Neidio i'r cynnwys

Who Wants to Be a Millionaire?

Oddi ar Wicipedia
Who Wants to Be a Millionaire?
Enghraifft o:cyfres deledu Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Medi 1998 Edit this on Wikidata
GenreSioe gêm, quiz show Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuCPL Productions, 2waytraffic, Sony Pictures Television Edit this on Wikidata
DosbarthyddSony Pictures Television Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.itv.com/hub/who-wants-to-be-a-millionaire/33753, http://millionaire.itv.com/home/ Edit this on Wikidata

Rhaglen gwis teledu yw Who Wants to Be a Millionaire? a ddarlledir ers 1998. Mae llwyddiant y fersiwn Saesneg wedi arwain at fasnachfraint o raglenni gydag enwau tebyg sydd wedi cael eu darlledu mewn dros 160 o wledydd.

Mae cystadleuwyr yn ateb cyfres o gwestiynau aml-ddewis ar gyfer gwobrau arian gyda’r swm yn cynyddu gyda phob ateb cywir hyd at, yn achos y fersiwn Prydeinig, £1,000,000.

Creuwyd y rhaglen gan David Briggs, a’i chynhyrchwyd yn wreiddiol gan gwmni Celador. Darlledwyd ar ITV. Y cyflwynydd gwreiddiol oedd Chris Tarrant, gyda’r fformat hwn yn rhedeg am 30 cyfres rhwng 1998 a 2014. Pedair blynedd yn ddiweddarach, ail-gyflwynwyd y rhaglen, gyda Jeremy Clarkson yn cyflwyno a'r cwmni Stellify yn cynhyrchu, am 5 cyfres arall.

Fformat

[golygu | golygu cod]

Mae grŵp o gystadleuwyr yn chwarae rownd rhagarweiniol o’r enw ‘Bys cyflymaf yn gyntaf’ (Fastest finger first). Mae’r cystadleuwyr angen rhoi pedair ateb yn y drefn gywir yn ôl gofynion y cwestiwn , e.e. o’r cynharaf i’r hwyraf. Mae’r enillydd yn mynd ymlaen i’r ‘sedd boeth’ (hot seat), h.y yn derbyn cyfres o gwestiynau aml-ddewis, gyda’r wobr yn cynyddu pob tro. Mae pob cwestiwn gyda phedwar ateb posibl, A, B, C neu D. Mae cwestiynau’n mynd yn anoddach fel mae’r gwobrau’n cynyddu. Yn wreiddiol roedd gan bob cystadleuydd ddwy ‘rwyd ddiolgelwch’ (safety net), un a osodwyd ar £1,000 a’r llall ar £32,000. Yn y fformat newydd, gall y cystadleuydd osod yr ail rwyd ddiolgelwch ble bynnag y mynno.

Rhaffau diogelwch

[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei gyfnod yn y sedd boeth, gall cystadleuydd wneud defnydd o nifer o raffau diogelwch (lifelines). Yn y fformat gwreiddiol roedd y rhain yn cynnwys:

  • 50:50 (1998 – rŵan) -dilëir dau ateb posibl ar hap gan gyfrifiadur gan adael yr ateb cywir ac un anghywir
  • ffonio ffrind (1998 – rŵan) – mae’r cystadleuydd yn ffonio ffrind ac yn cael 30 eiliad i ddarllen y cwestiwn a’r pedwar ateb posibl. Ers 2011, mae aelod o’r tîm cynhyrchu yn cadw cwmni’r ffrind i sicrhau nad yw twyllo’n digwydd.
  • gofyn i’r gynulleidfa (1998 - rŵan) – mae aelodau o’r gynulleidfa’n defnyddio bysellbad i bleidleisio ar beth yw’r ateb cywir yn ôl eu barn. Dangosir y canrannau i’r cystadleuydd.
  • switsio (2002-2003, 2010-2014) – mae’r cyfrifiadur yn cyfnewid cwestiwn ag un arall o’r un gwerth ariannol

Yn y fformat newydd, roedd rhai newidiadau. Roedd 50:50, ffonio ffrind a gofyn i'r gynulleidfa wedi'u cadw ond ychwanegwyd

  • gofyn i’r cyflwynydd (2018 - rŵan) – mae’r cyflwynydd yn cynnig cyngor neu ateb i’r cystadleuydd

Yng nghyfres 35 yn ystod yr argyfwng Covid, hepgorwyd "gofyn i’r gynuddeidfa" gan osod "ffonio ffrind" ychwanegol.

Enillwyr £1,000,000

[golygu | golygu cod]

Hyd yn hyn mae chwe enillydd wedi derbyn y wobr uchaf o £1,000,000. Nhw yw:

  1. Judith Keppel, cyn-ddylunydd gerddi, ar 20 Tachwedd 2000. Yn dilyn hyn, ymunodd â’r rhaglen Eggheads fel un o’u harbenigwyr.
  2. David Edwards, cyn-athro ffiseg, ar 21 Ebrill 2001. Roedd yn cyn-enilydd y cwis teledu Mastermind.
  3. Robert Brydges, banciwr, ar 29 Medi 2001.
  4. Pat Gibson, sydd wedi ennill Pencampwriaeth Cwis y Byd pedairgwaith, ar 24 Ebrill 2004.
  5. Ingram Wilcox, ar 23 Medi 2006. Daeth yn ail ar y cwis radio Brain of Britain ddwywaith, yn 1978 a 1995.
  6. Donald Fear, athro o Telford, ar 11 Medi 2020.

Sgandal twyllo

[golygu | golygu cod]

Ym Medi 2001, atebodd Uwch-gapten Charles Ingram gwestiynau £500,000 a £1,000,000 yn gywir ar ôl ffafrio atebion anghywir i ddechrau. Wrth adolygu’r rhaglen, sylwodd y tîm cynhyrchu fod cystadleuydd arall, Tecwen Whittock, yn pesychu pan fo Ingram yn ffafrio atebion anghywir. Aeth yr achos i’r llys a dyfarnwyd Ingram, ei wraig, Diana, a Whittock yn euog o dwyll, gyda dedfrydau o gyfnodau o garchar wedi’u gohirio.