].
  • 1452 - Crewyd Jasper, frawd Edmwnd yn Iarll Penfro.
  • 1483 - Mae'r Iorciaid yn cefnogi cais Harri Tudur i fod yn Brenin Lloegr yn lle Rhisiart III.

Digwyddiadau pwysig teyrnasiad y Tuduriaid[golygu cod]

Llwyddodd Harri VII i sefydlogi a chryfhau gafael y Tuduriaid dros orsedd Lloegr wedi iddo ennill Brwydr Bosworth. Gyda hynny daeth diwedd i Ryfel y Rhosynnau, sef cyfres o ryfeloedd cartref a fu rhwng teulu’r Lancastriaid a’r Iorciaid rhwng 1455-1485 er mwyn ennill rheolaeth dros orsedd Lloegr. Teyrnasodd gweddill y Tuduriaid dros newidiadau pell-gyrhaeddol ym mywydau pobl Prydain. Ymhlith y digwyddiadau a newidiadau pwysig hyn oedd:


  • 1485 - Harri Tudur yn ennill Brwydr Bosworth yn erbyn Rhisiart III. Mae teuluoedd y Lancastriaid a’r Iorciaid yn cael eu huno gyda’r briodas rhwng Harri VII ac Elizabeth o Efrog. Daeth rhosyn coch a gwyn y Tuduriaid yn arfbais i’r Tuduriaid.
  • 1509 - Harri VIII yn dod yn Frenin Lloegr
    Martin Luther, 1529
  • 1521 - Martin Luther yn sefydlu’r Eglwys Brotestannaidd yn Ewrop
  • 1525 - Cyfieithu’r Testament Newydd i’r Saesneg gan William Tyndale
  • 1534 - Harri VIII yn torri ffwrdd oddi wrth y Pab yn Rhufain ac yn penodi ei hun fel Pennaeth yr Eglwys Babyddol yn Lloegr a Chymru. Dyma oedd Diwygiad Eglwys Lloegr.
  • 1536-1539 - Diddymu’r Mynachlogydd
  • 1536 - Gorymdaith y Pererindod Grâs yng Ngogledd Lloegr, sef protest yn erbyn cau’r mynachlogydd
  • 1536-1543- Pasio’r Deddfau Uno rhwng Cymru a Lloegr – Brenin Lloegr oedd bellach yn rheoli Cymru gyfan yn ôl cyfraith Lloegr
  • 1539 - Cyhoeddi’r Beibl yn Saesneg gan Myles Coverdale
  • 1542 - Pasio Deddf Coron Iwerddon oedd yn penodi Harri VIII yn Frenin Iwerddon
  • 1546 - Cyhoeddi y llyfr cyntaf yn y Gymraeg
  • 1547 - Edward VI yn dod yn Frenin Lloegr
  • 1553 - Mari I yn dod yn Frenhines Lloegr
    Yr Armada yn 1588
  • 1558 - Elisabeth I yn dod yn Frenhines Lloegr
  • 1567 - Cyhoeddi y Testament Newydd yn Gymraeg
  • 1587 - Dienyddio Mari, brenhines yr Alban
  • 1588 - Elizabeth yn trechu’r Armada
  • 1588 - Cyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg gan William Morgan
  • 1603 - Elisabeth I yn marw, diwedd oes y Tuduriaid

Oherwydd bu Elizabeth I farw heb unrhyw etifedd, golygai hyn bod gorsedd Lloegr yn cael ei drosglwyddo i deulu brenhinol yr Alban, sef y Stiwartiaid. Y brenin Stiwartaidd cyntaf i ddod yn Frenin Lloegr oedd Iago I a bu’n teyrnasu rhwng 1603 a 1625. Fe oedd yr etifedd nesaf agosaf at deulu’r Tuduriaid gan fod ei hen-famgu, Margaret Tudur (1489 – 1541), yn un o blant Harri VII ac felly yn 1603 unwyd llysoedd brenhinol yr Alban a Lloegr. [9]

Harri VII[golygu cod]

