Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Hawliau sifil a gwleidyddol

Oddi ar Wicipedia
WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Hawliau sifil a gwleidyddol


Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ymgyrch Diarfogi Niwclear
CBAC


Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Categori o hawliau sy'n amddiffyn rhyddid unigolion rhag ymyrraeth gan lywodraethau a mudiadau preifat ydy hawliau sifil a gwleidyddol. Maent yn sicrhau fod unigolyn yn medru cymryd rhan ym mywyd gwladol a gwleidyddol heb ragfarn neu orthrwm.

Mae hawliau sifil yn cynnwys amddiffyn integredd a diogelwch corfforol pobl; amddiffyn rhag camwahaniaethu ar seiliau megis anabledd corfforol neu feddyliol, rhyw, crefydd, hîl, ethnigrwydd, oed,cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth ryweddol; hawliau'r unigolyn megis rhyddid meddwl a chydwybod, rhyddid i siarad, rhyddid y wasg a rhyddid i symud.

Wrth edrych ar enghreifftiau mewn hanes mae pobl ar draws y canrifoedd wedi gorfod brwydro, ymladd ac amddiffyn eu hawliau sifil a gwleidyddol er mwyn ceisio sicrhau cyfiawnder, lleisio eu barn neu unioni cam. Mae hawliau sifil a gwleidyddol bobl wedi bod yn bwysig mewn hanes oherwydd maent yn sicrhau fod gan unigolion rhyddid barn sy’n rhydd oddi wrth ddylanwad sefydliadau neu unigolion neu ymyrraeth oddi wrth y Llywodraeth. Gall bobl wedyn leisio eu barn a chymryd rhan ym mywyd gwleidyddol a gwladol heb ofni gorthrwm.

Wedi eu hysbrydoli gan y Chwyldro Ffrengig a’r Rhyfel Annibyniaeth yn America aeth grŵp o bobl, sef y Radicaliaid, ati i gyflwyno mwy o ddemocratiaeth yn y ffordd roedd y wlad a’i phobl yn cael eu rheoli.  Credent os fyddai Prydain yn troi’n wlad fwy democrataidd yna byddai safon byw y dosbarth gweithiol yn gwella. Roedd rhyddid yr unigolyn yn hollbwysig iddynt a chredent bod hi’n bwysig bod yr unigolyn hynny yn cael llais yn y ffordd roedd y wlad yn cael ei llywodraethu.

Gyda’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth ac i ddiddymu caethwasiaeth roedd bobl du yn brwydro yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn eu hil ac i sicrhau hawliau cydradd gyda’r dyn gwyn. Yn y 18fed ganrif roedd William Wilberforce yn allweddol yn y frwydr hon a draw yn ne Affrica’r 20fed ganrif roedd Nelson Mandela wedi dod i’r amlwg fel arweinydd y frwydr yn erbyn apartheid.

Bu’r dosbarth gweithiol yng Nghymru ddiwydiannol y 19eg ganrif yn protestio er mwyn ennill yr hawl wleidyddol sylfaenol i gael y bleidlais gyda gweithwyr haearn Merthyr yn terfysgu yn 1831 a’r Siartwyr yn trefnu gorymdeithiau yng Nghasnewydd a Llanidloes.  Erbyn yr 20fed ganrif roedd y Swffragetiaid wedi camu ymlaen i ymgyrchu dros hawliau gwleidyddol merched ac yn nes ymlaen yn yr 20fed ganrif roedd grwpiau a mudiadau pwysedd fel CND yn ymgyrchu dros heddychiaeth. Roedd Cymdeithas yr Iaith, a ddaeth i fodolaeth yn 1962, yn protestio er mwyn ennill mwy o statws i’r iaith Gymraeg fel bod ei siaradwyr yn cael ymarfer eu hawliau sifil i fedru defnyddio eu mhamiaith yn eu bywyd a gwaith bob dydd yng Nghymru.

Hawliau gwleidyddol ym Mhrydain[golygu cod]

Ymgeiswyr yn y Chwyldro Ffrengig yn stormio Bastille

Roedd galw mawr am welliannau mewn hawliau gwleidyddol ym Mhrydain yn y cyfnod yma. Cyn 1832 roedd y system yn hollol anheg efo gyda canran isel iawn o'r poblogaeth yn gallu pleidleisio dros aelodau seneddol mewn system

lygredig a hen ffasiwn lle nad oedd gan weithwyr na menywod lais. Roedd y chwyldro diwydianol wedi creu newidiadau mawr yn y cymdeithas, gyda dosbarth canol newydd yn dod i'r golwg. Roedd gweithwyr a cymudedau en trefnu ymysg ei gilydd ac yn rhannu syniadau newydd trwy llenyddiaeth radicalaidd a cenedlaetholgar. Ar ben hynny roedd y Chwyldro Ffrengig wedi dangos bod newidiadau mawr yn posib a bod gan y cymdeithas llais cryf trwy cydweithio yn erbyn y sefydliad.

Effaith y Chwyldro Diwydiannol[golygu cod]

Ysgogodd y Chwyldro Ffrengig, a ddechreuodd yn 1789, ddadl eang a dwys am y system wleidyddol ym Mhrydain ar y pryd. Yn sgil y chwyldro ysbrydolwyd llu o lenyddiaeth ar draws Ewrop ac ym Mhrydain oedd yn cwestiynu, yn herio ac yn achosi pobl i ail-feddwl am y ffordd roedd llywodraethau a brenhinoedd yn rheoli eu gwlad a’u pobl. Ar yr adeg yma hefyd roedd y Chwyldro Diwydiannol ar ei anterth ym Mhrydain ac roedd ei effaith yn achosi newidiadau pell-gyrhaeddol yn ffordd o fyw ac amodau gwaith bobl.

Profodd Prydain newidiadau economaidd a chymdeithasol pell-gyrhaeddol oherwydd datblygiad y Chwyldro Diwydiannol o tua canol y ddeunawfed ganrif hyd at ddechrau’r 20fed ganrif. Gyda thwf aruthrol yn y boblogaeth yn y

Manceinion, neu "Cottonopolis" yn ystod y chwildro diwydiannol

mannau diwydiannol newydd sylweddolwyd yn fuan nad oedd cynrychiolaeth gwleidyddol yn y Senedd gan yr ardaloedd yma. Wrth i’r dosbarth gweithiol newydd a niferus wynebu heriau amodau byw bob dydd a’r amodau gwaith anodd daeth galwad cynyddol a chryfach o’u plith am lais yn y system wleidyddol.Roedd diwydiannu wedi newid Prydain gan greu dosbarth gweithiol diwydiannol yn y trefi a’r dinasoedd nad oeddent bellach yn fodlon derbyn sefyllfa fel ag yr oedd wedi bodoli ers canrifoedd.  Roedd y sustem wleidyddol bresennol yn cynrychioli y Brydain gyn-ddiwydiannol.  Roedd y boblogaeth yn yr ardaloedd gwledig wedi crebachu ond roedd dylanwad yr ardaloedd hynny yn enfawr ac ar y cyfan nid oedd yr ardaloedd diwydiannol newydd yn cael eu cynrychioli.

Adnabuwyd nifer o wendidau efo'r system wleidyddol ym Mhrydain;

  • Dim ond ychydig iawn o bobl oedd â’r hawl i bleidleisio a dim ond dynion a oedd yn berchen ar eiddo oedd yn medru pleidleisio. Nid oedd gan trwch y boblogaeth fawr ddim llais yn y broses o ddewis Aelodau Seneddol oherwydd hyn.
  • Roedd dosbarthiad yr Aelodau Seneddol yn anheg – er enghraifft, roedd Manceinion yn 1750 yn bentref ac felly nid oedd ganddi Aelod Seneddol ond erbyn 1830 roedd 182,000 o drigolion yn byw yno oherwydd effaith y Chwyldro Diwydiannol. Er hynny, nid oedd Aelod Seneddol yn ei chynrychioli. Ar y llaw arall roedd gan llawer o drefi ac ardaloedd gwledig, oedd wedi crebachu wrth i bobl symud i’r trefi diwydiannol newydd, Aelod Seneddol eu hunain.  Roedd rhain yn cael galw’n ‘fwrdeisdrefi pwdr’.  Yn 1830 roedd Old Sarum, yn Wiltshire yn enghraifft o’r math yma o fwrdeisdref. Pan oedd etholiad byddai saith o bleidleiswyr yn cyfarfod yno i ddewis 2 Aelod Seneddol.
  • Roedd ‘bwrdeistrefi pwdr’ yn aml yn etholaethau lle roedd llygredd a llwgrwobrwyo yn rhemp. Roedd y rhan fwyaf o’r pleidleiswyr yn gweithio i dirfeddiannwr lleol a/neu’n rhentu tir oddi wrtho. Roeddent yn pleidleisio dros yr unigolyn yr oedd y tirfeddiannwr yn dweud wrthyn nhw am bleidleisio drosto. Term arall am yr etholaethau hyn oedd bwrdeistref poced, am eu bod ym mhoced y tirfeddiannwr lleol.
  • Roedd etholiadau adeg hynny’n cael eu cynnal yn gyhoeddus ac roedd rhaid i bob pleidleisiwr gyhoeddi dros bwy roedd yn bwrw pleidlais. Roedd bygythiadau, tenantiaid yn cael eu taflu oddi ar eu tir, a hyd yn oed llofruddiaeth yn gyffredin pe na bai rhywun yn pleidleisio dros yr ymgeisydd ‘cywir’.
  • Doedd Aelodau Seneddol ddim yn cael eu talu cyflog – felly roedd y mwyafrfif o’r boblogaeth yn methu fforddio cael eu hethol i fod yn Aelod Seneddol.[1] [2]

Dosbarth Canol newydd[golygu cod]

Nid oedd y dosbarth canol cyfoethog newydd o fasnachwyr, pobol busnes a gweithgynhyrchwyr ychwaith yn cael eu cynrychioli yn y sustem wleidyddol.

