Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Cymru yn yr Oesoedd Canol

Oddi ar Wicipedia
WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Cymru yn yr Oesoedd Canol



Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
HWB

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Mae'r Oesoedd Canol yng Nghymru yn ymestyn o tua 600 hyd at 1485.

Mae ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain yn nodi dechreuad yr oesoedd canol yng Nghymru. Rhannwyd tiroedd y Cymry yn deyrnasoedd bach ac am gannoedd o flynyddoedd bu'r teyrnasoedd hyn yn ymladd yn erbyn goresgynwyr ac ymhlith ei gilydd er mwyn sefydlu awdurdod dros ardal mor eang â phosib o Gymru.

Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd Rhodri Mawr, yn wreiddiol yn frenin Teyrnas Gwynedd, a daeth yn frenin Powys a Ceredigion hefyd. Pan fu ef farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond gallodd ei ŵyr, Hywel Dda, ffurfio teyrnas Deheubarth trwy uno teyrnasoedd llai'r de-orllewin, ac erbyn 942 roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef a ffurfio Cyfraith Hywel trwy alw cyfarfod yn Hendy-gwyn ar Daf. Pan fu ef farw yn 950 gallodd ei feibion ddal eu gafael ar Ddeheubarth, ond adfeddiannwyd Gwynedd gan y frenhinllin draddodiadol.

Yn 1066 gyda ymosodiad y Normaniaid ar Loegr ar y gorwel. Gwelwyd tywysogion Deheubarth a Gwynedd yn amlygu eu hunain fel arweinyddion y frwydr hon rhwng diwedd y 11eg ganrif hyd at ddiwedd y 13eg ganrif.

Roedd yn wlad ble roedd y mwyafrfif helaeth o'r bobl yn siarad un iaith yn unig, sef Cymraeg ac roedd trefn arbennig i bwysigrwydd gwahanol grwpiau o bobl yn y gymdeithas. Roedd crefydd yn bwysig iawn ym mywydau bobl ac roedd rol allweddol gan yr abati a'r mynachlogydd ym mywydau bob dydd bobl.

Roedd lladd Llywelyn ap Gruffydd a’i frawd Dafydd ap Gruffudd yn 1282/3, yn dynodi cyfnod newydd yn hanes Cymru gyda’r Goncwest Edwardaidd yn cynrychioli mai awdurdod coron Lloegr oedd bellach yn teyrnasu yng Nghymru. Bu gweddill y 13eg ganrif hyd at ddiwedd y 15fed ganrif yn un ansefydlog a helbulus yn hanes Cymru.  Ar ddechrau’r 15fed ganrif amlygodd Owain Glyndwr ei hun fel ffigwr amlwg ym mrwydr Cymru i ennill annibyniaeth eto wedi Concwest Edward. Bu nifer o wrthryfeloedd eraill yn ystod y cyfnod yma o dan arweinyddion eraill a ddangosai’r ymdeimlad cenedlaethol oedd ar gynnydd yng Nghymru wedi’r Goncwest.  Yn 1485 enillodd Harri Tudur, oedd â’i wreiddiau yn nheulu’r Tuduriaid, Ynys Môn, Frwydr Maes Bosworth gan gychwyn ar gyfnod mwy sefydlog yn hanes Prydain. Gyda’r fuddugoliaeth hynny cychwynnodd cyfnod y Tuduriaid.


Arweinwyr nodedig[golygu cod]

Baner Teyrnas Gwynedd

Roedd teyrnasoedd Cymru yn cynnwys Gwynedd yn y gogledd, Deheubarth yn y Gorllewin a Powys a Brycheiniog yn y dwyrain. Roedd cydbwysedd y pŵer yn aml yn symud yn gyflym rhwng y Teyrnasoedd gyda brenhinoedd yn cystadlu am bŵer. Ffurfiwyd gwyddorau rhwng Teyrnasoedd a chyda'r Saeson ond roedd pŵer fel arfer yn cael ei ennill trwy frwydr neu briodas. Tra ymladdodd llywodraethwyr Cymru ymysg ei gilydd roeddent hefyd yn wynebu bygythiadau gan y Daniaid, a ymosododd ar hyd yr arfordir ac oddi wrth y Saeson, ac yn ddiweddarach y Normaniaid a ymosododd o'r dwyrain. Yn gynyddol, gweithiodd y Cymry gyda'i gilydd er mwyn amddiffyn eu hunain a'u tir rhag y goresgynwyr.

