Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Terfysgaeth

Oddi ar Wicipedia
WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Terfysgaeth


Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Radicaliaeth a Phrotest
HWB
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Terfysgaeth yw'r defnydd o braw a thrais i fygwth neu gorfodi unigolyn, mudiad neu llywodraeth i newid neu gwneud rhywbeth, er enghraifft, at bwrpas gwleidyddol. Mae’r trais yn medru bod ar ffurf llofruddiaeth, hunanladdiad, nwyon gwenwynig, herwgipio neu bygythiad i ddinistrio, er enghraifft, bomio.

Mae’r defnydd o fraw gan derfysgwyr hefyd yn fath o ryfela seicolegol yn erbyn pwy bynnag neu beth bynnag yw eu targed.  Yn ôl barn rhai haneswyr, sifiliaid yw prif darged terfysgwyr ac oherwydd hynny maent yn dueddol i dargedu ardaloedd trefol.


Gall y terfysgaeth yma gael ei gario allan gan unigolyn yn gweithredu ar ben ei hun, neu gall fod yn derfysgaeth sydd yn cael ei noddi a’i gefnogi gan llywodraeth.  Mae enghreifftiau mewn hanes yn dangos hefyd bod mudiadau, grwpiau protest neu grŵp penodol o bobl yn troi at derfysgaeth oherwydd bod cyfyngiadau ar eu hawliau a nad oes ganddynt ffordd arall i fynegi eu hanfodlonrwydd.


Mae terfysgaeth yn dacteg sydd yn raddol wedi cynyddu yn ystod yr 20fed ganrif ac mae’r dulliau terfysgol wedi mynd yn fwy soffistigedig ac yn anoddach i’r awdurdodau eu monitro a’u darganfod.  Llofrudd yn y dorf a saethodd gyda'i wn at Archddug Franz Ferdinand yn 1914 oedd Gavrilo Princip tra mai nwyon cemegol fel sarin gan derfysgwyr o bell a ddefnyddiwyd mewn ymosodiadau terfysgol diweddar ar ddiwedd yr 20fed ganrif.


Mae terfysgaeth diweddar yr 20fed ganrif yn targedu mannau poblog, gwasanaethau neu cyfleusterau sy’n cael eu defnyddio gan llawer o bobl, er enghraifft, trafnidiaeth a chludiant, mannau gwaith neu ddigwyddiadau penodol fel cyngherddau.

Erbyn degawdau olaf yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif bu esgyniad sylweddol yn nifer yr enghreifftiau o derfysgaeth, er enghraifft, Trychineb Lockerbie, ymosodiad y Tyrau, Efrog Newydd yn 2001, ymosodiadau ar swyddfa Charlie Hebdo ym Mharis ym 2015 a’r Ymosodiad Arena Manceinion ym mis Mai 2017.  Yn yr enghreifftiau yma roedd effeithiau’r terfysgaeth wedi bod ar raddfa lle anafwyd a lladdwyd hyd at filoedd o bobl.

Diffiniad[golygu cod]

Nid yw diffiniad cynhwysfawr o derfysgaeth yn bodoli. Mae un ddiffiniad cryno yn haeru taw "trosedd â chymhelliad gwleidyddol gyda'r nod o newid ymddygiad y gynulleidfa a dargedir" yw terfysgaeth.[1]

Yn ei waith Terrorism and the Liberal State (1986), crybwyllodd Paul Wilkinson nifer o ffactorau wrth geisio ddiffinio terfysgaeth wleidyddol: y defnydd o fraw i orfodi rhywun i wneud rhywbeth, a'r defnydd o lofruddiaeth a dinistr, neu'r bygythiad o hynny, i orfodi unigolion neu grwpiau i ufuddhau i orchmynion y terfysgwr. Mae terfysgaeth felly yn fodd o ryfela seicolegol sydd yn defnyddio bygythiad fel ei phrif arf.[2]

Label wleidyddol yw terfysgaeth[3] sydd bron byth yn cael ei mabwysiadu'n wirfoddol gan unigolyn neu garfan i ddiffinio'u hunain.[4] Bron wastad y mae gan y term "terfysgw(y)r" ddelwedd negyddol, ac felly defnyddir termau megis "gwrthryfelwyr", "chwyldroadwyr", "aelodau milisia", neu "gerilas", sydd weithiau â chynodiadau positif gennynt, gan unigolion a grwpiau i ddisgrifio'u hunain.[5]

Strategaeth a ddefnyddir yn aml er pwrpasau ideolegol yw terfysgaeth, ac nid ideoleg ynddi'i hunan.[1] Ymgeisia rhai i lunio deipoleg o "weithredoedd terfysgol" yn seiliedig ar dactegau nodweddiadol terfysgwyr yn hytrach na diffiniad o derfysgaeth, ond mae gan hyn hefyd ei broblemau ei hunan. Er enghraifft, gellir gwahaniaethu rhwng tactegau milwrol confensiynol a thactegau terfysgol megis bradlofruddio a herwgipio, ond mae'r rhain yn weithredoedd troseddol cyffredinol yn ogystal ac nid yn unigryw i derfysgaeth. Mae'n debyg nid oes math arbennig o weithgarwch sy'n unigol i derfysgaeth.[6]

Terfysgaeth rhyngwladol[golygu cod]

Y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu cod]

Gavrilo Princip

Mae amcanion a thensiynau gwleidyddol a chrefyddol wedi bod yn ffactor gyffredin pam bod terfysgwyr yn gweithredu. Gweithred derfysgol oedd llofruddiaeth etifedd coron