Harri VII
Prif: Harri VII

Ganwyd Harri yng Nghastell Penfro, Sir Benfro a glaniodd yn Dale, ar arfordir Sir Benfro wrth iddo deithio drwy Gymru i faes Brwydr Bosworth yn 1485. Gwyddai oherwydd ei gysylltiadau â Chymru y medrai ddibynnu ar gefnogaeth y Cymry a welai ef fel ‘Y Mab Darogan’. Yn fuan wedi iddo ennill Brwydr Bosworth priododd Harri VII Elisabeth o Efrog er mwyn atal unrhyw ryfeloedd pellach gyda theulu’r Iorciaid. Goroesodd pedwar o blant Harri VII ac Elizabeth a phrif amcan Harri oedd sicrhau heddwch wedi Rhyfel y Rhosynnau a dyfodol y Tuduriaid ar orsedd Lloegr. Gwnaeth felly drefnu cyfres o briodasau gwleidyddol rhwng ei blant a rhai o deyrnasoedd brenhinol eraill ym Mhrydain ac Ewrop. Yn 1503 trefnodd briodas rhwng ei ferch, Margaret a Iago IV, brenin yr Alban ac yn 1501 priododd Arthur, ei fab hynaf gyda Catrin o Aragon, sef merch Ferdinand II o Aragon ac Isabella I o Castile gan gryfhau’r berthynas gyda Sbaen. Yn anffodus bu farw Arthur rhai fisoedd ar ôl y briodas ac felly trefnodd Harri VII, wedi iddo gael caniatâd arbennig oddi wrth y Pab, bod brawd Arthur, sef Harri, yn priodi ei gweddw.

Llwyddodd Harri i drechu sawl ymdrech i’w ddi-orseddu, er enghraifft, gan Lambert Simnel yn 1487 a Perkin Warbeck yn ystod y 1490au.

Pan fu farw yn 1509 gadawodd Harri VII waddol bwysig oherwydd sicrhaodd bod sefyllfa ariannol y deyrnas yn un gadarn a bod ganddo etifedd i barhau gyda theyrnasiad y Tuduriaid ar orsedd Lloegr. [10]

Harri VIII[golygu cod]

Prif: Harri VIII
Harri VIII

Teyrnasodd Harri VIII o 1509 i 1547. Mae Harri VIII yn un o frenhinoedd mwyaf adnabyddus Lloegr. Nid Harri oedd fod etifeddu’r orsedd ond ei frawd hynaf Arthur, ond bu farw Arthur o salwch pan oedd yn 15 oed. Mae Harri yn cael ei adnabod fel brenin oedd yn hoff o hela, yn arweinydd cryf mewn brwydrau, ac oherwydd ei fod wedi priodi 6 gwaith. Cafodd ei goroni yn 18 mlwydd oed a phenderfynodd briodi Catrin o Aragon, gweddw ei frawd Arthur.


Rheolodd Harri er mwyn ei fodd ei hun. Sefydlodd Eglwys Lloegr fel byddai’n medru ysgaru ei wraig gyntaf Catrin o Aragon, ac fe ddiddymodd y mynachlogydd er mwyn perchnogi tir y mynachod. Roedd Harri yn sicr yn manteisio ar ei statws fel Brenin ac roedd angen llawer o arian arno i ymladd rhyfeloedd a rheoli ei deyrnas. Yn ystod ei deyrnasiad pasiwyd cyfres o gyfreithiau a fu’n drobwynt pwysig yn hanes Cymru, sef pasio’r Deddfau Uno yn 1536 a 1543. Rheolwyd Cymru a Lloegr bellach gan ‘gyfraith y Brenin’ .