Reolwyr pwysicaf Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol

  • m.547 - Maelgwn Gwynedd, sylfaenydd Teyrnas Gwynedd.
  • c.820–878 - Rhodri Mawr. Llwyddodd i reoli'r rhan fwyaf o Gymru a threchu'r Daniaid ym Mrwydr Llandudno.
  • c.880–948 - Hywel Dda. Mae e'n nodedig yn bennaf am greu cyfraith unffurf gyntaf y wlad, ac am uno Cymru cyfan.
  • 1040–1093Rhys ap Tewdwr. Brenin olaf Deheubarth, laddwyd ef ym Mrycheiniog gan y Normaniaid.
  • 1055–1137 - Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd a ffigwr allweddol yn y gwrthiant yn erbyn y Normaniaid.
  • c.1100 – 1136 - Gwenllian ferch Gruffudd. Yn ymyl Castell Cydweli yn 1136 ymladdwyd Brwydr Maes Gwenllian rhwng byddin Wenllian, a Maurice de Londres.
  • 1100 – 1170 - Owain Gwynedd. Mae'n cael ei ystyried yn un o'r tywysogion mwyaf llwyddiannus Ogledd Cymru ac ef oedd y cyntaf i gael ei enwi'n Dywysog Cymru
  • 1132 – 1197 - Yr Arglwydd Rhys. Tywysog Deheubarth a'r rheolwr brodorol mwyaf pwerus ar ôl marwolaeth Owain Gwynedd.
  • 1173 – 1240 - Llywelyn Fawr. Brenin Gwynedd a rheolwr Gymru gyfan. Trwy gyfuniad o ryfel a diplomyddiaeth bu'n dominyddu Cymru am 45 mlynedd.
  • 1225 – 1282 - Llywelyn ein Llyw Olaf. Yn ŵyr i Lywelyn Fawr ef oedd tywysog sofran olaf Cymru cyn goncwest Edward I o Loegr.
  • c.1359 – c.1415 - Owain Glyndwr. Ef oedd y Cymro brodorol olaf i ddal y teitl Tywysog Cymru.


Yr oesoedd canol cynnar (600-1066)[golygu cod]

Darlun olew o Hywel gan Hugh Williams; c. 1909
Teyrnas Gruffudd ap Llywelyn

Mae'r Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru yn ymestyn o tua 600 hyd at 1066 pan ddechreuodd ymosodiadau'r Normaniaid ar ororau Cymru.

Yn nechrau'r cyfnod roedd rhai rhannau o Gymru, yn enwedig Powys, yn dod o dan bwysau cynyddol oddi wrth yr Eingl-Sacsoniaid, yn enwedig teyrnas Mercia. Collodd Powys cryn dipyn o'i thiriogaeth, oedd yn arfer ymestyn i'r dwyrain o'r ffin bresennol. Yn yr 8fed ganrif adeiladodd y brenin Eingl-sacsonaidd Offa clawdd a ffos (Clawdd Offa) sy'n rhedeg yn gyfochrog i'r ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr. Mae'n ymestyn o aber Afon Dyfrdwy yn y gogledd i aber Afon Hafren yn y de am 150 milltir; dyma oedd y clawdd hwyaf neu hiraf a wnaed gan ddyn yng ngorllewin Ewrop yn yr Oesoedd Canol.[1]

Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd Rhodri Mawr, yn wreiddiol yn frenin Teyrnas Gwynedd, a daeth yn frenin Powys a Ceredigion hefyd. Roedd Rhodri yn gorfod wynebu pwysau gan yr Eingl-Sacsoniaid ac yn gynyddol gan y Daniaid hefyd, a fuont yn ôl y croniclau yn anrheithio Môn yn 854. Yn 856 enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid ym Mrwydr Llandudno gan ladd eu harweinydd Gorm. Mae dwy gerdd gan Sedulius Scotus wedi ei hysgrifennu yn llys Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y Llychlynwyr. Cafodd Rhodri fuddugoliaeth arall yn erbyn y Daniaid ym Mrwydr Parciau yn 872.