Ymherawdwr Awstria-Hwngari a’r wreichionen a gyneuodd y Rhyfel Byd Cyntaf.  Ar Fehefin 28ain, 1914 saethodd gwr ifanc o’r enw Gavrilo Princip, Arch-ddug Awstria, Franz Ferdinand, a’i wraig, Sophie, yn Sarajevo.  Roedd Princip yn fyfyriwr ac yn aelod o blaid radicalaidd ‘Y Llaw Ddu’ a oedd eisiau uno Bosnia gyda Serbia a thorri’n rhydd o reolaeth Ymherodraeth Awstria-Hwngari. Roedd gwrthdaro wedi cynyddu rhwng yr Almaen a gwledydd eraill yn Ewrop ond defnyddiwyd y digwyddiad gan Awstria-Hwngari fel rheswm dros gyhoeddi rhyfel ar Serbia fis yn ddiweddarach.[7]

Yr helyntion Gogledd Iwerddon[golygu cod]

Aelodau Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon

Yr enghraifft mwyaf amlwg o derfysgaeth ar dir Pryeinig yn ystod yr 20fed ganrif oedd Yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon.  Roedd gwreiddiau’r gwrthdaro ac ymladd yng Ngogledd Iwerddon yn deillio nl i ymraniad Iwerddon yn 1921.  Dyma pan wahanwyd chwech talaith Brotestannaidd ac Undebol y gogledd oddi wrth gweddill de Iwerddon, a oedd gan fwyaf yn Babyddol.  Gadawyd llawer o Babyddion yn y gogledd wedi’r rhaniad.  Wynebodd rhain llawer o wahaniaethu o safbwynt, er enghraifft, swyddi a thai ac oherwydd hynny cychwynnwyd mudiadau hawliau sifil i ennill gwell amodau.  Dechreuodd y ddwy ochr gynnal protestiadau cyhoeddus a throeodd y gwrthdaro yn dreisgar wrth i’r ddwy ochr ddial ar ei gilydd.  Anfonwyd milwyr Prydeinig draw yn 1969 i geisio adfer trefn a throdd Belfast yn ddinas rhanedig rhwng ardal y Pabyddion ac ardal y Protestannaidd.  Roedd Gogledd Iwerddon eisiau aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig tra roedd y Pabyddion eisiau gweld Iwerddon gyfan yn troi’n weriniaeth. Yr IRA (Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon), oedd aden filwrol y gweriniaethwyr ac achosodd y tensiynau rhwng y ddwy ochr llawer o derfysgaeth yn Iwerddon yn ystod y cyfnod yma.  Lluniwyd cytundeb heddwch o’r enw ‘Cytundeb Gwener y Groglith’ yn 1998 a oedd yn gosod telerau ar gyfer sicrhau dyfodol heddwch yn y wlad.[8]

Y Dwyrain Canol[golygu cod]

Bomio gwesty King David yn 1946

Daeth y sefyllfa wleidyddol a chrefydd yn y Dwyrain Canol yn ffactor a achosodd rhai o ddigwyddiadau terfysglyd gweddill y ganrif a thu hwnt.  Yn Jeriwsalem yng Ngorffennaf 1946,

bomiwyd gwesty King David, pencadlys y Llywodraeth Brydeinig ym Mhalesteina, gan derfysgwr Seionaidd oedd yn perthyn i grŵp Irgun. Roeddent yn protestio yn erbyn presenoldeb Prydain ym Mhalesteina a lladdwyd 91 o bobl ac anafwyd 46.

Yn ystod y 1970au a’r 1980au cafwyd cyfres o ymosodiadau terfysgaidd oedd yn tynnu sylw at y gwrthdaro rhwng yr Israeliaid a’r Palestiniaid yn y Dwyrain Canol.  Roedd achos y gynnen rhwng y grwpiau crefyddol hyn yn canolbwyntio ar bwy oedd â’r hawl ac felly yn berchen ar dir Palesteina.  Roedd y ddwy ochr yn gweld y tir yma fel rhan o’u hetifeddiaeth a thir eu cyndeidiau.[9]

Grŵp terfysgaidd Palestinaidd o’r enw Black September oedd yn gyfrifol am Lladdfa Gemau Olympaidd Munich, Gorllewin yr Almaen ym mis Medi 1972. Dyma’r tro cyntaf roedd y Gemau Olympaidd wedi dychwelyd i'r Almaen ers 1936 pan oedd y Natsiaid wedi defnyddio’r Gemau i hyrwyddo , neu fawrygu'r hil Ariaidd. Gwelwyd Gemau 1972 fel cyfle gan Orllewin yr Almaen i unioni atgofion arswydus/ffiaidd y gemau hynny. Roedd y terfysgwyr yn gofyn am ryddhau Palestiniaid a oedd wedi eu carcharu mewn carchardai yn Israel a bod awyren yn eu hedfan nhw nôl i’r Dwyrain Canol. Hergipiwyd 11 aelod o dȋm Olympaidd Israel o’r pentref Olympaidd a’u dal yn wystlon yno. Lladdwyd nhw i gyd ac un o blismyn Munich yn ogystal â phump allan o’r wyth terfysgwr hefyd.[10][11]

Rhan o drwyn a bwrdd hedfan yr awyren yn Lockerbie.

Un o’r ymosodiadau terfysgol mwyaf erchyll ar dir Prydain oedd Trychineb Lockerbie ym Medi 1988. Dyma pan ffrwydrodd awyren Pan Am 103 uwchben tref Lockerbie, yr Alban ar ei daith o Lundain i Efrog Newydd. Roedd bom, yn cynnwys Semtecs ac wedi ei guddio mewn chwaraewr caset tu mewn cês dillad, wedi cael ei amseru i ffrwydro yn yr awyren fel fyddai’n amhosib i neb ddianc o’r gyflafan. Lladdwyd yr holl deithwyr a’r criw hedfan ar yr awyren a oedd yn gyfanswm o 259 o bobl. Wrth i’r awyren blymio i’r ddaear lladdwyd 11 o drigolion y pentref a dinistriwyd 21 o dai. Roedd nifer y bobl a laddwyd yn golygu mai hwn oedd yr ymosodiad mwyaf angheuol sydd wedi bod cyhyd ar prif dir Prydain.