Trwy gydol ail hanner y ddeunawfed ganrif, fe ddatblygodd barn gyhoedduas, yn enwedig ymhlith y dosbarth canol trefol, nad oedd yn barod i dderbyn aristocratiaid yn rheoli Prydain.  Roedd y dosbarth canol trefol yma’n dibynnu ar fasnach am eu llwyddiant, ac roeddent yn blino ar bolisïau’r aristocratiaid oedd yn ffafrio amaethyddiaeth.

Roedd syniadau gwleidyddol, radical yn cael eu lledaenu a’u trafod ymhlith y dosbarth canol trefol a sefydlwyd nifer o glybiau a grwpiau trafod gwleidyddol. Yr enwocaf o’r rhain oedd y Society for Constitutional Information , a sefydlwyd yn Llundain ym 1780. Dechreuodd alw am ddiwygiad seneddol. [2]

Diwygwyr[golygu cod]

Portread y diwigiwr Henry Hunt gan Adam Buck

Bu’r Chwyldro Ffrengig yn ysbrydoliaeth i radicaliaid am ei fod yn pwysleisio syniadau a oedd yn sylfaenol i wlad ddemocrataidd – un ohonynt oedd galw am ddiwygio’r Senedd a hawl i bleidleisio. Roedd y chwyldro yn ddylanwad cryf ar feddylfryd y radicaliaid a’r ffordd oedden nhw’n meddwl am rôl y a chyfraniad y llywodraeth ym mywyd bobl.

Roedd llawer o bobl o’r farn mai’r system seneddol oedd wrth wraidd dioddefaint y mwyafrif o’r boblogaeth. Roedd y galw am ddiwygio’r senedd yn ganolog i beth oedd y radicaliaid yn gofyn amdano. Credent bod y rhan fwyaf o bobl

yn cael eu trin yn annheg o ran cyflogau ac amodau byw am nad oedd ganddynt lais gwleidyddol. Un radical amlwg yn y cyfnod oedd Uwchgapten John Cartwright a oedd yn ymgyrchu dros:

  • Y bleidlais i bawb (sef pleidlais I bob dyn)
  • Seneddau blynyddol
  • Pleidlais gudd

Nid oedd y radicalaid yn un grwp penodol ond roedd yr holl grwpiau radicalaidd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredin yma.

Dau Radical enwog arall oedd Henry (Orator) Hunt a William Cobbett. Roedd Hunt, fel y mae ei lysenw yn ei awgrymu, yn siaradwr cyhoeddus gwych a oedd yn annerch torfeydd o ddegau o filoedd o bobl yn rheolaidd, gan fynnu diwygiadau radicalaidd.  Roedd Cobbett yn hynod ddylanwadol fel newyddiadurwr. Cafodd ei gyfnodolyn wythnosol ‘Political Register’, effaith enfawr – roedd 200,000 o gopïau o’r rhifyn cyntaf wedi’u gwerthu erbyn diwedd 1817. Rhoddodd Cobbett fai ar y gyfundrefn wleidyddol am y tlodi a’r tor-cyfraith a oedd yn bodoli yn y gymdeithas.  Defnyddiai’r cartwnydd Radicalaidd George Cruikshank ei gartwnau i feirniadu anhegwch ac elfennau gwael y sustem seneddol.[1]

Llenyddiaeth radicalaidd[golygu cod]

Roedd y gwasg print yn ffordd allweddol o rannu syniadau newydd, i roi sylw i ymgyrchoedd ac i annog eraill i ymgyrchu dros newid.

Dr Richard Price gen Benjamin West

Yn ei lyfr a gyhoeddwyd 1791-92 dywedai Thomas Paine bod grym y Llywodraeth yn dod o ddwylo’r bobl. Credai felly fod gan bawb yr hawl i fod a llais yn y ffordd roedd y wlad yn cael ei llywodraethu. Ond nid oedd pawb gyda’r hawl i bleidleisio i ddefnyddio’r grym hynny. Roedd Paine yn cael ei weld fel radical gan y Llywodraeth oherwydd ei fod yn herio pŵer yr aristocratiaid oedd yn rheoli. Ond roedd ei syniadau Paine yn bwysig i gychwyn y drafodaeth gyhoeddus am hawliau unigolyn yn y gymdeithas. Bu ymateb ffyrnig iddo gan y Llywodraeth a oedd yn gweld y fath syniadau yn rhai peryglus i gyfraith a threfn. Roedd Tom Paine hefyd yn ffrindiau gyda Benjamin Franklin, a oedd gyda Thomas Jefferson a John Adams wedi llunio yr enwog Datganiad Annibyniaeth. Cyhoeddwyd y Datganiad yma gan y tri ar Gorffennaf 4, 1776 ble roeddent yn rhestru eu cwynion yn erbyn Siôr III.


Cymro a oedd yn gefnogwr brwd i syniadau’r Chwyldro Ffrengig oedd Richard Price o Langeinwyr, Sir Forgannwg yn 1723. Roedd yn Weinidog Anghydffurfiol, yn athronyddydd ac yn  gyfrifydd yswiriant. Roedd ei bregeth, A Discourse on the Love of our Country, yn dangos ei frwdfrydedd am egwyddorion y chwyldro. Pan fu farw yn 1791 cynhaliwyd cyfnod o alaru swyddogol iddo ym Mharis, arwydd clir o’r parch iddo yn y wlad honno. Roedd John Jones, neu Jac Glan-y-gors, a oedd hefyd yn berchen ar dafarn, yn perthyn i’r un cyfnod â Richard Price. Yn ei bamffled enwog Seren tan gwmmwl, cyfieithiad o waith Thomas Paine, mae’n trafod syniadau Thomas Paine drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cyflwyno syniadau ei/Paine i gynulleidfa newydd. Yr oedd yn credu yn y r’un syniadau â Paine ynghylch rhyfel, y frenhiniaeth, yr Eglwys Sefydliedig a hawliau dynol.  Mae’n trafod ei farn am rhain i gyd yn Seren tan gwmmwl.  Roedd Jac Glan-y-gors yn aelod blaenllaw o gymdeithas Cymry Llundain ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a chydsefydlodd Cymdeithas y Cymreigyddion. [3][4]

Perthynai David Williams, y pamffledwr gwleidyddol, o Waunwaelod, ger Caerffili i’r un cyfnod.  Magodd David Williams enwogrwydd yn Ffrainc wedi i’w gyhoeddiad ‘Letters on Political Liberty’ gael ei gyfieithu i’r Ffrangeg.  Cafodd y gwaith ymateb rhagorol gan arweinwyr y Chwyldro a rhoddwyd dinasyddiaeth Ffrengig i Williams. [5]

Roedd radicaliaid fel Richard Price a David Williams wedi eu hysbrydoli gan egwyddorion democrataidd Rhyfel Annibyniaeth America, 1776 hefyd. Radical a berthynai i’r un cyfnod oedd Morgan John Rhys (1760 – 1804), a anwyd yn Llanbradach, Sir Forgannwg ac a oedd yn Weinidog y Bedyddwyr. Defnyddiodd ei gyfnodolyn Cymraeg, ‘Y Cylch-grawn Cynmraeg’ (1793-94) i drafod o blaid rhyddid yr unigolyn a chydwybod, rhyddid gwleidyddol ac i ddadlau yn erbyn y fasnach gaethweision.  Roedd ei gylchgrawn yn bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg fel y cyfnodolyn gwleidyddol cyntaf a gyhoeddwyd yn Gymraeg.[6][7][8]

Cymdeithasau Gohebu[golygu cod]

Cafodd llawer eu hysbrydoli gan syniadau a digwyddiadau’r Chwyldro Ffrengig a beth oedd yn cael ei ysgrifennu gan radicaliaid fel Thomas Paine a Richard Price. Dechreuodd y Radicaliaid ffurfio Cymdeithasau Gohebu mewn rhai o’r trefi mawr i drafod y syniadau yma.  Dechreuodd llawer o’r grwpiau hyn adeg y Chwyldro Ffrengig.  Ar ddiwedd 1791 sefydlwyd y Gymdeithas Ohebu gyntaf yn Sheffield ac erbyn 1792, roedd ganddi fwy na 2,000 o aelodau.  Yn Ionawr 1792 sefydlwyd Cymdeithas Ohebu Llundain gan grydd o’r enw Thomas Hardy.  Roedd aelodaeth yn agored i unrhyw un a fedrai dalu ceiniog ym mhob cyfarfod wythnosol.  Daeth rhaglen y Gymdeithas yn sail i beth fyddai’r Radicaliaid yn gofyn amdano.  Roedd pawb a oedd yn aelod yn cefnogi ail-drefnu’r bwrdeisdrefi a chael gwared ar y ‘bwrdeisdrefi pwdr’, senedd blynyddol a hawl i bleidleisio i bob dyn.