Yn 877 ymladdodd Rhodri frwydr arall yn erbyn y Daniaid, ond y tro yma bu raid iddo ffoi i Iwerddon. Pan ddychwelodd y flwyddyn wedyn, dywedir iddo ef a'i fab Gwriad gael eu lladd gan wŷr Mersia, er na wyddir y manylion. Pan fu ef farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond gallodd ei ŵyr, Hywel Dda, ffurfio teyrnas Deheubarth trwy uno teyrnasoedd llai y de-orllewin, ac erbyn 942 roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef a ffurfio Cyfraith Hywel trwy alw cyfarfod er mwyn gasglu, diwygio, dileu a chreu cyfreithiau newydd.

Dilynodd Hywel bolisi o gyfeillgarwch gydag Athelstan, brenin y Sacsoniaid Gorllewinol a'r grym mwyaf ar Ynys Prydain yn y cyfnod hwnnw. Cofnodir iddo ymweld a llys Athelstan nifer o weithiau, ac arwyddo nifer o ddogfennau gydag Athelstan. Mewn rhai ohonynt disgrifir ef fel Subregulus neu "is-frenin". Pan fu ef farw yn 950 gallodd ei feibion ddal eu gafael ar Ddeheubarth a Cymru.

Gruffudd ap Llywelyn oedd y teyrn nesaf i allu uno'r teyrnasodd Cymreig. Brenin Gwynedd ydoedd yn wreiddiol, ond erbyn 1055 roedd wedi gwneud ei hun yn frenin bron y cyfan o Gymru ac wedi cipio rhannau o Loegr ger y ffin. Yn 1063 gorchfygwyd ef gan Harold Godwinson a'i ladd gan ei ŵyr ei hun. Rhannwyd ei deyrnas unwaith eto, gyda Bleddyn ap Cynfyn a'i frawd Rhiwallon yn dod yn frenhinoedd Gwynedd a Phowys.

Oes y Tywysogion (1066-1282)[golygu cod]

Brwydr Hastings o'r Brodwaith Bayeux

Ar drothwy y Goncwest Normanaidd roedd Cymru yn 1063 wedi ei gwahanu yn wahanol ranbarthau, sef Gwynedd, Powys, Ceredigion, Buellt, Deheubarth, Morgannwg a Gwent.  Gyda marwolaeth Gruffudd ap Llywelyn yn 1063, dechreuodd tywysogion ardaloedd fel Gwynedd a Deheubarth frwydro i gael teyrnasu dros fwy o dir.  Roedd y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn newid yn aml yn ystod y cyfnod yma gyda’r Saeson ar ochr dwyreiniol Cymru yn edrych yn gyson am gyfle i ennill tir.

Dechreuwyd pennod newydd yn hanes Lloegr a Chymru yn 1066 pan gipiodd Gwilym y Gorchfygwr, o Normandi, goron Lloegr ym Mrwydr Hastings. Buan iawn roedd y Cymry yn ymosod ar drefi yn Lloegr ac yn achosi tipyn o drafferthion i William.  Penderfynodd William felly bod rhaid iddo sefydlu rhyw fath o reolaeth dros Gymru ac felly erbyn 1086 roedd arglwyddi Normanaidd wedi eu lleoli ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr i reoli’r Cymry.  Enw’r Arglwyddi hyn oedd Arglwyddi’r Mers. Lleolwyd nhw mewn tri safle penodol fel eu bod yn medru lansio ymosodiadau a chipio tiroedd yng Nghymru.  Gosodwyd Hugh D’Avranches yn ardal Caer ac ar y ffin gogledd-ddwyreiniol gyda Chymru; roedd Roger de Montgomery wedi ei leoli yn ardal yr Amwythig fel ei fod yn troi ei olygon tuag at canolbarth Cymru ac roedd William FitzOsbern wedi ei leoli ar ochr de-ddwyrain Cymru.