Cymerodd Libia y cyfrifoldeb am y drosedd derfysgol a chyhuddwyd dau ddyn o Libia – un ohonynt oedd Abdelbaset al-Megrahi.  Ganwyd ef yn Tripoli ac roedd wedi astudio yn yr Unol Daleithiau a Chaerdydd yn ystod y 1970au.  Cafodd ei benodi yn bennaeth diogelwch y cwmni hedfan Libyan Arab Airlines (LAA) yn y 1980au.  Yn 2001 chwiliwyd ef yn euog o lofruddio 270 o bobl a dedfrydwyd ef i garchar am oes ond yn 2009 rhyddhawyd ef oherwydd afiechyd.  Yn ôl yr FBI roedd al-Megrahi yn gweithio fel asiant cudd-wybodaeth i Libia ac mae’r Cadfridog Gaddafi, arweinydd Libia, oedd wedi gorchymyn yr ymosodiad ond cafodd hynny ei wadu yn nes ymlaen.

Roedd llawer o’r teithwyr ar yr awyren yn Americaniaid a honnwyd bod yr ymosodiad wedi digwydd er mwyn dial am ymosodiadau America ar Tripoli yn 1986.[12] [13]

Terfysgwyr unigol[golygu cod]

Roedd ymosodiadau terfysgol eraill wedi cael eu cyflyrru gan safbywntiau personol ar faterion penodol. Ar Ebrill 19, 1995 ffrwydrodd bom tu mewn i gerbyd oedd wedi ei barcio tu allan i Adeilad Ffederal Alfred P.Murray, yn Oklahoma gan Timothy McVeigh.  Roedd McVeigh, meddai, yn dial am ymosodiad/warchae y Llywodraeth, dwy flynedd yn gynt i’r diwrnod, ar wersyll ger Waco, Texas. Roedd hwn yn ymosodiad terfysgol yn erbyn ymddygiad Llywodraeth America. Yn Waco, roedd sect grefyddol o’r enw Branch Davidians dan arweinyddiaeth David Koresh yn byw. Yn sgil y ffrwydrad yn Oklahoma lladdwyd dros 160 o bobl (gan gynnwys plant) ac anafwyd dros 500.[14]

Targedwyd y Gemau Olympaidd yn Atlanta, Georgia, yn America yng Ngorffennaf 1996 pan ffrwydrodd pibfom mewn pac ym Mharc Olympaidd Centennial.  Cyhuddwyd dyn o’r enw Eric Rudolph, a oedd yn gwrthwynebu erthyliad, gan yr FBI yn 1998 am y ffrwydriad.  Bu’r heddlu yn chwilio amdano ym Mynyddoedd Appalachia a darganfyddwyd ef gan yr heddlu yng ngogledd Carolina yn 2003.  Dedfrydwyd ef i garchar am oes yn 2005 wedi iddo bledio’n euog i’r ffrwydriad yn Atlanta.  Roedd hwn yn enghraifft o unigolyn a oedd ganddo fendeta yn erbyn safiad y Llywodraeth ar bynciau penodol.[15]

Islamiaeth radicalaidd[golygu cod]

Efrog Newydd ar ol ymosodiad 9/11

Un o nodweddion y terfysgaeth sydd wedi datblygu, yn enwedig ers cychwyn yr 21ain ganrif, ydy sut mae Islamiaeth radicalaidd wedi cael ei gysylltu gyda’r digwyddiadau terfysgol mwyaf angheuol ar draws y byd.  Yr ymosodiad terfysgol ble lladdwyd ac anafwyd dros 10,000 o bobl oedd Ymosodiadau 2001.  Ar Medi 11, 2001 herwgipiwyd pedair awyren gan 19 o derfysgwyr grŵp Al-Qaeda.  Hedfanwyd dwy o’r awyrennau i mewn i dyrau Canolfan Masnach y Byd, ardal Manhattan, Efrog Newydd ac un arall i fewn i’r Pentagon, yn Washington DC.  Llwyddodd y teithwyr yn y bedwerydd awyren wrthdroi y terfysgwyr a glaniodd yr awyren mewn cae ym Mhennsylvania.  Dymchwelodd y ddau dŵr o fewn dwy awr i’r ymosodiad cyntaf a lladdwyd mwy na 400 o blismyn a diffoddwyr tan yn ogystal a miloedd o bobl oedd yn gweithio ac yn ymweld gyda’r tyrau.  Erbyn i’r ymdrech achub a chwilio orffen amcangyfrifwyd bod tua 3,000 o bobl wedi cael eu lladd a dros 6,000 wedi cael eu hanafu.  Methwyd chwilio llawer o’r cyrff oherwydd graddfa y difrod.