Erbyn 1794, roedd y Llywodraeth yn ofni y byddai chwyldro ym Mhrydain ac arweiniodd hyn at arestio rhai o arweinwyr cymdeithas Llundain, gan gynnwys Hardy, a chafodd pob un ei gyhuddo o frad. Er i’r dynion rhyddhawyd hwy am fod yr honiadau yn gwbl ddi-sail.  Yn 1795 pasiodd y Llwydoraeth Deddf Brad a’r Ddeddf Cyfarfodydd Bradwrus yn 1795, ac gwnaeth hyn hi’n fwyfwy anodd i Gymdeithasau Gohebu drefnu cyfarfodydd mawr.  Yn 1799 pasiwyd deddf a oedd yn gwahardd Cymdeithas Ohebu Llundain.[1]

Ymateb y bobl[golygu cod]

Roedd dechrau’r 19eg ganrif yn gyfnod a welodd y Rhyfelodd Napoleon rhwng 1803-1815, a’r datblygiadau cyson yn parhau ym myd amaethyddiaeth a diwydiannu gyda’r Chwyldro Amaethyddol a’r Chwyldro Diwydiannol. Achosodd

y rhyfel ddyled genedlaethol a arweiniodd at gynyddu trethi gan achosi fwy o galedi i’r tlodion gan fod prisiau nwyddau bob dydd fel bwyd yn mynd yn ddrutach. Roedd mecaneiddio mewn amaethyddiaeth a’r diwydiant tecstiliau wedi achosi llafurwyr i golli eu gwaith.  Rhyddhawyd 300,000 o ddynion o’r fyddin neu’r llynges ar ôl diwedd y Rhyfeloedd Napoleaneon ac achosodd hyn llawer o ddiweithdra.  Dioddefodd y diwydiannau a oedd wedi elwa o’r rhyfel hefyd, fel tecstiliau a oedd yn cynhyrchu iwnifforms, a’r diwydiant haearn a oedd wedi bod yn hollbwysig wrth gynhyrchu arfau. Gwaethygwyd y sefyllfa yn enbyd oherwydd hynny.

Cynyddodd caledi bywyd y dosbarth gweithiol gyda phasio y Deddfau Ŷd yn 1815. O dan y gyfraith hon, cafodd ŷd o dramor ei wahardd  er mwyn cadw prisiau ŷd Prydain yn uchel.  Er bod hyn yn gwarchod incwm tirfeddiannwyr, roedd prisiau bwyd, yn enwedig bara, yn cynyddu acyn cosbi’r dosbarth gweithiol fwyaf.

Gwelai bobl tu allan i’r Senedd bod hyn yn annheg ac anghyfiawn ac yn faich ychwanegol arall ar y tlodion tra fod y tirfeddiannwyr cyfoethog yn elwa. Trefnwyd deisebau a chafwyd terfsygoedd bwyd yn 1816 ac 1818. Roedd y cynnydd mewn prisiau bwyd a achoswyd gan y Deddfau Ŷd wedi ychwanegu at galedi bywydau y dosbarth gweithiol ledled y wlad, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Roedd amgylchiadau bywyd a gwaith wedi uno’r dosbarth gweithiol i sylweddoli bod bellach rhai dangos eu hanfodlonrwydd. Roedd rhaid hefyd diwygio’r Senedd i ddatrys eu problemau a’u cwynion.[1]

Arestio cynllwynwyr Cato Street.

Yn wyneb y problemau amrywiol a wynebai’r dosbarth gweithiol a’r ffaith nad oedd ganddynt bleidlais i ddangos eu bod yn anfodlon gyda’r sefyllfa daeth protest yn ddull o fynegi eu pryderon. Achosodd y Chwyldro Diwydiannol newidiadau mawr yn eu harferion gwaith. Rhwng 1811-1812 bu llafurwyr tecstiliau mewn ardaloedd gwledig yn Lloegr yn protestio drwy ymosod a thorri fframiau gwehyddu oherwydd dyfodiad mecaneiddio yn eu gwaith. Gyda chyflwyniad peiriannau i’r diwydiant brethyn, roedd y gwaith cribo, nyddu a gwehyddu a oedd wedi arfer cael ei wneud gan y teulu yn y cartref nawr yn cael ei wneud gan y peiriannau newydd yn y ffatroedd. Dyma oedd y protest Ludiaid. Yn nes ymlaen rhwng 1830-1832 bu Terfysgwyr Swing, sef gweithwyr amaethyddol yn targedu peiriannau dyrnu, llosgi teisi gwair ac yn anfon llythyrau bygythiol oherwydd bod y peiriannau newydd yn achosi iddynt golli eu gwaith a’u ffordd o fyw. Roedd eu gweithgareddau yn  ymestyn o Gaint i Gernyw, o Hampshire i swydd Lincoln, gyda rhai ymosodiadau ymhellach i’r gogledd.

Bu cyfres o derfysgoedd eraill ar ddechrau’r 19eg ganrif, er enghraifft, Terfysgoedd Spa Fields yn 1816, Gorymdaith y Blancedwyr yn 1817 a gychwynnodd yng Nghaeau San Pedr, Manceinion, Cyflafan Peterloo, 1819 a Chynllwyn Cato Street yn 1820 ac ym Mryste yn 1831.  Roedd y protestiadau hyn yn dangos bod y newidiadau i arferion gwaith a ffordd o fyw pobl, yr angen am well amodau byw, costau byw a bwyd uchel, dirwasgiad economaidd, a’r galw wedyn am ddiwygio’r Senedd, wedi achosi’r dosbarth gweithiol i ddangos eu hanfodlonrwydd.[1]

Ymateb y Llywodraeth[golygu cod]

Gyfarfod Caeau San Pedr ym Manceinion a adnabuwyd fel y 'Peterloo Massacre'

Roedd y Chwyldro Ffrengig wedi bod yn ddylanwad pwysig ar y ffordd roedd pobl ar draws Ewrop, yn meddwl y dylai fod brenhiniaethau a llywodraethau yn eu rheoli. Credai’r llywodraethau a brenhiniaethau hefyd y gallai chwyldro

tebyg i’r un yn Ffrainc ddigwydd yn eu gwledydd hwythau. Mewn ymateb i hynny, roedd y dosbarthiadau llywodraethol ym Mhrydain wedi cymryd camau i geisio rhwystro syniadau chwyldroadol rhag lledaenu fel a ddigwyddodd yn Ffrainc. Yn ystod degawd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd aflonyddwch ar gynnydd, a phan ddaeth y Rhyfeloedd Napoleanaidd i ben yn 1815 arweiniodd hynny at fwy o weithgarwch radicalaidd.

Roedd ymateb y Llywodraeth yn ffyrnig.  Yn 1819 pasiodd y llywodraeth gyfres o gyfreithiau ar frys, mewn ymateb i gyfarfod Caeau San Pedr ym Manceinion. Dyma oedd y Chwe Deddf neu ‘Deddfau Gagio’.  Bwriad y mesurau oedd rhoi diwedd ar gyfarfodydd a phapurau newydd Radicalaidd a lleihau’r posibilrwydd o wrthryfel. Y deddfau a basiwyd oedd:

  1. Rhoddwyd yr hawl i ynadon chwilio tai am arfau, heb warant.
  2. Rhoddwyd yr hawl i ynadon chwilio tai am lenyddiaeth fradwrus, er enghraifft, oedd yn beirniadu’r Llywodraeth neu’n perswadio bobl i gynllwynio yn erbyn y Llywodraeth
  3. Ni chaniatawyd drilio na hyfforddi milwrol. Y gosb oedd cael eich arestio a chael eich trawsgludo i wlad bell am saith mlynedd.
  4. Gwaharddwyd cyfarfodydd mawr torfol fel Peterloo.
  5. Gallai ynadon gynnal achos llys yn erbyn unigolion heb orfod aros am lysoedd gyda rheithgorau. Yn aml ni fyddai rheithgor yn barod i ddyfarnu rhywun yn euog ar dystiolaeth sbïwr.
  6. Cynyddwyd y dreth stamp ar bapurau newydd.  Roedd nifer o’r rhain yn bapurau radicalaidd. Y bwriad oedd i wneud y papurau hyn yn rhy ddrud i’w prynu, ac felly nid oedd y synidaau radicalaaidd yn lledu cymaint.