Roedd Rhys ap Tewdwr, Brenin y Deheubarth yn ne Cymru wedi defnyddio ei sgiliau gwleidyddol a milwrol i gadw rheolaeth ar y Deheubarth yn ystod ei deyrnasiad rhwng c.1040 – 1093.  Ond yn 1093 lladdwyd ef gan y Normaniaid a dyma oedd dechrau concwest y Normaniaid yn ne Cymru. 

Roedd yr arglwyddi Normanaidd yma mwy neu lai yn frenhinoedd yn eu tiroedd eu hunain gan eu bod yn medru codi trethi eu hunain, codi byddin eu hunain ac yn medru codi cestyll eu hunain.  Roedd adeiladu cestyll yn un o’r ffyrdd pam roedd y Goncwest Normanaidd wedi llwyddo i sefydlu rheolaeth ar Loegr mor gyflym. [2]

Gruffudd ap Cynan yng ngharchar Hugh d'Avranches yng Nghaer (llun gan T. Prytherch, tua 1900)


Erbyn 1101 roedd y Normaniaid wedi ennill llawer o dir yng Nghymru ac roedddent yn defnyddio cestyll cerrig i sicrhau rheolaeth dros y tir roedden nhw’n ei feddiannu. Y Normaniaid adeiladodd y cestyll cerrig cyntaf yng Nghymru ac roedd y cestyll hyn wedi bod yn allweddol yn helpu’r Normaniaid i wrthsefyll ymosodiadau gan y Cymry.  Dechreuodd y Normaniaid ymosod ar Deheubarth yn ne Cymru yn 1136 pan aeth gŵr Gwenllian, Gruffudd ap Rhys, i’r gogledd i ymladd y Normaniaid gyda thad Gwenllian, Gruffudd ap Cynan.  Casglodd Gwenllian fyddin i’w hymladd, ond cafodd ei dal a’i dienyddio gan y Normaniaid, ynghyd â’i meibion, Morgan a Maelgwyn.   Serch hynny, roedd arwyddion bod y Cymry yn dechrau brwydro nôl gyda Gruffudd ap Cynan, tywysog Gwynedd wedi llwyddo i adennill tir yng ngorllewin Cymru gyda chymorth Brenin Magnus o Norwy.  Gruffudd osododd y sylfaen i dywysogion fel ei fab, Owain Gwynedd, i reoli ar ei ôl.


Erbyn 1200 roedd tir Cymru wedi ei rhannu’n ddwy sef y Pura Walia a oedd o dan reolaeth y Cymry a Marchia Walia a oedd o dan reolaeth y Normaniaid.  Roedd yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth ac Owain Gwynedd, tywysog Gwynedd yn ffigurau allweddol yn hanes Cymru yn y cyfnod yma gan adennill llawer o dir a chipio cestyll y Normaniaid ar ddiwedd y 12fed ganrif. Cipiodd Yr Arglwydd Rhys Gastell Aberteifi yn 1165 a’i ail-adeiladu yn 1171 a chynnal eisteddfod gyntaf Cymru yno yn 1176.

Marwolaeth Llywelyn Fawr yn 1282

Owain Gwynedd oedd Tywysog Gwynedd yng ngogledd Cymru, a oedd yn cynnwys Gwynedd a Phowys, o 1137 hyd at ei farw yn 1170.  Ymladdodd yn erbyn tywysogion Cymreig eraill, y Normaniaid a brenhinoedd Lloegr i ennill yr hawl i fod yr un cyntaf i ddefnyddio teitl ‘Tywysog Cymru’.