Yr ymosodiad yma fu cychwyn y rhyfel yn erbyn Terfysgaeth a’r cysylltiad gyda Islamiaeth eithafol.  Sbardunwyd yr Unol Daleithiau a rhai o’i chynghreiriaid i geisio dinsitrio’r rhwydwaith Islamaidd terfysgol a chanolbwyntiwyd ar chwilio arweinydd Al-Qaeda, sef Osama bin Laden.  Goresgynwyd Affganistan gan UDA yn Hydref 2001 oherwydd amheuon ei fod yn cael lloches gan y wlad.  Yn Hydref 2003 goresgynwyd Irac gan UDA a Phrydain oherwydd bod nhw’n meddwl bod cysylltiadau rhwng Irac ac Al-Qaeda.  Lladdwyd bin Laden ym Mhacistan yn 2011 gan luoedd arbennig UDA. [16] [17]

Roedd y jihad yn rhan o dactegau terfysgol Islamiaeth eithafol, sef unigolyn oedd yn fodlon aberthu eu bywydau i gyflawni amcanion yr achos roedden nhw’n rhan ohono.  Gwelwyd hyn hefyd yn Ffrwydriadau Bali yn Hydref 2002 pan ffrwydrodd bom mewn pac gan hunanfomiwr yng nghlwb nos Paddy’s Bar yn ardal Kuta ar ynys Bali.  Lladdwyd 202 o bobl ac anafwyd dros 200.  Ymhlith y rhai a laddwyd roedd 88 o Awstralia a 28 o’r Deyrnas Unedig. Cymerwyd cyfrifoldeb am y drosedd gan Osama bin Laden a bod twristiaid Awstralaidd wedi cael eu targedu er mwyn dial am ran Awstralia yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth ac annibyniaeth Dwyrain Timor.[18][19]

Cafodd grwpiau Mwslemaidd eithafol eu cysylltu gyda nifer o ymosodiadau terfysgol a ddigwyddodd yn y degawdau canlynol ar draws y byd, er enghraifft, Ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005 ble lansiwyd cyfres o ffrwydriadau hunanladdiad ar hyd mannau penodol yn rhwydwaith trafnidiaeth Llundain;  Ffrwydriadau Marathon Boston yn Ebrill 2013; Ymosodiadau Charlie Hebdo ym Mharis, Ffrainc yn Ionawr 2015; ymosodiadau Pont Llundain ac Arena Manceinion yn 2017.[20][21] [22] [23]

Mewn ymateb i’r ymosodiadau hyn mae cynnydd wedi bod yn nifer yr ymosodiadau terfysgol gwrth-Islamiaeth mewn gwahanol rannau o’r byd, er enghraifft, ymosodiadau Norwy yn 2011 ble ffrwydrodd bom yn y brifddinas yn Oslo a saethwyd bobl mewn gwersyll ieuenctid y Blaid Lafur ar ynys Utøya, Norwy gan Anders Behring Breivik a Chyflafan Christchurch, Seland Newydd ble saethwyd yn farw 50 o Fwslemiaid mewn dau fosg ym Mawrth 2019.[24] [25]

Terfysgaeth yng Nghymru[golygu cod]

Yng Nghymru mae cyfuniad o resymau pam bod bobl wedi troi at derfysgaeth i fynegi eu protest.  Yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif bu enghreifftiau o derfysgu yng Nghymru a achoswyd gan faterion yn ymwneud â diffyg grym gwleidyddol, amodau gwaith a byw, cenedlaetholdeb a hunaniaeth. Defnyddiwyd braw a thrais er mwyn dangos gwrthwynebiad, lleisio barn a cheisio gorfodaeth i newid barn, safbwynt neu penderfyniad.

Cymru diwydiannol y 19eg ganrif[golygu cod]

Ar ddechrau’r 19eg ganrif, yn ystod y 1820au a’r 1830au, roedd grwp o'r enw y Teirw Scotch yn terfysgu yn ardaloedd diwydiannol siroedd Mynwy a Morgannwg.  Byddent yn codi ofn ac yn bygwth pobl oedden nhw’n meddwl oedd yn gormesu gweithwyr, er enghraifft, y meistri a pherchnogion y gweithfeydd, ymfudwyr o Loegr ac Iwerddon. Gan amlaf roedd y bygythiadau yn cael eu cynnal liw nos a byddai achos llys ffug i ‘brofi’r’ troseddwr neu droseddwyr cyn hynny. Eu bwriad oedd creu undod ymhlith y gweithwyr diwydiannol ac roedden nhw’n fath o undeb llafur cynnar. Byddent yn ymosod ar bobl oedd yn ‘torri’r’ undod hwnnw, er enghraifft, wedi torri streic. Roeddent yn defnyddio gwisg i guddio eu uniaeth gan ddefnyddio pen tarw coch fel rhan o’r wisg. Byddent yn canu cyrn ac yn ymweld/ymosod gyda thai ‘blackleggers’ oedd wedi torri streic neu torri undod y gweithwyr mewn rhyw ffordd. Roedd ymosod ar dai a malu dodrefn yn nodwedd o’r ffordd roeddent yn gweithredu. Anfonent lythyrau bygythiol a bygwth defnyddio trais i sicrhau ‘trefn’ ar weithwyr diwydiannol yr ardaloedd hyn. [26] [27]

Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful


Ym Mehefin 1831, adeg Terfysg Merthyr, meddiannwyd tref Merthyr gan brotestwyr, sef gweithwyr yn y gweithfeydd haearn lleol oedd yn protestio yn erbyn amrywiaeth o gwynion a phryderon, er enghraifft, y Sustem Dryc atgas, amodau byw a gwaith gwael,a dim pleidlais. Trodd y protestio yn dreisgar gyda elfennau o derfysgaeth pan ymosodwyd gan y terfysgwyr a’r awdurdodau ar eiddo, unigolion a chodwyd arfau.