Er nad oeddent mor llym a rhai deddfau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill roeddent yn ffordd I gyfyngu ar weithgareddau y radicaliaid.

Prawf arall o bryder y Llywodraeth ynghylch y protestiadau peryglus hyn oedd atal y Ddeddf Habeas Corpus yn 1817.  Golygai hyn bod y Llywodraeth yn medru arestio neu cadw unrhyw un yn y carchar a dod a nhw gerbron y llys ar amheuaeth o drosedd yn unig.  Nid oedd angen cyflwyno tystiolaeth na dod a chyhuddiad yn erbyn unigolyn i ddod â nhw gerbron y llys.[1][2]

Ffurfio undebau gwleidyddol[golygu cod]

Yn ystod y 1820au gwellodd economi Prydain wrth i bobl ddod o hyd I waith a byw o dan amgylchiadau ychydig yn well. O ganlyniad gwnaeth ddylanwad radicaliaeth gwanhau. Cafodd rhai o fesurau y Chwe Deddf eu codi’n raddol a’u diddymu a dechreuodd y Llywodraeth roi sylw i faterion pwysicach eraill.

Tudalen cyntaf y Deddf Diwygio, 1832

Ond erbyn dechrau’r 1830au roedd y wlad unwaith eto yng nghanol protestiadau eang.  Bu twf yn nifer y diwydiannwyr yn yr ardaloedd gweithgynhyrchu, nad oeddent yn cael eu cynrychioli yn y Senedd ac arweiniodd hyn at fwy o bwysau dros ddiwygio’r Senedd.

Dechreuodd mwy o undebau gwleidyddol gael eu ffurfio. Yn 1828 sefydlwyd Undeb Gwleidyddol Birmingham gan Thomas Attwood gyda’r bwriad o drefnu cyfarfodydd cyhoeddus a deisebu’r Senedd.  Roedd 25,000 o bobl wedi ymuno gyda’r undeb yma erbyn 1832 ac arweiniodd hyn at sefydlu rhagor o undebau mewn trefi a dinasoedd ar hyd a lled y wlad.  Roedd y dosbarth canol diwydiannol newydd yn gefnogol iawn i’r undebau yma.

Ymestyn y bleidlais - Deddf Diwygio 1832[golygu cod]

Plygodd y Llywodraeth i’r pwysedd oddi wrth protestiadau poblogaidd ac ar Fehefin 7, 1832 pasiwyd Deddf Diwygio 1832 oedd yn rhoi’r bleidlais i ddynion dosbarth canol.  Rhoddwyd y bleidlais i bob dyn yn y trefi oedd yn berchen ar eiddo gwerth £10 neu fwy y flwyddyn.  Golygai hyn mwy neu lai bod dynion dosbarth canol yn y trefi yn cael y bleidlais. Cyn y Ddeddf roedd tua 1 o bob 10 dyn yng Nghymru a Lloegr yn gallu pleidleisio ond ar ôl y Ddeddf roedd gan tua 1 o bob 5 y bleidlais. Cafodd llawer o fwrdeisdrefi pwdr eu diddymu a chafodd seddi eu ailddosbarthu gyda’r ardaloedd diwydiannol yn cael eu cynrychioli bellach.

Ond doedd dynion dosbarth gweithiol dal heb y bleidlais ac roedd rhai dynion dosbarth canol heb y bleidlais ychwaith oherwydd doedden nhw ddim yn berchen eiddo gwerth £10. Yn eu siom trodd llawer felly at fudiad y Siartwyr.[1]

Ymestyn y Bleidlais ar ôl 1832[golygu cod]

Gyda’r mwyafrif o’r dosbarth canol wedi ennill y bleidlais yn 1832 parhaodd yr ymgyrchu i ennill y bleidlais i’r dosbarth gweithiol. Enillodd dynion dosbarth gweithiol yn y trefi y bleidlais gyda phasio Deddf Diwygio 1867 ac yna yn 1884 enillodd dynion dosbarth gweithiol yn yr ardaloedd gwledig y bleidlais. Roedd menwyod, serch hynny, dal heb y bleidlais. Yn 1872 pasiwyd y Bleidlais Gudd a olygai nad oedd rhaid bellach ddangos yn gyhoeddus pwy oeddech chi’n pleidleisio drosto.

Menywod yn cael y bleidlais[golygu cod]

Swffragetiaid[dolen marw] mewn rali ym Mharc Cathays, Caerdydd yn 1913.

Ers y 1860au roedd y Swffragistiaid (oedd yn credu mewn dulliau heddychlon) wedi bod yn ymgyrchu dros roi’r bleidlais i fenywod ar sail y ffaith y dylai menywod oedd yn perchen fod yn cael y r’un hawliau pleidleisio â dynion oedd yn berchen eiddo. Ni chredent bod hawl awtomatig gan bob menyw i gael y bleidlais. Un o fudiadau y Swffragistiaid oedd NUWSS a sefydlwyd yn 1897.  Arweiniwyd y mudiad gan Millicent Garrett Fawcett a byddent yn aml yn anfon petisiynau neu’n areithio er mwyn dwyn perswad ar y Llywodraeth i roi’r bleidlais i ferched.

Erbyn 1900 roedd y Swffragetiaid neu’r WSPU (Women’s Social and Political Union) wedi camu ymlaen i’r llwyfan a oedd yn llawer mwy milwrol a heriol yn ei ffordd o brotestio. Arweiniwyd y mudiad gan Emmeline Pankhurst a’i mherched, Christabel a Sylvia ac ymhlith eu tactegau er mwyn tynnu sylw i’w hachos oedd mynd ar ympryd fwyd, ymosod ar adeiladau, gosod tan i flychau post chwalu ffenestri 10 Stryd Downing, heclo gwleidyddion mewn cyfarfodydd. Ym Mehefin 1913 lluchiodd Emily Davison ei hun o flaen ceffyl y Brenin yn y Derby yn Epsom gan ddod yn ferthyr i achos y Swffragetiaid.

Er efallai bod eu dulliau treisgar a’r fandaliaeth roedden nhw wedi achosi wedi dwyn llawer o feirniadaeth i’r Swffragetiaid ac achos merched i ennill y bleidlais gwnaethant roi fyny eu protestio adeg y rhyfel er mwyn cyfrannu i’r ymdrech ar y Ffrynt Cartref.

Oherwydd eu cyfraniad i’r Rhyfel Byd Cyntaf ac ar y Ffrynt Gartref ym Mhrydain penderfynodd y Llywodraeth basio Deddf Cynrychiolaeth y bobl yn 1918.  Roedd hon yn ddeddf a oedd yn rhoi’r bleidlais i bob menyw dros 30 oed ar yr amod  ar yr amod eu bod yn etholwyr mewn llywodraeth leol, neu yn wragedd i etholwyr mewn llywodraeth leol. Rhoddwyd y bleidlais i bob dyn dros 21 oed gyda’r ddeddf hon hefyd.

Yn 1928 pasiwyd deddf arall a oedd yn gostwng yr oedran pleidleisio i ferched dros 21 oed o dan yr un amodau a roddwyd i ddynion.  Am y tro cyntaf roedd gan merched yr un hawliau â dynion. Bu’r ddeddf hon yn garreg filltir bwysig yn hanes menwyod a etholwyd fel Aelodau Seneddol i Gymru.  Yn Etholiad Cyffredinol 1929 etholwyd Megan Lloyd George fel yr ymgeisydd benywaidd gyntaf i ennill sedd yng Nghymru pan enillodd sedd Ynys Môn dros y Rhyddfrydwyr. Daliodd y sedd yno tan 1951 ac yna bu’n Aelod Seneddol dros y Blaid Lafur yn Sir Gaerfyrddin o 1957 i 1966.

Gwnaeth Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1969 ostwng yr oedran pleidleisio i bob dyn a menyw ym Mhrydain o 21 oed i 18 mlwydd oed.[9][10]

Radicaliaeth yng Nghymru[golygu cod]

Yn ardaloedd diwydiannol Cymru roedd cefnogaeth i ddiwygio radical ac undebaeth yn gryf. Arweiniodd hyn at nifer o brotestiadau ac aflonyddwch sifil, gan gynnwys ffurfio'r Teirw Scotch yn y 1820au i orfodi streicio. Yn 1831 protestiodd pobl Merthyr yn erbyn cyflog gwael ac amodau gwaith isel. Yn 1839 roedd protestiadau mawr yng Nghasnewydd a Llanidloes fel rhan o'r ymgyrch Siartaeth. Roedd Siartaeth yn un o’r mudiadau dosbarth gweithiol torfol gyntaf mewn hanes. Y prif reswm dros ffurfio mudiad y Siartwyr oedd oherwydd siom a dicter rhai o’r dosbarth canol gyda Deddf Diwygio 1832 ac anhapusrwydd y dosbarth gweithiol nad oedden nhw wedi cael y bleidlais o gwbl.