Erbyn 1258 roedd Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Gwynedd, wedi sefydlu ei hun fel rheolwr y rhan fwyaf o Gymru.  Atgyfnerthodd ei awdurdod yn 1267 pan wnaeth gytundeb gyda Harri III, brenin Lloegr, sef Cytundeb Trefaldwyn.  Enwyd y cytundeb ar ôl y man ble cyfarfu’r ddau ger y rhyd ger tref Trefaldwyn.  Roedd Harri’r III yn cydnabod yn y cytundeb mai Llywelyn oedd Tywysog swyddogol Cymru. Drwy gael yr hawl i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ roedd Llywelyn yn gorfod talu gwrogaeth i Harri’r III a swm o 30,000 marc.

Nid oedd perthynas cystal rhwng Llywelyn ag Edward I, a ddaeth yn frenin Lloegr yn 1272.  Roedd Edward yn awyddus i ehangu awdurdod coron Lloegr ac er mwyn gwneud hynny roedd rhaid yn ei olwg ef rheoli’r Cymry afreolus. Gwrthododd Llywelyn dalu gwrogaeth i Edward ac achosodd hyn i Edward ymosod ar Llywelyn a Chymru yn 1276 ac yna yn nes ymlaen yn 1282.

Lladdwyd Llywelyn Ein Llyw Olaf yng Nghilmeri yn 1282 a gyda hynny daeth llinach tywysogion Cymru i ben. 

Yr Oesoedd Canol Diweddar 1282 - 1485[golygu cod]

Castell Caernarfon. Un o'r Cestyll Edward I

Anfonwyd unig etifedd Llywelyn, sef ei ferch Gwenllian, i’r lleiandy yn Sempringham, swydd Lincoln, fel na fyddai unrhyw ddisgynyddion o waed brenhinol Cymru yn medru codi yn erbyn coron Lloegr eto.  Ar hynny, crewyd teitl newydd ‘Tywysog Cymru’ gan Edward I a fyddai’n cael ei roi i fab cyntaf-anedig brenin Lloegr o hynny ymlaen.  Cyflwynodd Edward ei fab hynaf fel Tywysog Cymru i bobl Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1301.  Roedd yr arwisgiad yn weithred symbolaidd gan ei fod yn dangos mai coron Lloegr bellach oedd yn rheoli Cymru.

Er mwyn sefydlogi ei bŵer aeth Edward ati yn syth i adeiladu cyfres o gestyll ar hyd arfordir gogledd-orllewin Cymru, er enghraifft, yn Harlech, Caernarfon a Chonwy a Biwmares.  Roedd rhain yn consentrig ac wedi ei llunio ar batrwm y cestyll cadarn oedd yn gyffredin yng ngwledydd y Dwyrain Canol ble ymladdwyd y Croesgadau.

Gwelodd y cyfnod wedi 1282 wrthryfeloedd achlysurol yn erbyn y gyfundrefn newydd, er enghraifft, Gwrthryfel Maelgwn ap Rhys Fychan yng Ngheredigion yn 1294-95, a Gwrthryfel Llywelyn Bren, Arglwydd Senghennydd, a gychwynnodd yn 1316.  Cyhoeddodd Owain Glyndwr ei hun yn Dywysog Cymru ar Fedi 16, 1400 yng Nglyndyfrdwy, Corwen ac arweiniodd nifer o wrthryfeloedd yn erbyn brenin Lloegr ar ddechrau’r 15eg ganrif.[2]

Cymdeithas a gwaith[golygu cod]

Cantrefi Cymru yn yr oesoedd canol

Tywysogion oedd yn rheoli rhanbarthau mawr yng Nghymru fel Gwynedd, Morgannwg a Deheubarth yn ystod yr Oesoedd Canol.  O fewn y rhanbarthau yma oedd rhanbarthau llai o’r enw cantrefi.  Ac o fewn y rhanbarthau llai yma roedd rhanbarthau llai o’r enw cymydau.  Roedd gan bob cwmwd arweinydd oedd yn ffyddlon i dywysog yn ei ranbarth ef.


Rhannwyd y gymdeithas yn grwpiau gwahanol o bobl gyda’r tywysog neu’r brenin yn bennaeth, wedyn yr uchelwyr, yna’r gwŷr rhydd a’r taeogion.  Roedd y tywysog yn rheoli teyrnas tra fyddai’r uchelwyr yn rheoli’r cymydau. Roedd cwmwd yn debyg i ardal. 