Adeg y derfysg bu ymddygiad a gweithgareddau y protestwyr yn ddigon bygythiol fel bod y Ddeddf Terfysg wedi cael ei darllen a galwodd William Crawshay a’r awdurdodau lleol am gymorth y milisia lleol a galwyd milwyr draw o Aberhonddu, Gaerdydd, Llantrisant a Chastell-nedd i geisio rheoli’r sefyllfa. Ail-feddiannodd y protestwyr yr eiddo oedd wedi ei atafaelu gan Lys y Deisyfion a’i ddychwelyd i’w berchnogion, aeth y dorf i chwilio drwy dŷ beili o’r enw Thomas Williams ac ymosodwyd ar dŷ Joseph Coffin, Llywydd Llys y Deisyfion yn ogystal â dinistrio’r cofnodion o ddyledion pobl oedd e’n ei gadw. Adeg y derfysg a barodd am wythnos gyfan gwnaeth yr ynadon a’r meistri haearn baricedio eu hunain fewn i aros yn Nhafarn y Castell cymaint oedd eu hofnau am dreisgarwch y sefyllfa. O ffenestri’r dafarn saethodd y milwyr i mewn i’r dorf gan ladd tri o’r dorf ar unwaith ac wedi ymladd ffyrnig lladdwyd 24 arall o’r dorf ac anafwyd 16 o filwyr.  Does neb yn siwr faint yn union o’r dorf a laddwyd gan fod llawer o gyrff wedi eu cludo ymaith a’u claddu’n gyfrinachol. Daeth y terfysgu i ben ar Fehefin 6 gyda 18 o arweinwyr yn cael eu harestio gan gynnwys Richard Lewis (Dic Penderyn) a grogwyd yng Ngharchar Caerdydd am drywanu milwr o’r enw Donald Black yn ei goes. Mae Dic Penderyn yn cael ei gydanbod fel Merthyr cyntaf y dosbarth gweithiol yng Nghymru.

Gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd, 1839

Yn 1839 roedd Gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd yn cael ei gweld fel protest oedd yn rhan o wrthryfel mwy ym Mhrydain ac yn ôl rhai haneswyr yn ymgais at chwyldro cenedlaethol. Gyda siom Deddf Diwygio 1832 a heb gael cynnig y bleidlais roedd y diffyg grym gwleidyddol yma i ddosbarth gweithiol Cymru wedi cyfrannu at dwf Siartiaeth, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol newydd.  

Roedd apêl Siartaeth yn gryf yng nghymoedd cloddio glo Sir Morgannwg a Sir Fynwy.  Ffigwr blaenllaw yn rhengoedd Siartwyr Sir Fynwy oedd John Frost o Gasnewydd a oedd cynt wedi bod yn Faer Casnewydd. Roedd cefnogaeth i Siartaeth ‘grym corfforol’ yn gryf yn yr ardal yma ac oherwydd hynny cafodd cyfarfodydd Siartaeth eu gwahardd a hyfforddwyd pobl gyda arfau i wrthsefyll Siartaeth.

Daeth tri arweinydd Siartaeth yr ardaloedd yma ynghyd mewn cyfarfod yn y Coed-duon ar Fai 20, 1839, sef Zephaniah Williams, John Frost a William Jones a’r bwriad oedd gorymdeithio i Gasnewydd ac ymgynnull fel tair colofn ar y dref.  Cychwynnwyd storio arfau fel rhan o’r paratoadau ar gyfer gwrthryfel a allai fod yn rhan o wrthryfel mwy ym Mhrydain.

Daeth yr awdurdodau i wybod am y trefniadau yma a threfnodd Thomas Phillips, Maer Casnewydd, bod 500 o gwnstabliaid gwirfoddol a milwyr yn cael eu hanfon i Gasnewydd.  Anfonwyd tua 30 o filwyr i Westy’r Westgate. Wedi clywed hyn penderfynodd y Siartwyr orymdeithio tuag at y gwesty a cheisio cael mynediad.  Saethodd y milwyr at y dorf tu allan, yna at y Siartwyr tu allan a thu mewn i Westy’r Westgate gan ladd tua 22 o bobl.  Adlewyrchwyd perygl y sefyllfa i’r awdurdodau oherwydd llymder y cosbau a roddwyd i’r arweinyddion John Frost, Zephanaiah Williams a William Jones,sef crogi, diberfeddu a chwarteru.  Er cafodd hyn ei leihau i drawsgludo yn nes ymlaen. Yn yr un modd roedd y gweithwyr amaethyddol yn ardaloedd gwledig de-orllewin Cymru yn troi at derfysgu drwy ymosod a dinistrio ar gatiau’r tollbyrth oedd yn ffocws i’w cynddaredd.

Cymru wledig y 19eg ganrif[golygu cod]

Disgriflun[dolen marw] a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Punch yn 1843

Bu Helyntion Beca yn codi arswyd ar yr ardal yma o Gymru rhwng 1839 – 1843 gan fygwth braw ac ofn am llythyrau bygythiol ar y rhai hynny oedd yn gysylltiedig gyda’r tollbyrth a’r tlotai.  Ymosodwyd ar gatiau'r tollbyrth, y tollbyrth,

ceidwaid y tollbyrth a daeth tirfeddiannwyr a chlerigwyr lleol yn darged y llythyron bygythiol oedd yn cael eu hanfon gan Beca. Cyrhaeddodd trais y protestio ei anterth yn 1843 gyda ymddygiad a gweithredoedd yn dod yn fwy treisgar, gan ledaenu i ymosod ar eiddo’r rhai a oedd yn gwrthwynebu Beca. Defnyddiwyd gynnau ar 16 Mehefin pan saethwyd at Gwnstabliaid Gwirfoddol ger Caerfyrddin ac o ganlyniad i hyn anfonodd y Llywodraeth filwyr o’r diwedd, sef y 4ydd Dragwniaid Ysgeifn o Gaerdydd.

Ym Mehefin 1843 gorymdeithiodd tua 2,000 o gefnogwyr Beca i gyflwyno eu cwynion i Ynadon Heddwch yn Neuadd y Dref. Ond yn fuan iawn trod y tloty yn darged dicter i’r protestwyr gan fynd i fewn i’r adeilad ac achosi difrod. 