Pan sylweddolodd Harri VIII nad oedd yn mynd i sicrhau etifedd gyda Catrin o Aragon penderfynodd ei fod yn mynd i holi am ganiatâd oddi wrth y Pab i chwalu y briodas. Trefnodd gyda’i brif weinidog, sef Thomas Wolsey, i ddechrau trafodaethau gyda’r Pab yn Rhufain. Gan fod y Pab o dan bwysau oddi wrth nai Catrin, sef Siarl V, yr Ymherawdwr Sanctaidd, i beidio caniatau’r ysgariad, methodd Wolsey sicrhau’r ysgariad ac felly apwyntiodd Harri VIII Thomas Cromwell yn ei le. Yn y cyfamser, roedd Harri wedi cwympo mewn cariad gydag Anne Boleyn ac yn awyddus iawn i’w phriodi. Priodwyd Harri ac Anne yn 1533 wedi i Eglwys Lloegr dorri ffwrdd oddi wrth Eglwys Rhufain. Gobeithiai Harri y byddai nawr yn medru cael mab I’w olynu ond ymhen tair blynedd dienyddiwyd Anne ar orchymyn Harri. Priododd Jane Seymour y flwyddyn ganlynol ond bu hi farw yn fuan wedi genedgaeth ei mhab, Edward. Bu bywyd priodasol Harri yr un mor trafferthus hyd nes fu farw yn 1547 wrth iddo ysgaru ei bedwerydd wraig, sef Anne o Cleves (o’r Almaen), cafodd Catrin Howard ei dienyddio ar sail anffyddlondeb ond goroeswyd Harri gan ei wraig olaf, sef Catrin Parr. [11]

Edward VI[golygu cod]

Prif: Edward VI

Teyrnasodd Edward VI o 1547 i 1553. Daeth yn Frenin ar ôl i’w dad Harri VIII farw. Mam Edward oedd trydedd gwraig Harri VIII sef Jane Seymour. Daeth yn Frenin yn ifanc iawn, yn 9 mlwydd oed. Roedd ewythr Edward, Edward Seymour (brawd ei fam) ac Archesgob Caergaint, Thomas Cranmer wedi helpu’r Brenin ifanc reoli. Fe ddylanwadon nhw ar Edward i newid Lloegr yn wlad Brotestannaidd.

Doedd Edward ddim yn holliach, ac erbyn 1553 ar ôl dioddef o diwberciwlosis bu farw. Cyn marw penderfynodd enwi Lady Jane Grey, ei gyfnither, fel ei etifedd ac nid ei hanner chwaer Mari. Roedd Mari yn Gatholig cryf a doedd Edward ddim eisiau Lloegr fod yn wlad Gatholig. Er hynny, roedd cefnogaeth cryf ymhlith pobl y wlad i Mari fel etifedd yr orsedd ac felly di-orseddwyd Lady Jane Grey ar ôl naw diwrnod fel brenhines. Gyda marw Edward daeth diwedd i linach gwrywaidd y Tuduriaid. Gorymdeithiodd Mari i fewn yn fuddugoliaethus i Lundain fel y frenhines newydd, sef Mari I. [12]

Mari I[golygu cod]

Mari Tudur

Teyrnasodd Mari I neu Mari Waedlyd o 1553 i 1558. Daeth yn Frenhines ar ôl ei hanner brawd Edward VI. Nid Mari I gafodd ei henwi fel etifedd Edward VI ond Yr Arglwyddes Jane Grey. Dim ond 9 diwrnod barodd Jane Grey cyn i Mari ennill ei choron gyda chefnogaeth y bobl. Roedd Mari yn benderfynol o wneud Lloegr yn wlad Gatholig unwaith eto. Priododd Felipe II, brenin Sbaen, a oedd yn amhoblogaidd, ac fe geisiodd gyflwyno Catholigiaeth fel prif grefydd y wlad a oedd hyd yn oed yn fwy amhoblogaidd gan fod nifer o bobl wedi troi at syniadau Protestannaidd erbyn hyn.

Roedd llawer yn gwrthwynebu ei phriodas i Phillip ac ofnent y byddai Lloegr yn troi yn fath o deyrnas Gatholig o dan awdurdod Sbaen. Cynyddodd y gwrthwynebiad i Gatholigiaeth llym Mari ac yn 1549 arweiniwyd terfysg o gefnogwyr Protestannaidd gan Thomas Wyatt yr ieuengaf, sef ‘Terfysg Wyatt’ yn ei herbyn. Bwriad y derfysg oedd diorseddu Mari a gosod ei chwaer Elizabeth, oedd yn Brotestant, yn ei lle. Darganfyddwyd y cynllwyn a lladdwyd cefnogwyr Wyatt. Cafodd Wyatt ei arteithio gyda Mari yn gobeithio y cyfaddefai bod Elisabeth yn rhan o’r cynllwyn fel y medrai wedyn orchymyn ei dienyddio am deyrnfradwriaeth. Ni wnaeth Wyatt enwi Elisabeth ac ar orchymyn Mari torrwyd ei ben.