Hawliau sifil a chrefyddol[golygu cod]

Rhyddfreinio'r Pabyddion[golygu cod]

Cafodd y Methodistiaid eu gwahardd rhag pregethu mewn eglwysi felly roedden nhw'n pregethu ar y strydoedd ac yn y mynwentydd

Yn ystod y 19eg ganrif, roedd grwpiau o bobl ym Mhrydain wedi gorfod brwydro am gydnabyddiaeth i’w rhyddid crefyddol ac un ohonynt oedd y Pabyddion. Yn ystod teyrnasiad Sior IV (1820-1830) ddiddymwyd rhai o’r cyfreithiau yn erbyn y Pabyddion a oedd yn eu rhwystro rhag cael eu penodi i swyddi oherwydd eu crefydd. Un o’r deddfau hynny a ddiddymwyd oedd y Deddfau Prawf a Chorfforaeth yn 1828.

Pasiwyd y Deddfau Prawf a Chorfforaeth yn yr ail ganrif ar bymtheg. Yn ôl y deddfau hyn, dim ond Anglicaniaid oedd yn cael yr hawl i ddal swyddi cyhoeddus ar lefel cenedlaethol neu lleol. Nid oedd AnghydffurfwyrMethodistiaid, Bedyddwyr, Annibynwyr, Undodwyr – na Phabyddion yn cael bod yn Aelodau Seneddol, nac yn faerau tref. Byddai rhai iddynt dyngu llw o ffyddlondeb I’r Brenin / Brenhines ac yn nes ymlaen roedd rhaid hefyd tyngu llw er mwyn cael yr hawl i fod yn gyfreithwyr ac yn athrawon.

Unwyd Iwerddon i Brydain yn 1800. Fel rhan o’r Ddeddf Uno honno, roedd hawl gan Babyddion i bleidleisio ond roeddent yn parhau i gael eu gwahardd rhag dal swyddi cyhoeddus. O ganlyniad roedd Iwerddon ond yn cael ei chynrychioli yn Senedd y wlad gan Brotestaniaid. Achosodd hyn llawer o densiwn rhwng y Protestaniaid a’r Pabyddion. Felly dechreuodd Pabyddion Iwerddon ymgyrch i ennill rhyddfreiniad.

Ffigwr pwysig yn yr ymgyrch yma oedd Daniel O’Connell ac ym 1823, sefydlwyd y Gymdeithas Babyddol ganddo i ymgyrchu dros ryddfreiniad Pabyddion. Ym 1828, wedi i O’Connell ennill mewn is-etholiad yn County Clare, Iwerddon, sylweddolodd Robert Peel, Ysgrifennydd Cartref y Llywodraeth, ei fod nawr yn wynebu penbleth. Sylweddolai y gallai nifer fawr o Babyddion gael eu hethol yn y dyfodol i’r Senedd ac ni fyddent yn medru mynd i San Steffan, fel na fyddai O’Connell, oherwydd eu crefydd. Gwyddai y byddai’n rhaid iddo nawr rhyddfreinio’r Pabyddion er mwyn osgoi rhyfel cartref yn Iwerddon a allai lledu draw i Brydain. Penderfynodd Peel felly basio Deddf Rhyddfreinio Pabyddion 1829. Rhoddodd y ddeddf hawliau sifil a gwleidyddol llawn i Babyddion oedd yn golygu eu bod yn medru bod yn Aelodau Seneddol a chael swydd cyhoeddus. Er hynny roeddent dal wedi cael eu gwahardd rhag bod yn Frenin, Tywysog Rhaglyw, Arglwydd Ganghellor ac Arglwydd Liwtenant Iwerddon.[2]

Roedd diffyg rhyddid crefyddol yn un o’r rhesymau pam oedd pobl wedi ymfudo o Gymru yn ystod y 16eg a’r 17eg ganrif. Penderfynodd llawer o bobl i adael Cymru yn ystod y canrifoedd hynny oherwydd erledigaeth grefyddol. Yn 1663 roedd grŵp bach o Fedyddwyr, dan arweiniad eu gweinidog John Miles, yn awyddus i ffoi rhag erledigaeth grefyddol. Gwnaethant adael am America lle y gwnaethant sefydlu tref Swansea, Massachusetts.  

Yn 1682, dilynodd grŵp llawer mwy o Grynwyr Cymreig William Penn i America, a hynny am yr un rheswm. Roedd Penn am alw’r ardaloedd ble wnaethant ymsefydlu yn “New Wales” ond nid oedd yr awdurdodau yn Llundain yn hoffi’r enw felly cafodd ei newid i Pennsylvania. Ymgartrefodd y Crynwyr Cymreig, dan arweiniad John Roberts, mewn ardal a ddaeth yn adnabyddus fel y “Welsh Tract”. Roedd yr ardal hon yn ganolog i aneddiadau Cymreig yn America am flynyddoedd lawer. Erbyn 1700, roedd y Cymry yn cyfrif am tua thraean o boblogaeth y drefedigaeth, sef 20,000. Gadawodd cynifer o Grynwyr Cymreig am America hefyd.[11]

Ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth[golygu cod]

William Wilberforce

Roedd ymgyrchoedd a chyfraniadau unigolion a chymdeithasau yn hollbwysig yn y frwydr dros ennill hawliau sifil a gwleidyddol. Fel O’Connell yn ymgyrch y Pabyddion roedd William Wilberforce (1759 – 1833) yn unigolyn pwysig yn yr ymgyrch i gael gwared ar y fasnach gaethweision. Roedd yn Aelod Seneddol ar gyfer Hull, porthladd a oedd yn rhan o’r fasnach gaethweision ac adnabyddwyd ef fel un o ymgyrchwyr pennaf y frwydr i gael gwared ar gaethwasiaeth. Bu’n ymgyrchwr brwd yn y Senedd ac yn 1807 gwaharddwyd y fasnach gaethweision yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Ffurfiwyd y Gymdeithas Gwrth – Gaethwasiaeth ganddo yn 1823 ac yn 1833 pasiwyd y Ddeddf Rhyddfreinio a oedd yn gwahardd y fasnach gaethweision yn nhrefedigaethau Prydain. Er hynny ni chafodd y fasnach gaethweision ei diddymu yn America hyd 1863.[12]

Mae stori brwydr bobl croenddu America i dorri’n rhydd o hualau caethwasiaeth ac ennill cydraddoldeb gyda’r dyn gwyn yn crisialu/adlewyrchu pwysigrwydd mor bwysig oedd y frwydr i ennill hawliau sifil a gwleidyddol i ryddid unigolyn. Yng nghymdeithas America roedd y caethweision ar waelod y gymdeithas.

Roedd y fasnach o gipio a chludo caethweision draw o Affrica i weithio yn nhrefedigaethau newydd America wedi cychwyn ers y 16eg ganrif. Roedd y Sbaenwyr, y Portiwgeaid a Prydain yn rhan o’r fasnach gaethweision yma. Byddai cannoedd o filoedd o gaethweision, wedi iddynt cael eu cipio yn Affrica, yn cael eu cludo mewn llongau, a elwid yn ‘hylcs’ allan o borthladdoedd fel Bryste a Lerpwl a draw i Ogledd America neu’r Caribȋ i weithio ar y planhigfeydd cotwm, tobacco a siwgr.

Roedd nifer y caethweision wedi cynyddu’n gyson yn y wlad rhwng y cyfrifiad cyntaf a gafwyd yn 1790 pan oedd 698,000 o gaethweision hyd at bron i 4 miliwn yn 1860.  Yn dilyn Deddf 1808, a oedd yn gwahardd y fasnach gaethion Affricanaidd, disgwylid y byddai caethwasiaeth yn dod i ben mewn ychydig ddegawdau. Ond wrth i’r ardal gotwm ehangu ac wrth i’r angen am lafur rhad gynyddu, bu mwy o alw am gaethweision na’r hyn oedd ar gael.  Nid oedd unrhyw fath o hawliau gan y caethweision ac roeddent yn berchen i’w meistr a fyddai’n talu pris amdanynt.  Roedd y prisiau am gaethweision ar gyfer y caeau yn amrywio rhwng $300 a $400 yn y 1790au, gan godi i $1,500 - $2,000 yn y 1850au. Roedd caethweision oedd yn meddu ar sgiliau arbennig yn costio hyd yn oed yn fwy.

Brandio caethweision cyn gadael Affrica

Roedd gan bob tref, pa beth bynnag ei maint, arwerthwyr a delwyr cyhoeddus oedd yn barod i brynu a gwerthu caethweision. Yr agwedd waethaf ar y fasnach gaethion oedd ei bod yn aml yn arwain at wahanu teuluoedd. Dim ond Louisiana ac Alabama (o 1852) a waharddodd wahanu plentyn o dan ddeg oed oddi wrth ei fam, ac ni wnaeth yr un dalaith wahardd gwahanu gŵr oddi wrth ei wraig.