Roeddent ar fin rhoi’r adeilad ar dan pan gyrhaeddodd y milwyr a chymryd 60 o garcharorion.  Yn yr un flwyddyn cafodd dynes 75 mlwydd oed o’r enw Sarah Williams, ceidwad y tollau, ei lladd wrth ymyl tollborth yr Hendy, ger Llanelli, yn ystod ymosodiad ar y tollborth.[28]

Cymru'r 20fed ganrif[golygu cod]

Boddi Capel Celyn[golygu cod]

Yn ystod y 1950au a’r 1960au bu enghreifftiau yn hanes Cymru pan wnaeth y bobl ddangos eu gwrthwynebiad i’r ffordd roedd hawliau Cymru fel gwlad, ei hiaith a’i diwylliant yn cael ei diystyru a’u hanwybyddu. Roedd agor Cronfa Ddŵr Tryweryn yn 1965 yn dystiolaeth o hynny. Pan basiwyd Mesur Boddi Cwm Tryweryn, Y Bala, Meirionnydd yn 1957 er mwyn darparu adeiladu cronfa ddŵr a fyddai’n darparu dŵr i ddinas Lerpwl bu gwrthwynebiad chwyrn.  Lleisiodd y mwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru, trigolion y pentref, aelodau blaenllaw ym mywyd Cymru fel Ifan ab Owen Edwards, Megan Lloyd George, Plaid Cymru ac ar draws Cymru gyfan eu bod yn erbyn y cynllun.

Roedd Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn yn gymuned glos, amaethyddol, uniaith Gymraeg gyda 67 o drigolion. Byddai cymuned gyfan yn cael eu gorfodi i symud o’u cartrefi ac nid oedd Lerpwl yn talu Cymru am y dŵr.

Protest[dolen marw] Lerpwl 21/11/1956.

Yn 1956 arweiniodd Gwynfor Evans, arweinydd Plaid Cymru, orymdaith o drigolion Capel Celyn a’u cefnogwyr, drwy ganol dinas Lerpwl er mwyn gofyn i Gyngor y ddinas ail-ystyried y cynllun.  Anfonwyd llythyron a deisebau fel rhan o’r ymgyrch.  Pleidleisiodd 35 o 36 Aelod Seneddol Cymru yn erbyn y cynllun (ataliodd 1 rhag bwrw pleidlais) a gyflwynwyd yn 1957 ond ofer fu’r ymbil.  Pasiwyd y cynllun yn y Senedd yn Llundain yng Ngorffennaf 1957.

Siomwyd a chwerwyd llawer gan yr ymateb ddifater a ddangoswyd tuag at safbwynt bobl Cymru ar y mater. Arestiwyd a rhoddwyd dirwy i David Pritchard a David Walters ym mis Medi 1962 am ddifrodi offer ar y safle. Cymaint oedd dyfnder y gwrthwynebiad i’r boddi fel y bu enghreifftiau eraill o ddifrod yng Nghwm Tryweryn. Ar Chwefror 10, 1963 ffrwydrwyd trosglwyddydd a oedd yn y gronfa a chosbwyd Emyr Llewelyn Jones, myfyriwr yn Aberystwyth ac aelod o Fudiad Amddiffyn Cymru am y weithred. Fe’i dedfrydwyd i garchar am ddeuddeg mis ac yn fuan wedyn chwythwyd peilon trydan yng Ngellilydan gan Owain Williams a John Albert Jones, a oeddynt hefyd yn aelodau o Fudiad Amddiffyn Cymru.  Cafodd y ddau garchar am flwyddyn.

Er gwaetha'r gwrthwynebiad cyhoeddus aeth y cynllun yn ei flaen ac fe agorwyd Llyn Celyn fel cronfa ddŵr yn swyddogol ar 28 Hydref 1965. Rhaid oedd adeiladu heolydd newydd gan fod yr heol o Bala i Ffestiniog yn cael ei boddi, a chost y prosiect oedd £20 miliwn. Roedd llyn Celyn yn dal 71,200 megalitr o ddŵr, yr argae mwyaf yng Nghymru. Cafodd cofeb ei hadeiladu wrth ymyl y llyn a gerddi coffa a symudwyd hen gerrig beddi Capel Celyn yno.

Cynhaliwyd protest yn ystod y seremoni agoriadol swyddogol y Gronfa Ddŵr ar Hydref 28ain, 1965 lle roedd Arglwydd Faer Lerpwl yn bresennol. Bu’r seremoni yn un llawn tensiwn rhwng y gwahoddedigion a’r protestwyr.  Llosgwyd Baner yr Undeb, bu taflu cerrig a heclo. Yn bresennol hefyd mewn lifrau milwrol yr oedd parafilwyr Byddin Rhyddid Cymru.

Dechreuwyd ymgyrch recriwtio gan Fyddin Rhyddid Cymru yn 1963, ond protest Tryweryn oedd yr achlysur cyntaf iddynt ymddangos yn gwrthdystio. Yn 1969 arestiwyd yr arweinwyr a dedfrydwyd chwech ohonynt, yn cynnwys yr arweinydd Julian Cayo Evans, i bymtheg mis o garchar. Cafodd ei arestio ar ddiwrnod arwisgo Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ar Orffennaf 1af.[29] [30]

Clywedog[golygu cod]

Yn nyffryn Clywedog ger Llanidloes, Powys, adeiladwyd cronfa ddŵr er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Birmingham. Ar 31 Gorffennaf 1963 cafodd Mesur Clywedog ei wneud yn ddeddf gwlad gyda sêl y frenhines, ac fe ddechreuodd y gwaith adeiladu. Byddai 615 acer o dir amaethyddol yn Nyffryn Clywedog yn cael ei golli a thair fferm yn cael eu boddi. Tyfodd gwrthwynebiad ymhlith trigolion lleol i'r cynllun i adeiladu cronfa ddŵr yn y dyffryn. Arweiniwyd yr ymgyrch yn erbyn boddi Clywedog gan aelodau o Blaid Cymru. Yn Ebrill 1963 cyfarfu is-bwyllgor Clywedog am y tro cyntaf i drafod sut yr oedd modd achub y dyffryn. Roedd y pwyllgor yn cynnwys J. W. Meredydd, Arthur Thomas, Islwyn Ffowc Ellis, Elystan Morgan ac Elwyn Roberts.