Cafodd Mari I y llysenw ‘Mari Waedlyd’ oherwydd llosgwyd cannoedd o bobl yn ystod ei theyrnasiad am fod yn Brotestant. Yn ôl amcangyfrif, llosgwyd rhwng 200-300 wrth yr ystanc, am nad oeddent yn Gatholigion. Yn eu plith roedd tri merthyr o Gymru, sef Robert Ferrar, Esgob Tyddewi, Rawlins White, pysgotwr o Gaerdydd a William Nichol, llafurwr o Hwlffordd. Ymhlith y Protestaniaid amlwg a losgwyd yn Lloegr roedd ‘Merthyron Rhydychen’, sef yr esgobion Anglicanaidd Hugh Latimer, Nicholas Ridley a Thomas Cranmer, Archesgob Caergaint. Cafodd y tri eu chwilio’n euog o drosedd hereticiaeth a llosgwyd hwy wrth yr ystanc yn Rhydychen am ddilyn a dysgu y ffydd Brotestannaidd. Doedd Mari ddim yn Frenhines boblogaidd iawn. Bu farw yn 1558 gan basio’r goron ymlaen i’w hanner chwaer, Elisabeth. [13]

Elisabeth I[golygu cod]

Elisabeth I

Teyrnasodd Elisabeth I o 1558 i 1603. Roedd Elisabeth yn ferch i Harri VIII ac Anne Boleyn, ac yn hanner chwaer i Edward VI a Mari I. Pan bu Mari I farw enwodd Elisabeth fel ei hetifedd er i Mari garcharu Elisabeth yn Nhŵr Llundain pan oedd yn ifancach.

Daeth Elisabeth yn Frenhines yn 25 mlwydd oed. Yn ystod ei theyrnasiaid roedd bygythiadau i geisio cipio ei choron yn gyson, fel ymosodiad yr Armada Sbaeneg gan Frenin Phillip II a bygythiad o’r gogledd gan Mari Brenhines yr Alban. Yn ystod ei theyrnasiad roedd Prydain yn wlad Brotestannaidd ac wedi i’r Pab ei thaflu allan o’r Eglwys Babyddol yn 1570 daeth Elisabeth yn fwy o darged ar gyfer gwahanol gynllwynion gan Babyddion. Roedd prif deyrngarwch Catholigion i’r Pab a bu sawl cynllwyn ganddynt i ddiorseddu Elisabeth, er enghraifft, Cynllwyn Thomas Percy yn 1569 a Chynllwyn Ridolfi yn 1571. Eu bwriad oedd gosod y frenhines Babyddol, Mari Brenhines yr Alban yn lle Elisabeth fel bod y wlad yn troi’n Babyddol.

Mae Elisabeth yn enwog am beidio priodi, er bod nifer o ddynion wedi gofyn i’w phriodi. Bu farw yn 1603, a dyma ble orffennodd oes y Tuduriaid oherwydd ni chafodd Elisabeth blentyn fel etifedd i’w olynu ar yr orsedd. Daeth Iago I yn Frenin ar ôl Elisabeth.[14]

Cyfieiriadau[golygu cod]

  1. "Y Tuduriaid". HWB.
  2. Peredur Lynch, John Davies Nigel Jenkins Menna Baines. Y Gwyddoniadur Cymreig. t. 891.
  3. "Y Tuduriaid". HWB.
  4. "Yn y lhyvyr hwnn". LlGC.
  5. "Y drych cristianogawl". LlGC.
  6. "Y Tuduriaid". HWB.
  7. "Beibl Cymraeg 1588". LlGC.
  8. Griffith, Ralph A. and Roger Thomas . The Making of the Tudor Dynasty (New York: St. Martin's Press, 1985) , 33.
  9. "Y Tuduriaid". HWB.
  10. "Y Tuduriaid". HWB.
  11. "Y Tuduriaid". HWB.
  12. "Y Tuduriaid". HWB.
  13. "Y Tuduriaid". HWB.
  14. "Y Tuduriaid". HWB.