Canran fach iawn o’r boblogaeth oedd yn uchelwyr ond roeddent yn rheoli canran uchel o’r tir.  Roedd y gwŷr rhydd yn annibynnol a chanddynt hawliau rhydd tra fod y taeogion yn cael eu gweld fel eiddo oedd yn berchen i rywun arall.  Byddai’r tywysog a’i deulu yn symud o un cwmwd i’r llall ac yn aros am gyfnod yn y cwmwd hwnnw.  Prif lys Llywelyn Fawr oedd Llys Rhosyr, ar Ynys Môn.


Fel uchelwr roeddech yn etifeddu statws eich teulu – ni allech ddod yn uchelwr.  Byddent yn rheoli’r tir ac yn penderfynu pa waith roedd rhaid i’r taeogion ei wneud. Byddai’r werin, neu’r taeogion, yn talu treth i’r uchelwr am ofalu amdanynt. Roedd y gwŷr rhydd yn rhentu eu tir eu hunain ac yn cael yr hawl i hela a theithio ar hyd y wlad fel y mynnent.  Roedden nhw hefyd yn talu trethi i’r uchelwyr am eu gwarchod. Roedd y taeogion a’r caethweision ymhlith grwpiau isaf y gymdeithas.  Doedd dim hawliau o gwbl gan y caethweision tra nad oedd y taeog yn medru gadael y pentref heb ganiatad yr uchelwr.  Nid oeddent yn berchen tir eu hunain ond mi fyddent yn gofalu am gaeau’r uchelwr. Roedd y taeog a’r caethwas yn dlawd iawn.[3]

Cyfraith Cymru yn yr Oesoedd Canol[golygu cod]

Llun o farnwr o lawysgrif Cyfraith Hywel

Hywel ‘Dda’ ap Cadell (880-950) oedd brenin cyntaf teyrnas Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.  Llwyddodd i greu’r deyrnas trwy uno teyrnasoedd llai'r de-orllewin, ac erbyn 942 roedd wedi cipio Gwynedd hefyd.  Meddiannodd Powys tua’r un adeg gan ddod yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Mae’n bwysig yn hanes Cymru’r Oesoedd Canol oherwydd mai ef greodd y gyfres gyntaf  o gyfreithiau i Gymru, sef Cyfraith Hywel Dda[4]

Testun o gopi 15fed ganrif o'r Statud Rhuddlan

Elfen bwysig yn y gyfraith ar gyfer Hanes Cymru oedd y gyfraith a oedd yn pennu etifeddiaeth. Roedd gan bob mab cydnabyddedig hawl i gyfran o eiddo’r tad. Bu hyn yn arwyddocaol ar gyfer tywysogion y Cymry, gan ei fod yn golygu bod teyrnasoedd yn cael eu rhannu'n gyson heb obaith am undod parhaol. Roedd hyn yn wahanol i deyrnas brenin Lloegr, lle’r etifeddai’r mab hynaf y deyrnas gyfan.

Gyda goresgyniad Cymru gan Loegr yn 1282 aeth Edward I ati i basio cyfres o gyfreithiau a oedd yn cael gwared ar yr hen gyfreithiau Cymreig.  Yn eu lle rhoddwyd cyfreithiau Lloegr.  Dyma oedd Statud Rhuddlan a basiwyd yn 1284.  Bwriad gwleidyddol Edward oedd sefydlu rheolaeth Lloegr yng Nghymru ac i bob pwrpas roedd y cyfreithiau hyn yn gwneud Cymru yn dalaith o Loegr. 