John Barnard Jenkins o Mudiad Amddiffyn Cymru

Penderfynodd Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru gymryd prydles ar 2.6 acer o dir yn nyffryn Clywedog am bum mlynedd ar hugain. Rhannwyd y tir yn 75 uned a logwyd gan 200 o bobl, o Gymru a thu hwnt, a wrthwynebai'r cynllun. £12 oedd pris uned o dir ac fe'i rhannwyd yn bedwar rhan am £3 yr un.

Y prif reswm am brynu'r tir hwn oedd bod perchnogion tir yn cael lleisio barn mewn ymchwiliad cyhoeddus i'r cynllun. Y bwriad hefyd oedd cadw tresbaswyr a oedd yn gweithio ar y cynllun oddi ar y tir. Gwyddai pwyllgor amddiffyn Clywedog na ellid rhwystro'r cynllun, ond roedd prynu'r tir yn fodd iddynt brotestio yn erbyn y datblygiad arfaethedig. Er gwaethaf eu hymdrechion pasiwyd deddf a roddai'r hawl i'r llywodraeth bwrcasu'r tir trwy orfodaeth, ac ni wnaeth yr ymgyrch prynu tir rwystro'r gronfa ddŵr rhag cael ei hadeiladu. Ar 13 Ebrill 1965 cynhaliwyd diwrnod i'r wasg Brydeinig yn nyffryn Clywedog tra roedd y gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen. Tarfodd rhai o aelodau Plaid Cymru, yn cynnwys yr arweinydd Gwynfor Evans, ar y diwrnod er mwyn dangos nad oedd y Cymry a'r bobl leol yn fodlon gyda'r hyn a oedd yn digwydd.

Ar 6 Mawrth 1966 ffrwydrodd bom ar safle'r argae ac amheuwyd bod cysylltiad rhwng y digwyddiad a Mudiad Amddiffyn Cymru, dan arweiniad John Barnard Jenkins. Gwnaed gwerth £36,000 o ddifrod ac fe gollwyd gwerth chwe wythnos o waith gan y ffrwydron. Gosodwyd bomiau hefyd yn y Deml Heddwch yn 1968, ac yn Abergele ar fore Arwisgo'r Tywysog Siarl yn 1969 pryd y lladdwyd Arwel Jones a George Taylor gan eu bom eu hunain.[31]

Yr Arwisgiad 1969[golygu cod]

Corddwyd emosiynau a theimladau dwfn adeg Arwisgiad, Siarl, mab hynaf Elizabeth II, fel Tywysog swyddogol Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969.  Roedd y digwyddiad yn atgof o oresgyniad Edward I o Gymru yn 1282 wedi lladd Llywelyn Ein Llyw Olaf.  Gorchmynnodd Edward I mai o hynny ymlaen y byddai teitl Tywysog Cymru yn cael ei roi i etifedd gorsedd Lloegr.  Roedd hynny yn symbol o ormes Lloegr.  Yn ystod y paratoadau ar gyfer yr Arwisgiad a diwrnod yr Arwisgiad yn 1969 cafwyd nifer o alwadau ffon ffug i’r awdurdodau am fomiau a darganfyddwyd gwahanol ymdrechion gan aelodau o Fudiad Amddiffyn Cymru i drefnu ffrwydriadau. Roedd wedi trefnu pedwar ffrwydrad er mwyn tarfu ar y digwyddiadau. Diwrnod cyn yr Arwisgiad lladdwyd dau aelod MAC pan ffrwydrodd y gelignite y neu meddiant. Ffrwydrodd bom yng ngardd Prif Gwnstabl Gwynedd a darganfyddwyd bom ar bier Llandudno.  Pedwar diwrnod yn hwyrach collodd bachgen 10 mlwydd oed ei droed wedi iddo faglu dros ffrwydron tu allan i siop haearnwerthwr roedd Siarl wedi’I phasio ar y ffordd i’r castell. Arestiwyd John Jenkins a Frederick Alders yn Nhachwedd 1969 ac anfonwyd hwy i’r carchar am achosi ffrwydradau a chyda hynny daeth ymgyrch fomio MAC i ben.[32]

Meibion Glyndwr[golygu cod]

Yn nes ymlaen yn yr 1980au bu grŵp cenedlaetholgar o’r enw Meibion Glyndwr yn llosgi ac yn bomio nifer o dai haf ac ail-gartrefi yng ngogledd a gorllewin Cymru. Eu bwriad oedd ceisio perswadio’r Llywodraeth i roi blaenoriaeth i Gymry yn y farchnad dai lleol.[33]

Roedd eu hymgyrch fomio hefyd yn targedu swyddfeydd cwmnïau gwerthu tai, carafannau a iardiau cychod. Roedd y grŵp wedi cychwyn eu hymgyrch llosg-fomio ar ddiwedd y 1970au ac roedd wedi parhau hyd at ganol y 1990au. Enwyd hwy ar ôl Owain Glyndwr, y tirfeddiannwr o linach hen deuluoedd brenhinol Powys a Deheubarth Cymru. 