Roedd y mwyafrif  o gaethweision y de yn gweithio ar blanhigfeydd cotwm, tybaco neu siwgr. Y swyddi o ddewis oedd swyddi gweision tai a gweithwyr medrus megis gofaint a seiri, cychwyr neu gogyddion. Fel arfer, rhoddwyd llety i’r rhai oedd yn gweithio yn y caeau mewn cabanau pren heb ddim ond stafell neu ddwy a lloriau pridd. Yn aml ni fyddai ffenestri ynddynt.

Byddai gweision yn y caeau yn gweithio oriau hir o fore gwyn tan nos. Nid oedd y gyfraith yn amddiffyn fawr ddim ar y caethweision. Roedd y taleithiau yn mabwysiadu y codau caethweision ond roedd rhain fel arfer yn diogelu hawliau’r perchnogion yn hytrach na gofalu am hawliau’r caethweision. Roedd y codau, er enghraifft, yn caniatau perchnogion y plahigfeydd a’r ffermwyr bychain i ddefnyddio’r chwip ar y caethweision.

Erbyn dechrau’r 19eg ganrif sefydlwyd cymdeithasau gwrthgaethwasiaeth yn America. Sefydlwyd yr un cyntaf yn 1817 sef y Gymdeithas Gwladychiad Americanaidd a bwriad y gymdeithas oedd dychwelyd caethweision oedd wedi eu rhyddhau nôl i Affrica.  Ym 1821, prynodd asiantau oedd yn cynrychioli’r gymdeithas, dir yng Ngorllewin Affrica er mwyn creu gwlad newydd.

Yn 1832 sefydlodd William Lloyd Garrison a’i ddilynwyr Gymdeithas Gaethwasiaeth Lloegr Newydd ac yn 1833 sefydlodd dau fasnachwr cyfoethog o Efrog Newydd, sef Arthur a Lewis Tappan grŵp tebyg a elwid yn Gymdeithas Gwrthgaethwasiaeth America. Roedd y gymdeithas yn gobeithio manteisio ar y cyhoeddusrwydd a roddwyd i waith William Wilberforce ym Mhrydain a arweiniodd at y llywodraeth yn diddymu caethwasiaeth drwy’r Ymerodraeth Brydeinig ym 1833.  Erbyn canol y 1840au, roedd gan y mudiad tua 1,300 o gymdeithasau lleol a chyfanswm aelodaeth o 250,000.

Daeth cefnogaeth i ddiddymiad oddi wrth bobl oedd yn cael eu denu at fudiadau diwygio eraill. Tueddai Diddymwyr ddod o deuluoedd crefyddol. Erbyn y 1840au roedd diddymu caethwasiaeth wedi troi yn destun gwleidyddol yn ogystal â bod yn ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb. Ffurfiodd rhai o’r ddiddymwyr yn y cyfnod yma plaid eu hunain, sef y Blaid Rhyddid.[13]

Yr Ugeinfed ganrif[golygu cod]

Gwelodd yr 20fed ganrif gefnogaeth enfawr am newidiadau i hawliau sifil, am roi'r bleidlais i bawb a chefnogaeth am ddatganoli neu ymatal rhag pwerau tramor. Yn America arweiniodd brwydr dros 50 mlynedd at hawliau cyfartal i Americanwyr Du, cafodd menywod y bleidlais mewn gwledydd ledled y byd ac arweiniodd brwydrau yn India a De Affrica at gwymp Rheol Prydain. Yn gynnar yn y ganrif yng Nghymru roedd ymgyrch ar gyfer rheolaeth gartref a ddilynwyd gan ymgyrchoedd am yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ac, yn y pen draw, i sefydlu Llywodraeth Cymru yn y 1990au.

Cymru[golygu cod]

Protestio[dolen marw] yn erbyn boddi Cael Cleyn yn Lerpwl,1956.

Un digwyddiad arwyddocaol yn hanes Plaid Cymru oedd penderfyniad Corfforaeth Lerpwl i foddi Capel Celyn ddiwedd y 1950au. Pasiwyd y ddeddf i foddi Cwm Tryweryn er gwaetha’r ffaith na wnaeth yr un o Aelodau Seneddol o

Gymru bleidleisio drosti. Roedd Llywydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, yn amlwg iawn yn y protestiadau yn erbyn y boddi.  Er na wnaeth Tryweryn ddylanwadu’n syth ar y gefnogaeth i’r blaid mewn etholiadau seneddol, tyfodd y galw am ddatganoli i Gymru a’r gefnogaeth i Blaid Cymru yn y tymor hir. Roedd Gwynfor Evans yn un o’r rhai wnaeth arwain protest gan drigolion Capel Celyn drwy strydoedd Lerpwl.  Roedd Plaid Cymru yn ymgyrchu dros fwy o hawliau i Gymru a’r Gymraeg ym myd darlledu yn ystod y 1950au a’r 1960au. [14]

Roedd yr ysbryd chwyldroadol yma wedi treiddio’n ddwfn i feddylfryd y 1960au. Roedd pobl ifanc, yn enwedig, yn credu’n gryf bod rhaid cael chwyldro er mwyn creu newid yn y gymdeithas.  Dyma’r genhedlaeth a fu’n brwydro dros hawliau i’r iaith Gymraeg.

Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo.[15]

Y brotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan.

Roedd neges glir gan Saunders Lewis yn un o'r darllediadau pwysicaf yn hanes Cymru, sef Darlith Radio flynyddol y BBC, sef 13 Chwefror 1962.

Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd yn bosibl i wneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon a wynebu carchar am eu daliadau. Roedd rhybudd yn ei neges y byddai’r iaith yn marw os na fyddai ei siaradwyr yn cymryd camau i’w hachub. Roedd canlyniadau Cyfrifiad 1961 wedi rhoi rhybudd clir hefyd bod dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw yn y fantol.

Arweiniodd darlith Saunders Lewis at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac at gyfnod o brotestio dros hawliau'r Gymraeg. Sefydlwyd y Gymdeithas ar 4 Awst 1962 yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais. Yn Chwefror 1963 gwelwyd y protestiadau torfol cyntaf pan stopiwyd y traffig ar Bont Trefechan Aberystwyth gan fyfyrwyr o Aberystwyth a Bangor. Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau didrais tebyg a charcharwyd neu ddirwywyd ymgyrchwyr. Ymhlith y rhain oedd y canwr poblogaidd Dafydd Iwan. Defnyddiai Dafydd Iwan y ‘gan brotest’ i fynegi barn rhai o’i genhedlaeth oedd, er enghraifft, yn gwrthwynebu arwisgiad Siarl fel Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969.

Bu cefnogwyr y Gymdeithas yn ymgyrchu am gyfnod drwy beintio neu ddifrodi arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru ac arweiniodd yr ymgyrch hon at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru. Pasiwyd Deddf Iaith 1967 ac yn ystod y degawdau nesaf enillwyd hawliau i’r Gymraeg ym myd darlledu gyda sefydlu Radio Cymru yn 1977 a S4C yn 1982.[16]

Roedd Bob Dylan yn adnabyddus am ei ganeuon protest yn y 60au.

Roedd Cymru’r 60au a’r 70au yn wlad a welodd gyffro gwleidyddol yn ogystal â cherddorol. Daeth canu gwerin a phop ysgafn yn boblogaidd iawn, a sefydlwyd y label recordio Cymraeg cyntaf, Sain, ym 1969. Ond daeth y gân brotest

yn bwysig yng ngherddoriaeth bop Cymraeg yn y cyfnod yma fel cyfrwng i fynegi barn am bynciau cyfoes. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd artistiaid ifainc yn mynd a’u gitârs i’r dafarn a chanu caneuon dychanol a gwleidyddol am bynciau cyfoes a oedd yn bwysig i’r genhedlaeth ifanc, er enghraifft, protestio yn erbyn y rhyfel yn Fietnam, pwysigrwydd iaith a diwylliant.[17]

Draw yn America roedd artistiaid poblogaidd fel Bob Dylan yn defnyddio ei ganeuon i brotestio. Roedd caneuon fel The times they are a changin a Blowin' in the wind yn protestio yn erbyn rhyfel.

Chwyldro' Chwechdegau[golygu cod]

Roedd y 1960au yn ddegawd chwyldroadol yn newid agweddau pobl ifanc tuag at y drefn wleidyddol a chymdeithasol draddodiadol.

Roedd agweddau pobl ifanc tuag at awdurdod ac at fywyd yn gyffredinol yn newid yn ystod y 1960au. Roeddent yn fwy parod i herio’r drefn a syniadau traddodiadol eu rhieni, y gwleidyddion a’r Llywodraeth.  Roedden nhw yn fwy parod i brotestio, er enghraifft, roedd bobl ifanc yr Unol Daleithiau yn protestio yn erbyn y rhyfel yn Fietnam, dros hawliau menywod a hawliau pobl hoyw, a dros hawliau pobl ddu. Doedd ganddynt ddim ffydd yn y gwleidyddion ac roedd miloedd wedi rhwygo eu cardiau drafft pan alwyd arnynt gan y Llywodraeth i fynd i ymladd yn Fietnam. Hwn oedd cyfnod y streics a’r protestio gan fyfyrwyr colegau er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i Ryfel Fietnam a rheolau llym y colegau.