Ond er mai bwriad Edward oedd rheoli Cymru gyfan ni lwyddodd i wneud hynny.  Adnabyddwyd y tir lle mai ‘cyfraith y brenin’ oedd yn rheoli fel ‘Y Dywysogaeth’.  Roedd gweddill tir Cymru yn cael ei hadnabod fel Y Mers ac o dan reolaeth Arglwyddi’r Mers, sef disgynnyddion yr hen arglwyddi Normanaidd.  Roedd felly, dwy math o gyfreithiau gyfochr â’i gilydd yn bodoli yng Nghymru.  Dyma fu’r sefyllfa hyd nes pasio’r Deddfau Uno rhwng Cymru a Lloegr yn 1536 a 1542 pan unwyd Cymru gyfan o dan reolaeth Harri VIII.  Wedi hynny, roedd cyfraith Lloegr yn cael ei weithredu ar draws Cymru gyfan.[5]

Crefydd a Diwylliant[golygu cod]

Adfeilion mynachlog Ystrad Fflur

Roedd crefydd yn bwysig iawn ym mywyd bobl yr Oesoedd Canol gyda’r Eglwys a’r mynachlogydd yn chwarae rôl bwysig yn y gymdeithas.  Roedd y mynachlogydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau oddi fewn y gymuned, er enghraifft, fel ysbyty ar gyfer claf, yn cynnig lloches a llety i bererinion ac roeddent hefyd yn ganolfannau dysgedig iawn.  Mewn cyfnod pan nad oedd gweisg roedd y mynachod yn gyfrifol am ysgrifennu gyda llaw nifer o lawysgrifau pwysig.  Roedd y mynachlogydd yn hollbwysig i economi Cymru hefyd gan eu bod yn berchen tiroedd eang ac roedd y Sistersiaid yn enwedig yn enwog am fagu defaid a chynhyrchu gwlân.

Y llawysgrif hwn yw'r copi cynharaf o Frut y Tywysogion.

Gyda dyfodiad y Normaniaid i Loegr a Chymru ar ddiwedd yr 11eg ganrif sefydlwyd Urdd y Sistersiaid yng Nghymru a Lloegr.  Yn ystod 12fed ganrif sefydlwyd llawer o fynachlogydd Sistersaidd, er enghraifft, Ystrad Fflur yn 1186 a Llywelyn Fawr oedd ei noddwr; Hendy-gwyn, Nedd, Tyndyrn yn hanner cyntaf y 12fed ganrif a Glyn y Groes ar ddechrau’r 13eg ganrif.  Roedd Ystrad Fflur yn bwysig yn hanes llenyddiaeth a diwylliant Cymru yn ystod y cyfnod hwn oherwydd ei chysylltiad gyda Brut y Tywysogion sef un o’r ffynonellau pwysicaf am hanes Cymru cyn y Goncwest Edwardaidd. [6] [7]Sefydlwyd Ystrad Fflur gan Yr Arglwydd Rhys ac roeddent hefyd yn ganolfannau gwleidyddol pwysig gyda Llywelyn Fawr yn galw ynghyd arweinyddion Cymru i Ystrad Fflur yn 1138 er mwyn tyngu llw o ffyddlondeb i’w fab, Dafydd, fel ei olynydd.[8]

Ymwelodd Gerallt Gymro (c.1146-1223) gyda Ystrad Fflur tra ar ei daith drwy Gymru yn 1188 yn recriwtio milwyr ar gyfer y Croesgadau. Roedd hefyd wedi ymweld gyda’i gefnder, Yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth yng Nghastell Aberteifi. Ysgrifennodd Gerallt am ei daith drwy Gymru yn ei lyfrau ‘Y Daith drwy Gymru’ a ‘Disgrifiad o Gymru’ lle mae’n rhoi cipolwg inni o  ffordd o fyw, arferion, a daearyddiaeth Cymru y cyfnod.