Yn ystod ymgyrchoedd Meibion Glyndwr ni laddwyd nac anafwyd neb yn ddifrifol. At ei gilydd ymosododd ymgyrch fomio'r grŵp ar tua 230 o dai haf ac yn 1993 dedfrydwyd a charcharwyd Siôn Aubrey Roberts, 21 mlwydd oedd o Langefni i 12 mlynedd o garchar yn Llys Ynadon Caernarfon am anfon bomiau tân drwy'r post. Chwiliwyd ef hefyd yn euog o anfon dyfeisiadau cynnau tân drwy'r post i Wyn Roberts, Gweinidog Cymru ar y pryd ac aelodau uwch yn yr heddlu. Cymaint oedd ofn yr awdurdodau ynghylch bygythiadau Meibion Glyndwr fel bod gwasanaeth cudd MI5 wedi bod yn rhan o'r ymchwiliadau am bwy oedd yn gyfrifol am yr ymgyrchoedd bomio. Yn ystod achos llys Siôn Roberts datgelwyd yn eu tystiolaeth i'r llys bod ysbïwyr MI5 wedi bod yn goruchwylio symudiadau Siôn Roberts ac wedi bod yn bygio ei fflat yn Llangefni, Ynys Môn.

Yn ystod yr ymchwiliadau, daeth i'r golwg bod Siôn Roberts, a dau arall, sef David Gareth Davies a Dewi Prysor Williams, a chwiliwyd yn ddi-euog o'r cyhuddiadau yn eu herbyn, yn aelodau o grŵp a oedd yn ymgyrchu am annibyniaeth i Gymru, sef Y Cyfamodwyr. Roedd y tri hefyd yn gefnogwyr i Feibion Glyndwr. Codwyd nifer o amheuon am ddibynadwyedd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdodau yn ystod achos llys Siôn Roberts ond ni ddarganfyddwyd pwy yn union oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau bomio tân. [34] [35] [36]

Gweler hefyd[golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Weinberg a Davis (1989), t. 6.
  2. Wilkinson (1986), t. 51.
  3. Weinberg a Davis (1989), t. 3.
  4. Townshend (2002), t. 3.
  5. Laqueur (2003), t. 232.
  6. Townshend (2002), t. 5.
  7. "Trosolwg o'r Rhyfel Byd Cyntaf" (PDF). HWB.
  8. "'Yr Helyntion' yng Ngogledd Iwerddon". Encyclopedia Britannica.
  9. "Y Rhyfel yn y Dwyrain Canol". Encyclopedia Britannica.
  10. "Gemau Olympaidd Munich 1972". BBC.
  11. "Lladdfa Gemau Olympaidd Munich". Encyclopedia Britannica.
  12. "Trychineb Lockerbie". Golwg 360.
  13. "Trychineb Lockerbie". Encyclopedia Britannica.
  14. "Ffrwydrad Dinas Oklahoma". Encyclopedia Britannica.
  15. "Bomio Gemay Olympaidd Atlanta 1996". Encyclopedia Britannica.
  16. "Ymosodiadau Medi 2001". Encyclopedia Britannica.
  17. "Ymosodiadau Medi 2001". BBC.
  18. "2002 Bali Bombings". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 24 Mawrth 2017.
  19. "The 12 October 2002 Bali bombing plot". BBC News (yn Saesneg). 2012-10-11. Cyrchwyd 2020-03-26.
  20. "Boston Marathon bombing of 2013 | terrorist attack, Massachusetts, United States". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-26.
  21. "Ymosodiadau bom Llundain 2005". Encyclopedia Britannica.
  22. "Ymosodiad terfysgol Llundain 2005". Golwg 360.
  23. "Bomio Llundain: Cymry'n cofio". BBC.
  24. "Ymosodiadau Oslo ac Utoya 2011". Encyclopedia Britannica.
  25. "Cyflafan Christchurch, Seland Newydd". Encyclopedia Britannica.
  26. "Natur Troseddau". BBC.
  27. Davies, John. Hanes Cymru. tt. 354–355.
  28. "Radicaliaeth a Phrotest" (PDF). CBAC.
  29. "Pleidiol wyf i'm gwlad" (PDF). CBAC.
  30. "Tryweryn". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  31. "Clywedog". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  32. "Pleidiol wyf i'm gwlad" (PDF). CBAC.
  33. Gwyddoniadur Cymru. Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 609.
  34. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2001). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 609.
  35. "Meibion Glyndwr". Daily Post.
  36. "Meibion Glyndwr". The Guardian.

Ffynonellau[golygu cod]

  • Chomsky, N. (2002) 'Who Are the Global Terrorists?'. Yn Worlds in Collision: Terror and the Future of Global Order, golygwyd gan Ken Booth a Tim Dunne, tt. 128–37. Basingstoke: Palgrave Macmillan.
  • Jenkins, B. (1975) 'International terrorism: A balance sheet'. Survival, 17(4), tt. 158–64.
  • Keohane, R. O. (2002) 'The Public Delegitimation of Terrorism and Coalitional Politics'. Yn Worlds in Collision: Terror and the Future of Global Order, golygwyd gan Ken Booth a Tim Dunne, tt. 141–51. Basingstoke: Palgrave Macmillan.
  • Laqueur, W. (2003) No End to War: Terrorism in the Twenty-First Century. Llundain: Continuum.
  • Townshend, C. (2002) Terrorism: A Very Short Introduction. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.
  • Weinberg, L. B. a Davis, P. B. (1989) Introduction to Political Terrorism. Efrog Newydd: McGraw-Hill.
  • Wilkinson, P. (1986) Terrorism and the Liberal State. Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Efrog Newydd.