Gwelwyd twf y mudiad Ffeministaidd yn Unol Daleithiau America a Phrydain yn ystod y 1960au a’r 1970au. Ymhlith yr hawliau roedd y mudiad yn ymgyrchu amdano oedd gwell hawliau i ferched yn y gweithle, cyfleon cyfartal i ferched yn y byd addysg, cyfleon cyfartal i ferched oddi fewn swyddi llywodraethol, hawl i dderbyn gofal plant i rieni oedd yn gweithio, a chyflogau tebyg i ferched am wneud yr un math o waith a dynion.

Streic Merched dros Heddwch yn America, 1962

Er gwnaeth bethau wella i fenywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd roeddent yn dueddol o hyd yn ystod y 1950au i weithio tan i’w plentyn cyntaf gael ei eni, ac o bosib hyd nes bod y plant wedi tyfu fyny. Yn y cyfnod hwn troedd nifer o ymgyrchwyr dros hawliau menywod eu sylw tuag at geisio sicrhau hawliau teg a chyfartal i fenywod gyda dynion yn y byd gwaith. Rhoddwyd pwyslais ar y syniad bod hawl gan ferched i weithio tu allan i’r cartref. Felly er bod safle menywod o fewn cymdeithas wedi bod yn newid yn raddol ers dechrau’r 20fed ganrif, a’r broses yma wedi cyflymu oherwydd yr Ail Ryfel Byd, roedd gwahaniaeth sylfaenol rhwng rôl y gŵr a’r wraig yn parhau. Y wraig oedd yn dal i fagu plant a gofalu am y cartref, tra mai’r gŵr oedd y prif enillwr. Dim ond wedi protestiadau mudiad rhyddid merched a’r chwyldro rhywiol yn ystod y 1960au y cafwyd newidiadau pellach a mwy parhaol yn statws menywod. [18]

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd gwelwyd fwy o grwpiau protest, mudiadau a hyd yn oed pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain yn ymgyrchu am well hawliau neu ceisio ennill mwy o gydnabyddiaeth i hawliau mewn gwahanol feysydd, er enghriafft hawliau ieithyddol, di-arfogi niwclear.  Roedd hefyd awydd ymhlith bobl ifanc i fynegi barn ar faterion gwleidyddol eu natur, sef pynciau a fyddai’n effeithio ar ddyfodol cenedlaethau’r dyfodol.

Er na chafodd lawer o lwyddiant etholiadol, tyfodd aelodaeth Plaid Cymru yn ystod y cyfnod. Llwyddodd i ddenu sylw drwy gefnogi ymgyrchoedd fel yr un i geisio atal y fyddin rhag meddiannu tiroedd yng Nghymru, ac ymdrechion i ddatganoli grym i Gymru. Roedd hefyd yn flaenllaw mewn ymgyrchoedd i roi mwy o statws cyhoeddus i’r iaith Gymraeg ac amddiffyn cymunedau Cymraeg.

Rali gyntaf y mudiad CND yng Nghymru yn Aberystwyth yn 1961

Roedd defnydd yr Unol Daleithiau o’r bom atomig ar Hiroshima a Nagasaki ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd wedi cynhyrfu bobl i feddwl o difrif am ddiogelwch y byd. Yn Awst 1945 gollyngwyd y bomiau atomig ar Siapan er mwyn ceisio dod â'r rhyfel yn y Dwyrain Pell i ben. Lladdwyd 120,000 o bobl pan ollyngwyd bom plwtonium ar Nagasaki, a lladdwyd 90,000 pan ollyngwyd bom wraniwm ar Hiroshima. Roedd y byd wedi cael ei gyflwyno i arf a oedd yn frawychus o beryglus.[19]

Ofnai llawer o bobl yn y Deyrnas Unedig y posibilrwydd o ryfel niwclear lle nad oedd yn debygol y byddai llawer yn goroesi. Roedd llawer o bobl yn sylweddoli y byddai’r Deyrnas Unedig, a oedd mewn cynghrair gyda Unol Daleithiau America, yn darged ar gyfer ymosodiad niwclear gan yr Undeb Sofietaidd.[20]

Ar ôl y Rhyfel datblygodd yr Undeb Sofietaidd fom niwclear ac yr oedd pryder ar hyd a lled y byd ynglŷn â dyfodol y ddynoliaeth oherwydd y bygythiad o ryfel niwclear. Yn y 1950au, er nad oedd bomiwr Sofietaidd yn gallu cyrraedd yr Unol Daleithiau, gallai gyrraedd y Deyrnas Unedig. Wedi’r Ail Ryfel Byd daeth Prydain hefyd yn bwer niwclear gyda gorsaf niwclear yn cael ei hadeiladu yn Calder Hall, Cumbria a daeth Aldermaston yn Berkshire, hen ganolfan yr RAF, yn labordy ymchwil niwclear. Roedd y sefyllfa yn bryderus. Sefydlwyd felly mudiad CND (Campaign for Nuclear Disarmament) ym Mhrydain yn 1958 ac yna ffurfiwyd nifer o ganghennau yng Nghymru, gyda'r cyntaf yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd rali gyntaf y mudiad yng Nghymru yn Aberystwyth yn 1961 ar ôl ffurfio Cyngor Cenedlaethol Cymreig CND.

Lluniwyd polisi cyntaf CND gan J. B. Priestley ac eraill megis Bertrand Russell, Michael Foot, y Canon John Collins, Sheila Jones ac Arthur Goss. Daethant ynghyd ar ôl cael y syniad y dylid creu mudiad cenedlaethol i ymgyrchu yn erbyn arfau niwclear. Trefnwyd nifer o orymdeithiau rhwng 1958 a 1963 i Aldermaston, Berkshire, safle sefydliad ymchwil i arfau atomig.[20] [19]

Mudiad Hawliau Sifil Bobl Ddu[golygu cod]

Unol Daleithiau America[golygu cod]

Ystafell aros i bobl ddu yn unig yn arosfa bysiau, Durahm, Gogledd Carolina, 1940.

Ysbrydolwyd grwpiau a mudiadau yn yr Unol Daleithiau i ymgyrchu dros sicrhau hawliau sifil a gwleidyddol i bobl ddu. Dyma oedd datblygiad y Mudiad Hawliau Sifil.

Er fod Cyfansoddiad Unol Daleithiau America wedi datgan, ar ôl Rhyfel Cartref America 1861-65, bod bobl dduon yn rhydd rhag caethwasiaeth, yn cael pleidleisio ac yn gyfartal yng ngolwg y gyfraith roedd hyn wedi cael ei anwybyddu gan y taleithiau yng ngogledd a de America. Roedd pobl ddu yn parhau i fyw mewn tlodi ac yn dioddef anghyfiawnder a hiliaeth, yn enwedig yn y De. Roedd sefyllfa yma’n bodoli yn bennaf oherwydd y sustem Arwahanu yn America a oedd yn cadw bobl ddu a bobl gwyn ar wahân ac yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ddu.

Roedd y cyfreithiau arwahanu yma yn cael eu hadnabod yn y de fel Deddfau Jim Crow.  Pan gyflwynwyd hwy yn y De ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad oddi wrth y taleithiau yn y Gogledd er eu bod yn amlwg yn trin bobl ddu fel dinasyddion eilradd. Dyma’r deddfau a oedd yn arwahanu pobl ddu oddi wrth bobl gwyn ymhob agwedd o fywyd, er enghraifft, roedd rhaid i bobl ddu ddefnyddio bysiau, trenau, theatrau, ysgolion, ysbytai ac eglwysi ar wahân neu adrannau arwahan ar sustemau trafnidiaeth, cyfleusterau adloniant a hamdden, iechyd ac addoli. Nid oedd hawl ganddynt ychwaith i bleidleisio.  Dioddefent anghyfiawnder yn llysoedd y gyfraith gan mai bobl gwyn oedd y cyfreithwyr, y rheithgor a’r barnwyr.  Roedd hyd yn oed y Groes Goch yn cadw banciau gwaed ar wahan i bobl ddu ac adeg yr Ail Ryfel Byd roedd milwyr du yn gwasanaethu mewn unedau ar wahân i filwyr gwyn, sef ‘Byddin Jim Crow’. Erlidiwyd bobl ddu gan y Ku Klux Klan ac roeddent yn gyfrifol am lynsio nifer uchel o bobl ddu yn ystod y 1920au.

Ar ddechrau’r 20fed ganrif sefydlwyd yr NAACP (National Association for the Advancement of Coloured People) er mwyn hyrwyddo buddiannau hawliau bobl ddu ac hyd nes ar ôl yr Ail Ryfel Byd fu ymgyrchwyr dros hawliau bobl ddu yn protestio’n gyson yn y llysoedd cyfreithiol i gael gwared ar arwahanu.