Yn Abaty Ystrad Fflur hefyd y copïwyd Llawysgrif Hendregadredd. Dyma’r casgliad hynaf o waith beirdd Oes y Tywysogion, sef beirdd a fu’n barddoni rhwng dyfodiad y Normaniaid a lladd Llywelyn ap Gruffydd. Mae’n debyg fod y gwaith wedi cychwyn cael ei gofnodi am y tro cyntaf rywbryd ar ôl 1282. Mae’n ddigon posib hefyd bod un cerdd, ychwanegwyd nifer o gerddi tua 1330, wedi cael ei hysgrifennu yn llaw Dafydd ap Gwilym, un o feirdd pwysicaf Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol.  Roedd Dafydd yn ôl yr hanes wedi cael rhywfaint o’i addysg gyda’r mynachod yn Ystrad Fflur ac yno yn ôl yr hanes mae wedi cael ei gladdu o dan yr ywen.[9] Roedd gan feirdd statws uchel yng nghymdeithas Cymru. Noddwyd beirdd gan lawer o dywysogion Cymru, cyn y Goncwest Edwardaidd. Gruffudd Ab Yr Ynad Coch oedd un o feirdd amlycaf oes y Tywysogion gan mai ef a gyfansoddodd y farwnad i Llywelyn ap Gruffudd wedi iddo cael ei ladd yng Nghilmeri yn 1282.[10] Parhawyd gyda'r traddodiad o noddi beirdd yng Nghymru gan y mynachlogydd, hyd at iddynt gael eu diddymu gan Harri’r VIII yn 1536 a 1539, gan eu bod hwythau hefyd yn gefnogwyr pwysig i ddysg a diwylliant Cymru.[9]

Cysylltiad gyda Ewrop[golygu cod]

Peintiad modern o'r Arglwydd Rhys

Un o reolwyr pwysicaf a dylanwadol Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol oedd yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth.  Ef oedd yn gyfrifol am drefnu cynnal yr Eisteddfod gyntaf erioed yng Nghastell Aberteifi yn 1176.  Roedd beirdd o Iwerddon, Yr Alban a Ffrainc wedi dod i gystadlu. Er mai gŵyl Gymraeg yw’r Eisteddfod mae rhai haneswyr yn meddwl mai o Ffrainc ddaw’r syniad yn wreiddiol. Roedd gan Yr Arglwydd Rhys gysylltiadau cryf gyda’r Normaniaid o Ffrainc ac roedd gwyl debyg i’r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Auvernge yng Nghanolbarth Ffrainc.


Er bod gan Gymru gysylltiad cryf a Lloegr roedd hefyd yn wlad annibynnol oedd a chysylltiadau cryf a gweddill Ewrop, er enghraifft, mewn masnach, yn rhannu syniadau ac roedd yr iaith Gymraeg i’w chlywed mewn mannau ar draws Ewrop.

Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar ardaloedd yng Nghymru yn y 9fed ganrif ac ymhen amser roeddent yn masnachu gyda’r Cymry mewn canolfannau masnach arbennig.  Y Llychlynwyr sydd yn gyfrifol am nifer o enwau llefydd yng Nghymru fel:

Mae archeolegwyr wedi darganfod canolfan fasnachu oedd yn bodoli yn ystod y 9fed a’r 10fed ganrif yn Llanbedrgoch, Ynys Môn.  Mae’n debyg ei bod yn ganolfan ar gyfer creu a chyfnewid nwyddau.  Mae archeolegwyr wedi darganfod nwyddau fel bwcl belt a broetsch o Sgandinafia ac Iwerddon yma.

Sefydlwyd nifer o fynachlogydd Cymru gan fynachod o Ffrainc, fel y Benedictiaid a’r Sitersiaid.  Byddai’r mynachod hyn yn teithio i Ffrainc am gyfnod bron bob blwyddyn, ac yn dychwelyd gyda syniadau a thechnegau newydd am bob math o bethau, fel ffermio a physgota.[11]

Cyfeiriadau[golygu cod]

  1. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  2. 2.0 2.1 "Braslun o Gymru, 1063 - 1282" (PDF). HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.[dolen marw]
  3. "Cymdeithas yn yr Oesoedd Canol". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  4. "Cymru yn 1063". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  5. "Gorchfygu Cymru". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  6. Yr Oesoedd Canol. Canolfan Astudiaethau Addysg. 1993. t. 23.
  7. "Brut y Tywysogion". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  8. "Brut y Tywysogion | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-04-03.
  9. 9.0 9.1 "Llawysgrif Hendregadredd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-04-03.
  10. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 395.
  11. "Cymru Ewropeaidd yr Oesoedd Canol". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.