Yn ystod y 1950au a’r 1960au datblygodd y mudiad hawliau sifil yn un pwerus oedd yn herio ac yn gwrthwynebu’n chwyrn yn erbyn yr anghyfiawnderau roedd bobl ddu yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd. Gyda chefnogaeth yr NAACP, cafodd Bwrdd Addysg Topeka yn 1954 ei erlyn gan dad merch, 7 mlwydd oed, o’r enw Linda Brown a oedd yn gorfod cerdded 20 bloc i’r ysgol er bod ysgol ar gyfer plant gwyn ond tua 2 floc i ffwrdd. Roedd hi’n gorfod mynd i Ysgol Jim Crow. Dyfarnodd y Barnwr, Ustus Warren bod arwahanu mewn ysgolion yn anghyfreithlon ac roedd hwn yn hwb aruthrol i’r frwydr dros hawliau sifil.

Yn 1955 heriodd ddynes o’r enw Rosa Parks y system arwahanu a oedd yn bodoli ar y bysus ym Montgomery, Alabama. Roedd gan Martin Luther King rôl allweddol yn y brotest yma hefyd a llwyddodd i drefnu fod y bobl ddu oedd yn defnyddio’r gwasanaethau bws cyhoeddus yn eu boicotio. Dyma oedd Boicot y Bysus ac yn 1956 dyfarnwyd bod arwahanu ar y bysus yn anghyfreithlon.

Yn 1957 heriwyd y system arwahanu yn y gyfundrefn addysg. Ceisiodd 9 myfyriwr gymryd eu lle yn Ysgol Uwchradd Little Rock, Arkansas er bod ganddynt hawl cyfreithiol i wneud hynny. Bu’n rhaid i’r myfyrwyr gael eu gwarchod bob dydd i fewn i’r ysgol am y flwyddyn nesaf gan filwyr ffederal, dan orchymyn yr Arlywydd Eisenhower, oherwydd roedd cymaint o gasineb a gwrthwynebiad iddynt yn mynd i’r r’un ysgol â myfyrwyr gwyn.

Yr Arlywydd Johnson yn arwyddo'r Deddf Hawliau Sifil 1964

Yn ystod y 1960au, ac o dan arweiniad Martin Luther King, cynhaliodd y Mudiad Hawliau Sifil nifer o deithiau rhyddid, heddychlon er mwyn brwydro i ddileu yr arwahanu oedd yn dal i fodoli mewn gorsafoedd trenau a bysus, tai bwyta a safleoedd yfed dŵr. Teithient o dalaith i dalaith a defnyddio cyfleusterau y bobl wyn er mwyn tynnu sylw a chael eu harestio. Un o’r gorymdeithiau rhyddid enwocaf a gynhaliwyd gan y Mudiad Hawliau Sifil oedd Gorymdaith Washington yn 1963 o dan arweiniad Martin Luther King o flaen Cofeb Lincoln yn Washington D.C.

O dan arweiniad Malcolm X troeodd y frwydr am hawliau sifil yn fwy treisgar ac ymosodol ei natur gyda pwyslais ar ‘Grym Du’.

Erbyn diwedd y 1960au roedd Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau wedi pasio rhai deddfau hawliau sifil a deddfau hawliau pleidleisio oedd yn rhoi hawliau cydradd cyfreithiol i bobl ddu gyda bobl gwyn mewn meysydd fel swyddi, tai, trafnidiaeth a hawliau gwleidyddol. Roedd Deddf Hawliau Sifil 1964 yn gorfodi pob talaith i ddiddymu arwahanu mewn ysgolion ac roedd Deddf Bleidleisio 1965 yn rhoi hawl i bleidleisio i bobl ddu.

Diolch i ymdrechion ac arweiniad pobl fel Rosa Parks, Martin Luther King a Malcolm X llwyddodd y Mudiad Hawliau Sifil i ddechrau oresgyn yr agweddau a’r rhwystrau cyfreithiol oedd trin bobl ddu fel pobl eilradd.

Apartheid - De Affrica[golygu cod]

Nelson Mandela yn 1937

Draw yn Ne Affrica roedd y bobl ddu frodorol yn wynebu brwydr ffyrnig eu hunain yn erbyn apartheid, sef system oedd hefyd yn gwahanu bobl gwyn a du ymhob agwedd o fywyd ac yn pwysleisio israddoldeb y dyn du i’r dyn gwyn. 

Roedd y Llywodraeth Afrikaners wedi pasio nifer o ddeddfau, o dan arweiniad y Prif Weinidog, J.B.M Hertzog, yn ystod y 1920au a oedd wedi rhoi mwy o rym i bobl wyn yn Ne Affrica, er enghraifft, mewn gwaith a hawliau tir.

Yn 1948, pan wnaeth y Blaid Genedlaethol, sef plaid Dr. Daniel Malan, greu llywodraeth newydd cafodd hawliau sifil a gwleidyddol bobl ddu eu cwtogi ymhellach. Rhwng diwedd y 1940au ac yn ystod y 1950au pasiwyd cyfres o ddeddfau a oedd yn sefydlu apartheid ym mhob agwedd o fywyd y wlad rhwng y dyn gwyn a’r dyn du, er enghraifft, addysg, cyflogaeth, tai, hawliau pleidleisio, triniaeth yr heddlu o bobl ddu.

Ers cychwyn yr 20fed ganrif roedd dau fudiad wedi bod yn ymgyrchu’n gyson yn erbyn apartheid, sef yr African National Congress (yr ANC) a’r Gyngres Ban Affricanaidd (y PAC). O blith arweinwyr ifanc, mwy radical yr ANC daeth arweinyddion brwydr y dyfodol yn erbyn apartheid, sef Nelson Mandela ac Oliver Tambo.

Roedd y frwydr yn erbyn apartheid wedi bod yn un frawychus ac erchyll. Ymhlith y ddau ddigwyddiad mwyaf treisgar oedd Sharpeville yn 1960 a Soweto yn 1976.

Gyda mudiadau ac unigolion tu fewn De Affrica fel Nelson Mandela yn brwydro yn erbyn apartheid, y pwysau rhyngwladol oddiwrth gwledydd eraill fel Prydain, y Gymanwlad Brydeinig, y Cenhedloedd Unedig a’r sancsiynau a boicotio chwaraeon yn erbyn De Affrica cychwynnwyd ar bennod newydd yn hanes De Affrica yn 1994.

Yn 1994 cynhaliwyd etholiad cyffredinol yn y wlad pan am y tro cyntaf erioed cafodd 16 miliwn o bobl ddu hawl i bleidleisio. Enillodd Cyngres Genedlaethol Affrica (ANC) yr etholiad ac etholwyd Nelson Mandela yn arlywydd ar wlad a oedd wedi ei garcharu am 27 mlynedd o’i fywyd. Roedd De Affrica bellach wedi cychwyn ar bennod newydd yn ei hanes.[21]

Cyfeiriadau[golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "Radicaliaeth a Phrotest" (PDF). CBAC.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Gwleidyddiaeth a Llywodraeth, 1780 - 1886". CBAC.
  3. "Llenyddiaeth Gwleidyddol a Radicalaidd". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  4. Davies, John. Hanes Cymru. t. 325.
  5. "Llenyddiaeth Gwleidyddol a Radicalaidd". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  6. Davies, John. Hanes Cymru. t. 326.
  7. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2001). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 757–758.
  8. "RHYS, MORGAN JOHN ('Morgan ab Ioan Rhus'; 1760 - 1804); gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-02.
  9. "Ymgyrchu! - Pleidleisio - Merched - Ennill y Bleidlais". web.archive.org. 2013-07-19. Cyrchwyd 2020-04-02.
  10. "Ymgyrchu! - Pleidleisio - Merched - Ymgeiswyr Seneddol". web.archive.org. 2013-07-19. Cyrchwyd 2020-04-02.
  11. "Patrymau Mudo y Cyd-destun CYmreig" (PDF). CBAC.
  12. "William Wilberforce | Biography, Achievements, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-02.
  13. "Resource WJEC Educational Resources Website". resources.wjec.co.uk. Cyrchwyd 2020-04-02.
  14. "Gwleidyddiaeth, Cymdeithas, Gwrthdaro yn y Dwyrain Canol" (PDF). Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  15. "'Tynged yr Iaith' yn 50". BBC Cymru Fyw. 2012-02-13. Cyrchwyd 2020-04-02.
  16. "Ymgyrchu! - Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, S4C, Deddf Iaith". web.archive.org. 2013-05-10. Cyrchwyd 2020-04-02.
  17. "Cerddoriaeth Cymru: Gwerin, Protest a Phop". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2019-06-21. Cyrchwyd 2020-04-02.
  18. "Gwaith, Cyflogaeth, Gwrthdaro yn Asia" (PDF). Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  19. 19.0 19.1 "Ymgyrchu! - Rhyfel a Heddwch - Diarfogi niwclear". web.archive.org. 2013-05-16. Cyrchwyd 2020-04-02.
  20. 20.0 20.1 "Cymdeithas War" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 2 Ebrill 2020.
  21. "De Affrica" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 2 Ebrill 2020.